
2024 Rhif 854 (Cy. 133)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2024
Gwnaed 13 Awst 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Awst  2024
Yn dod i rym 9 Medi  2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 22(3) a (4) a 32(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2011, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Medi 2024.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2013” yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013.
Diwygio Rheoliadau 2013
2 

(1) Mae Rheoliadau 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “yr hyfforddiant i gadeirydd”, yn lle “ym mis Medi 2013 o’r enw “Cynnwys yr hyfforddiant ar gyfer cadeiryddion llywodraethwyr yng Nghymru”” rhodder “ar wefan llyw.cymru ym mis Gorffennaf 2024 o’r enw “Hyfforddiant i gadeiryddion llywodraethwyr yng Nghymru””, a
(b) yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ymsefydlu”, yn lle “ym mis Medi 2013 o’r enw “Cynnwys hyfforddiant ymsefydlu ar gyfer llywodraethwyr yng Nghymru”” rhodder “ar wefan llyw.cymru ym mis Gorffennaf 2024 o’r enw “Hyfforddiant sefydlu i lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru””.
(3) Yn rheoliad 3 (hyfforddiant i gadeirydd), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir yr hyfforddiant i gadeirydd, am ddim, i bob cadeirydd corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, o fewn y cyfnod a nodir ym mharagraff (1).”
(4) Yn rheoliad 4 (hyfforddiant ymsefydlu), ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(7) Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir yr hyfforddiant ymsefydlu, am ddim, i bob llywodraethwr mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, o fewn y cyfnod a nodir ym mharagraff (1).”
(5) Yn rheoliad 5 (hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion), ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(7) Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion, am ddim, i bob llywodraethwr mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, o fewn y cyfnod a nodir ym mharagraff (1).”
Darpariaethau arbed
3 

(1) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i’r canlynol—
(a) cadeirydd corff llywodraethu a gwblhaodd yr hyfforddiant i gadeirydd sy’n ofynnol gan reoliad 3(1) o Reoliadau 2013 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, neu
(b) llywodraethwr a gwblhaodd yr hyfforddiant ymsefydlu sy’n ofynnol gan reoliad 4(1) o Reoliadau 2013 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(2) Yn y rheoliad hwn—
(a) mae i “cadeirydd corff llywodraethu” yr ystyr a roddir gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2013;
(b) mae i “llywodraethwr” yr ystyr a roddir gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2013.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
13 Awst 2024