
2024 Rhif 924 (Cy. 151)
Yr Amgylchedd Hanesyddol, Cymru
Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024
Gwnaed 9 Medi 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 11 Medi 2024
Yn dod i rym 4 Tachwedd 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 211(3) a (4) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Tachwedd 2024.
Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979
Darpariaeth ganlyniadol
2 
Yn Atodlen 2 i Reoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979, ym mharagraff (4)(i) o’r Nodiadau, ar ôl “1990” mewnosoder “or under section 158 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) 1981
3 
Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) 1981, hepgorer “and Wales”.
Gorchymyn Henebion Hynafol (Cydsyniadau Dosbarth) 1981
4 
Yn erthygl 1(2) o Orchymyn Henebion Hynafol (Cydsyniadau Dosbarth) 1981, hepgorer “and Wales”.
Rheoliadau Gweithrediadau mewn Ardaloedd o Bwysigrwydd Archaeolegol (Ffurfiau Hysbysu etc.) 1984
5 
Mae Rheoliadau Gweithrediadau mewn Ardaloedd o Bwysigrwydd Archaeolegol (Ffurfiau Hysbysu etc.) 1984 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 1(2), hepgorer “and Wales”;
(b) yn rheoliad 4(a)(ii), hepgorer “, or on the Secretary of State” hyd at “in Wales”.
Gorchymyn Ardaloedd o Bwysigrwydd Archaeolegol (Hysbysiad o Weithrediadau) (Esemptio) 1984
6 
Yn erthygl 1(2) o Orchymyn Ardaloedd o Bwysigrwydd Archaeolegol (Hysbysiad o Weithrediadau) (Esemptio) 1984, hepgorer “and Wales”.
Gorchymyn Datblygu Arbennig Cynllunio Gwlad a Thref (Ardal Datblygu Trefol Bae Caerdydd) 1989
7 
Yn erthygl 2 o Orchymyn Datblygu Arbennig Cynllunio Gwlad a Thref (Ardal Datblygu Trefol Bae Caerdydd) 1989, yn y diffiniad o “scheduled monument”, yn lle “the Ancient Monuments and Archaeological Areas Act 1979” rhodder “section 3 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Rheoliadau Tai (Ffurfiau Rhagnodedig) (Rhif 2) 1990
8 
Yn yr Atodlen i Reoliadau Tai (Ffurfiau Rhagnodedig) (Rhif 2) 1990, yn Ffurf 18, yn ail is-baragraff paragraff 2, ar ôl “1990” mewnosoder “or under section 76 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Rheoliadau Ymsuddiant Glofaol (Hysbysiadau a Hawliadau) 1991
9 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau Ymsuddiant Glofaol (Hysbysiadau a Hawliadau) 1991, ym mharagraff 13, ar ôl “section 19(1)” mewnosoder “or section 19(1A)”.
Rheoliadau Gweddillion Cnydau (Llosgi) 1993
10 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gweddillion Cnydau (Llosgi) 1993, yn y diffiniad o “scheduled monument”—
(a) ar ôl “meaning” mewnosoder “, in relation to monuments in England,”;
(b) ar ôl “1979” mewnosoder “and in relation to monuments in Wales, has the meaning given by section 3(7) of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Gorchymyn Henebion Hynafol (Cydsyniadau Dosbarth) 1994
11 
Mae Gorchymyn Henebion Hynafol (Cydsyniadau Dosbarth) 1994 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
12 
Yn erthygl 1(3), hepgorer “and Wales”.
13 
Yn yr Atodlen, yn Nosbarth 10, yn y pennawd a’r geiriau sy’n ei ddilyn, hepgorer o “or” hyd at “Wales”.
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995
14 
Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
15 
Yn erthygl 1(2)—
(a) yn lle’r diffiniad o “listed building” rhodder—“
 “listed building” has the meaning given by section 76 of the Historic Environment (Wales) Act 2023;”;
(b) yn lle’r diffiniad o “scheduled monument” rhodder—“
 “scheduled monument” has the meaning given by section 3(7) of the Historic Environment (Wales) Act 2023;”;
(c) hepgorer y diffiniad o “site of archaeological interest”.
16 
Yn erthygl 7—
(a) hepgorer paragraff (2)(a)(iii);
(b) ym mharagraff (2)(b), yn lle “compiled by the Secretary of State” hyd at y diwedd rhodder “maintained by the Welsh Ministers under section 76(1) of the Historic Environment (Wales) Act 2023 (duty to maintain list of buildings);”.
17 
Yn Rhan 2 o Atodlen 1, yn is-baragraff (c), yn lle “section 69” hyd at “1990” rhodder “section 158 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
>Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995
18 
Yn Atodlen 5 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995, hepgorer paragraff 12 a’r pennawd o’i flaen.
Rheoliadau Inswleiddio rhag Sŵn (Rheilffyrdd a Systemau Trafnidiaeth Gyfeiriedig Eraill) 1996
19 
Yn rheoliad 12(3) o Reoliadau Inswleiddio rhag Sŵn (Rheilffyrdd a Systemau Trafnidiaeth Gyfeiriedig Eraill) 1996, ar ôl “the Planning (Listed Buildings and Conservation Areas) Act 1990” mewnosoder “or section 89 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 1996
20 
Yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 1996, yn Rhan 2, paragraff 2, hepgorer y cofnod ar gyfer paragraff 12 a fewnosodir sy’n ymwneud â Rheoliadau Gweithrediadau mewn Ardaloedd o Bwysigrwydd Archaeolegol (Ffurfiau Hysbysu etc.) 1984 a’r pennawd o’i flaen.
Rheoliadau Gwrychoedd 1997
21 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau Gwrychoedd 1997, yn Rhan 2, paragraff 2(a), ar ôl “1979” mewnosoder “or in the schedule of monuments maintained by the Welsh Ministers under section 3(1) of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Rheoliadau Gwaith Piblinellau Trawsgludo Nwy Cyhoeddus (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999
22 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Gwaith Piblinellau Trawsgludo Nwy Cyhoeddus (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999, ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “sensitive area”, is-baragraff (g), ar ôl “1979” mewnosoder “or the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Gorchymyn Lluoedd ar Ymweliad a Phencadlysoedd Rhyngwladol (Cymhwyso’r Gyfraith) 1999
23 
Yn erthygl 11(1) o Orchymyn Lluoedd ar Ymweliad a Phencadlysoedd Rhyngwladol (Cymhwyso’r Gyfraith) 1999—
(a) yn lle “and the Planning (Hazardous Substances) Act 1990”, rhodder “, the Planning (Hazardous Substances) Act 1990 and Parts 3 to 5 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”;
(b) yn lle “and section 31(3) of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990” rhodder “, section 31(3) of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990 and section 207 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999
24 
Yn Atodlen 2 i Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “sensitive area”, is-baragraff (f), ar ôl “1979” mewnosoder “or the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Rheoliadau Cod Cyfathrebu Electronig (Amodau a Chyfyngiadau) 2003
25 
Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Cod Cyfathrebu Electronig (Amodau a Chyfyngiadau) 2003—
(a) yn y diffiniad o “conservation area”—
(i) yn is-baragraff (a), hepgorer “and Wales”;
(ii) ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) in relation to Wales, any area designated as a conservation area under section 158 of the Historic Environment (Wales) Act 2023;”;
(b) yn y diffiniad o “statutory list of buildings”—
(i) yn is-baragraff (a), hepgorer “and Wales”;
(ii) ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) in relation to Wales, the list of buildings of special architectural or historic interest maintained under section 76(1) of the Historic Environment (Wales) Act 2023;”.
Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004
26 
Mae Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
27 
Yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”.
28 
Yn rheoliad 4—
(a) yn lle “adran 47” hyd at “trwsio)” rhodder “adran 137 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (pwerau i gaffael adeilad rhestredig yn orfodol at ddiben ei ddiogelu)”;
(b) ym mharagraff (b)(ii), yn lle “adran 50(3)” hyd at “a adawyd i ddadfeilio’n fwriadol)” rhodder “adran 140(3) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol pan ganiatawyd i adeilad fynd i gyflwr gwael yn fwriadol)”.
29 
Yn yr Atodlen—
(a) yn Ffurf 1, ym mharagraff 4—
(i) yn lle “O dan adran 50” hyd at “(“Deddf Adeiladau Rhestredig”)” rhodder “O dan adran 140 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (“Deddf 2023”)”;
(ii) yn lle “neu’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “neu Ddeddf 2023”;
(b) yn Ffurf 8, yn y Nodiadau ar gyfer defnyddio Ffurf 8—
(i) yn y pennawd sy’n dechrau “Darpariaethau ychwanegol mewn perthynas â gorchmynion prynu gorfodol”, yn lle “a wneir o dan adran 47 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (i)” rhodder “a wneir o dan adran 137 neu 139 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023(i)”;
(ii) ym mharagraff 3, yn lle “adran 47 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990” rhodder “adran 137 neu 139 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023”;
(iii) ym mharagraff 4, yn lle “O dan adran 50 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990” rhodder “O dan adran 141 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023”;
(iv) ym mharagraff 5, yn lle “Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990” rhodder “Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023”;
(v) yn y Nodiadau ar ôl paragraff 5, yn nhroednodyn (l)—(aa) yn lle “adran 50(3) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 140(3) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023”;(bb) yn lle “adran 50(4) a (5)” rhodder “adran 140(2) a (4) o’r Ddeddf honno”.
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebiadau Electronig) (Cymru) (Rhif 1) 2004
30 
Yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebiadau Electronig) (Cymru) (Rhif 1) 2004—
(a) yn erthygl 2, hepgorer y diffiniad o “the Listed Buildings Act”;
(b) hepgorer erthyglau 7 i 9.
Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006
31 
Mae Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
32 
Yn rheoliad 1, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.”
33 
Yn rheoliad 2(1)—
(a) mewnosoder yn y lle priodol “ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;”;
(b) yn y diffiniad o “cynrychiolydd penodedig”, yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) adran 178(4) neu (5) o Ddeddf 2023;”;
(c) yn y diffiniad o “cyfarwyddyd”, yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) adran 178(2) a (3) o Ddeddf 2023;”;
(d) hepgorer y diffiniad o “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”.
34 
Yn rheoliad 3—
(a) yn lle paragraff (1)(b) rhodder—“
(b) adran 178(2) a (3) o Ddeddf 2023;”;
(b) yn lle paragraff (3)(b) rhodder—“
(b) adran 178(4) o Ddeddf 2023;”.
35 
Yn lle rheoliad 4(2)(a)(ii) rhodder—“
(ii) adran 178(5) o Ddeddf 2023;”.
Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006
36 
Mae Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
37 
Yn Rheol 12(8)(e)(x), ar ôl “1979” mewnosoder “or the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
38 
Yn Atodlen 5—
(a) yng ngholofn gyntaf paragraff 14 o’r tabl—
(i) ym mharagraff (i), ar ôl “1990” mewnosoder “or Part 3 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”;
(ii) ym mharagraff (ii), ar ôl “1979” mewnosoder “or a monument scheduled under Part 2 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”;
(b) yng ngholofn gyntaf paragraff 15 o’r tabl, ym mharagraff (i), ar ôl “1990” mewnosoder “or Part 4 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”;
(c) yn ail golofn paragraff 15 o’r tabl—
(i) hepgorer “and (ii)”;
(ii) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“15 (ii) The Historic Buildings and Monuments Commission for England.”
Gorchymyn Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Cymalau Enghreifftiol ar gyfer Rheilffyrdd a Thramffyrdd) 2006
39 
Mae Gorchymyn Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Cymalau Enghreifftiol ar gyfer Rheilffyrdd a Thramffyrdd) 2006 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
40 
Ym mharagraff 16(6) o Atodlen 1, ar ôl “1979” mewnosoder “or the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
41 
Ym mharagraff 21(6) o Atodlen 2, ar ôl “1979” mewnosoder “or the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007
42 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007, yn Rhan A—
(a) ym mharagraff 20, yn lle’r testun yn yr ail golofn rhodder “Adrannau 96(1) a (2) a 97(1) i (8) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (dsc 3) a pharagraffau (1), (2) a (3) o Atodlen 9 iddi.”;
(b) ym mharagraff 21, yn lle’r testun yn yr ail golofn rhodder “Adrannau 96(1) a 97(1) i (4) a (7) ac (8) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 fel y’u cymhwysir gan adran 163 o’r Ddeddf honno.”;
(c) ym mharagraff 22, yn yr ail golofn, yn lle “Adran 13(1)” hyd at “1990”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “Adran 95(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023”;
(d) ym mharagraff 23—
(i) yn y golofn gyntaf, yn lle “hysbysiad cadw adeilad” rhodder “hysbysiad rhestru dros dro”;
(ii) yn lle’r testun yn yr ail golofn rhodder “Adrannau 83(1) a (2) ac 84(1) a (2) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.”;
(e) ym mharagraff 24—
(i) yn y golofn gyntaf, hepgorer “adeilad rhestredig”;
(ii) yn lle’r testun yn yr ail golofn rhodder “Adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.”;
(f) ym mharagraff 25, yn lle’r testun yn yr ail golofn rhodder “Adrannau 137 i 139 a 111(5) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.”;
(g) ym mharagraff 26, yn lle’r testun yn yr ail golofn rhodder “Adran 135 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.”;
(h) ym mharagraff 27, yn lle’r testun yn yr ail golofn rhodder “Adran 144(1) a (3) i (7) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.”
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008
43 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008—
(a) yn lle paragraff (d) rhodder—“
(d) sy’n destun hysbysiad rhestru dros dro o dan adran 83 neu 84 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 neu a gynhwysir yn y rhestr a gynhelir o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;”;
(b) ym mharagraff (dd), yn lle “adran 1 o Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979” rhodder “adran 3 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023”.
Rheoliadau Gorfodi REACH 2008
44 
Yn Atodlen 5 i Reoliadau Gorfodi REACH 2008, yn Rhan 1, paragraff 8—
(a) yn y diffiniad o “historic building”—
(i) yn is-baragraff (e), hepgorer “and Wales”;
(ii) ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—“
(ea) in relation to Wales, a listed building within the meaning of section 76 of the Historic Environment (Wales) Act 2023 which is classified as Grade I or Grade II (starred);”;
(b) yn y diffiniad o “scheduled monument”—
(i) yn is-baragraff (h), hepgorer “, Wales”;
(ii) ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—“
(ha) in Wales, as it has in section 3 of the Historic Environment (Wales) Act 2023;”.
Rheoliadau Llinellau Uwchben (Esemptio) (Cymru a Lloegr) 2009
45 
Yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Llinellau Uwchben (Esemptio) (Cymru a Lloegr) 2009—
(a) yn y diffiniad o “conservation area” a “listed building”—
(i) ar ôl “meanings” mewnosoder “in relation to areas and buildings in England”;
(ii) ar ôl “1990” mewnosoder “and in relation to areas and buildings in Wales, have the meanings in section 210 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”;
(b) yn y diffiniad o “scheduled monument”—
(i) ar ôl “meaning” mewnosoder “in relation to monuments in England”;
(ii) ar ôl “1979” mewnosoder “and in relation to monuments in Wales, has the meaning in section 3(7) of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Gorchymyn Treth Gorfforaeth (Rhyddhad Adfer Tir) 2009
46 
Yn y tabl yn erthygl 5 o Orchymyn Treth Gorfforaeth (Rhyddhad Adfer Tir) 2009, ar ôl y cofnod ar gyfer “Planning (Listed Buildings and Conservation Areas) Act 1990” mewnosoder—“
Historic Environment (Wales) Act 2023 section 138 requirement to serve repairs notice before starting compulsory acquisition”.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009
47 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009, yn is-baragraff (dd) o’r diffiniad o “ardal sensitif”, yn lle “yn Neddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979” rhodder “yn adran 3 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023”.
Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Penderfyniadau) 2010
48 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Penderfyniadau) 2010—
(a) yn y diffiniad o “conservation area”—
(i) yn lle “and in Scotland” rhodder “, in Scotland”;
(ii) ar ôl “1997” mewnosoder “and in Wales under section 158 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”;
(b) yn y diffiniad o “listed building”—
(i) yn lle “and in Scotland” rhodder “, in Scotland”;
(ii) ar ôl “1997” mewnosoder “and in Wales under section 76 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”;
(c) yn y diffiniad o “scheduled monument”, ar ôl “1979” mewnosoder “and in Wales under section 3 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Rheoliadau Adeiladu 2010
49 
Mae Rheoliadau Adeiladu 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
50 
Yn rheoliad 21, ym mharagraff (3)(a)—
(a) ym mharagraff (i), ar ôl “1990” mewnosoder “or section 76 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”;
(b) ym mharagraff (ii), yn lle “that Act” rhodder “the Planning (Listed Buildings and Conservation Areas) Act 1990 or section 158 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”;
(c) ym mharagraff (iii), ar ôl “1979” mewnosoder “or section 3 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
51 
Yn rheoliad 37A, ym mharagraff (4)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “section 1 of the Planning (Listed Buildings and Conservation Areas) Act 1990” rhodder “section 76 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “section 69 of that Act” rhodder “section 158 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”;
(c) yn is-baragraff (c), yn lle “section 1 of the Ancient Monuments and Archaeological Areas Act 1979” rhodder “section 3 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
52 
Yn rheoliad 44B, ym mharagraff (a), i’r graddau y mae’n gymwys i Gymru—
(a) yn is-baragraff (i), yn lle “section 1 of the Planning (Listed Buildings and Conservation Areas) Act 1990” rhodder “section 76 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”;
(b) yn is-baragraff (ii), yn lle “section 69 of that Act” rhodder “section 158 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”;
(c) yn is-baragraff (iii), yn lle “section 1 of the Ancient Monuments and Archaeological Areas Act 1979” rhodder “section 3 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
53 
Yn Atodlen 2, Dosbarth 1, paragraff 3, ar ôl “1979” mewnosoder “or under section 3 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) 2011
54 
Yn erthygl 31(b) o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) 2011, ar ôl “1979” mewnosoder “or a monument entered in the schedule maintained under section 3 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011
55 
Mae Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
56 
Yn rheoliad 16(2)—
(a) hepgorer yr “and” ar ôl is-baragraff (e);
(b) ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—“; and
(g) the Historic Environment (Wales) Act 2023.”
57 
Yn rheoliad 17(1)(b)—
(a) hepgorer “or” yn y pedwerydd lle y mae’n digwydd;
(b) ar ôl “the Planning (Listed Buildings and Conservation Areas) Act 1990” mewnosoder “, or under paragraph 2(5) and (6) of Schedule 9 to the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012
58 
Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
59 
Yn erthygl 26(7), yn is-baragraff (b) o’r diffiniad o “apêl deiliad tŷ” ac o’r diffiniad o “apêl fasnachol fach”, yn lle “adran 20” hyd at y diwedd rhodder “adran 100 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio neu fethiant awdurdod cynllunio i wneud penderfyniad).”
60 
Yn erthygl 27(15)(b), yn lle “adran 1” hyd at y diwedd rhodder “adran 76 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi rhestr o adeiladau).”
61 
Yn Atodlen 4, ar ôl y tabl, o dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”, ym mharagraff (h)(i), yn lle “adran 1(11) o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 (rhestr o henebion)” rhodder “adran 3(7) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (cofrestr o henebion)”.
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014
62 
Yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014—
(a) hepgorer erthygl 2(2);
(b) yn Atodlen 1, hepgorer paragraffau 14 i 23.
Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014
63 
Ym mharagraff 12 o Atodlen 1 i Reoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014—
(a) yn is-baragraff (1), yn lle “adran 2(3) o Deddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979” rhodder “adran 13 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023”;
(b) yn is-baragraff (2), yn y testun Cymraeg, yn lle “caniatâd” rhodder “cydsyniad” yn y ddau le y mae’n digwydd;
(c) yn lle is-baragraff (4) rhodder—“
(4) Yn y paragraff hwn, mae i “heneb gofrestredig” yr ystyr a roddir iddo yn adran 3(7) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 ac mae “cydsyniad heneb gofrestredig” i’w ddehongli yn unol ag adran 13 o’r Ddeddf honno.”
Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon a chanddynt Fuddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015
64 
Yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon a chanddynt Fuddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015, yn lle’r cofnod ar gyfer “Ancient Monuments and Archaeological Areas Act 1979” a’r testun yn y golofn gyfatebol rhodder—“
Historic Environment (Wales) Act 2023 A consent under section 12 and Schedule 3 (authorisation of classes of works)
 A consent under section 13 (authorisation of works by scheduled monument consent)”.
Rheoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) (Cymru a Lloegr) 2015
65 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) (Cymru a Lloegr) 2015, yn is-baragraff (e) o’r diffiniad o “third party consent”—
(a) hepgorer “or”;
(b) ar ôl “that Act” mewnosoder “, listed in accordance with section 76 of the Historic Environment (Wales) Act 2023, or in a conservation area designated in accordance with section 158 of that Act”.
Gorchymyn Gorsaf Cynhyrchu Ynni Llanw Bae Abertawe 2015
66 
Mae Gorchymyn Gorsaf Cynhyrchu Ynni Llanw Bae Abertawe 2015 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
67 
Yn erthygl 45 ac yn y pennawd o’i blaen, yn lle “Ancient Monuments and Archaeological Areas Act 1979” rhodder “Historic Environment (Wales) Act 2023”.
68 
Yn Atodlen 1, Rhan 3, ym mharagraff 12(1)(c)(vi), yn lle “ancient monuments” rhodder “monuments of special historic interest”.
Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015
69 
Yn lle rheoliad 28(6)(h)(ii) o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 rhodder—“
(ii) paragraff 2(6) o Atodlen 9 i Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (camau gweithredu gan Weinidogion Cymru os caiff hysbysiad prynu ei wrthod gan awdurdod cynllunio);”.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) (Cymru) 2015
70 
Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
71 
Yn rheoliad 1, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.”
72 
Yn rheoliad 2, hepgorer y diffiniad o “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”.
73 
Hepgorer rheoliad 3(2).
74 
Yn lle rheoliad 5(1)(b) (ond nid y “neu” ar ei ôl) rhodder “adran 173(3)(b) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;”.
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016
75 
Yn yr Atodlen i Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016—
(a) ym mharagraff 1, yn lle “adran 2(3)” hyd at y diwedd rhodder “adran 13(1) a (2) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (awdurdodi gwaith drwy gydsyniad heneb gofrestredig).”;
(b) ym mharagraff 3, yn lle “adran 8(1)” hyd at y diwedd rhodder “adran 89(1) neu (2) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (awdurdodi gwaith drwy gydsyniad adeilad rhestredig).”;
(c) ym mharagraff 4, yn lle “adran 74(1)” hyd at y diwedd rhodder “adran 162(1) neu (2) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (awdurdodi dymchweliad drwy gydsyniad ardal gadwraeth).”
Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016
76 
Yn Atodlen 5 i Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016, yn y diffiniadau o dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”, ym mharagraff (d)—
(a) yn is-baragraff (i), yn lle “adran 1(11) o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 (henebion cofrestredig)” rhodder “adran 3 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023”;
(b) yn lle is-baragraff (iii) rhodder—“
(iii) ystyr “parc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic park or garden”) yw’r parc neu’r ardd sydd wedi ei gynnwys neu ei chynnwys yn y Gofrestr o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru a gynhelir o dan adran 192 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 ac ystyr “tirwedd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic landscape”) yw’r dirwedd sydd wedi ei chynnwys yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru a gynhelir gan Weinidogion Cymru;”.
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016
77 
Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
78 
Yn rheoliad 42, yn lle “adran 2(3)” hyd at y diwedd rhodder “adran 13(1) a (2) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (awdurdodi gwaith drwy gydsyniad heneb gofrestredig).”
79 
Yn rheoliad 44—
(a) yn lle pennawd y testun Cymraeg rhodder “Cydsyniad adeilad rhestredig”;
(b) yn lle “adran 8(1)” hyd at y diwedd rhodder “adran 89(1) neu (2) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (awdurdodi gwaith drwy gydsyniad adeilad rhestredig).”
80 
Yn rheoliad 45, yn lle “adran 74(1)” hyd at y diwedd rhodder “adran 162(1) neu (2) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (awdurdodi dymchweliad drwy gydsyniad ardal gadwraeth).”
81 
Yn Atodlen 2—
(a) ym mharagraff 1(2)—
(i) yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “adran 2 o Ddeddf 1979 (rheolaeth ar waith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig)” rhodder “adran 13 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (awdurdodi gwaith drwy gydsyniad heneb gofrestredig)”;
(ii) ym mharagraff (a), yn lle “tystysgrifau a restrir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno” rhodder “declarasiynau a restrir yn adran 15(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023”;
(b) ym mharagraff 2—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “adran 2(3) o Ddeddf 1979” rhodder “adran 13(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “baragraff 3(2)(b)” hyd at y diwedd rhodder “adran 17(2)(b) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.”
82 
Yn Atodlen 4—
(a) yn lle pennawd y testun Cymraeg rhodder “Cydsyniad adeilad rhestredig”;
(b) ym mharagraff 1—
(i) hepgorer is-baragraffau (1) a (2);
(ii) yn lle is-baragraff (3) rhodder—“
(3) Rhaid darllen adran 182(2) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod o flaen paragraff (a)—“
(za) penderfyniad ar gais o dan adran 62F(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: cydsyniadau eilaidd);””.
83 
Yn Atodlen 5, yn lle paragraff 1 rhodder—“
1. 
Rhaid darllen adran 162(1)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 fel pe bai’r geiriau a ganlyn wedi eu rhoi o flaen “os yw cydsyniad ysgrifenedig”: “yn achos penderfyniad ar gydsyniad eilaidd o dan adran 62F(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, os yw cydsyniad ysgrifenedig i’w gyflawni wedi ei roi gan Weinidogion Cymru, neu, mewn unrhyw achos arall,”.”
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016
84 
Yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016, yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “ardal sensitif”, yn lle is-baragraff (d) rhodder “(d) heneb gofrestredig o fewn yr ystyr a roddir gan adran 3 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;”.
Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2017
85 
Yn Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2017, yn rheoliad 1(4), yn y diffiniad o “ymchwiliad lleol”, ar ôl “(costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno)” mewnosoder “neu baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023”.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2017
86 
Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
87 
Yn rheoliad 1, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Mae’r Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.”
88 
Yn lle rheoliad 1(4)(d) rhodder—“
(d) apêl o dan adran 127 o Ddeddf 2023 (yr hawl i apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi) neu o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 163 o’r Ddeddf honno (cymhwyso Rhan 3 i ardaloedd cadwraeth).”
89 
Yn rheoliad 2(1)—
(a) mewnosoder yn y lle priodol “ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;”;
(b) hepgorer y diffiniad o “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”;
(c) yn y diffiniad o “hysbysiad gorfodi”—
(i) yn lle is-baragraff (e) (ond nid y “neu” ar ei ôl) rhodder—“
(e) adran 123(1) o Ddeddf 2023 neu o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 163 o’r Ddeddf honno,”;
(ii) yn lle is-baragraff (f) rhodder—“
(f) adran 134(1) o Ddeddf 2023.”
90 
Yn rheoliad 3(1), ar ôl “(“y derbynnydd”)” mewnosoder “, ond mae hyn yn ddarostyngedig i reoliad 3A”.
91 
Ar ôl rheoliad 3 mewnosoder—“
3A. 
Nid yw rheoliadau 3 na 4 yn gymwys i ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn a wneir o dan Ddeddf 2023 (gweler adran 205 o Ddeddf 2023).”
92 
Yn rheoliad 8—
(a) yn y pennawd, yn lle “adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 127 o Ddeddf 2023”;
(b) ym mharagraff (1), yn lle “adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu’r adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 74(3) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 127 o Ddeddf 2023 neu o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 163 o’r Ddeddf honno”.
93 
Yn rheoliad 11(1)(c), yn lle “adran 46 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 134 o Ddeddf 2023”;
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017
94 
Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
95 
Yn rheoliad 1—
(a) daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1) o reoliad 1;
(b) ar ôl y paragraff (1) hwnnw mewnosoder—“
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.”
96 
Yn rheoliad 2(2)—
(a) yn is-baragraff (g)—
(i) yn lle “adran 12” rhodder “adran 94”;
(ii) yn lle “neu ryddhau” rhodder “neu ddileu”;
(iii) yn lle “adran 19,” rhodder “adran 99, ”;
(iv) yn lle “adran 20” rhodder “adran 100”;
(v) yn lle “o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “o Ddeddf 2023”;
(b) yn is-baragraff (h)—
(i) yn lle “adran 12” rhodder “adran 94”;
(ii) yn lle “adran 19” rhodder “adran 99”;
(iii) yn lle “adran 20” rhodder “adran 100”;
(iv) yn lle “o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “o Ddeddf 2023”;
(v) yn lle “adran 74(3)” rhodder “adran 163”;
(c) yn lle is-baragraff (i) rhodder—“
(i) apêl o dan adran 127 o Ddeddf 2023 (yr hawl i apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi) neu o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 163 o Ddeddf 2023;”.
97 
Yn rheoliad 3(1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”;
(b) yn y lle priodol, mewnosoder “ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;”;
(c) yn y diffiniad o “apêl”, yn is-baragraff (b), yn lle “adrannau 20 neu 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adrannau 100 neu 127 o Ddeddf 2023”;
(d) yn y diffiniad o “apelydd”—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 94 neu 99 o Ddeddf 2023”;
(ii) ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“(aa) cais a wnaed i Weinidogion Cymru o dan adran 106 o Ddeddf 2023, yw’r person a wnaeth y cais hwnnw;”;
(iii) yn is-baragraff (b), yn lle “adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 100 o Ddeddf 2023”;
(iv) yn is-baragraff (g), yn lle “adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 127 o Ddeddf 2023”;
(e) yn y diffiniad o “hysbysiad gorfodi”—
(i) yn lle is-baragraff (c) rhodder—“
(c) adran 123(1) o Ddeddf 2023 neu o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 163 o’r Ddeddf honno;”;
(ii) yn lle is-baragraff (d) rhodder—“
(d) adran 134(1) o Ddeddf 2023;”;
(f) yn y diffiniad o “apêl deiliad tŷ”, yn is-baragraff (b), yn lle “adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 100 o Ddeddf 2023”;
(g) yn y diffiniad o “personau â buddiant”, yn is-baragraff (a)(i)—
(i) hepgorer “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig,”;
(ii) ar ôl “y Ddeddf Sylweddau Peryglus,” mewnosoder “Deddf 2023,”;
(h) yn y diffiniad o “awdurdod cynllunio lleol”—
(i) yn is-baragraff (b), yn lle “adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 100 o Ddeddf 2023”;
(ii) yn is-baragraff (c), yn lle “adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 127 o Ddeddf 2023”;
(i) yn y diffiniad o “apêl fasnachol fach”, yn is-baragraff (b), yn lle “adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 100 o Ddeddf 2023”;
(j) yn y diffiniad o “cais atgyfeiriedig”, yn lle “adrannau 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 94 neu 99 o Ddeddf 2023”.
98 
Yn rheoliad 4(1), ar ôl “(“y derbynnydd”)” mewnosoder “, ond mae hyn yn ddarostyngedig i reoliad 4A”.
99 
Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—“
4A. 
Nid yw paragraffau (1) i (7) o reoliadau 4 na 5 yn gymwys i ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn a wneir o dan Ddeddf 2023 (gweler adran 205 o Ddeddf 2023).”
100 
Yn rheoliad 11(2)(b)(iii), yn lle “adran 12 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 94 o Ddeddf 2023”.
101 
Yn rheoliad 13 hepgorer “, adran 88E o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig”.
102 
Ar ôl rheoliad 13 mewnosoder—“
Y cyfnod a bennir ar gyfer dewis o ymchwiliad, gwrandawiad neu weithdrefn ysgrifenedig
13A. 
At ddibenion adran 174(3) o Ddeddf 2023, y cyfnod a bennir yw 6 wythnos o’r dyddiad dechrau.”
103 
Yn rheoliad 14—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “adran 88E(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 174(1) o Ddeddf 2023”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “88E(5)” rhodder “174(5)”.
104 
Yn rheoliad 28, yn lle “paragraff 6 o Atodlen 3 i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “paragraff 3(2) o Atodlen 12 i Ddeddf 2023”.
105 
Yn rheoliad 37, yn lle “paragraff 6 o Atodlen 3 i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “paragraff 3(2) o Atodlen 12 i Ddeddf 2023”.
106 
Yn lle rheoliad 51(b) rhodder—“
(b) adran 178(2) o Ddeddf 2023 (ymchwiliadau lleol);”.
107 
Yn rheoliad 52, yn lle “adran 46 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 134 o Ddeddf 2023”.
108 
Ar ôl rheoliad 52 mewnosoder—“
Rhan 10A Ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron
52A. 
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron o dan adran 106 o Ddeddf 2023 fel y maent yn gymwys i geisiadau atgyfeiriedig.”
109 
Yn Atodlen 2, paragraff 1—
(a) yn y diffiniad o “cynrychiolydd penodedig”, yn lle “adrannau 22 a 40 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig a pharagraff 6A o Atodlen 3 iddi” rhodder “adran 178(4) o Ddeddf 2023”;
(b) yn y diffiniad o “cyfarwyddyd diogelwch”, yn lle “paragraff 6(6) o Atodlen 3 i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 178(2) o Ddeddf 2023”.
Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017
110 
Yn rheoliad 5(7) o Reoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017, yn lle is-baragraff (f) rhodder—“
(f) heneb gofrestredig o fewn yr ystyr a roddir gan adran 3 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.”
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017
111 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, yn lle is-baragraff (d) o’r diffiniad o “ardal sensitif” rhodder—“
(d) heneb gofrestredig o fewn yr ystyr a roddir gan adran 3 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;”.
Rheoliadau Gwaith Trydan (Asesiadau o’r Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2017
112 
Yn Atodlen 2 i Reoliadau Gwaith Trydan (Asesiadau o’r Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2017, ym mharagraff 4(e)—
(a) ar ôl “monument” mewnosoder “in England”;
(b) ar ôl “1979” mewnosoder “or a scheduled monument in Wales within the meaning given by section 3 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Adolygu Penderfyniadau Cofrestru) (Cymru) 2017
113 
Mae Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Adolygu Penderfyniadau Cofrestru) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
114 
Yn rheoliad 1, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.”
115 
Yn rheoliad 2—
(a) yn lle’r diffiniad o “Deddf 1979” rhodder “ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;”;
(b) yn y diffiniad o “person penodedig”, yn lle “baragraff 1 o Atodlen A2 i Ddeddf 1979” rhodder “adran 9(3) o Ddeddf 2023”;
(c) yn y diffiniad o “gwrandawiad”, yn lle “adran 1AE(5)(b) o Ddeddf 1979” rhodder “adran 10(2)(b) o Ddeddf 2023”;
(d) yn y diffiniad o “ymchwiliad”—
(i) hepgorer “cyhoeddus”;
(ii) yn lle “adran 1AE(5)(a) o Ddeddf 1979” rhodder “adran 10(2)(a) o Ddeddf 2023”;
(e) yn y diffiniad o “person â buddiant”—
(i) yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “adran 1AA o Ddeddf 1979” hyd at “sy’n ymwneud â’r Gofrestr)” rhodder “adran 5 o Ddeddf 2023 (ymgynghori cyn ychwanegu heneb at y gofrestr neu ddileu heneb o’r gofrestr)”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “adran 1AA(5)(a) o Ddeddf 1979” rhodder “adran 5(1)(c) o Ddeddf 2023”;
(f) yn y diffiniad o “adolygiad”, yn lle “gan Weinidogion Cymru o dan adran 1AE o Ddeddf 1979” rhodder “o dan adran 9 o Ddeddf 2023”.
116 
Hepgorer rheoliadau 3 a 4.
117 
Yn rheoliad 5—
(a) ym mharagraff (2)(a)(vii), yn lle “adran 1AE(5) o Ddeddf 1979” rhodder “adran 10(2) o Ddeddf 2023”;
(b) ym mharagraff (2)(b)—
(i) ym mharagraff (ii), yn lle “adran 1AE(2) o Ddeddf 1979” rhodder “adran 4(2) o Ddeddf 2023”;
(ii) ym mharagraffau (iii) a (iv), yn lle “tystysgrif” a “tystysgrif lofnodedig”, yn y drefn honno, rhodder “declarasiwn” a “declarasiwn llofnodedig”;
(c) ym mharagraff (3), yn lle “adran 1AE(2) o Ddeddf 1979” rhodder “adran 4(2) o Ddeddf 2023”.
118 
Yn rheoliad 6(2), yn lle “adran 1AA o Ddeddf 1979” rhodder “adran 5 o Ddeddf 2023”.
119 
Yn rheoliad 7(2)(c), yn lle “adran 1AA o Ddeddf 1979” rhodder “adran 5 o Ddeddf 2023”.
120 
Yn rheoliad 9—
(a) ym mharagraff (1), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “adran 1AE(5)(c) o Ddeddf 1979” rhodder “adran 10(2)(c) o Ddeddf 2023”;
(b) ym mharagraff (1)(c), yn lle “adran 1AE o Ddeddf 1979” rhodder “adran 5 o Ddeddf 2023”;
(c) yn lle paragraff (1)(d)(ii) rhodder—“
(ii) gwneud diwygiad o dan adran 5(1)(c) o Ddeddf 2023.”;
(d) ym mharagraff (2), yn lle “adran 1AE(5)(c) o Ddeddf 1979” rhodder “adran 10(2)(c) o Ddeddf 2023”.
121 
Yn rheoliad 10, yn lle “baragraff 4(1)(b) o Atodlen A2 i Ddeddf 1979” rhodder “baragraff 3(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 2023”.
122 
Yn rheoliad 14, yn lle “baragraff 4(1)(a) o Atodlen A2 i Ddeddf 1979” rhodder “baragraff 3(a) o Atodlen 2 i Ddeddf 2023”.
123 
Yn rheoliad 19, yn lle “baragraff 4(1)(a) o Atodlen A2 i Ddeddf 1979” rhodder “baragraff 3(a) o Atodlen 2 i Ddeddf 2023”.
124 
Hepgorer rheoliad 25.
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adolygu Penderfyniadau Rhestru) (Cymru) 2017
125 
Mae Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adolygu Penderfyniadau Rhestru) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
126 
Yn rheoliad 1, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.”
127 
Yn rheoliad 2—
(a) yn lle’r diffiniad o “Deddf 1990” rhodder “ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;”;
(b) yn y diffiniad o “person penodedig”, yn lle “baragraff 1 o Atodlen 1B i Ddeddf 1990” rhodder “adran 81(3) o Ddeddf 2023”;
(c) yn y diffiniad o “gwrandawiad”, yn lle “adran 2D(5)(b) o Ddeddf 1990” rhodder “adran 82(2)(b) o Ddeddf 2023”;
(d) yn y diffiniad o “ymchwiliad”, yn lle “adran 2D(5)(a) o Ddeddf 1990” rhodder “adran 82(2)(a) o Ddeddf 2023”;
(e) yn y diffiniad o “person â buddiant”, yn lle “neu yr ymgynghorir ag ef” hyd at “newidiadau penodol i restrau)” rhodder “o dan adran 78 o Ddeddf 2023 (ymgynghori cyn rhestru neu ddadrestru adeilad)”;
(f) yn y diffiniad o “rhestr”, yn lle “a lunnir neu a gymeradwyir o dan adran 1 o Ddeddf 1990 (rhestru adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig)” rhodder “a gynhelir o dan adran 76 o Ddeddf 2023 (dyletswydd i gynnal a chyhoeddi rhestr o adeiladau)”;
(g) yn y diffiniad o “adolygiad”, yn lle “gan Weinidogion Cymru o dan adran 2D o Ddeddf 1990” rhodder “o dan adran 81 o Ddeddf 2023”.
128 
Hepgorer rheoliadau 3 a 4.
129 
Yn rheoliad 5—
(a) ym mharagraff (2)(a)(vii), yn lle “adran 2D(5) o Ddeddf 1990” rhodder “adran 82(2) o Ddeddf 2023”;
(b) ym mharagraff (2)(b)(ii), yn lle “adran 2D(2) o Ddeddf 1990” rhodder “adran 77(1) o Ddeddf 2023”;
(c) ym mharagraff (3), yn lle “adran 2D(2) o Ddeddf 1990” rhodder “adran 77(1) o Ddeddf 2023”.
130 
Yn rheoliad 6(2) a rheoliad 7(2)(c), yn lle “adran 2A o Ddeddf 1990” rhodder “adran 78 o Ddeddf 2023”.
131 
Yn rheoliad 9—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “adran 2D(5)(c) o Ddeddf 1990” rhodder “adran 82(2)(c) o Ddeddf 2023”;
(ii) yn is-baragraff (c), yn lle “adran 2A o Ddeddf 1990” rhodder “adran 78 o Ddeddf 2023”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “adran 2D(5)(c) o Ddeddf 1990” rhodder “adran 82(2)(c) o Ddeddf 2023”.
132 
Yn rheoliad 10, yn lle “baragraff 4(1)(b) o Atodlen 1B i Ddeddf 1990” rhodder “baragraff 3(2)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 2023”.
133 
Yn rheoliad 14, yn lle “baragraff 4(1)(a) o Atodlen 1B i Ddeddf 1990” rhodder “baragraff 3(2)(a) o Atodlen 2 i Ddeddf 2023”.
134 
Yn rheoliad 19, yn lle “baragraff 4(1)(a) o Atodlen 1B i Ddeddf 1990” rhodder “baragraff 3(2)(a) o Atodlen 2 i Ddeddf 2023”.
Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017
135 
Yn rheoliad 70(1)(h) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017—
(a) hepgorer yr “or” ar ôl is-baragraff (i);
(b) ar ddiwedd is-baragraff (ii), o flaen yr atalnod llawn mewnosoder—“; or
(iii) paragraph 2(6) of Schedule 9 to the Historic Environment (Wales) Act 2023 (action by Welsh Ministers on rejection of purchase notice by planning authority)”.
Gorchymyn Trydan a Nwy (Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni) 2022
136 
Yn erthygl 79(3) o Orchymyn Trydan a Nwy (Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni) 2022—
(a) yn y diffiniad o “conservation area”—
(i) yn is-baragraff (a), hepgorer “and Wales”;
(ii) ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“(aa) in the case of premises in Wales, section 210 of the Historic Environment (Wales) Act 2023;”;
(b) yn y diffiniad o “listed building”—
(i) yn is-baragraff (a), hepgorer “and Wales”;
(ii) ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“(aa) in the case of premises in Wales, section 76 of the Historic Environment (Wales) Act 2023;”.
Dirymu ac arbed
137 

(1) Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) 2017;
(b) Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 2017;
(c) Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021.
(2) Nid yw gweithrediad parhaus yr arbediad a wneir gan adran 105(4) o Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 yn cael ei effeithio gan baragraff 1(a) nac (c).
(3) Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn parhau mewn grym—
(a) Rheoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 2001;
(b) Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 1991.
Jane Hutt
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip, un o Weinidogion Cymru
9 Medi 2024