
2025 Rhif 1087 (Cy. 180)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003) (Cymru) 2025
Gwnaed 15 Hydref 2025
Yn dod i rym 20 Hydref 2025

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 84(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003) (Cymru) 2025 a deuant i rym ar 20 Hydref 2025.
Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003
2 
Yn adran 33(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, ar ôl paragraff (jd) mewnosoder—“
(je) a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;”
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
15 Hydref 2025