
2024 Rhif 930 (Cy. 155)
Yr Amgylchedd Hanesyddol, Cymru
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024
Gwnaed 9 Medi 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 11 Medi 2024
Yn dod i rym 4 Tachwedd 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 90(3), (4) a (5), 91(1), (2) a (4), 92(2), 95(4) a (7), 100(4)(a), 101(3) a (5), 102(1), 103(2), 105, 106(5), 107(3)(a), 146(1), 161(2)(c), 170, 209(2) a 211(3)(a) a (4) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 a pharagraff 3(2)(a) o Atodlen 8 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, dod i rym a chod
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Tachwedd 2024.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “adeilad” (“building”) yr ystyr a roddir gan adran 210 o Ddeddf 2023;
 ystyr “awdurdod cynllunio” (“planning authority”) yw awdurdod cynllunio lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ran 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 mae i “cydsyniad adeilad rhestredig” (“listed building consent”) yr ystyr a roddir gan adran 89 o Ddeddf 2023;
 mae i “cydsyniad ardal gadwraeth (“conservation area consent”) yr ystyr a roddir gan adran 162 o Ddeddf 2023;
 mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” gan adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
 ystyr “cyfeiriad” (“address”), mewn perthynas â chyfathrebiadau electronig, yw unrhyw rif neu unrhyw gyfeiriad a ddefnyddir at ddiben cyfathrebiadau electronig;
 ystyr “datganiad achos llawn” (“full statement of case”) yw datganiad ysgrifenedig sy’n nodi manylion llawn yr achos y mae’r ceisydd neu’r apelydd yn bwriadu ei gyflwyno, ynghyd â chopïau o unrhyw ddogfennau ategol y mae’n bwriadu eu cyflwyno neu gyfeirio atynt fel tystiolaeth;
 ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;
 mae i “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yr ystyr a roddir gan reoliad 5(3);
 ystyr “gwaith” (“works”) yw—
(a) mewn perthynas ag adeilad rhestredig, gwaith y mae adran 88 o Ddeddf 2023 yn gymwys iddo, a
(b) mewn perthynas ag ardal gadwraeth, gwaith y mae adran 161 o Ddeddf 2023 yn gymwys iddo;
 ystyr “perchennog” (“owner”) yw—
(a) perchennog ar yr ystad rydd-ddaliadol, neu
(b) tenant o dan les a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill;mae i “tir” (“land”) yr ystyr a roddir gan adran 210 o Ddeddf 2023.
RHAN 1 CEISIADAU
Gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig
3 

(1) Yn ogystal â gofynion adran 90(2) o Ddeddf 2023, rhaid i gais am gydsyniad adeilad rhestredig—
(a) bod ar ffurflen a gyhoeddir neu a ddarperir gan Weinidogion Cymru neu ar ffurflen sydd ag effaith sylweddol debyg, a
(b) cynnwys y materion a bennir yn y ffurflen.
(2) Pan na fo cais yn cael ei wneud drwy gyfathrebiad electronig, rhaid darparu tri chopi o’r cais a’r dogfennau a gynhwysir ynddo.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw’r awdurdod cynllunio y gwneir y cais iddo yn nodi bod angen darparu llai o gopïau.
(4) Rhaid i unrhyw blaniau neu unrhyw luniadau—
(a) bod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir, a
(b) yn achos planiau, ddangos cyfeiriad y gogledd.
Datganiad o’r effaith ar dreftadaeth
4 

(1) Rhaid i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gynnwys datganiad y cyfeirir ato fel datganiad o’r effaith ar dreftadaeth.
(2) Rhaid i ddatganiad o’r effaith ar dreftadaeth—
(a) disgrifio diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yr adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef a’i arwyddocâd, gan gyfeirio’n benodol at y rhan o’r adeilad rhestredig y mae’r gwaith yn effeithio arni,
(b) esbonio’r amcan y bwriedir ei gyflawni gan y gwaith a pham y mae’r gwaith yn ddymunol neu’n angenrheidiol,
(c) cynnwys crynodeb o’r opsiynau a ystyriwyd at ddiben cyflawni’r amcan yn is-baragraff (b) a’r rhesymau dros ffafrio’r cynigion y mae’r cais yn ymwneud â hwy,
(d) disgrifio’r gwaith a’r egwyddorion dylunio sydd wedi eu cymhwyso i’r gwaith,
(e) cynnwys rhestr o’r gwaith,
(f) disgrifio sut y bydd y gwaith yn effeithio ar gymeriad yr adeilad rhestredig fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, gan gynnwys asesiad o effaith y gwaith ar arwyddocâd yr adeilad, ac
(g) disgrifio sut yr ymdriniwyd â materion sy’n ymwneud â mynediad i’r adeilad rhestredig, neu ynddo, ond heb gynnwys materion sy’n ymwneud â mynediad i unrhyw ran o adeilad rhestredig a ddefnyddir fel annedd breifat, neu fynediad mewn unrhyw ran o adeilad rhestredig o’r fath.
Hysbysiad o gais am gydsyniad adeilad rhestredig i berchnogion adeilad
5 

(1) Rhaid i geisydd am gydsyniad adeilad rhestredig gymryd pob cam rhesymol i roi hysbysiad o’r cais i bob person (ac eithrio’r ceisydd) sy’n berchennog ar unrhyw ran o’r adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn unol â pharagraff (2).
(2) Rhaid i’r hysbysiad ym mharagraff (1)—
(a) bod ar y ffurf a gyhoeddir neu a ddarperir gan Weinidogion Cymru neu ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg, a
(b) cael ei roi i bob person a oedd yn berchennog ar y dyddiad perthnasol, ac eithrio pan fo paragraff (4) yn gymwys.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 6, y “dyddiad perthnasol” yw diwrnod cyntaf y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r dyddiad y gwneir y cais am gydsyniad adeilad rhestredig.
(4) Os nad yw’r ceisydd yn gallu rhoi hysbysiad i berchennog yn ei gyfeiriad, rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad o’r cais am gydsyniad adeilad rhestredig ar y ffurf a gyhoeddir neu a ddarperir gan Weinidogion Cymru—
(a) mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal leol yr adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef;
(b) ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol.
Y dystysgrif sydd i’w chynnwys gyda chais am gydsyniad adeilad rhestredig
6 

(1) Rhaid i geisydd am gydsyniad adeilad rhestredig gynnwys gyda’r cais dystysgrif sy’n cydymffurfio â pharagraff (2), ar y ffurf a gyhoeddir neu a ddarperir gan Weinidogion Cymru neu ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg.
(2) Rhaid i’r dystysgrif gael ei llofnodi gan neu ar ran y ceisydd am gydsyniad adeilad rhestredig a chynnwys un o’r datganiadau canlynol—
(a) ar y dyddiad perthnasol, mai’r ceisydd oedd unig berchennog yr adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef,
(b) bod y ceisydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â rheoliad 5,
(c) o ran y ceisydd—
(i) nad yw’n gallu dyroddi tystysgrif yn unol ag is-baragraff (a) neu (b),
(ii) ei fod wedi rhoi hysbysiad yn unol â rheoliad 5 i rai o’r perchnogion,
(iii) ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i ddarganfod enwau a chyfeiriadau gweddill y perchnogion ond nad yw wedi gallu gwneud hynny, a
(iv) ei fod wedi cyhoeddi hysbysiad o’r cais mewn papur newydd lleol yn unol â rheoliad 5(4), neu
(d) o ran y ceisydd—
(i) nad yw’n gallu dyroddi tystysgrif yn unol ag is-baragraff (a), (b) neu (c),
(ii) ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i ddarganfod enwau a chyfeiriadau’r perchnogion ond nad yw wedi gallu gwneud hynny, a
(iii) ei fod wedi cyhoeddi hysbysiad o’r cais mewn papur newydd lleol yn unol â rheoliad 5(4).
(3) Pan fo tystysgrif yn cael ei rhoi yn unol â pharagraff (2)(b) neu (2)(c), rhaid i’r ceisydd hefyd ddarparu yn y dystysgrif—
(a) enwau’r perchnogion y rhoddwyd yr hysbysiadau iddynt,
(b) ym mha gyfeiriadau y rhoddwyd yr hysbysiadau, ac
(c) y dyddiad y rhoddwyd pob hysbysiad.
(4) Pan fo tystysgrif yn cael ei rhoi yn unol â pharagraff (2)(c) neu (d), rhaid i’r ceisydd hefyd ddarparu yn y dystysgrif—
(a) rhestr o’r camau a gymerwyd i ddarganfod enwau a chyfeiriadau’r perchnogion, a
(b) enw a dyddiad y papur newydd lle y cyhoeddwyd hysbysiad o’r cais.
(5) Am ystyr “dyddiad perthnasol” gweler rheoliad 5(3).
Cydnabod cais am gydsyniad adeilad rhestredig
7 

(1) Pan fo’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal yn cael y materion a restrir ym mharagraff (2), rhaid i’r awdurdod cynllunio anfon at y person a wnaeth y cais gydnabyddiaeth yn unol â pharagraff (3).
(2) Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a) cais am gydsyniad adeilad rhestredig sy’n cydymffurfio â gofynion rheoliad 3,
(b) y datganiad o’r effaith ar dreftadaeth sy’n cydymffurfio â gofynion rheoliad 4, ac
(c) y dystysgrif sy’n ofynnol gan reoliad 6.
(3) Rhaid i’r gydnabyddiaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)—
(a) bod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1, neu ar ffurf sylweddol debyg iddi, a
(b) cael ei hanfon cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(4) Os yw’r awdurdod cynllunio, ar ôl anfon y gydnabyddiaeth, yn ystyried nad yw’r cais yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan adran 90(2) o Ddeddf 2023 neu gan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r awdurdod cynllunio hysbysu’r ceisydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Hysbysebu ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig
8 

(1) Pan fo cais am gydsyniad adeilad rhestredig yn cael ei wneud i awdurdod cynllunio, rhaid i’r awdurdod cynllunio gydymffurfio â pharagraffau (3) a (4), ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(2) Nid yw paragraffau (3) a (4) yn gymwys i gais am gydsyniad adeilad rhestredig i gyflawni gwaith nad yw ond yn effeithio ar y tu mewn i adeilad a ddosberthir yn adeilad rhestredig Gradd II (heb seren).
(3) Rhaid i’r awdurdod cynllunio—
(a) cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn mewn hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal leol yr adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef—
(i) disgrifiad o natur y gwaith sy’n destun y cais,
(ii) manylion ynghylch man yn yr ardal leol lle y gellir edrych ar gopi o’r cais a chopïau o’r holl blaniau a’r holl ddogfennau a gyflwynwyd gydag ef ar bob adeg resymol, a
(iii) cyfeiriad y wefan lle y gellir dod o hyd i gopïau o’r cais, y planiau a’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (ii), a
(b) arddangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth yn is-baragraff (a)—
(i) ar yr adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef neu’n agos iddo;
(ii) am o leiaf 7 niwrnod.
(4) Rhaid i’r awdurdod cynllunio sicrhau bod y cyfnod ar gyfer edrych ar y dogfennau a restrir ym mharagraff (3)(a), ar ffurf copi caled ac ar y wefan, yn o leiaf 21 o ddiwrnodau, gan ddechrau â dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.
Hysbysu’r Cymdeithasau Amwynder a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru
9 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio yn cael cais am gydsyniad adeilad rhestredig.
(2) Rhaid i’r awdurdod cynllunio sicrhau bod y cyrff a restrir ym mharagraff (3) yn cael eu hysbysu am y cais pan fo’r cais—
(a) i ddymchwel adeilad rhestredig, neu
(b) i ddymchwel adeilad rhestredig yn rhannol.
(3) Y cyrff y mae rhaid i awdurdod cynllunio eu hysbysu yw—
(a) y Gymdeithas Henebion Hynafol (rhif elusen 209605, a elwir hefyd yn Adeiladau a Lleoedd Hanesyddol),
(b) y Cyngor Archaeoleg Brydeinig (rhif cwmni 01760254),
(c) y Grŵp Sioraidd (rhif elusen 209934),
(d) y Gymdeithas Gwarchod Adeiladau Hynafol (rhif cwmni 05743962),
(e) y Gymdeithas Fictoraidd (rhif cwmni 3940996),
(f) Cymdeithas yr Ugeinfed Ganrif (rhif cwmni 05330664), ac
(g) Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
(4) Rhaid rhoi’r hysbysiad o dan y rheoliad hwn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru
10 

(1) Pan fo cais am gydsyniad adeilad rhestredig yn cael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 94 o Ddeddf 2023 (atgyfeirio cais at Weinidogion Cymru), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid i’r awdurdod cynllunio—
(a) cyflwyno i’r ceisydd ac i Weinidogion Cymru, ar yr un pryd, hysbysiad o atgyfeiriad, a
(b) anfon copi o ffeil y cais at Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i hysbysiad o atgyfeiriad—
(a) datgan bod y cais am gydsyniad adeilad rhestredig wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru,
(b) nodi’r rhesymau a roddir gan Weinidogion Cymru dros ddyroddi’r cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r cais gael ei atgyfeirio atynt,
(c) datgan y caiff y ceisydd gyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru ac esbonio beth yw hynny, a
(d) nodi’r gofynion ym mharagraff (4).
(3) Caiff ceisydd y mae hysbysiad o atgyfeiriad yn cael ei gyflwyno iddo anfon datganiad achos llawn at Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i geisydd sy’n anfon datganiad achos llawn—
(a) sicrhau ei fod yn dod i law Gweinidogion Cymru cyn diwedd y cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o atgyfeiriad, a
(b) anfon copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod cynllunio ar yr un pryd ag y’i hanfonir at Weinidogion Cymru.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “ffeil y cais” yw’r cais am gydsyniad adeilad rhestredig ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig a’r holl ohebiaeth gyda’r awdurdod cynllunio sy’n ymwneud â’r cais.
Datgymhwyso’r gofyniad i hysbysu Gweinidogion Cymru am geisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig
11 
Nid yw adran 95(1) o Ddeddf 2023 (hysbysu Gweinidogion Cymru cyn rhoi cydsyniad) yn gymwys i geisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig i gyflawni gwaith nad yw ond yn effeithio ar y tu mewn i adeilad a ddosberthir yn adeilad rhestredig Gradd II (heb seren).
Penderfyniad ar gais
12 

(1) Pan fo cais am gydsyniad adeilad rhestredig yn dod gyda thystysgrif o dan reoliad 6(2)(b), (c) neu (d), o ran yr awdurdod cynllunio—
(a) ni chaiff benderfynu’r cais cyn diwedd 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad tystysgrif perthnasol,
(b) rhaid iddo ystyried unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r cais a gyflwynir, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, gan unrhyw berson sy’n bodloni’r awdurdod cynllunio ei fod yn berchennog ar yr adeilad rhestredig, ac
(c) rhaid iddo roi hysbysiad o’i benderfyniad i bob person sydd wedi cyflwyno sylwadau yr oedd yn ofynnol iddo eu hystyried o dan is-baragraff (b).
(2) O ran yr awdurdod cynllunio—
(a) ni chaiff benderfynu cais am gydsyniad adeilad rhestredig cyn y diweddaraf o’r canlynol—
(i) diwedd y cyfnod y cyfeirir ato yn rheoliad 8(4) (os yw’n berthnasol), a
(ii) diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad pan arddangoswyd yr hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 8(3)(b) am y tro cyntaf, a
(b) rhaid iddo ystyried unrhyw sylwadau sy’n dod i law cyn i’r ddau gyfnod yn is-baragraff (a) ddod i ben.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y dyddiad tystysgrif perthnasol” yw—
(a) yn achos tystysgrif o dan reoliad 6(2)(b), y dyddiad cyflwyno diweddaraf ar gyfer hysbysiad, fel y’i dangosir ar y dystysgrif;
(b) yn achos tystysgrif o dan reoliad 6(2)(c), y diweddaraf o’r canlynol—
(i) y dyddiad cyflwyno diweddaraf ar gyfer hysbysiad, fel y’i dangosir ar y dystysgrif;
(ii) dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd lleol, fel y’i dangosir ar y dystysgrif;
(c) yn achos tystysgrif o dan reoliad 6(2)(d), ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd lleol, fel y’i dangosir ar y dystysgrif.
Hysbysiad o benderfyniad neu atgyfeiriad at Weinidogion Cymru
13 

(1) Rhaid i’r awdurdod cynllunio roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person sydd wedi gwneud cais iddo am gydsyniad adeilad rhestredig—
(a) o’r penderfyniad, neu
(b) ei fod wedi atgyfeirio’r cais at Weinidogion Cymru.
(2) Y “cyfnod penderfynu” yn adran 100(4)(a) o Ddeddf 2023 yw 8 wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y mae’r wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 7(2) yn dod i law (ond gweler hefyd adrannau 90(6) a 100(4)(b) o’r Ddeddf honno).
(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio yn penderfynu caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau neu ei wrthod, rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) hefyd—
(a) cynnwys y rhesymau dros y penderfyniad, a
(b) dod gyda hysbysiad ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2, neu ar ffurf sylweddol debyg iddi.
Hysbysu cymdeithasau amwynder etc. am benderfyniad
14 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig—
(a) i ddymchwel adeilad rhestredig, neu
(b) i ddymchwel adeilad rhestredig yn rhannol.
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio hysbysu’r cyrff yn rheoliad 9(3) am ei benderfyniad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw.
Cais i amrywio neu ddileu amodau
15 

(1) Mae rheoliadau 3 i 14 yn gymwys i gais o dan adran 99 o Ddeddf 2023 (cais i amrywio neu ddileu amodau) fel y maent yn gymwys i gais am gydsyniad adeilad rhestredig.
(2) Wrth eu cymhwyso i gais o dan adran 99 o Ddeddf 2023, mae’r rheoliadau a gymhwysir gan baragraff (1) i’w darllen fel pe bai—
(a) unrhyw gyfeiriad at gais am gydsyniad adeilad rhestredig yn gyfeiriad at gais i amrywio neu ddileu amodau cydsyniad adeilad rhestredig, a
(b) unrhyw gyfeiriad at geisydd am gydsyniad adeilad rhestredig yn gyfeiriad at geisydd ar gyfer amrywio neu ddileu amodau cydsyniad adeilad rhestredig.
(3) Wrth eu cymhwyso i gais o dan adran 99 o Ddeddf 2023—
(a) mae rheoliad 9 (hysbysu’r cymdeithasau amwynder etc.) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “yn ymwneud â dymchwel” wedi eu rhoi yn lle “i ddymchwel”;
(b) mae rheoliad 11 (datgymhwyso’r gofyniad i hysbysu Gweinidogion Cymru) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “i amrywio neu ddileu amod sy’n ymwneud â gwaith” wedi eu rhoi yn lle “i gyflawni gwaith”;
(c) mae rheoliad 13(3)(b) (hysbysiad o benderfyniad neu atgyfeiriad at Weinidogion Cymru) i’w ddarllen fel pe bai’r cyfeiriad at Atodlen 2 yn gyfeiriad at Atodlen 3.
RHAN 2 APELAU
Apelau
16 

(1) Rhaid i’r ceisydd roi hysbysiad o unrhyw apêl o dan adran 100(2) o Ddeddf 2023 i Weinidogion Cymru o fewn 6 mis gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod ym mharagraff (1).
(3) Rhaid i’r ceisydd roi hysbysiad o unrhyw apêl o dan adran 100 o Ddeddf 2023 ar ffurflen a ddarperir neu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru, a chynnwys gyda’r ffurflen honno—
(a) datganiad achos llawn, a
(b) copi o’r canlynol—
(i) y cais am gydsyniad adeilad rhestredig;
(ii) yr holl wybodaeth a’r holl ddogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais;
(iii) unrhyw hysbysiad o’r penderfyniad;
(iv) pob gohebiaeth berthnasol arall gyda’r awdurdod cynllunio.
(4) Rhaid i’r ceisydd anfon i’r awdurdod cynllunio gopi o’r hysbysiad o apêl a chopi o’r datganiad achos llawn, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(5) Mae rheoliad 5 (hysbysiad o gais i berchnogion), rheoliad 6 (tystysgrif gyda chais) a rheoliad 21 (cais mewn cysylltiad â thir y Goron) yn gymwys i apêl mewn perthynas â chais am gydsyniad adeilad rhestredig fel y maent yn gymwys i gais am gydsyniad adeilad rhestredig, ond fel pe bai cyfeiriadau at gais a cheisydd yn gyfeiriadau at apêl ac apelydd.
Amrywio ceisiadau ar ôl hysbysiad o apêl
17 

(1) Caniateir amrywio cais am gydsyniad adeilad rhestredig y mae apêl yn ymwneud ag ef er mwyn cywiro anghysondeb rhwng yr wybodaeth yn y cais ac unrhyw un neu ragor o’r dogfennau sy’n dod gydag ef, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(2) Ni chaniateir i’r cais gael ei amrywio os yw’n newid sylwedd y cais.
Penderfyniad ar gais ar ôl cyflwyno hysbysiad o apêl
18 
Y cyfnod a ragnodir at ddiben adran 103(2) o Ddeddf 2023 (y cyfnod pan na chaiff Gweinidogion Cymru benderfynu apêl yn erbyn methiant i roi hysbysiad o benderfyniad) yw 4 wythnos.
RHAN 3 ACHOSION ARBENNIG
Datgymhwyso ac addasu: ceisiadau gan awdurdod cynllunio i ddymchwel adeilad rhestredig
19 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gais gan awdurdod cynllunio—
(a) am gydsyniad adeilad rhestredig i ddymchwel adeilad rhestredig;
(b) i amrywio neu ddileu amodau cydsyniad adeilad rhestredig i ddymchwel adeilad rhestredig.
(2) Rhaid i gais gael ei wneud i Weinidogion Cymru (gweler adran 90(1)(a) o Ddeddf 2023).
(3) Mae penderfyniad gan Weinidogion Cymru ar gais yn derfynol.
(4) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) mae rheoliad 3 (gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig) i’w ddarllen fel pe bai—
(i) paragraff (1) yn cynnwys gofyniad i’r cais ddod gydag unrhyw sylwadau a geir cyn i’r ddau gyfnod yn rheoliad12(2)(a) ddod i ben;
(ii) ym mharagraff (3), y geiriau “os yw Gweinidogion Cymru” wedi eu rhoi yn lle “os yw’r awdurdod cynllunio y gwneir y cais iddo”;
(b) mae rheoliad 7 (cydnabod cais am gydsyniad adeilad rhestredig) i’w ddarllen fel pe bai—
(i) ym mharagraff (1), y geiriau “Pan fo Gweinidogion Cymru” wedi eu rhoi yn lle “Pan fo’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal”;
(ii) ym mharagraff 7(4), y geiriau “Os yw Gweinidogion Cymru” wedi eu rhoi yn lle “Os yw’r awdurdod cynllunio”;
(iii) pob cyfeiriad arall at awdurdod cynllunio yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru;
(c) mae rheoliad 8 (hysbysebu ceisiadau) i’w ddarllen fel pe bai paragraff (1) o’r rheoliad hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio gydymffurfio â pharagraffau (3) a (4) cyn i’r awdurdod cynllunio anfon cais am gydsyniad adeilad rhestredig at Weinidogion Cymru;
(d) mae rheoliad 9 (hysbysu’r cymdeithasau amwynder etc.) i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraff (1), y gair “gwneud” wedi ei roi yn lle “cael”;
(e) mae rheoliad 12 (penderfyniad ar gais) i’w ddarllen fel pe bai—
(i) ym mharagraff (1), y cyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru;
(ii) ym mharagraff (2)—(aa) yn is-baragraff (a), y geiriau “ni chaiff anfon” wedi eu rhoi yn lle “ni chaiff benderfynu”;(bb) y ddyletswydd yn is-baragraff (b) yn ddyletswydd ar Weinidogion Cymru ac nid ar yr awdurdod cynllunio;
(f) mae rheoliad 15 (cais i amrywio neu ddileu amodau) i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraff (1), y cyfeiriad at reoliadau “3 i 14” yn gyfeiriad at reoliadau “3 i 9, 12 a 14”;
(g) nid yw rheoliad 16 (apelau) yn gymwys.
Ceisiadau ac eithrio rhai i ddymchwel a wneir gan awdurdod cynllunio
20 
Nid yw adran 100 o Ddeddf 2023 (yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio neu fethiant awdurdod cynllunio i wneud penderfyniad) yn gymwys i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gan awdurdod cynllunio a benderfynir gan yr awdurdod cynllunio hwnnw.
Cais am gydsyniad adeilad rhestredig mewn cysylltiad â thir y Goron
21 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gais am gydsyniad adeilad rhestredig mewn cysylltiad â thir y Goron.
(2) Caniateir i’r canlynol ddod gyda chais—
(a) datganiad bod y cais yn cael ei wneud mewn cysylltiad â thir y Goron, a
(b) copi o’r awdurdodiad gan awdurdod priodol y Goron i wneud y cais.
(3) Os bydd datganiad ac awdurdodiad, fel y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), yn dod gyda chais—
(a) nid yw rheoliad 5 (hysbysiad o gais i berchnogion) yn gymwys;
(b) nid yw rheoliad 6 (y dystysgrif sydd i’w chynnwys gyda chais) yn gymwys;
(c) mae rheoliad 7(2) (cydnabod cais) yn gymwys fel pe bai’r geiriau “y datganiad a’r awdurdodiad y cyfeirir atynt yn rheoliad 21” wedi eu rhoi yn lle is-baragraff (c).
(4) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “awdurdod priodol y Goron” (“appropriate Crown authority”) yr ystyr a roddir gan adran 207(6) o Ddeddf 2023;
 mae i “tir y Goron” (“Crown land”) yr ystyr a roddir gan adran 207(2) o Ddeddf 2023.
Cyhoeddusrwydd ar gyfer ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron
22 

(1) Pan fo cais yn cael ei wneud o dan adran 106(1) o Ddeddf 2023 (ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron), rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â pharagraffau (3) i (6), ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(2) Nid yw paragraffau (3) i (6) yn gymwys i gais am gydsyniad adeilad rhestredig i gyflawni gwaith nad yw ond yn effeithio ar y tu mewn i adeilad a ddosberthir yn adeilad rhestredig Gradd II (heb seren).
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi hysbysiad o’r cais ac o’r ffaith bod dogfennau a deunydd arall ar gael i edrych arnynt, mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal leol yr adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
(4) Rhaid i’r hysbysiad ym mharagraff (3) gynnwys—
(a) arwydd o natur y gwaith sy’n destun y cais;
(b) manylion ynghylch—
(i) y man y mae’r dogfennau a’r deunydd arall sy’n ymwneud â’r cais ar gael ynddo i edrych arnynt o dan adran 106(4) o Ddeddf 2023, a’r amseroedd pan fyddant ar gael, a
(ii) gwefan lle y mae’r dogfennau a’r deunydd arall sy’n ymwneud â’r cais ar gael i edrych arnynt.
(5) Rhaid i’r dogfennau a’r deunyddiau eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) gael eu rhoi ar gael i edrych arnynt ar bob adeg resymol am o leiaf 21 o ddiwrnodau, gan ddechrau â dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3).
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru arddangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff >(4)—
(a) ar yr adeilad y mae’r cais yn ymwneud ag ef neu’n agos iddo;
(b) am o leiaf 7 niwrnod.
(7) Mae adran 106 o Ddeddf 2023 yn gymwys i gais o dan adran 99 o’r Ddeddf honno (cais i amrywio neu ddileu amodau) fel y mae’n gymwys i gais am gydsyniad adeilad rhestredig.
(8) Nid yw’r rheoliadau a ganlyn yn gymwys i gais o dan adran 106(1) o Ddeddf 2023 (ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron)—
(a) rheoliad 3 (gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig);
(b) rheoliad 4 (datganiad o’r effaith ar dreftadaeth).
(9) Mae rheoliad 15(1) (cais i amrywio neu ddileu amodau) yn gymwys fel pe bai—
(a) y cyfeiriad at reoliadau 3 i 14 yn gyfeiriad at reoliadau 5 a 6;
(b) paragraff (3) wedi ei hepgor.
RHAN 4 Ardaloedd Cadwraeth
Datgymhwyso’r gofyniad i ddymchweliad mewn ardaloedd cadwraeth gael ei awdurdodi
23 

(1) Nid yw adran 161(1) o Ddeddf 2023 (gofyniad i ddymchweliad mewn ardaloedd cadwraeth gael ei awdurdodi) yn gymwys i’r canlynol—
(a) adeilad sydd â chyfanswm cynnwys ciwbig nad yw’n fwy na 115 o fetrau ciwbig pan gaiff ei fesur yn allanol, ac eithrio carreg fedd sy’n dyddio o flwyddyn cyn 1925;
(b) clwyd, wal, ffens neu ffordd arall o amgáu tir sydd—
(i) pan fo wrth ymyl priffordd neu gilffordd gyfyngedig, dyfrffordd neu fan agored, yn llai nag un metr o uchder, neu
(ii) yn llai na dau fetr o uchder mewn unrhyw achos arall;
(c) adeilad a godwyd ar ôl 1913 ac sy’n cael ei ddefnyddio, neu a ddefnyddiwyd ddiwethaf, at ddibenion amaethyddiaeth neu goedwigaeth;
(d) adeilad y mae’n ofynnol ei ddymchwel—
(i) drwy orchymyn a wneir o dan adran 102 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
(ii) drwy gytundeb a wneir o dan adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
(iii) drwy hysbysiad gorfodi pan ddyroddir yr hysbysiad—(aa) o dan adran 172 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, neu(bb) o dan adran 123 neu 134 o Ddeddf 2023;
(iv) drwy amod caniatâd cynllunio a roddir o dan adran 70 neu adran 177(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
(v) drwy hysbysiad o dan adran 215 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
(e) adeilad sydd wedi ei gynnwys mewn gorchymyn dymchwel gweithredol o dan adran 265 o Ddeddf Tai 1985;
(f) adeilad sydd wedi ei gynnwys mewn ardal glirio a ddatganwyd o dan adran 289 o Ddeddf Tai 1985;
(g) adeilad ar dir a brynwyd gan awdurdod tai lleol o dan adran 290 o Ddeddf Tai 1985;
(h) adeilad sydd ar gau ar gyfer addoli rheolaidd gan y cyhoedd yn unol â darpariaeth a wneir o dan Ran 6 o Fesur Cenhadaeth a Bugeiliol 2011 (Rhif 3) gan gynllun bugeiliol adeiladau eglwysi neu gynllun bugeiliol (gwaredu adeiladau eglwysi).
(2) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “cilffordd gyfyngedig” yr ystyr a roddir i “restricted byway” yn adran 48(4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (gweler adran 48(4) a (5) o’r Ddeddf honno);
 ystyr “man agored” (“open space”) yw unrhyw dir sy’n ardd gyhoeddus neu a ddefnyddir at ddibenion hamdden gan y cyhoedd, neu dir sy’n gladdfa segur;
 mae i “priffordd” yr un ystyr ag a roddir i “highway” yn Neddf Priffyrdd 1980 (gweler adran 328(1) a (2) o’r Ddeddf honno).
(3) Gweler hefyd adran 161(2) o Ddeddf 2023 am eithriadau eraill i’r gofyniad yn adran 161(1) i ddymchweliad gael ei awdurdodi.
Cymhwyso’r Rheoliadau hyn i adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth
24 

(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag adeiladau y mae adran 161 o Ddeddf 2023 (dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth) yn gymwys iddynt fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag adeiladau rhestredig ac eithrio—
(a) rheoliad 8(2),
(b) rheoliad 9,
(c) rheoliad 11, a
(d) rheoliad 14.
(2) Wrth eu cymhwyso i adeiladau y mae adran 161 o Ddeddf 2023 yn gymwys iddynt, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai—
(a) unrhyw gyfeiriad at gydsyniad adeilad rhestredig yn gyfeiriad at gydsyniad ardal gadwraeth;
(b) unrhyw gyfeiriad at gymeriad yr adeilad rhestredig yn gyfeiriad at gymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth y mae’r adeilad ynddi;
(c) unrhyw gyfeiriad arall at adeilad rhestredig yn gyfeiriad at adeilad y mae adran 161 o Ddeddf 2023 yn gymwys iddo.
(3) Wrth ei gymhwyso i adeiladau y mae adran 161 o Ddeddf 2023 yn gymwys iddynt, mae rheoliad 4(2) i’w ddarllen fel pe bai—
(a) yn is-baragraff (a), y geiriau “gan gyfeirio’n benodol at y rhan o’r adeilad rhestredig y mae’r gwaith yn effeithio arni” wedi eu hepgor;
(b) is-baragraff (g) wedi ei hepgor.
RHAN 5 AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Hysbysebu gorchymyn dirymu neu orchymyn addasu diwrthwynebiad
25 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd yn ofynnol i awdurdod cynllunio gyhoeddi hysbysiad o orchymyn a wneir o dan adran 107 o Ddeddf 2023 (addasu a dirymu cydsyniad).
(2) At ddibenion paragraff 3(2) o Atodlen 8 i Ddeddf 2023 (y weithdrefn ar gyfer gorchmynion sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig), y ffordd y mae rhaid i awdurdod cynllunio gyhoeddi’r hysbysiad hwnnw yw mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal leol y mae’r adeilad rhestredig y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef ynddi.
Cyfradd llog ar dreuliau ar gyfer gwaith brys
26 

(1) Y gyfradd llog a bennir at ddiben adran 146(1) o Ddeddf 2023 (adennill costau gwaith diogelu) yw 2% y flwyddyn yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr” ar gyfer unrhyw ddiwrnod penodol yw—
(a) os yw gorchymyn o dan adran 19 o Ddeddf Banc Lloegr 1998 mewn grym, unrhyw gyfradd sy’n cyfateb i’r gyfradd a ddisgrifir yn is-baragraff (b), neu os nad oes unrhyw gyfradd,
(b) y gyfradd a gyhoeddwyd fel y gyfradd fasnachu swyddogol yng nghyfarfod Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr a gynhaliwyd ddiwethaf cyn y diwrnod hwnnw.
Diwygiadau canlyniadol
27 
Mae Atodlen 4 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol.
Dirymu
28 
Mae Atodlen 5 yn cynnwys dirymiadau.
Jane Hutt
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip, un o Weinidogion Cymru
9 Medi 2024
ATODLEN 1
Hysbysiad i’r Ceisydd ar ôl Cael Cais
Rheoliad ‎7(3)(a)
1 
Daeth eich cais dyddiedig ………………rhowch y dyddiadi law ar …………………………..rhowch y dyddiad*[Nid ydym wedi cwblhau ein harchwiliad o ffurf y cais a’r planiau a’r dogfennau cysylltiedig eto er mwyn penderfynu a yw eich cais yn cydymffurfio â’r gofynion statudol. Os byddwn yn penderfynu, yn dilyn archwiliad pellach, fod y cais yn annilys am fethu â chydymffurfio â gofynion o’r fath, byddwn yn eich hysbysu’n ysgrifenedig cyn gynted â phosibl.]*dilëwch os nad yw’n briodol
2 
Os, erbyn ……………………….…………………….rhowch ddyddiad o 8 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r cais, y dystysgrif a’r datganiad o’r effaith ar dreftadaeth i law
(a) nad ydych wedi cael hysbysiad gan yr awdurdod hwn—
(i) bod eich cais yn annilys;
(ii) o’n penderfyniad;
(iii) bod eich cais wedi cael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i’w benderfynu, neu
(b) nad ydym wedi cytuno â chi yn ysgrifenedig y byddwn yn estyn y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i ni roi ein penderfyniad, fe gewch apelio.
3 
Mae’r hawl i apelio, a’r weithdrefn ar gyfer apelio, yn adrannau 100 i 102 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
4 
Rhaid i chi gyflwyno unrhyw apêl ar ffurflen y gallwch ei chael gan Weinidogion Cymru.
5 
Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad sy’n gwrthod y cais neu sy’n ei ganiatáu yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i chi gyflwyno unrhyw apêl yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben â/ag ……...…………………………………….rhowch ddyddiad o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad
ATODLEN 2
Hysbysiad i’r Ceisydd ar ôl Gwrthod Cydsyniad neu Roi Cydsyniad yn Ddarostyngedig i Amodau (i’w gynnwys gyda hysbysiadau o benderfyniad)
Rheoliad 13 (3)(b)
1 
Os ydych wedi eich tramgwyddo gan benderfyniad yr awdurdod cynllunio i wrthod cydsyniad ar gyfer y gwaith neu i’w roi yn ddarostyngedig i amodau, fe gewch apelio i Weinidogion Cymru. Mae’r hawl i apelio, a’r weithdrefn ar gyfer apelio, yn adrannau 100 i 102 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
2 
Rhaid i chi gyflwyno unrhyw apêl ar ffurflen y gallwch ei chael gan Weinidogion Cymru. Rhaid i chi gyflwyno unrhyw hysbysiad o apêl yn ystod y 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad.
3 
Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu cyfnod hwy i chi roi hysbysiad o apêl, ond ni fyddant fel arfer yn fodlon gwneud hynny oni bai bod amgylchiadau arbennig.
4 
Os yw cydsyniad yn cael ei wrthod, neu’n cael ei roi yn ddarostyngedig i amodau (pa un ai gan yr awdurdod cynllunio neu gan Weinidogion Cymru), os yw’r amodau ym mharagraff 6 wedi eu bodloni, mae gan y perchennog yr hawliau a ddisgrifir ym mharagraff 8.
5 
Yn y paragraffau a ganlyn, ystyr “tir cysylltiedig” yw tir sy’n cynnwys yr adeilad, sy’n cydffinio ag ef neu sy’n gyfagos iddo ac a berchnogir gyda’r adeilad, ac ystyr “defnyddiadwy” yw bod modd gwneud defnydd rhesymol fuddiol ohono.
6 
Yr amodau yw bod perchennog yr adeilad a’r tir cysylltiedig yn honni—
(a) bod yr adeilad a’r tir cysylltiedig yn annefnyddiadwy yn eu cyflwr presennol,
(b) nad yw’n bosibl gwneud yr adeilad na’r tir cysylltiedig yn ddefnyddiadwy—
(i) mewn achos pan fo cydsyniad adeilad rhestredig wedi ei roi yn ddarostyngedig i amodau neu wedi ei addasu drwy osod amodau, drwy gyflawni’r gwaith y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef yn unol â’r amodau, a
(ii) mewn unrhyw achos, drwy gyflawni unrhyw waith arall y rhoddwyd cydsyniad ar ei gyfer neu y mae’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru wedi ymrwymo i roi cydsyniad ar ei gyfer,
(c) na ellir gwahanu’n sylweddol y defnydd o’r tir cysylltiedig oddi wrth y defnydd o’r adeilad rhestredig, a
(d) y dylid trin y tir cysylltiedig, ynghyd â’r adeilad, fel un daliad.
7 
Mae rhagor o fanylion am ystyr “yn ddefnyddiadwy yn eu cyflwr presennol/ei gyflwr presennol” yn adran 109(7) ac (8) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
8 
Os bodlonir yr amodau ym mharagraff 6, caiff y perchennog gyflwyno hysbysiad prynu i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio brynu buddiant y perchennog yn yr adeilad a’r tir cysylltiedig.
9 
Mae rhagor o fanylion am yr hawl hon yn adrannau 109 i 112 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
ATODLEN 3
Hysbysiad i’r Ceisydd ar ôl Gwrthod Amrywio neu Ddileu Amodau sydd Ynghlwm wrth Gydsyniad neu ar ôl Ychwanegu Amodau Newydd (i’w gynnwys gyda’r hysbysiadau o benderfyniad)
Rheoliad 15 (3)(c)
1 
Cewch apelio i Weinidogion Cymru os ydych wedi eich tramgwyddo gan benderfyniad yr awdurdod cynllunio—
(a) i wrthod amrywio neu ddileu’r amodau sydd ynghlwm wrth gydsyniad, neu
(b) i gynnwys amodau newydd.
2 
Mae’r hawl i apelio, a’r weithdrefn ar gyfer apelio, yn adrannau 100 i 102 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
3 
Rhaid i chi gyflwyno unrhyw apêl ar ffurflen y gallwch ei chael gan Weinidogion Cymru. Rhaid i chi gyflwyno unrhyw hysbysiad o apêl yn ystod y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad.
4 
Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu cyfnod hwy i chi roi hysbysiad o apêl, ond ni fyddant fel arfer yn fodlon gwneud hynny oni bai bod amgylchiadau arbennig.
ATODLEN 4
Diwygiadau canlyniadol
Rheoliad 27
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007
1 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007, yn Rhan A, rhes 22, yn yr ail golofn, yn lle “rheoliadau 3” hyd at y diwedd, rhodder “Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024”.
Rheoliadau Ceisiadau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Henebion Hynafol) 1992
2 
Mae Rheoliadau Ceisiadau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Henebion Hynafol) 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “conservation area consent” a “listed building consent”, ar ôl “Act” mewnosoder “in relation to areas and buildings in England, and have the same meanings respectively as in section 162 and section 89 of the Historic Environment (Wales) Act 2023 in relation to areas and buildings in Wales”.
4 
Yn rheoliad 3—
(a) ar ddiwedd y pennawd mewnosoder “in relation to England”;
(b) ym mharagraff (1), ar ôl “required” mewnosoder “in relation to a listed building or conservation area in England,”.
5 
Ar ôl rheoliad 3 mewnosoder—“
Modification of procedures for listed building consent and conservation area consent in relation to a listed building or conservation area in Wales
3A. 

(1) This regulation applies where listed building consent or conservation area consent is required in relation to a listed building or conservation area in Wales for the purposes of proposals included in a section 6 application and either—
(a) the application for consent has been made not later than 10 weeks after the section 6 application, or
(b) the Secretary of State considers it appropriate that this regulation should apply and has given a direction to that effect.
(2) Where this regulation applies, the Listed Buildings and Conservation Areas (Procedure and Interest Rate) (Wales) Regulations 2024 have effect with the modifications in Schedule 1A.”
6 
Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder—“
SCHEDULE 1A
Modifications of the Listed Buildings and Conservation Areas (Procedure and Interest Rate) (Wales) Regulations 2024
Regulation 3A
1. 
The Listed Buildings and Conservation Areas (Procedure and Interest Rate) (Wales) Regulations 2024 apply as if—
(a) in the Welsh text, in regulation 3(1), there were inserted before sub-paragraph (a)—“
(za) cynnwys unrhyw drychiadau, unrhyw fodelau, unrhyw ffotograffau ac unrhyw ddeunyddiau eraill sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r gwaith a chaiff gynnwys—
(i) trychiadau manwl,
(ii) darnau o blaniau a thrychiadau a gyflwynwyd, neu sydd i’w cyflwyno, gyda chais o dan adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992, neu
(iii) pan na fo unrhyw ddeunyddiau o’r fath wedi eu llunio ar ddyddiad y cais, disgrifiad ysgrifenedig clir o’r gwaith y bwriedir ei gyflawni yn yr adeilad neu i’r adeilad, wedi ei ategu gan unrhyw ddeunyddiau eraill y gall y ceisydd yn rhesymol eu darparu,”;
(b) in the English text, in regulation 3(1), there were inserted before sub-paragraph (a)—“
(za) include such sections, models, photographs and other materials as are necessary to describe the works and may include—
(i) detailed sections,
(ii) extracts from plans and sections submitted, or to be submitted, with an application under section 6 of the Transport and Works Act 1992, or
(iii) where no such materials have been prepared at the date of the application, a clear written description of the works proposed to be carried out at or to the building, supported by such other materials as the applicant is reasonably able to provide,”;
(c) in the Welsh text, in regulation 6, after paragraph (2)(a) there were inserted—“
(aa) bod—
(i) hysbysiad o’r cais cydredol wedi ei roi yn unol â rheolau a wnaed o dan adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 i’r holl bersonau (ac eithrio’r ceisydd) a oedd, ar ddechrau cyfnod o 28 o ddiwrnodau a ddaeth i ben â dyddiad y cais cydredol, yn berchnogion ar yr adeilad;
(ii) pob hysbysiad o’r fath yn cynnwys datganiad bod cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth wedi ei wneud, neu i’w wneud, mewn cysylltiad â’r adeilad,”;
(d) in the English text, in regulation 6, after paragraph (2)(a) there were inserted—“
(aa) that—
(i) notice of the concurrent application has been given in accordance with rules made under section 6 of the Transport and Works Act 1992 to all the persons (other than the applicant) who, at the beginning of a period of 28 days ending with the date of the concurrent application, were owners of the building;
(ii) every such notice contains a statement that an application for listed building consent or conservation area consent has been, or is to be, made in respect of the building,”;
(e) in the Welsh text, after paragraph (3) there were inserted—“
(4) At ddiben y rheoliad hwn, ystyr “perchennog” yw—
(a) person sydd, am y tro, â hawl i waredu ffi syml yr adeilad (pa un a yw mewn meddiant neu rifersiwn) ac nad yw’n forgeisai nad yw mewn meddiant, neu
(b) person sy’n dal les neu gytundeb sydd ag o leiaf 3 blynedd yn weddill, neu berson sydd â hawl i rent ac elw’r tir o dan les neu gytundeb o’r fath.”;
(f) in the English text, after paragraph (3) there were inserted—“
(4) For the purpose of this regulation, “owner” means—
(a) a person who is, for the time being, entitled to dispose of the fee simple of the building (whether in possession or reversion) and who is not a mortgagee not in possession, or
(b) a person holding, or entitled to the rents and profits of the land under, a lease or agreement which has at least 3 years to run.”;
(g) in the Welsh text, after regulation 6 there were inserted—“
Ffurf y dystysgrif
6A. 
Rhaid i dystysgrif sy’n ofynnol gan reoliad 6(2)(aa) fod ar y ffurf a ganlyn—
“Tystysgrif AA
Rwyf yn ardystio:
1. 
(Fy mod i) (Bod y ceisydd) [dileer fel y bo’n briodol] wedi cyflwyno, yn unol â rheolau a wnaed o dan adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992, yr holl hysbysiadau y mae’n ofynnol eu cyflwyno i’r personau (ac eithrio’r ceisydd) a oedd, ar ddechrau’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a ddaeth i ben â dyddiad cais o dan adran 6, yn berchnogion yr adeilad.
2. 
Bod pob hysbysiad o’r fath yn cynnwys datganiad bod cais (am gydsyniad adeilad rhestredig) (ac) (am gydsyniad ardal gadwraeth) [dileer fel y bo’n briodol] wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r adeilad.
 Llofnodwyd ……………..
 (Ar ran) ………
 Dyddiad…………………”;
(h) in the English text, after regulation 6 there were inserted—“
Form of certificate
6A. 
A certificate which is required by regulation 6(2)(aa) must be in the form—
“Certificate AA
I certify that:
1. 
(I have) (The applicant has) [delete as appropriate] served, in accordance with rules made under section 6 of the Transport and Works Act 1992, all the notices required to be served on the persons (other than the applicant) who, at the beginning of the period of 28 days ending with the date of an application under section 6, were the owners of the building.
2. 
Every such notice contains a statement that an application for (listed building consent) (and) (conservation area consent) [delete as appropriate] has been made in respect of the building.
 Signed ……………..
 (On behalf of)………
 Date…………………”;
(i) in the Welsh text, in regulation 8—
(i) after paragraph (3) there were inserted—“
(3A) O ran y gofyniad ym mharagraff (3)—
(a) mae’n gymwys fel pe bai’n ofyniad ar y ceisydd, nid yr awdurdod cynllunio, a
(b) rhaid ei fodloni heb fod yn fwy na 14 o ddiwrnodau cyn nac ar ôl dyddiad y cais.
(3B) Caniateir cyfuno’r hysbysiad ym mharagraff (3)(a) ag unrhyw hysbysiad o’r cais cydredol y mae’n ofynnol i’r ceisydd ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol gan reolau a wneir o dan adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992.”;
(ii) in paragraph (4) for “21 o ddiwrnodau” there were substituted “42 o ddiwrnodau”;
(iii) after paragraph (4) there were inserted—“
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cais cydredol” yw cais a wneir o dan adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992, sy’n ymwneud â chynigion y mae rhoi cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth yn ofynnol ar eu cyfer.”;
(j) in the English text, in regulation 8—
(i) after paragraph (3) there were inserted—“
(3A) The requirement in paragraph (3)—
(a) applies as if it were a requirement on the applicant, not the planning authority, and
(b) must be met not more than 14 days before nor after the date of the application.
(3B) The notice in paragraph (3)(a) may be combined with such notice of the concurrent application as the applicant is required to publish in a local newspaper by rules made under section 6 of the Transport and Works Act 1992.”;
(ii) in paragraph (4) for “21 days” there were substituted “42 days”;
(iii) after paragraph (4) there were inserted—“
(5) In this regulation “concurrent application” means an application made under section 6 of the Transport and Works Act 1992, relating to proposals for which the granting of listed building consent or conservation area consent is required.””
Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995
7 
Yn Atodlen 5 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995, hepgorer paragraff 15.
Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) 1996
8 
Yn Atodlen 1 i Orchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) 1996, hepgorer paragraff 13.
Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 1996
9 
Yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 1996, yn Rhan 2 hepgorer paragraff 15 a fewnosodwyd.
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebiadau Electronig) (Cymru) (Rhif 1) 2004
10 
Yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebiadau Electronig) (Cymru) (Rhif 1) 2004—
(a) hepgorer erthygl 13;
(b) hepgorer Atodlen 4.
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016
11 
Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
12 
Yn Atodlen 4—
(a) yn lle paragraff 2 yn Rhan 2 rhodder—“
2. 

(1) Wrth eu cymhwyso i gais am gydsyniad adeilad rhestredig sy’n gysylltiedig â chais am ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol o dan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, mae Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024 yn gymwys fel a ganlyn.

Y ddarpariaeth Yr addasiad neu’r datgymhwysiad
Rheoliad ‎3 (gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig) Mae rheoliad ‎3 i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraff ‎(3), y geiriau “os yw Gweinidogion Cymru” wedi eu rhoi yn lle “os yw’r awdurdod cynllunio y gwneir y cais iddo”.
Rheoliad 7 (cydnabod cais am gydsyniad adeilad rhestredig) 
Mae rheoliad ‎7 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei le—
“7.Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw cais yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan adran 90(2) o Ddeddf 2023 neu gan y Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.”

Rheoliad 8 (hysbysebu ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig) Nid yw rheoliad ‎8 yn gymwys.
Rheoliad 9 (hysbysu’r cymdeithasau amwynder etc.) Mae rheoliad ‎9 i’w ddarllen fel pe bai’r cyfeiriadau at awdurdod cynllunio yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.
Rheoliad ‎12 (penderfyniad ar gais) 
Mae rheoliad ‎12 yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei le—
“12.Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’u penderfyniad cyn diwedd y cyfnod penderfynu (“determination period”) y cyfeirir ato yn adran 62L o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.”

Rheoliad ‎13 (hysbysiad o benderfyniad neu atgyfeiriad at Weinidogion Cymru) 
Mae rheoliad ‎13 i’w ddarllen fel pe bai—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), y cyfeiriad at yr awdurdod cynllunio yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru;
(ii) is-baragraff (b) a’r “neu” o’i flaen wedi eu hepgor;
(b) y geiriau—“
(2) Rhaid i’r penderfyniad gael ei roi cyn diwedd y cyfnod penderfynu o fewn yr ystyr a roddir i “determination period” yn adran 62L o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.”
wedi eu rhoi yn lle paragraff (2);
(c) ym mharagraff (3)—
(i) y geiriau “Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu” wedi eu rhoi yn lle “Pan fo’r awdurdod cynllunio yn penderfynu”;
(ii) is-baragraff (b) a’r “a” o’i flaen wedi eu hepgor.

Rheoliad ‎19 (ceisiadau gan awdurdod cynllunio i ddymchwel adeilad rhestredig) Nid yw rheoliad ‎19 yn gymwys.
Rheoliad ‎22 (cyhoeddusrwydd ar gyfer ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron) Nid yw rheoliad ‎22 yn gymwys.
(2) Yn y paragraff hwn, mae i “cydsyniad adeilad rhestredig” yr ystyr a roddir yn adran 89 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.”;
(b) ym mharagraff 3(2) o Ran 2—
(i) yn lle “adran 8 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig,” rhodder “adran 89 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023,”;
(ii) yn lle’r geiriau o “rheoliadau 3(1), 3(2) a 6 (datganiadau dylunio a mynediad)” hyd at y diwedd rhodder “rheoliadau 3 a 4 o Reoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024.”
13 
Yn Atodlen 5—
(a) yn lle paragraff 2 o Ran 2 rhodder—“
2. 

(1) Wrth eu cymhwyso mewn perthynas â chydsyniad ardal gadwraeth sy’n gysylltiedig â chais am ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol o dan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, mae Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024 yn gymwys gyda’r addasiadau a’r eithriadau a ganlyn (a gweler rheoliad 24 o’r Rheoliadau hynny).

Y ddarpariaeth Yr addasiad neu’r datgymhwysiad
Rheoliad ‎3 (gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig) Mae rheoliad ‎3 i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraff ‎(3), y geiriau “os yw Gweinidogion Cymru” wedi eu rhoi yn lle “os yw’r awdurdod cynllunio y gwneir y cais iddo”.
Rheoliad 7 (cydnabod cais am gydsyniad adeilad rhestredig) 
Mae rheoliad ‎7 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei le—
“7.Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw cais yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan adran 90(2) o Ddeddf 2023 neu gan y Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.”

Rheoliad 8 (hysbysebu ceisiadau) Nid yw rheoliad ‎8 yn gymwys.
Rheoliad ‎12 (penderfyniad ar gais) 
Mae rheoliad ‎12 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei le—
“12. Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’u penderfyniad cyn diwedd y cyfnod penderfynu (“determination period”) y cyfeirir ato yn adran 62L o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.”

Rheoliad ‎13 (hysbysiad o benderfyniad neu atgyfeiriad at Weinidogion Cymru) 
Mae rheoliad ‎13 i’w ddarllen fel pe bai—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), y cyfeiriad at yr awdurdod cynllunio yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru;
(ii) is-baragraff (b) a’r “neu” o’i flaen wedi eu hepgor;
(b) y geiriau—“
(2) Rhaid i’r penderfyniad gael ei roi cyn diwedd y cyfnod penderfynu o fewn yr ystyr a roddir i “determination period” yn adran 62L o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.”
wedi eu rhoi yn lle paragraff (2);
(c) ym mharagraff (3)—
(i) y geiriau “Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu” wedi eu rhoi yn lle “Pan fo’r awdurdod cynllunio yn penderfynu”;
(ii) is-baragraff (b) a’r “a” o’i flaen wedi eu hepgor.

Rheoliad ‎19 (ceisiadau gan awdurdod cynllunio i ddymchwel adeilad rhestredig) Nid yw rheoliad ‎19 yn gymwys.

Rheoliad ‎22
(cyhoeddusrwydd ar gyfer ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron)
 Nid yw rheoliad ‎22 yn gymwys.
(2) Yn y paragraff hwn, mae i “cydsyniad ardal gadwraeth” yr ystyr a roddir yn adran 162 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.”;
(b) ym mharagraff 3(2) o Ran 2—
(i) yn lle “adran 74 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 162 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023,”;
(ii) yn lle’r geiriau o “rheoliad 3(1) a (2)” hyd at y diwedd rhodder “rheoliad 3 o Reoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024.”
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017
14 
Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
15 
Yn rheoliad 3(1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau 2012”;
(b) ar ôl y diffiniad o “Rheoliadau 2015” mewnosoder—“
 ystyr “Rheoliadau 2024” (“the 2024 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024;”;
(c) yn y diffiniad o “datganiad achos llawn”, yn lle paragraff (a)(ii) rhodder—“
(ii) rheoliad 2(1) o Reoliadau 2024;”;
(d) yn y diffiniad o “cais atgyfeiriedig”, yn lle “cais y bernir ei fod wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru yn rhinwedd rheoliad 9(3) o Reoliadau 2012” rhodder “cais gan awdurdod cynllunio lleol a wneir o dan reoliad 19(2) o Reoliadau 2024”.
16 
Mae rheoliad 54 wedi ei hepgor.
ATODLEN 5
Dirymu a thynnu’n ôl
Rheoliad 28
1 
Mae’r offerynnau statudol a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012;
(b) Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2015;
(c) Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2016;
(d) Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2017;
(e) Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017;
(f) Gorchymyn Adeiladau Rhestredig (Gwaith Brys) (Cyfradd Llog ar Dreuliau) (Cymru) 2017;
(g) Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2021.
2 
Mae Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 wedi eu dirymu o ran Cymru, i’r graddau y maent yn parhau mewn grym.
3 
Mae’r Cyfarwyddydau a ganlyn wedi eu tynnu’n ôl—
(a) Cyfarwyddyd Ceisiadau a Phenderfyniadau Adeilad Rhestredig (Dyletswydd i Hysbysu Cymdeithasau Amwynder Cenedlaethol a’r Comisiwn Brenhinol) (Cymru) 2022;
(b) Cyfarwyddyd Ceisiadau Cydsyniad Adeilad Rhestredig (Datgymhwyso Dyletswydd i Hysbysu Gweinidogion Cymru) (Cymru);
(c) Cyfarwyddyd Ardaloedd Cadwraeth (Datgymhwyso Gofyniad i gael Cydsyniad Ardal Gadwraeth er mwyn Dymchwel) (Cymru).