
2025 Rhif 1056 (Cy. 178)
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Senedd Cymru
Gorchymyn Senedd Cymru (Is-etholiad Etholaeth Caerffili) (Taliadau’r Swyddog Canlyniadau) 2025
Gwnaed 1 Hydref 2025
Yn dod i rym 2 Hydref 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan erthygl 23(1D) a (2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Senedd Cymru (Is-etholiad Etholaeth Caerffili) (Taliadau’r Swyddog Canlyniadau) 2025.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 2 Hydref 2025.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â’r is-etholiad sydd i’w gynnal ar 23 Hydref 2025 i lenwi’r sedd wag yn etholaeth Caerffili ar gyfer Senedd Cymru.
(4) Nid yw Gorchymyn Senedd Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2021 yn gymwys mewn perthynas â’r is-etholiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3).
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “is-etholiad” (“by-election”) yw’r is-etholiad sydd i’w gynnal ar 23 Hydref 2025 i lenwi’r sedd wag yn etholaeth Caerffili ar gyfer Senedd Cymru;
 ystyr “swyddog canlyniadau” (“returning officer”) yw’r swyddog canlyniadau ar gyfer etholaeth Caerffili ar gyfer Senedd Cymru, fel y’i penderfynir yn unol ag erthygl 18(2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007.
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy mewn is-etholiad a ymleddir
3 
Os ymleddir yr is-etholiad, y cyfanswm cyffredinol mwyaf y caiff y swyddog canlyniadau ei adennill am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer yr is-etholiad, neu mewn cysylltiad ag ef, yw £222,070 (dau gant a dwy ar hugain o filoedd a saith deg o bunnoedd).
Y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau a ddarperir mewn is-etholiad a ymleddir
4 

(1) Os ymleddir yr is-etholiad, ni chaiff y cyfanswm y caiff y swyddog canlyniadau ei adennill am wasanaethau a ddarperir ar gyfer yr is-etholiad, neu mewn cysylltiad ag ef, fod yn fwy na £5,920 (pum mil naw cant ac ugain o bunnoedd).
(2) Rhaid i unrhyw wasanaethau a ddarperir fod ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a) gwneud trefniadau ar gyfer yr is-etholiad;
(b) cynnal yr is-etholiad;
(c) cyflawni holl ddyletswyddau’r swyddog canlyniadau a’r gweinyddwr etholiadol mewn cysylltiad â’r is-etholiad.
Y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau yr eir iddynt mewn is-etholiad a ymleddir
5 

(1) Os ymleddir yr is-etholiad, ni chaiff y cyfanswm y caiff y swyddog canlyniadau ei adennill am dreuliau yr eir iddynt ar gyfer yr is-etholiad, neu mewn cysylltiad ag ef, fod yn fwy na £216,150 (dau gant ac un ar bymtheg o filoedd a chant a hanner o bunnoedd).
(2) Caiff y swyddog canlyniadau adennill treuliau yr eir iddynt ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a) penodi a thalu personau i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau;
(b) treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos y swyddog canlyniadau ac unrhyw berson a benodir i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau;
(c) costau’r broses enwebu;
(d) argraffu neu gynhyrchu fel arall y papurau pleidleisio;
(e) argraffu neu gynhyrchu fel arall neu brynu deunyddiau ysgrifennu ar gyfer pleidleisio drwy’r post;
(f) argraffu neu gynhyrchu fel arall gardiau pleidleisio, a threfnu i’w dosbarthu;
(g) argraffu neu gynhyrchu fel arall yr holl hysbysiadau a dogfennau etholiad, a’u cyhoeddi;
(h) rhentu, gwresogi, goleuo, glanhau, addasu neu adfer unrhyw adeilad neu unrhyw ystafell;
(i) darparu a chludo cyfarpar;
(j) darparu cyfarpar a meddalwedd technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, a chostau cysylltiedig;
(k) darparu diogelwch, gan gynnwys storio blychau pleidleisio, papurau pleidleisio a dogfennau gwirhau yn ddiogel;
(l) cynnal y gwirhau a’r cyfrif;
(m) darparu a chael hyfforddiant;
(n) darparu deunyddiau ysgrifennu a thalu costau postio, ffonio, argraffu, cyfieithu a bancio a chostau eitemau amrywiol eraill.
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am is-etholiad nas ymleddir
6 
Os nad ymleddir yr is-etholiad, y cyfanswm cyffredinol mwyaf y caiff y swyddog canlyniadau ei adennill am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer yr is-etholiad, neu mewn cysylltiad ag ef, yw £2,215 (dwy fil dau gant a phymtheg o bunnoedd).
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
1 Hydref 2025