Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffygion yn O.S. 2025/690 (Cy. 114), O.S. 2025/691 (Cy. 115) ac O.S. 2025/692 (Cy. 116) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offerynnau Statudol hynny.
2025 Rhif 1091 (Cy. 181)
Cynllunio Seilwaith, Cymru
Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025
Gwnaed 14 Hydref 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 16 Hydref 2025
Yn dod i rym 14 Rhagfyr 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 30(2)(b) a (d), 32(4)(a), (c), (e), (f) ac (g) a (5), 35(1)(a)(i) a (iii), 36(4)(b), 38(2), 39, 40(5), 44(1), (2)(c) a (d), 48(6), 60(2)(d), (4)(d) a (6), 72(2)(d)(i), 129(4)(b), 140(1) a (2) a 141(2) o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Rhagfyr 2025.
Diwygio Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025
2 

(1) Mae Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) —
(a) yn y diffiniad o “datblygiad AEA”—
(i) ym mharagraff (a) yn lle “o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2017” rhodder “o’r Rheoliadau AEA Cynllunio”, a
(ii) ym mharagraff (b) yn lle “o Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007” rhodder “o’r Rheoliadau AEA Morol”;
(b) yn y diffiniad o “datganiad amgylcheddol”, o flaen “Morol” mewnosoder “AEA”.
(3) Yn rheoliad 4, yn y testun Cymraeg, yn lle “drannoeth” rhodder “â’r diwrnod ar ôl”.
(4) Yn rheoliad 11—
(a) yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “reoliadau 6 i 10” rhodder “reoliadau 7 i 10”;
(b) ym mharagraff (f), yn y testun Cymraeg—
(i) yn lle “drannoeth” rhodder “â’r diwrnod ar ôl”, a
(ii) yn lle “cyhoeddir” rhodder “dyroddir”.
(5) Yn rheoliad 12(1), yn lle “rheoliad 4” rhodder “rheoliad 8 neu 10”.
(6) Yn rheoliad 14(1), hepgorer “yn unol ag adran 29(4) o Ddeddf 2024”.
(7) Yn rheoliad 17(2), yn y testun Cymraeg, hepgorer “(p. 20)”.
(8) Yn rheoliad 19(a), yn y testun Cymraeg, o flaen “gwella” mewnosoder “sicrhau”.
(9) Yn rheoliad 24(f), hepgorer “o dan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau AEA Morol”.
(10) Yn rheoliad 26—
(a) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Pan fo’r hysbysiad safle, heb unrhyw fai ar Weinidogion Cymru neu berson neu gorff a gyfarwyddir i gydymffurfio â’r gofynion yn y rheoliad hwn yn rhinwedd adrannau 34(10) neu 130(1) o Ddeddf 2024, yn cael ei symud ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn i’r cyfnod o 42 o ddiwrnodau ddod i ben, caiff Gweinidogion Cymru neu’r person hwnnw neu’r corff hwnnw eu trin neu ei drin fel pe baent neu pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol os ydynt neu os yw wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad safle ac, os oes angen, ei amnewid.”;
(b) ym mharagraff (4)(b), ar ôl “Lloyd’s List” mewnosoder “am isafswm cyfnod o un wythnos gan ddechrau o fewn 5 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i’r cais gael ei dderbyn yn gais dilys”;
(c) ym mharagraff (5), yn y testun Saesneg, ar ôl “beginning” mewnosoder “with”;
(d) ym mharagraffau (5) a (6), yn lle “35(2)”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “34(10)”.
(11) Yn rheoliad 27—
(a) ym mharagraff (1), yn y testun Cymraeg, yn lle “â thrannoeth” rhodder “â’r diwrnod ar ôl”;
(b) ym mharagraff (3), yn lle “baragraff 12 o’r Rheoliadau hyn” rhodder “reoliad 12”.
(12) Yn rheoliad 28(c)(iii), yn lle “baragraff 1(c)(ii) o’r rheoliad hwn” rhodder “is-baragraff (ii)”.
(13) Ar ddiwedd rheoliad 29(2)(a), yn y testun Saesneg, mewnosoder “and”.
(14) Yn rheoliad 31, ym mharagraffau (2)(d), (5) a (6)(a), yn y testun Cymraeg, yn lle “â thrannoeth” ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “â’r diwrnod ar ôl”.
(15) Ym mhennawd Rhan 7, yn y testun Cymraeg, yn lle “RHAN 1” rhodder “RHAN 7”.
(16) Yn rheoliad 32—
(a) ym mharagraff (1), yn y testun Saesneg, ar ôl “beginning” mewnosoder “with”;
(b) ym mharagraff (3)(b), yn lle “rheoliad 7” rhodder “rheoliad 8”.
(17) Yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraff (g), yng Ngholofn 2, is-baragraff (iii), yn y testun Cymraeg, yn lle “ar lain chwarae yn lle arwyneb o laswellt” rhodder “yn lle arwyneb glaswellt llain chwarae ar faes chwarae”;
(b) yn y testun o dan “Dehongli’r Tabl”—
(i) ym mharagraff (b), yn y testun Saesneg, ar ôl “part of the surface” mewnosoder “immediately”;
(ii) ym mharagraff (f), yn lle “gan adran 82(1) o Ddeddf Meysydd Awyr 1986” rhodder “yn adran 143 o Ddeddf 2024”.
Diwygio Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Caffael Gorfodol) (Cymru) 2025
3 

(1) Mae Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Caffael Gorfodol) (Cymru) 2025 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a) yn y diffiniad o “person ychwanegol a chanddo fuddiant”, yn lle “16” rhodder “15”;
(b) ar ôl y diffiniad o “tir” mewnosoder—“
 mae i “tir amnewid” (“replacement land”) yr un ystyr, yn ôl y digwydd, ag yn adrannau 70 ac 71 o Ddeddf 2024;”.
(3) Yn rheoliad 8(2), yn lle “yn (1)” rhodder “ym mharagraff (1)”.
(4) Yn rheoliad 10(1), ar ôl “38(2)” mewnosoder “o Ddeddf 2024”.
(5) Yn rheoliad 15(4), ar ôl “yn unol â” mewnosoder “pharagraff”.
(6) Yn rheoliad 19(1)(b)—
(a) yn y testun Saesneg, yn lle “land interests” rhodder “persons with an interest in the land”;
(b) yn y testun Cymraeg, yn lle “pawb a chanddynt fuddiannau mewn tir a nodir yn y cyfeirlyfr nad ydynt eisoes wedi eu hysbysu” rhodder “pob person a chanddo fuddiant yn y tir a nodir yn y cyfeirlyfr nad yw eisoes wedi ei hysbysu”.
(7) Yn rheoliad 19(2)(l), yn y testun Cymraeg, yn lle “caniateir” rhodder “gellir”.
(8) Yn rheoliad 20(5)(l), yn y testun Cymraeg, yn lle “caniateir” rhodder “gellir”.
(9) Yn rheoliad 20(6), yn lle “â’r paragraff perthnasol” rhodder “â pharagraff (3) neu (4), fel y bo’n briodol”.
(10) Yn rheoliad 20(8) ar ôl “gyhoeddi” mewnosoder “am 7 niwrnod”.
(11) Yn rheoliad 21(3), yn y testun Cymraeg, yn lle “nodir” rhodder “pennir”.
(12) Yn rheoliad 30—
(a) daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
(b) yn is-baragraff (c), ar ôl “hysbysiadau yn” mewnosoder “is-baragraff”;
(c) yn is-baragraff (f) yn lle “denantiaeth hir sydd i ddod i ben o fewn 12 mis i roi’r hysbysiad” rhodder “denantiaeth hir sydd ar fin dod i ben”;
(d) ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—“
(2) Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y rheoliad hwn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf Caffael Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno.”
Diwygio Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Archwilio a Phenderfynu) (Gweithdrefn) (Cymru) 2025
4 

(1) Mae Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Archwilio a Phenderfynu) (Gweithdrefn) (Cymru) 2025 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6(2), yn y testun Cymraeg, yn lle “i’r” rhodder “mewn perthynas â’r”.
(3) Yn rheoliad 11(4)(b), ar ôl “rheoliad 24(2)” mewnosoder “o Reoliadau Caffael Gorfodol 2025”.
(4) Yn rheoliad 17, yn y testun Cymraeg, daw rhif darpariaeth presennol 17—(1) yn rhif 17.
(5) Yn rheoliad 21, ar y diwedd mewnosoder—“
(12) Yn y rheoliad hwn, mae i “cyflwyniadau cloi” yr ystyr a roddir gan reoliad 20(11).”
(6) Yn rheoliad 27(6), yn y testun Cymraeg, yn lle “nodi” rhodder “bennu”.
(7) Yn rheoliad 28(11)(a), yn y testun Cymraeg, yn lle “mharagraff (11)” rhodder “mharagraff (7)”.
(8) Yn rheoliad 34(1)(b), ar ôl “adran 60(3)(a)” mewnosoder “o Ddeddf 2024”.
(9) Yn—
(a) rheoliadau 12(2), 31(9)(b) a 32(9)(b), yn y testun Saesneg, yn lle “they consider”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “it considers”;
(b) rheoliadau 20(9), 21(10), 31(10), 32(10) a 33, yn y testun Saesneg, yn lle “they”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “it”.
(10) Yn Atodlen 1, ym mharagraff 3(b) hepgorer—“mewnosoder—
 “(i)”.
(11) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1(d) ac (e) ac ym mharagraff 2(a) a (b), ar ôl “(4)(b)”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “o Ddeddf 2024”.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
14 Hydref 2025