
2025 Rhif 1095 (Cy. 182)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed 15 Hydref 2025
Yn dod i rym 20 Hydref 2025

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 303(1), (2), (5)(c) a 333(2A) a (2B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 333(3E) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Hydref 2025.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2015” yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015.
Cyhoeddi dogfen ffioedd
2 

(1) Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y lle priodol, mewnosoder “ystyr “dogfen ffioedd” (“fee document”) yw’r ddogfen ffioedd y cyfeirir ati yn rheoliad 2ZA(2);”.
(3) Ar ôl rheoliad 2 (dehongli) mewnosoder—“
Cyhoeddi dogfen ffioedd
2ZA. 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) llunio a chyhoeddi dogfen ffioedd ar wefan a gynhelir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru; a
(b) rhoi copïau caled o’r ddogfen ffioedd ar gael ar gais.
(2) Rhaid i’r ddogfen ffioedd nodi—
(a) y dull a ddefnyddir i gyfrifo ffioedd;
(b) swm y ffioedd sy’n daladwy o dan baragraff (4);
(c) y cyfnod amser sy’n ymwneud ag unrhyw newidiadau i ffioedd;
(d) yn ddarostyngedig i baragraff (3), amseriad ac amlder cyhoeddi’r ddogfen ffioedd;
(e) gofynion ymgynghori yn ymwneud ag unrhyw newidiadau arfaethedig i’r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a), (c) a (d); ac
(f) y dyddiad y daw’r ddogfen ffioedd i rym.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r ddogfen ffioedd ar eu gwefan dim llai na 4 wythnos cyn y diwrnod y daw’r ddogfen ffioedd i rym.
(4) Y ffioedd sy’n daladwy, fel y’i crybwyllir ym mharagraff (2)(b), yw’r ffioedd sy’n daladwy, gan gynnwys unrhyw ffioedd ychwanegol, o dan y darpariaethau a restrir yn is-baragraffau (a) i (j) isod—
(a) rheoliad 2A(2) a Rhan 1 o Atodlen 4 (ffioedd taladwy o dan reoliad 2A), paragraff 2 a Rhan 2 o Atodlen 4 (ffioedd mewn cysylltiad ag archiadau am wasanaethau cyn ymgeisio);
(b) rheoliad 3(2) (ffioedd am geisiadau cynllunio) a Rhan 1 o Atodlen 1 (ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau a cheisiadau tybiedig am ganiatâd cynllunio neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl), paragraffau 3(1), 4(2) a (3), 5, 5A, 6(b), 7, 13(2)(a) a (b) a Rhan 2 o Atodlen 1;
(c) rheoliad 11(3)(b) (ffioedd am geisiadau am dystysgrifau defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon);
(d) rheoliad 12(2) ac Atodlen 2 (ffioedd am hysbysebion graddfa ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau am ganiatâd i arddangos hysbysebion);
(e) rheoliad 13(1)(a) a (b) (ffioedd am geisiadau penodol o dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir);
(f) rheoliad 14(4) a (5) (ffioedd mewn cysylltiad â monitro safleoedd mwyngloddio a thirlenwi);
(g) rheoliad 15(1)(a) a (b) (ffioedd am geisiadau a wneir o dan amod cynllunio) a Rhan 2 o Atodlen 1 (graddfa ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau a wnaed neu y tybir iddynt gael eu gwneud);
(h) rheoliad 16(1)(a) a (b) (ffioedd am geisiadau am newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio);
(i) rheoliad 16A(3) (ffioedd am ddiwygiadau ar ôl cyflwyno, i geisiadau am ddatblygiad mawr);
(j) rheoliad 16B(2) (ffioedd am geisiadau am dystysgrifau datblygiad arall priodol).”
Diwygio ffioedd
3 

(1) Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio ymhellach fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 11 (ffioedd am geisiadau am dystysgrifau defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon)—
(a) ym mharagraff (3), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) i (9)” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraffau (7) i (9)”;
(b) ym mharagraff (3)(b), yn lle “£230” rhodder “y swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(c) hepgorer paragraff (6);
(d) ym mharagraff (9), yn lle “yn unol â pharagraffau (3), (6) a (7)”, rhodder “yn unol â pharagraffau (3) a (7)”.
(3) Ym mharagraff (1) o reoliad 13 (ffioedd am geisiadau penodol o dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “£100” rhodder “y swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “£460” rhodder “y swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”.
(4) Yn rheoliad 14 (ffioedd mewn cysylltiad â monitro safleoedd mwyngloddio a thirlenwi)—
(a) ym mharagraff (4), yn lle “yw £400” rhodder “yw’r swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(b) ym mharagraff (5), yn lle “yw £135” rhodder “yw’r swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”.
(5) Ym mharagraff (1) o reoliad 15 (ffioedd am geisiadau a wneir o dan amod cynllunio)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “£35” rhodder “y swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “£115” rhodder “y swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”.
(6) Ym mharagraff (1) o reoliad 16 (ffioedd am geisiadau am newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “£35” rhodder “y swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “£115” rhodder “y swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”.
(7) Ym mharagraff (3) o reoliad 16A (ffioedd am ddiwygiadau ar ôl cyflwyno, i geisiadau am ddatblygiad mawr), yn lle “yw £230” rhodder “yw’r swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”.
(8) Ym mharagraff (2) o reoliad 16B (ffioedd am geisiadau am dystysgrifau datblygiad arall priodol), yn lle “yw £230” rhodder “yw’r swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”.
(9) Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau a cheisiadau tybiedig am ganiatâd cynllunio neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl)—
(a) ym mharagraff 3(1), yn lle “yw £460” rhodder “yw’r swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(b) ym mharagraff 4(2), yn lle “yw £460” rhodder “yw’r swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(c) ym mharagraff 4(3), yn lle “yw £460” rhodder “yw’r swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(d) ym mharagraff 5, yn lle “yw £230” rhodder “yw’r swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(e) ym mharagraff 5A(3)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£190” rhodder “y swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£115” rhodder “y swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(f) ym mharagraff 6(b), yn lle “£230” rhodder “y swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(g) ym mharagraff 7, yn lle “yw £230” rhodder “yw’r swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(h) ym mharagraff 13(2)(a), yn lle “£460” rhodder “y swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(i) ym mharagraff 13(2)(b)—
(i) yn lle “£11,500”, rhodder “y swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(ii) yn lle “£120 ychwanegol”, rhodder “swm ychwanegol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(iii) yn lle “o £150,000”, rhodder “o’r swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”.
(10) Yn Rhan 2 o Atodlen 1 (graddfa ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau a wnaed neu y tybir iddynt gael eu gwneud), yng ngholofn y tabl o dan y pennawd “ffi daladwy”—
(a) yn lle unrhyw swm, ac eithrio swm a ddisgrifir yn is-baragraff (b) neu (c), rhodder “y swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(b) yn lle unrhyw swm a ddilynir gan y gair “ychwanegol”, ynghyd â’r gair “ychwanegol” ei hun, rhodder “swm ychwanegol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”;
(c) yn lle unrhyw swm sy’n dilyn y geiriau “cyfanswm uchaf o” neu “uchafswm o”, ynghyd â’r gair “o” ei hun, rhodder “o’r swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”.
(11) Yn Atodlen 2 (ffioedd am hysbysebion graddfa ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau am ganiatâd i arddangos hysbysebion), yng ngholofn y tabl o dan y pennawd “ffi daladwy”, yn lle unrhyw ffi o swm a bennir rhodder “Y swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”.
(12) Yn Rhan 1 o Atodlen 4 (ffioedd taladwy o dan reoliad 2A), ym mharagraff 2, yn lle “yw £25” rhodder “yw’r swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”.
(13) Yn Rhan 2 o Atodlen 4 (ffioedd mewn cysylltiad ag archiadau am wasanaethau cyn ymgeisio) yng ngholofn y tabl o dan y pennawd “ffi daladwy”, yn lle unrhyw ffi o swm a bennir rhodder “y swm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 2ZA (cyhoeddi dogfen ffioedd)”.
Diwygio trothwyon ffioedd amrywiadwy ar gyfer datblygiad preswyl
4 

(1) Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio ymhellach fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 2 o Atodlen 1 (graddfa ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau a wnaed neu y tybir iddynt gael eu gwneud)—
(a) yng nghategori 1(a) yng ngholofn y tabl o dan y pennawd “ffi daladwy”, yn lle “fwy na 2.5 hectar” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “fwy nag 1.2 hectar” ac yn lle “dros 2.5 hectar” rhodder “dros 1.2 hectar”;
(b) yng nghategorïau 1(b) a 10(a) a (b), yng ngholofn y tabl o dan y pennawd “ffi daladwy”, yn lle pob cyfeiriad at “50” rhodder “25”.
Darpariaeth Drosiannol
5 

(1) Nid yw rheoliadau 3 na 4 yn gymwys i geisiadau, diwygiadau ac ymweliadau safle sy’n ymwneud â’r darpariaethau hynny a restrir yn is-baragraffau (a) i (j) o reoliad 2ZA(4) o Reoliadau 2015, a wnaed neu y tybir iddynt gael eu gwneud cyn y dyddiad y daw’r ddogfen ffioedd y cyfeirir ati yn rheoliad 2ZA(2) i rym yn unol â rheoliad 2ZA(2)(f).
(2) Yn y rheoliad hwn mae i “ymweliad safle” yr ystyr a roddir yn adran 2(1) o Reoliadau 2015.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
15 Hydref 2025