
2024 Rhif 875 (Cy. 138)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn Cod Ymarfer y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru a’r Cod Ymarfer Diwygiedig (Swyddogaethau Cyffredinol) (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2024
Gwnaed 27 Awst 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Fel sy’n ofynnol gan adran 146(1) o Ddeddf 2014, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy ynghylch drafft o’r Codau a restrir yn erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn (“y Codau”).
Yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, gosodwyd y Codau drafft gerbron Senedd Cymru ar 11 Mehefin 2024.

Yn unol ag adran 146(3) o Ddeddf 2014, o fewn cyfnod o 40 niwrnod ni phenderfynodd Senedd Cymru beidio â chymeradwyo’r Codau drafft, a dyroddwyd y Codau ar eu ffurf ddrafft.
Enwi a dehongli
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymarfer y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru a’r Cod Ymarfer Diwygiedig (Swyddogaethau Cyffredinol) (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2024.
Y Diwrnod Penodedig
2 
1 Medi 2024 yw’r diwrnod penodedig pan ddaw’r Codau a ganlyn i rym—
(a) Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru: Cod Ymarfer, a
(b) Cod Ymarfer Rhan 2 (Swyddogaethau Cyffredinol).
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Awst 2024