
2024 Rhif 927 (Cy. 153)
Yr Amgylchedd Hanesyddol, Cymru
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adeiladau Crefyddol Esempt) (Cymru) 2024
Gwnaed 9 Medi  2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 11 Medi  2024
Yn dod i rym 4 Tachwedd 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 156(1), (3)(a) ac (c), 209(2) a 211(3)(a) a (4) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, dod i rym a chod
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adeiladau Crefyddol Esempt) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Tachwedd 2024.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.
Adeiladau crefyddol esempt
2 

(1) Mae’r adeiladau a ganlyn yn adeiladau crefyddol esempt at ddibenion adran 156 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023—
(a) adeiladau eglwys yr Eglwys yng Nghymru sydd wedi eu breinio yng Nghorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru neu unrhyw gorff cynrychiolwyr arall a ymgorfforir o dan adran 13(2) o Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru 1914;
(b) adeiladau eglwys sy’n cael eu dal mewn ymddiriedolaeth gan ymddiriedolwyr esgobaethol un o esgobaethau’r Eglwys Gatholig;
(c) adeiladau eglwys sy’n eiddo i’r Eglwys Fethodistaidd, neu unrhyw sefydliad cyfundebol neu leol i’r Eglwys Fethodistaidd, neu sy’n cael eu dal mewn ymddiriedolaeth ar ei chyfer neu ar ei gyfer, neu at ei dibenion neu at ei ddibenion;
(d) adeiladau eglwys sy’n eiddo i eglwys sy’n aelod o Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr neu Undeb Bedyddwyr Cymru, neu sy’n cael eu dal mewn ymddiriedolaeth ar ei chyfer gan naill ai—
(i) the Baptist Union Corporation Limited (pa un ai’n unigol neu ar y cyd â pherson arall), neu
(ii) the Welsh Baptist Union Corporation Limited (pa un ai’n unigol neu ar y cyd â pherson arall);
(e) adeiladau eglwys o fewn awdurdodaeth hawlebau Eglwys Loegr.
(2) Nid yw’r adeiladau ym mharagraff (1)(a) i (d) yn adeiladau crefyddol esempt ond mewn perthynas â gwaith a gynhelir—
(a) gan neu ar ran corff eglwysig, neu ran gyfansoddol o gorff eglwysig, y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, neu
(b) pan fo’r adeilad eglwys ar unrhyw fangre sy’n ffurfio rhan o brifysgol, coleg, ysgol, ysbyty neu sefydliad cyhoeddus neu sefydliad elusennol, gan neu ar ran corff llywodraethu neu ymddiriedolwyr y sefydliad hwnnw.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a) mae adeilad yn adeilad eglwys os yw’n cael ei ddefnyddio’n bennaf fel man addoli;
(b) mae “adeilad crefyddol esempt” i’w ddehongli yn unol ag adran 156 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;
(c) ystyr “Eglwys Fethodistaidd” yw’r Eglwys Unedig neu’r enwad a ffurfiwyd o dan Ddeddf Uno’r Eglwys Fethodistaidd 1929.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2018 wedi ei ddirymu.
Jane Hutt
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip, un o Weinidogion Cymru
9 Medi  2024