
2025 Rhif 1016 (Cy. 176)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2025
Gwnaed 12 Medi 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 16 Medi 2025
Yn dod i rym 7 Hydref 2025

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1), 123 a 124 o Ddeddf Addysg 2002, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn unol ag adran 126 o’r Ddeddf honno wedi ymgynghori â’r personau hynny a’r cyrff hynny y cyfeirir atynt yn yr adran honno yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn briodol.
Enwi, dod i rym, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Hydref 2025.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i athrawon ysgol yng Nghymru.
(4) Yn y Gorchymyn hwn, mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddir i “school teacher” gan adran 122(3) i (6) o Ddeddf Addysg 2002.
Y Ddogfen
2 

(1) Mae’r darpariaethau a nodir yn adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2025 at ddibenion penderfynu—
(a) y tâl ar gyfer athrawon ysgol, a
(b) amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “y Ddogfen” yw’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2025 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” a gyhoeddir ar wefan llyw.cymru.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2024 wedi ei ddirymu.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
12 Medi 2025