
2025 Rhif 1122 (Cy. 187)
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Safonau Marchnata Cig Dofednod Maes (Diwygio) (Cymru) 2025
Gwnaed 22 Hydref 2025
Yn dod i rym 21 Tachwedd 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 34(1) a 50(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.
Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Yn unol ag adran 50(6) a (7)(n) o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, cymhwyso a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau Marchnata Cig Dofednod Maes (Diwygio) (Cymru) 2025.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Tachwedd 2025.
Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008
2 

(1) Mae Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodiad 5, yn yr ail is-baragraff, yn lle “with a special reference to the method of rearing for the duration of the restriction but under no circumstances for more than 12 weeks” rhodder “as free-range despite any such restrictions”.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Hydref 2025