
2025 Rhif 1099 (Cy. 183)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed 15 Hydref 2025
Yn dod i rym 1 Ebrill 2026

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan: adrannau 113(2), (3), 115(1), (2), (5), (6) a 195(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003; adrannau 1(1) i (4)(a), (5), (6), 2(1), (2), (4), (5), (6)(a), 3(1), (2)(b) i (d), 4(1), (2)(a), 5, 9(1) i (5), (7) ac 11(2) a (3) o Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2008.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 11(6)(c) o Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2008.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2026.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011.
(2) Oni nodir yn wahanol yn y Rheoliadau hyn, mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir yn y Prif Reoliadau.
Diwygio’r Prif Reoliadau
3 
Mae’r Prif Reoliadau wedi eu diwygio fel y nodir yn rheoliadau 4 i 23.
Diwygio rheoliad 2
4 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “cyfathrebu uniongyrchol” (“in-person communication”) yw cyfathrebu sy’n digwydd drwy alwad ffôn, drwy gyfathrebu clyweledol neu drwy gyfarfod wyneb yn wyneb;”;“
 ystyr “cyfnod datrys yn gynnar” (“early resolution period”) yw cyfnod nad yw’n hwy na 10 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y cydnabu’r corff cyfrifol ei fod wedi cael yr hysbysiad o’r pryder;”;“
 ystyr “gweithdrefn datrys yn gynnar” (“early resolution procedure”) yw’r camau y mae’n ofynnol i gorff cyfrifol eu cymryd yn unol â rheoliad 22A i geisio datrys y pryder er boddhad y person a hysbysodd y pryder heb symud ymlaen i ymchwiliad o dan reoliad 23;”.
Diwygio rheoliad 3
5 

(1) Mae rheoliad 3(1) (egwyddorion cyffredinol ar gyfer trin ac ymchwilio i bryderon) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—“
(fa) bod personau sy’n hysbysu pryderon yn cael gwybod yn rheolaidd am gynnydd yr ymchwiliad mewn perthynas â’r pryder a’r amserlen debygol ar gyfer cwblhau’r ymchwiliad hwnnw;”.
(3) Ar ôl is-baragraff (g) hepgorer “ac” a mewnosoder—“
(ga) bod unrhyw gyfathrebu â phersonau sy’n hysbysu pryderon—
(i) i’r graddau y bo’n rhesymol bosibl, yn cael ei ddarparu mewn modd y gall y person a hysbysodd y pryder ei ddeall;
(ii) pan fo’n briodol, yn darparu esboniad o dermau cyfreithiol neu dermau meddygol;
(iii) i’r graddau y bo’n rhesymol bosibl, yn cael ei ddarparu yn y modd y mae’r person a hysbysodd y pryder wedi gofyn amdano; ac”.
Diwygio rheoliad 11
6 
Ar ddechrau rheoliad 11(2) (hysbysu pryderon), yn lle “Yn ddarostyngedig i reoliad 14(1)(dd) pan” rhodder “Pan”.
Diwygio rheoliad 14
7 

(1) Mae rheoliad 14 (materion a phryderon a eithrir rhag eu hystyried o dan y trefniadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a) hepgorer is-baragraff (dd);
(b) yn is-baragraff (e), yn lle “ag is-baragraff (dd)” rhodder “â pharagraff (5)”;
(c) ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—“
(fa) pryder y mae’r corff cyfrifol o’r farn ei fod yn flinderus neu’n wacsaw;”.
(3) Ar ddechrau paragraff (2), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan” rhodder “Pan”.
(4) Hepgorer paragraff (3).
(5) Ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) Mae pryder a ddatrysir yn ystod y cyfnod datrys yn gynnar yn unol â’r weithdrefn datrys yn gynnar wedi ei eithrio o briod faes y trefniadau sy’n ofynnol o dan reoliadau 23 i 48.”
Diwygio rheoliad 17
8 
Mae rheoliad 17(2) (pryderon sy’n ymwneud â mwy nag un corff cyfrifol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle’r geiriau o “o fewn dau” hyd at “o bryder, gofyn” rhodder “ddim hwyrach na phum niwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y mae’n cael hysbysiad o’r pryder, ofyn”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “o fewn dau ddiwrnod gwaith ar ôl cael” rhodder “ddim hwyrach na dau ddiwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y mae’n cael”.
Diwygio rheoliad 19
9 

(1) Mae rheoliad 19 (camau sydd i’w cymryd pan hysbysir pryder i Fwrdd Iechyd Lleol ynghylch gwasanaethau a ddarperir gan ddarparwr gofal sylfaenol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ddechrau paragraff (1), yn lle “Pan fo” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fo”.
(3) Ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) (5) Os yw’r person sy’n hysbysu’r pryder wedi rhoi caniatâd i’r corff cyfrifol geisio datrys y pryder yn ystod y cyfnod datrys yn gynnar yn unol â rheoliad 22A, y darparwr gofal sylfaenol, ac nid y Bwrdd Iechyd Lleol, yw’r corff cyfrifol y mae rhaid iddo geisio datrys y pryder yn ystod y cyfnod datrys yn gynnar, oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn gymwys.”
Diwygio rheoliad 20
10 

(1) Mae rheoliad 20 (camau sydd i’w cymryd pan hysbysir pryder i Fwrdd Iechyd Lleol gan ddarparwr gofal sylfaenol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ddechrau paragraff (1), yn lle “Pan fo” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fo”.
(3) Ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) Os yw’r person sy’n hysbysu’r pryder wedi rhoi caniatâd i’r corff cyfrifol geisio datrys y pryder yn ystod y cyfnod datrys yn gynnar yn unol â rheoliad 22A, y darparwr gofal sylfaenol, ac nid y Bwrdd Iechyd Lleol, yw’r corff cyfrifol y mae rhaid iddo geisio datrys y pryder yn ystod y cyfnod datrys yn gynnar, oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn gymwys.”
Diwygio rheoliad 22
11 

(1) Mae rheoliad 22 (y weithdrefn cyn ymchwilio) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), hepgorer “14(1)(dd) neu”.
(3) Ar ddiwedd paragraff (4)(c)(ii), hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder—“;
(ch) y datrysiad neu’r canlyniad y mae’n dymuno ei gael mewn perthynas â’r pryder y mae wedi ei hysbysu;
(d) ei ddealltwriaeth o ffeithiau ac amgylchiadau’r pryder y mae wedi ei hysbysu, a’i safbwynt arnynt;
(dd) y dull cyfathrebu a ffefrir gan y person ac a oes ganddo unrhyw ofynion cyfathrebu penodol;
(e) ac eithrio pan fo ymchwiliad o dan reoliad 23 wedi dechrau mewn perthynas â’r pryder, y weithdrefn datrys yn gynnar, gan gynnwys—
(i) a yw’r corff cyfrifol o’r farn bod y weithdrefn datrys yn gynnar yn briodol o dan yr amgylchiadau, a
(ii) os yw’r corff cyfrifol o’r farn nad yw’r weithdrefn datrys yn gynnar yn briodol (er enghraifft oherwydd cymhlethdod neu ddifrifoldeb), y rheswm dros hyn;
(f) mai dim ond pan gynhelir ymchwiliad o dan reoliad 23 y gall asesiad ddigwydd ynghylch a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli mewn perthynas â’r pryder a hysbyswyd;
(ff) pan fo’r corff cyfrifol o’r farn bod y cyfnod datrys yn gynnar yn briodol o dan yr amgylchiadau, a yw’r person a hysbysodd y pryder yn rhoi caniatâd i’r corff cyfrifol geisio datrys y pryder yn unol â’r weithdrefn datrys yn gynnar.”
(4) Ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(4A) Pan fo’r person a hysbysodd y pryder yn derbyn y cynnig o drafodaeth o dan baragraff (4), rhaid i drafodaeth o’r fath fod drwy ddull cyfathrebu uniongyrchol.
(4B) Pan fo’r corff cyfrifol yn cael ei hysbysu bod angen unrhyw wasanaethau a grybwyllir ym mharagraff (4)(b) ar y person a hysbysodd y pryder, pan fydd yn trefnu trafodaeth o dan baragraff (4), rhaid i’r corff cyfrifol ystyried yr angen i sicrhau bod gwasanaethau o’r fath yn cael eu darparu yn y drafodaeth honno.
(4C) Rhaid i’r corff cyfrifol gadw cofnod o’r canlynol—
(a) pa un a yw’r cynnig o drafodaeth o dan baragraff (4) yn cael ei dderbyn ai peidio, a
(b) os yw’r cynnig yn cael ei dderbyn, y materion a drafodwyd.”
Mewnosod rheoliad 22A
12 
Ar ôl rheoliad 22 (y weithdrefn cyn ymchwilio) mewnosoder—“
Y cyfnod datrys yn gynnar a’r weithdrefn datrys yn gynnar
22A. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) pan fo person sydd wedi hysbysu pryder wedi rhoi caniatâd (yn ystod trafodaeth o dan reoliad 22(4) neu o dan baragraff (2)) i’r corff cyfrifol geisio datrys y pryder yn ystod y cyfnod datrys yn gynnar yn unol â’r weithdrefn datrys yn gynnar a bennir yn y rheoliad hwn, a
(b) pan fo’r corff cyfrifol o’r farn bod y weithdrefn datrys yn gynnar yn briodol o dan yr amgylchiadau.
(2) Pan na fo trafodaeth o dan reoliad 22(4) wedi digwydd, rhaid i’r corff cyfrifol geisio cadarnhad gan y person a hysbysodd y pryder o ran a yw’n rhoi caniatâd i’r corff cyfrifol geisio datrys y pryder yn ystod y cyfnod datrys yn gynnar cyn cymryd unrhyw gamau o dan baragraff (3).
(3) Rhaid i’r corff cyfrifol gymryd unrhyw gamau y mae o’r farn eu bod yn briodol i geisio datrys y pryder er boddhad y person a hysbysodd y pryder yn ystod y cyfnod datrys yn gynnar cyn symud ymlaen i gynnal ymchwiliad o dan reoliad 23.
(4) Pan fo’r corff cyfrifol wedi ceisio datrys y pryder yn ystod y cyfnod datrys yn gynnar, rhaid i’r corff cyfrifol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl—
(a) ceisio cadarnhad gan y person a hysbysodd y pryder o ran pa un a yw’r pryder wedi ei ddatrys er ei foddhad ai peidio yn ystod y cyfnod datrys yn gynnar;
(b) pan fo’r person a hysbysodd y pryder yn cadarnhau bod y pryder wedi ei ddatrys er ei foddhad, ddarparu cadarnhad ysgrifenedig i’r person a hysbysodd y pryder fod y weithdrefn datrys yn gynnar wedi dod i ben ac na fydd ymchwiliad i’r pryder yn cael ei gynnal o dan reoliad 23;
(c) pan fo’r person a hysbysodd y pryder yn cadarnhau nad yw’r pryder wedi ei ddatrys er ei foddhad—
(i) dechrau ymchwilio i’r pryder o dan reoliad 23, a
(ii) darparu cadarnhad ysgrifenedig i’r person i’r perwyl hwnnw;
(ch) pan na fo’r person a hysbysodd y pryder yn darparu cadarnhad o dan is-baragraff (a), a phan fo’r corff cyfrifol wedi cymryd pob cam rhesymol i gyfathrebu â’r person hwnnw at y diben hwnnw—
(i) os yw’r corff cyfrifol o’r farn bod y pryder wedi ei ddatrys yn ystod y cyfnod datrys yn gynnar, ddarparu cadarnhad ysgrifenedig yn unol ag is-baragraff (b), neu
(ii) os yw’r corff cyfrifol o’r farn nad yw’r pryder wedi ei ddatrys yn ystod y cyfnod datrys yn gynnar, gymryd y camau a bennir yn is-baragraff (c)(i) a (ii);
(d) cadw cofnod o ganlyniad y weithdrefn datrys yn gynnar.”
Mewnosod rheoliad 24A
13 
Ar ôl rheoliad 24 (ymateb) mewnosoder—“
Atal dros dro y weithdrefn datrys yn gynnar neu ymchwiliad
24A. 

(1) Pan fo’r corff cyfrifol yn dod yn ymwybodol o ymholiad diogelu, ymchwiliad troseddol neu achos troseddol mewn perthynas â mater sy’n destun pryder a hysbyswyd i’r corff cyfrifol, caiff y corff cyfrifol atal dros dro y weithdrefn datrys yn gynnar neu ymchwiliad o dan y Rheoliadau hyn, mewn perthynas â’r pryder.
(2) Caiff ataliad dros dro o dan baragraff (1) fod am unrhyw gyfnod y mae’r corff cyfrifol o’r farn ei fod yn angenrheidiol er mwyn caniatáu i unrhyw ymholiad diogelu neu ymchwiliad troseddol gael ei gwblhau, neu i unrhyw achos troseddol gael ei benderfynu.
(3) Wrth bennu’r cyfnod o dan baragraff (2), rhaid i’r corff cyfrifol roi sylw—
(a) i unrhyw geisiadau gan y personau hynny sy’n gyfrifol am gynnal yr ymholiad diogelu, yr ymchwiliad troseddol neu’r achos troseddol i atal dros dro y weithdrefn datrys yn gynnar neu ymchwiliad o dan y Rheoliadau hyn, neu
(b) i unrhyw ganiatâd a ddarperir gan y personau hynny sy’n gyfrifol am gynnal yr ymholiad diogelu, yr ymchwiliad troseddol neu’r achos troseddol i fwrw ymlaen â’r weithdrefn datrys yn gynnar neu ag ymchwiliad o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan fo’r corff cyfrifol wedi atal dros dro y weithdrefn datrys yn gynnar neu ymchwiliad o dan baragraff (1), rhaid i’r corff cyfrifol roi hysbysiad mewn ysgrifen i’r person a hysbysodd y pryder fod y weithdrefn datrys yn gynnar neu’r ymchwiliad i’r pryder wedi ei hatal dros dro neu ei atal dros dro, wrth aros i ymholiad diogelu neu ymchwiliad troseddol gael ei gwblhau, neu i achos troseddol gael ei benderfynu, yn ôl y digwydd.
(5) Rhaid rhoi hysbysiad o dan baragraff (4) ddim hwyrach na dau ddiwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y mae’r corff cyfrifol yn dod yn ymwybodol o’r ymholiad diogelu, yr ymchwiliad troseddol neu’r achos troseddol.
(6) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn caniatáu, nac yn ei gwneud yn ofynnol, i gorff cyfrifol ddatgelu unrhyw wybodaeth—
(a) a fyddai’n rhagfarnu unrhyw ymchwiliad troseddol, unrhyw achos troseddol neu unrhyw erlyniad troseddol, neu
(b) a fyddai’n mynd yn groes i unrhyw gyfyngiad ar ddatgelu sy’n codi yn rhinwedd deddfiad neu reol gyfreithiol.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “ymholiad diogelu” yw proses yr ymgymerir â hi gan awdurdod lleol er mwyn galluogi’r awdurdod lleol i benderfynu—
(a) a ddylai unrhyw gamau gael eu cymryd ac, os felly, pa rai a chan bwy, mewn perthynas ag oedolyn sy’n wynebu risg o dan adran 126 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
(b) a ddylai gymryd unrhyw gamau er mwyn diogelu neu hyrwyddo lles plentyn o dan adran 47 o Ddeddf Plant 1989.”
Diwygio rheoliad 26
14 

(1) Mae rheoliad 26 (ymateb i ymchwiliad o dan reoliad 23 pan benderfynir bod, neu y gall fod, atebolrwydd cymwys) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3)(b), yn lle “chwe mis” rhodder “120 o ddiwrnodau gwaith”.
(3) Ym mharagraff (4), yn lle “chwe mis” rhodder “120 o ddiwrnodau gwaith”.
(4) Ym mharagraff (5), yn lle “deuddeng mis” rhodder “120 o ddiwrnodau gwaith”.
(5) Ym mharagraff (6), yn lle “ddeuddeng mis” rhodder “120 o ddiwrnodau gwaith”.
(6) Ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(7) Caiff y corff GIG Cymru ddarparu adroddiad interim ar yr un pryd ag adroddiad ar ymchwiliad y cyfeirir ato yn rheoliad 31 pan fo adroddiad yr ymchwiliad yn barod i gael ei ddarparu i’r person a hysbysodd y pryder cyn i’r adroddiad interim gael ei ddarparu.
(8) Pan fo’r adroddiad interim ac adroddiad yr ymchwiliad yn cael eu darparu ar yr un pryd—
(a) nid yw’n ofynnol i’r corff GIG Cymru ddarparu’r wybodaeth ym mharagraff (1)(c) ac (f), a
(b) mae paragraff (1)(e) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “a ddilynwyd” wedi eu rhoi yn lle “a ddilynir”.”
Diwygio rheoliad 29
15 
Yn rheoliad 29 (iawn – digollediad ariannol), ym mharagraff (1), yn lle “nag £25,000” rhodder “na £50,000”, ac ym mharagraff (2), yn lle “na £25,000” rhodder “na £50,000”.
Diwygio rheoliad 31
16 
Yn rheoliad 31 (adroddiad yr ymchwiliad), yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Oni bai bod paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r corff GIG Cymru—
(a) darparu copi o adroddiad yr ymchwiliad o fewn yr amserlen a bennir yn rheoliad 26(5) neu (6) i’r person sy’n ceisio iawn o dan y Rhan hon, neu i’w gynrychiolydd cyfreithiol, a
(b) cynnig cyfle i’r person sy’n ceisio iawn o dan y Rhan hon i drafod yr adroddiad ymchwiliad hwnnw gyda’r swyddog cyfrifol neu berson sy’n gweithredu ar ran y swyddog cyfrifol, drwy ddefnyddio dull cyfathrebu uniongyrchol.”
Diwygio rheoliad 33
17 
Yn rheoliad 33(a) (iawn – hysbysu ynghylch penderfyniad)—
(a) yn lle “deuddeng mis” rhodder “120 o ddiwrnodau gwaith”;
(b) yn lle “ddeuddeng mis” rhodder “120 o ddiwrnodau gwaith”.
Diwygio rheoliad 40
18 

(1) Mae rheoliad 40 (ymateb i ymchwiliad o dan reoliad 39 pan fo corff GIG Cymru o’r farn bod, neu y gall fod, atebolrwydd cymwys) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3)(b), yn lle “chwe mis” rhodder “120 o ddiwrnodau gwaith”.
(3) Ym mharagraff (4), yn lle “chwe mis” rhodder “120 o ddiwrnodau gwaith”.
(4) Ym mharagraff (5), yn lle “deuddeng mis” rhodder “120 o ddiwrnodau gwaith”.
(5) Ym mharagraff (6), yn lle “ddeuddeng mis” rhodder “120 o ddiwrnodau gwaith”.
Diwygio rheoliad 44
19 
Yn rheoliad 44(1) (iawn – digollediad ariannol), yn lle “£25,000” rhodder “£50,000”.
Diwygio rheoliad 46
20 
Yn rheoliad 46 (adroddiad yr ymchwiliad), yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Oni bai bod paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r corff GIG Cymru—
(a) darparu copi o adroddiad yr ymchwiliad o fewn yr amserlen a bennir yn rheoliad 40(5) neu (6) i’r person sy’n ceisio iawn o dan y Rhan hon, neu i’w gynrychiolydd cyfreithiol, a
(b) cynnig cyfle i’r person sy’n ceisio iawn o dan y Rhan hon i drafod yr adroddiad ymchwiliad hwnnw gyda’r swyddog cyfrifol neu berson sy’n gweithredu ar ran y swyddog cyfrifol, drwy ddefnyddio dull cyfathrebu uniongyrchol.”
Diwygio rheoliad 48
21 
Mae rheoliad 48(a) (iawn – hysbysu ynghylch penderfyniad) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn lle “deuddeng mis” rhodder “120 o ddiwrnodau gwaith”;
(b) yn lle “ddeuddeng mis” rhodder “120 o ddiwrnodau gwaith”.
Diwygio rheoliad 50
22 

(1) Mae rheoliad 50 (monitro gweithrediad y trefniadau i ymdrin â phryderon) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“
(aa) pan fo’r pryder yn ymwneud â marwolaeth claf, neu niwed cymedrol neu ddifrifol iddo, a phan fo’r corff cyfrifol yn penderfynu nad oes angen cyngor meddygol annibynnol at ddibenion ymchwilio i’r materion a godir gan y pryder at ddibenion rheoliad 23(1)(d), y rheswm dros y penderfyniad hwnnw;”.
(3) Ym mharagraff (b), ar ôl “pob pryder” mewnosoder “gan gynnwys, pan ganfuwyd bod atebolrwydd cymwys yn bodoli, a wnaed cynnig o iawn”.
Diwygio rheoliad 51
23 
Ar ôl paragraff (3) o reoliad 51 (yr adroddiad blynyddol) mewnosoder—“
(4) Rhaid i adroddiad blynyddol Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer blwyddyn, a baratoir o dan baragraff (1), gynnwys copi o bob adroddiad blynyddol, ar gyfer y flwyddyn honno, gan y cyrff cyfrifol a restrir o dan baragraff (2) ac a ddarparwyd iddo o dan baragraff (3).”
Darpariaeth drosiannol
24 
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw bryder a hysbyswyd yn unol â threfniadau a oedd yn eu lle o dan y Prif Reoliadau cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Hydref 2025