
2024 Rhif 938 (Cy. 157) (C. 59)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 7) 2024
Gwnaed 10 Medi 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 7) 2024.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 13 Medi 2024
2 

(1) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau, ar 13 Medi 2024—
(a) adran 59 (darpariaeth gyffredinol ynghylch trwyddedau triniaeth arbennig) i’r graddau y mae’n ymwneud ag Atodlen 3;
(b) adran 60 (unigolion sydd wedi eu hesemptio);
(c) adran 62 (meini prawf trwyddedu);
(d) adran 63 (amodau trwyddedu mandadol);
(e) adran 69 (rhoi triniaeth arbennig yng nghwrs busnes: gofyniad i gael cymeradwyaeth);
(f) adran 70 (cymeradwyo mangreoedd a cherbydau mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennig);
(g) adran 71 (tystysgrifau cymeradwyo);
(h) adran 72 (terfynu cymeradwyaeth yn wirfoddol);
(i) adran 76 (ffioedd);
(j) adran 94 (dehongli’r Rhan hon);
(k) Atodlen 3 (darpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrwyddedau triniaeth arbennig).
(2) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 13 Medi 2024—
(a) adran 64 (ymgynghori ynghylch meini prawf trwyddedu ac amodau trwyddedu mandadol);
(b) adran 94 (dehongli’r Rhan hon) at ddibenion adran 64.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
10 Medi  2024