
2025 Rhif 1028 (Cy. 177) (C. 49)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 9) 2025
Gwnaed 16 Medi 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 9) 2025.
Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau ynghylch asesiadau o’r effaith ar iechyd ddod i rym
2 
Daw holl ddarpariaethau Rhan 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (asesiadau o’r effaith ar iechyd) i rym ar 19 Medi 2025.
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
16 Medi 2025