
2024 Rhif  860 (Cy. 134) (C. 56)
Yr Amgylchedd Hanesyddol, Cymru
Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Cychwyn) 2024
Gwnaed 16 Awst  2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 212(2) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Cychwyn) 2024.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 9 Medi 2024
2 

(1) Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 i rym ar 9 Medi 2024—
(a) adran 14(3) (rheoliadau sy’n ymwneud â gwneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig);
(b) adran 26(5) a (6) (rheoliadau sy’n ymwneud â chytundebau partneriaethau henebion cofrestredig);
(c) adran 90(3), (4) a (5) (rheoliadau sy’n ymwneud â gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig);
(d) adran 91(1), (2) a (4) (rheoliadau sy’n ymwneud â hysbysiad o gais i berchnogion adeilad);
(e) adran 92(2) (rheoliadau sy’n ymwneud â’r weithdrefn ar gyfer ymdrin â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig);
(f) adran 95(4), (5), (6) a (7) (rheoliadau a chyfarwyddydau sy’n ymwneud â hysbysu Gweinidogion Cymru cyn rhoi cydsyniad);
(g) adran 100(4)(a) (rheoliadau sy’n pennu’r cyfnod penderfynu at ddibenion apelio);
(h) adran 101(3) a (5) (rheoliadau sy’n ymwneud â’r weithdrefn ar gyfer gwneud apêl);
(i) adran 105 (rheoliadau sy’n ymwneud â cheisiadau gan awdurdodau cynllunio a’r Goron);
(j) adran 114(5) (rheoliadau sy’n ymwneud â chytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig);
(k) adran 156(1) a (3) (rheoliadau sy’n ymwneud ag adeiladau crefyddol esempt);
(l) adran 161(2)(c) (rheoliadau sy’n ymwneud â’r gofyniad i ddymchweliad gael ei awdurdodi);
(m) adran 170 (rheoliadau sy’n ymwneud â’r ffurf ar ddogfennau).
(2) Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 i rym ar 9 Medi 2024 at ddiben gwneud rheoliadau—
(a) adran 102(1) (rheoliadau sy’n ymwneud â’r cyfyngiad ar amrywio cais ar ôl cyflwyno hysbysiad o apêl);
(b) adran 103(2) (rheoliadau sy’n ymwneud â’r cyfnod ar gyfer penderfynu apêl);
(c) adran 106(5) (rheoliadau sy’n ymwneud â cheisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron);
(d) adran 107(3)(a) (sy’n cyflwyno Rhan 1 o Atodlen 8: y weithdrefn ar gyfer gorchmynion sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig);
(e) adran 146(1) (rheoliadau sy’n ymwneud â llog ar gostau gwaith diogelu a adenillir);
(f) Atodlen 8, paragraff 3(2)(a) (rheoliadau sy’n ymwneud â’r weithdrefn i orchmynion addasu neu ddirymu gymryd effaith heb gadarnhad).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Tachwedd 2024
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 i rym ar 4 Tachwedd 2024 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a) Rhan 2;
(b) Rhan 3 ac eithrio adran 147 (camau ar gyfer diogelu adeiladau rhestredig sydd mewn cyflwr gwael);
(c) Rhannau 4 i 7;
(d) Atodlenni 1 i 14.
Jane Hutt
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip, un o Weinidogion Cymru
16 Awst  2024