
2025 Rhif 1163 (Cy. 190)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025
Gwnaed 5 Tachwedd 2025
Yn dod i rym 1 Ebrill 2026

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff A16(1) a (5) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

Yn unol ag adran 143A(5)(m) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2026.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
 mae i “diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef” yr ystyron a ganlyn—
(a) mewn perthynas â hereditamentau a feddiennir a ddangosir ar restr leol, yr ystyr a roddir i “chargeable day” yn adran 43(3) o’r Ddeddf;
(b) mewn perthynas â hereditamentau heb eu meddiannu a ddangosir ar restr leol, yr ystyr a roddir i “chargeable day” yn adran 45(3) o’r Ddeddf;
(c) mewn perthynas â hereditamentau a ddangosir ar restr ganolog, yr ystyr a roddir i “chargeable day” yn adran 54(3) o’r Ddeddf;
 ystyr “gwerth ardrethol” (“rateable value”) yw’r gwerth a gyfrifir o dan Atodlen 6 i’r Ddeddf;
 mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” yn adran 64 o’r Ddeddf;
 ystyr “rhestr ganolog” (“central list”) yw rhestr a lunnir ac a gedwir o dan adran 52ZA o’r Ddeddf;
 ystyr “rhestr leol” (“local list”) yw rhestr a lunnir ac a gedwir o dan adran 41ZA o’r Ddeddf.
Disgrifiad o luosydd manwerthu
3 

(1) At ddibenion paragraff A16(1)(a) o Atodlen 7 i’r Ddeddf, mae lluosydd manwerthu.
(2) Mae’r lluosydd manwerthu yn gymwys i hereditamentau ar restr leol sydd ar y diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef o dan sylw—
(a) â gwerth ardrethol o lai na £51,000, a
(b) wedi eu disgrifio ar y rhestr honno fel—
(i) “ciosg a mangre”,
(ii) “fferyllfa a mangre”,
(iii) “swyddfa bost a mangre”,
(iv) “siop a mangre”, neu
(v) “siop, swyddfa bost a mangre”.
Disgrifiad o luosydd uwch
4 

(1) At ddibenion paragraff A16(1)(a) o Atodlen 7 i’r Ddeddf, mae lluosydd uwch.
(2) Mae’r lluosydd uwch yn gymwys i hereditamentau ar restr leol sydd ar y diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef o dan sylw—
(a) â gwerth ardrethol o fwy na £100,000, a
(b) heb eu disgrifio ar y rhestr honno fel—
(i) “gorsaf ambiwlans a mangre”,
(ii) “sefydliad amddiffyn cynorthwyol a mangre”,
(iii) “mynwent a mangre”,
(iv) “coleg a mangre”,
(v) “amlosgfa a mangre”,
(vi) “gorsaf dân a mangre”,
(vii) “canolfan iechyd a mangre”,
(viii) “ysbyty a mangre”,
(ix) “llys barn a mangre”,
(x) “canolfan hamdden a mangre”,
(xi) “llyfrgell a mangre”,
(xii) “amgueddfa a mangre”,
(xiii) “gorsaf heddlu a mangre”,
(xiv) “carchar a mangre”,
(xv) “ysgol a mangre”,
(xvi) “canolfan chwaraeon a mangre”,
(xvii) “meddygfa a mangre”,
(xviii) “pwll nofio a mangre”, neu
(xix) “prifysgol a mangre”.
5 

(1) At ddibenion paragraff A16(1)(b) o Atodlen 7 i’r Ddeddf, mae lluosydd uwch.
(2) Mae’r lluosydd uwch yn gymwys i hereditamentau ar y rhestr ganolog sydd â gwerth ardrethol o fwy na £100,000.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
5 Tachwedd 2025