
2024 Rhif 926 (Cy. 152)
Yr Amgylchedd Hanesyddol, Cymru
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024
Gwnaed 9 Medi 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 11 Medi 2024
Yn dod i rym 4 Tachwedd 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 114(5), 209(2) a 211(3)(a) a (4) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, dod i rym a chod
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Tachwedd 2024.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “adeilad rhestredig” (“listed building”) yr ystyr a roddir yn adran 76(5) o Ddeddf 2023;
 ystyr “amrywiad drafft” (“draft variation”) yw amrywiad drafft i gytundeb partneriaeth;
 ystyr “awdurdod cynllunio” (“planning authority”) yw awdurdod cynllunio lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ran 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, ar gyfer ardal yng Nghymru;
 ystyr “cytundeb drafft” (“draft agreement”) yw cytundeb partneriaeth drafft;
 ystyr “cytundeb partneriaeth” (“partnership agreement”) yw cytundeb a wneir gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru o dan adran 113 o Ddeddf 2023;
 ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
Ymgynghori ar gytundeb drafft ac amrywiad drafft a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt: cyffredinol
3 

(1) Ni chaiff awdurdod cynllunio wneud cytundeb partneriaeth oni bai bod gofynion rheoliadau 4 a 5 wedi eu bodloni.
(2) Ni chaiff awdurdod cynllunio amrywio cytundeb presennol er mwyn—
(a) rhoi neu amrywio cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer gwaith a fyddai’n effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, na
(b) estyn hyd y cytundeb,
oni bai bod gofynion rheoliadau 4 a 5 wedi eu bodloni.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “cydsyniad adeilad rhestredig” yw cydsyniad o dan adran 89(1) o Ddeddf 2023 ar gyfer gwaith penodedig ar gyfer addasu neu estyn yr adeilad rhestredig y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef.
Ymgynghori â Gweinidogion Cymru ar gytundeb drafft neu amrywiad drafft
4 

(1) Y rhain yw’r gofynion y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 sy’n ymwneud ag ymgynghori.
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio—
(a) anfon copi o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft (yn ôl y digwydd) at Weinidogion Cymru, a
(b) gwahodd sylwadau gan Weinidogion Cymru o fewn cyfnod penodedig o 21 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn dod i law Gweinidogion Cymru.
(3) Ond nid yw’n ofynnol i’r awdurdod cynllunio gydymffurfio â pharagraff (2)—
(a) os yw Gweinidogion Cymru yn barti arfaethedig i’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft, neu
(b) os yw awdurdod cynllunio arall wedi cydymffurfio â pharagraff (2) mewn perthynas â’r cytundeb drafft hwnnw neu’r amrywiad drafft hwnnw.
(4) Yn ystod y cyfnod ymgynghori a bennir o dan baragraff (2)(b), caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio a wahoddodd sylwadau fod arnynt angen rhagor o amser i ystyried y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft.
(5) Os bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi’r hysbysiad a bennir ym mharagraff (4), estynnir y cyfnod ymgynghori ym mharagraff (2)(b) am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.
Gofynion cyhoeddusrwydd: cytundeb drafft neu amrywiad drafft
5 

(1) Y rhain yw’r gofynion y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 sy’n ymwneud â chyhoeddusrwydd.
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio—
(a) rhoi ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt ar adegau rhesymol, am o leiaf 21 o ddiwrnodau mewn lle yn ardal leol yr adeilad rhestredig yr effeithir arno—
(i) y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft, a
(ii) manylion ynghylch sut y caniateir cyflwyno sylwadau ac erbyn pa ddyddiad;
(b) cyhoeddi ar ei wefan am o leiaf 21 o ddiwrnodau—
(i) cyfeiriad neu leoliad yr adeilad rhestredig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud ag ef,
(ii) crynodeb o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft,
(iii) datganiad bod y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y lle ac ar yr adegau a nodir,
(iv) manylion ynghylch sut y caniateir cyflwyno sylwadau, a
(v) erbyn pa ddyddiad y mae rhaid i sylwadau ddod i law;
(c) arddangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn is-baragraff (b) am o leiaf 21 o ddiwrnodau ar yr adeilad rhestredig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud ag ef neu’n agos iddo;
(d) rhoi copi o’r hysbysiad i—
(i) unrhyw denant hirdymor adeilad rhestredig neu ran o adeilad rhestredig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud ag ef,
(ii) unrhyw berchennog ar yr adeilad rhestredig neu ran ohono y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud ag ef ac na fwriedir iddo fod yn barti i’r cytundeb drafft na’r amrywiad drafft, a
(iii) unrhyw berson y mae’n ymddangos i’r awdurdod ei fod yn briodol gan fod ganddo wybodaeth arbennig am yr adeilad rhestredig neu am ran ohono, neu ddiddordeb arbennig yn yr adeilad rhestredig neu mewn rhan ohono, neu wybodaeth arbennig am adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddynt, ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo paragraff (6) yn gymwys.
(3) Ond nid yw’n ofynnol i’r awdurdod cynllunio gydymffurfio â’r canlynol—
(a) paragraff (2)(c) os yw awdurdod cynllunio arall wedi cydymffurfio â’r paragraff hwnnw mewn perthynas â’r un cytundeb drafft neu’r un amrywiad drafft;
(b) paragraff (2)(d) mewn cysylltiad ag unrhyw berson sy’n barti arfaethedig i’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft neu sydd wedi cael hysbysiad gan awdurdod cynllunio arall mewn perthynas â’r un cytundeb drafft neu’r un amrywiad drafft.
(4) Rhaid i ddyddiad a bennir yn unol â pharagraff (2) fel y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i sylwadau ynghylch cytundeb drafft neu amrywiad drafft ddod i law fod—
(a) mewn perthynas â rhoi’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft ar gael i’r cyhoedd edrych arno o dan baragraff (2)(a), o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddir y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft ar gael o dan y paragraff hwnnw;
(b) mewn perthynas â chyhoeddi crynodeb o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft ar ei wefan o dan baragraff (2)(b), o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyhoeddir y crynodeb;
(c) mewn perthynas ag arddangos hysbysiad o dan baragraff (2)(c), o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr arddangosir yr hysbysiad;
(d) mewn perthynas â rhoi copi o’r hysbysiad o dan baragraff (2)(d), o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.
(5) Pan fo’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c) wedi ei symud ymaith, wedi ei guddio neu wedi ei ddifwyno cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau, a hynny heb fod bai ar yr awdurdod a’i harddangosodd, trinnir yr awdurdod fel pe bai wedi cydymffurfio â’r paragraff hwnnw os yw wedi cymryd camau rhesymol i warchod yr hysbysiad, ac, os oes angen, i’w amnewid.
(6) Pan mai’r awdurdod cynllunio yw perchennog adeilad neu adeiladau rhestredig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud ag ef neu â hwy, mae paragraff (7) yn gymwys.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru roi copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(d)(iii) i unrhyw berson y mae’n ymddangos iddynt ei fod yn briodol gan fod ganddo wybodaeth arbennig am yr adeilad rhestredig neu am ran ohono, neu ddiddordeb arbennig yn yr adeilad rhestredig neu mewn rhan ohono, neu wybodaeth arbennig am adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddynt, oni bai bod y person hwnnw’n barti arfaethedig i’r cytundeb drafft neu i’r amrywiad drafft.
(8) Nid oes dim yn y rheoliad hwn nac yn rheoliad 6 sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio gyhoeddi gwybodaeth—
(a) sy’n gyfrinach fasnach,
(b) os yw ei datgelu yn debygol o niweidio buddiant masnachol unrhyw berson fel arall,
(c) y byddai ei datgelu’n gyfystyr â thor cyfrinachedd y gallai unrhyw berson ddwyn achos llys yn ei gylch, neu
(d) y gwaherddir ei datgelu gan unrhyw ddeddfiad, neu o dan unrhyw ddeddfiad, neu gan orchymyn llys.
(9) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag adeilad rhestredig neu ran o adeilad o’r fath, yw person sydd am y tro—
(a) yn berchen ar yr ystad rydd-ddaliadol yn yr adeilad neu’r rhan, neu
(b) yn denant o dan les ar yr adeilad neu’r rhan a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill;ystyr “tenant hirdymor” (“long-term tenant”) yw tenant o dan les a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 2 flynedd yn weddill.
Gofyniad cyhoeddusrwydd: rhestr a chopïau o gytundebau partneriaethau ac amrywiadau
6 
Rhaid i’r awdurdod cynllunio—
(a) cyhoeddi rhestr, drwy ddulliau electronig, o’r holl gytundebau partneriaethau sydd mewn effaith ac y mae’r awdurdod yn barti iddynt, a
(b) cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i gytundeb partneriaeth gael ei wneud, neu i gytundeb presennol gael ei amrywio—
(i) ychwanegu’r cytundeb neu’r amrywiad at y rhestr, a
(ii) cyflwyno copi o’r cytundeb neu’r amrywiad i Weinidogion Cymru.
Dirymu
7 
Mae Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021 wedi eu dirymu.
Jane Hutt
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip, un o Weinidogion Cymru
9 Medi 2024