
2024 Rhif 806 (Cy. 130) (C. 51)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2024
Gwnaed 17 Gorffennaf 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 148(2) a (3) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
RHAN 1 CYFLWYNIAD
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2024.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “CCAUC” (“HEFCW”) yw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
 ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a sefydlwyd gan adran 1 o’r Ddeddf;
 mae i “corff llywodraethu” (“governing body”) yr ystyr a roddir gan adran 57(1) o Ddeddf 2015, ac eithrio mewn perthynas ag erthygl 4(2)(b) pan fo iddo’r ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90(1) o Ddeddf 1992;
 ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
 ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022;
 ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) 2015;
 ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau, Gweithdrefn a Chyhoeddi) (Cymru) 2016;
 mae i “sefydliad rheoleiddiedig” (“regulated institution”) yr ystyr a roddir gan adran 7(5)(b) o Ddeddf 2015.
RHAN 2 Y DARPARIAETHAU SY’N DOD I RYM AR 1 AWST 2024
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Awst 2024
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024—
(a) adran 6(1) (hybu gwaith ymchwil ac arloesi) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 23 (diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru);
(c) adran 50(1) i (3), (4)(b) ac (c), (7) ac (8) (fframweithiau sicrhau ansawdd);
(d) adran 86(2), (3) a (7) (cyllido’r Comisiwn: cyfyngiadau ar delerau ac amodau);
(e) adran 131(1), (2)(c) a (d), (4) a (5) (personau y mae’n ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth i’r Comisiwn);
(f) adran 135(1), (2), (4) a (5) (gwybodaeth arall, cyngor arall a chanllawiau eraill);
(g) adran 136 (ymchwil gan y Comisiwn neu Weinidogion Cymru);
(h) adran 139(1), (2) a (4) (diddymu corfforaethau addysg uwch yng Nghymru);
(i) adran 140 (dyletswydd i ymgynghori â’r Comisiwn ynghylch gwasanaethau gyrfaoedd);
(j) yn Atodlen 1 (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil)—
(i) paragraff 4 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ii) paragraff 6;
(iii) paragraff 8 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(iv) paragraff 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(v) paragraff 11 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(vi) paragraff 15 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(k) yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(i) paragraff 2;
(ii) paragraff 3(1) a (2)(b);
(iii) paragraff 5;
(iv) paragraff 6(1), (2), (3)(e) ac (g), (5)(a) a (7);
(v) paragraff 7(1) i (3), (4)(a)(iii) a (iv) a (b);
(vi) paragraff 8(1), (3), (4) a (7);
(vii) paragraff 12(1), (2)(a)(ii) a (iii), (3) a (4);
(viii) paragraff 14(1), (24) a (26);
(ix) paragraff 15(1), (3) a (5);
(x) paragraff 18(1), (6), (8), (9)(a) ac (c) a (10) i (13);
(xi) paragraff 19(1) a (2)(a);
(xii) paragraff 20(2)(b);
(xiii) paragraff 22(1) a (3);
(xiv) paragraff 25(1) a (3);
(xv) paragraff 27;
(xvi) paragraff 28 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(xvii) paragraff 33(1), (2)(b) ac (e);
(xviii) paragraff 34;
(xix) paragraff 36;
(xx) paragraff 37;
(xxi) paragraff 38(1);
(xxii) paragraff 40;
(xxiii) paragraff 41.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Awst 2024 i’r graddau a bennir
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath—
(a) adran 131(3)(a) i’r graddau y mae’n ymwneud â pherson a grybwyllir yn is-adran (2)(c) neu (d);
(b) adran 131(6) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 131(2)(a), (aa) (fel y’i mewnosodir gan erthygl 16 o’r Gorchymyn hwn), (b)(viii), (c) a (d);
(c) yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(i) paragraff 6(3)(b) i’r graddau y mae’n hepgor adran 62(1), (3), (4) a (9) o Ddeddf 1992;
(ii) paragraff 6(3)(f) i’r graddau y mae’n hepgor adran 69(1) a (3) i (7) o Ddeddf 1992;
(iii) paragraff 6(6) i’r graddau y mae’n hepgor y cofnod ar gyfer “the HEFCW” yn adran 92 o Ddeddf 1992;
(iv) paragraff 31 i’r graddau y mae’n hepgor y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015—(aa) adrannau 25, 49, 50(5) i (7), 51 a 53,(bb) paragraffau 2, 5 a 7 i 26 yn Rhan 1 o’r Atodlen, ac(cc) Rhan 2 o’r Atodlen;
(v) paragraff 33(2)(c) i’r graddau y mae’n hepgor y geiriau “a CCAUC” ac yn rhoi “a’r Comisiwn” yn ei le;
(vi) paragraff 33(2)(d) i’r graddau y mae’n hepgor y geiriau “a CCAUC” ac yn rhoi “a’r Comisiwn” yn ei le;
(vii) paragraff 38(2) i’r graddau y mae’n hepgor paragraffau 7, 8, 11, 17, 18(2), (3) a (5) i (7), 20, 25 a 26(3) o Atodlen 11 i Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau darfodol
4 

(1) Daw adran 6(2) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i adran 105 o’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Mae adran 6(2) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe bai’r paragraffau a ganlyn wedi eu rhoi yn lle paragraffau (a) a (b)—“
(a) sefydliad addysg uwch o fewn yr ystyr a roddir i “higher education institution” gan adran 65(5) o Ddeddf 1992 sy’n cael cyllid gan y Comisiwn yn unol ag adran 65 o’r Ddeddf honno at ddibenion ymgymryd ag ymchwil, neu mewn cysylltiad â hynny;
(b) sefydliad cysylltiedig o fewn yr ystyr a roddir i “connected institution” gan adran 65(3B) o Ddeddf 1992, y mae corff llywodraethu sefydliad addysg uwch sy’n cael cyllid gan y Comisiwn yn unol ag adran 65 o’r Ddeddf honno yn cynnig talu iddo, gyda chydsyniad y Comisiwn, y cyfan neu unrhyw ran o’r cyllid hwnnw at ddibenion ymgymryd ag ymchwil, neu mewn cysylltiad â hynny.”
5 

(1) Daw adran 50(4)(a) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Mae adran 50(4)(a) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at “darparwr cofrestredig” yn gyfeiriad at “sefydliad rheoleiddiedig”.
6 

(1) Daw adran 86(1), (5) a (6) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir ym mharagraff (2).
(2) Hyd nes y daw paragraff 6(3)(c) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym—
(a) mae adran 86(1) yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “adran 65 (gweinyddu cronfeydd gan y Comisiwn) o Ddeddf 1992,” wedi eu mewnosod ar ôl “i berson o dan”;
(b) mae adran 86(5) yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “adran 65 o Ddeddf 1992 neu” wedi eu mewnosod ar ôl “y Comisiwn o dan”;
(c) mae adran 86(6) yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “adran 65 o Ddeddf 1992 neu” wedi eu mewnosod ar ôl “y Comisiwn o dan”.
7 

(1) Daw adran 86(4) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i adran 105 o’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Mae adran 86(4) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at “105 (ymchwil ac arloesi)” yn gyfeiriad at “65 (gweinyddu cronfeydd gan y Comisiwn) o Ddeddf 1992”.
8 

(1) Daw adran 131(2)(a) a (b)(viii) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Mae adran 131(2)(a) a (b), i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-baragraff (viii), yn cael effaith fel pe bai’r ddau gyfeiriad at “darparwr cofrestredig” yn gyfeiriadau at “sefydliad rheoleiddiedig”.
9 

(1) Daw adran 135(3) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Mae adran 135(3) yn cael effaith fel pe bai’r ddau gyfeiriad at “darparwr cofrestredig” yn gyfeiriadau at “sefydliad rheoleiddiedig”.
10 

(1) Daw paragraff 32 o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2), sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â’r dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl mis Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
(2) Mae adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael effaith mewn perthynas â’r Comisiwn fel pe bai’r is-adran a ganlyn wedi ei rhoi yn lle is-adran (6)—“
(6) Mae’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-adrannau (2) a (3)—
(a) yn dechrau â 1 Awst 2024, a
(b) yn dod i ben â’r dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl mis Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.”
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol
11 

(1) Daw paragraff 12(2)(a)(i) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a nodir ym mharagraff (2).
(2) Mewn perthynas ag astudiaeth sydd ar y gweill yn union cyn 1 Awst 2024 gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 145B(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, pan mai CCAUC yw’r corff sydd wedi gofyn am yr astudiaeth, mae’r astudiaeth honno i’w thrin, ar ac ar ôl 1 Awst 2024, at ddibenion yr adran honno ac adran 145B(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, fel pe bai’r Comisiwn wedi gofyn amdani.
12 

(1) Daw paragraff 12(2)(b) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a nodir ym mharagraff (2).
(2) Pan fo Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn union cyn 1 Awst 2024, i fod i ymateb i gais am gyngor a ddaeth i law oddi wrth CCAUC cyn y dyddiad hwnnw o dan adran 145B(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, mae’r cais hwnnw am gyngor i’w drin, ar ac ar ôl 1 Awst 2024, fel pe bai wedi ei wneud gan y Comisiwn.
13 

(1) Daw paragraff 14(27) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a nodir ym mharagraff (2).
(2) Mewn perthynas â gwarediad tir yng Nghymru gan ymddiriedolwyr cyn 1 Awst 2024, y mae adran 144 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 yn gymwys iddo—
(a) mae adran 144(4A) o’r Ddeddf honno yn cael effaith fel pe bai’r paragraff a ganlyn wedi ei roi yn lle paragraff (b)—“
(b) in the case of land in Wales, the Welsh Ministers.”,a
(b) mae adran 144(9) o’r Ddeddf honno yn cael effaith fel pe bai’r paragraff a ganlyn wedi ei roi yn lle paragraff (b)—“
(b) the Welsh Ministers, in respect of land in Wales.”
RHAN 3 Y DARPARIAETHAU SY’N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2025
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2025
14 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2025—
(a) paragraff 16(1)(b) a (3) i (5) o Atodlen 1 i’r Ddeddf;
(b) paragraff 17(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau darfodol
15 

(1) Daw paragraff 16(1)(a) o Atodlen 1 i’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i’r addasiad ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Mae paragraff 16(1)(a) yn cael effaith fel pe na bai swyddogaethau’r Comisiwn y cyfeirir atynt yn cynnwys ei swyddogaethau o dan Ddeddf 2015.
RHAN 4 Y DARPARIAETHAU DARFODOL
Y darpariaethau darfodol sy’n ymwneud â’r Ddeddf
16 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Ar ôl adran 131(2)(a) o’r Ddeddf mewnosoder—“
(aa) person ac eithrio sefydliad rheoleiddiedig sy’n cael adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 65 (gweinyddu cronfeydd gan y Comisiwn) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;”.
(3) Ar ôl adran 131(2) o’r Ddeddf mewnosoder—“
(2A) Yn adran 131(2)(aa), mae i “sefydliad rheoleiddiedig” yr ystyr a roddir yn adran 7(5)(b) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.”
17 
Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn, mae paragraff 11(3) o Atodlen 1 i’r Ddeddf yn cael effaith fel pe bai diben y Pwyllgor Ansawdd a sefydlwyd gan y ddarpariaeth honno yn cynnwys cynghori’r Comisiwn ynghylch arfer swyddogaethau’r Comisiwn o dan Ran 3 o Ddeddf 2015.
Y darpariaethau darfodol sy’n ymwneud â Deddf 1992
18 

(1) Mae’r addasiadau i’r adrannau o Ddeddf 1992 a nodir ym mharagraff (3) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i’r canlynol ddod i rym, mewn cysylltiad â’r addasiad i—
(a) adran 62, paragraff 6(3)(b) o Atodlen 4 i’r Ddeddf;
(b) adran 65, paragraff 6(3)(c) o Atodlen 4 i’r Ddeddf;
(c) adran 66, paragraff 6(3)(d) o Atodlen 4 i’r Ddeddf;
(d) adran 69, paragraff 6(3)(f) o Atodlen 4 i’r Ddeddf;
(e) adran 81, paragraff 6(3)(h) o Atodlen 4 i’r Ddeddf;
(f) adran 83, paragraff 6(4) o Atodlen 4 i’r Ddeddf.
(2) Mae’r addasiad a nodir ym mharagraff (4) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 6(6) o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym.
(3) Mae adrannau 62 (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru), 65 (gweinyddu cronfeydd gan CCAUC), 66 (gweinyddu cronfeydd: atodol), 69 (swyddogaethau atodol), 81 (cyfarwyddydau) a 83 (astudiaethau effeithlonrwydd) a’r penawdau i’r adrannau hynny yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at “the HEFCW” a “the Higher Education Funding Council for Wales” yn gyfeiriadau at “the Commission”.
(4) Yn adran 92 (mynegai), mae’r cofnod “institution in Wales (in relation to the HEFCW)” yn cael effaith fel pe bai’n darllen “institution in Wales (in relation to the Commission)”.
Y darpariaethau darfodol sy’n ymwneud â Deddf Addysg 1996
19 
Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 8(2) o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym, mae adran 13 o Ddeddf Addysg 1996 yn cael effaith fel pe bai is-adran (2)(b) wedi ei hepgor.
Y darpariaethau darfodol sy’n ymwneud â Deddf 2015
20 
Mae’r addasiadau i’r darpariaethau yn Neddf 2015 a nodir yn erthyglau 21 a 22 yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
21 

(1) Ac eithrio mewn perthynas ag adran 57(1) o Ddeddf 2015, mae Deddf 2015 yn cael effaith fel bai’r holl gyfeiriadau at “CCAUC” neu “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” yn y Ddeddf honno yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”.
(2) Mae adran 57(1) o Ddeddf 2015 yn cael effaith fel pe bai’r diffiniad o “CCAUC” wedi ei hepgor.
22 

(1) Mae adran 50 o Ddeddf 2015 yn cael effaith—
(a) fel mai’r cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2023 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf y flwyddyn ganlynol fyddai’r cyfnod adrodd cyntaf, a
(b) fel mai pob cyfnod olynol o 12 mis fyddai’r cyfnodau adrodd dilynol.
(2) At ddibenion paragraff (1)(a), rhaid i adroddiad blynyddol y Comisiwn mewn cysylltiad â’r cyfnod adrodd cyntaf roi manylion ynghylch sut y mae CCAUC wedi cyflawni ei swyddogaethau o dan Ddeddf 2015 yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2023 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2024.
Y darpariaethau darfodol sy’n ymwneud â Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
23 
Mae rheoliad 7 o Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (taliadau gan CCAUC) yn cael effaith fel pe bai’r holl gyfeiriadau at “CCAUC” yn gyfeiriadau at “y Comisiwn” yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 6(3)(c) o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym.
Y darpariaethau darfodol sy’n ymwneud â Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011
24 

(1) Mae’r addasiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011 a nodir ym mharagraff (2) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli: cyffredinol)—
(a) mae’r diffiniad o “non-regulated institution” yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at “the Higher Education Funding Council for Wales” yn gyfeiriad at “the Commission for Tertiary Education and Research”;
(b) mae’r diffiniad o “regulated institution”, yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at “the Higher Education Funding Council for Wales” yn gyfeiriad at “the Commission for Tertiary Education and Research”.
Y darpariaethau darfodol sy’n ymwneud â Rheoliadau penodol a wnaed o dan Ddeddf 2015
25 

(1) Mae’r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yn cael effaith fel pe bai’r holl gyfeiriadau at “CCAUC” yn gyfeiriadau at “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil” yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Y Rheoliadau yw—
(a) Rheoliadau 2015;
(b) Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015;
(c) Rheoliadau 2016.
Y darpariaethau darfodol sy’n ymwneud â Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
26 
Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn, mae’r diffiniad o “sefydliad rheoleiddiedig Cymreig” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017, yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” yn gyfeiriad at “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.
Y darpariaethau darfodol sy’n ymwneud â Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
27 

(1) Mae’r addasiad i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 a nodir ym mharagraff (2) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Ym mharagraff 2A(1) o Atodlen 1, mae’r diffiniad o “sefydliad rheoleiddiedig Cymreig” yn cael effaith fel bai’r cyfeiriad at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” yn gyfeiriad at “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.
RHAN 5 Y DARPARIAETHAU TROSIANNOL MEWN CYSYLLTIAD Â DIDDYMU CCAUC
Cyffredinol
28 

(1) Mae unrhyw beth a wnaed (neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud) gan CCAUC, mewn perthynas ag ef neu ar ei ran, cyn i adran 23 o’r Ddeddf ddod i rym, mewn cysylltiad â swyddogaeth CCAUC a wneir yn arferadwy gan y Comisiwn—
(a) yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, neu
(b) oherwydd bod darpariaeth o’r Ddeddf yn dod i rym yn rhinwedd y Gorchymyn hwn,
yn cael effaith, i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn parhau â’i effaith o pan ddaw adran 23 o’r Ddeddf i rym, fel pe bai wedi ei wneud gan y Comisiwn, mewn perthynas ag ef neu ar ei ran.
(2) Caniateir i unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd wrthi’n cael ei wneud gan CCAUC, mewn perthynas ag ef neu ar ei ran, yn union cyn i adran 23 o’r Ddeddf ddod i rym, mewn cysylltiad â swyddogaeth CCAUC a wneir yn arferadwy gan y Comisiwn—
(a) yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, neu
(b) oherwydd bod darpariaeth o’r Ddeddf yn dod i rym yn rhinwedd y Gorchymyn hwn,
barhau i gael ei wneud gan y Comisiwn, mewn perthynas ag ef neu ar ei ran o pan ddaw adran 23 o’r Ddeddf i rym.
(3) Mae unrhyw ganllawiau, unrhyw wybodaeth, unrhyw gyngor neu unrhyw ddogfen arall a gymeradwyir, a roddir neu a wneir cyn i adran 23 o’r Ddeddf ddod i rym i gael effaith, i’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddibenion paragraffau (1) a (2), neu mewn cysylltiad â hwy, fel pe bai unrhyw gyfeiriadau at “CCAUC” (sut bynnag y’u mynegir) yn y canllawiau hynny, yr wybodaeth honno, y cyngor hwnnw neu’r ddogfen arall honno yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”.
(4) Nid yw’r erthygl hon—
(a) yn gymwys mewn perthynas ag erthyglau 11 i 13, 30 i 42, 44 na 45;
(b) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed (neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud) gan CCAUC, mewn perthynas ag ef neu ar ei ran, cyn 1 Awst 2024.
Datganiad terfynol o gyfrifon CCAUC
29 

(1) Rhaid i’r Comisiwn lunio datganiad o gyfrifon ar gyfer CCAUC mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau â 1 Ebrill 2023 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2024 (“datganiad o gyfrifon CCAUC”).
(2) Rhaid i ddatganiad o gyfrifon CCAUC gael ei lunio yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru i’r Comisiwn, y caniateir iddynt wneud darpariaeth ynghylch—
(a) yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo,
(b) y modd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno,
(c) y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy, neu
(d) gwybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r datganiad.
(3) Rhaid i’r Comisiwn gyflwyno datganiad o gyfrifon CCAUC i Weinidogion Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru erbyn 30 Tachwedd 2024.
(4) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio datganiad o gyfrifon CCAUC, ei ardystio ac adrodd arno a gosod copi o’r adroddiad a’r datganiad hwnnw gerbron Senedd Cymru.
Cynlluniau ffioedd a mynediad
30 

(1) Mae cynllun ffioedd a mynediad o fewn paragraff (2)—
(a) yn parhau mewn grym ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b) yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei gymeradwyo gan y Comisiwn.
(2) Mae cynllun ffioedd a mynediad o fewn y paragraff hwn—
(a) os yw wedi cael ei gymeradwyo gan CCAUC o dan adran 7 o Ddeddf 2015, a
(b) os yw mewn grym, yn union cyn 1 Awst 2024, at ddibenion adran 7(4) o Ddeddf 2015.
(3) At ddibenion paragraff (2)(a), mae cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan CCAUC yn cynnwys cynllun ffioedd a mynediad sy’n ddarostyngedig i amrywiad a gymeradwywyd gan CCAUC o dan adran 9 o Ddeddf 2015.
(4) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn cynllun ffioedd a mynediad o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
Hysbysiadau rhybuddio
31 

(1) Mae hysbysiad rhybuddio a roddir gan CCAUC ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a) yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b) yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae hysbysiad rhybuddio mewn effaith os nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â’r hysbysiad hwnnw wedi dod i ben.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau yw’r cyfnod a bennir—
(a) yn rheoliad 3 o Reoliadau 2015, neu
(b) yn achos hysbysiad rhybuddio a roddir mewn perthynas ag adran 38 o Ddeddf 2015, yn rheoliad 3 o Reoliadau 2015 fel y’i cymhwysir gan reoliad 5 o Reoliadau 2016.
(4) Mae sylwadau a gyflwynir i CCAUC yn unol â’r rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) mewn perthynas â hysbysiad rhybuddio o fewn paragraff (1) yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024 fel pe baent yn sylwadau a gyflwynir i’r Comisiwn.
(5) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn hysbysiad rhybuddio o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
(6) Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad rhybuddio” yw hysbysiad rhybuddio fel y’i nodir yn adran 42 o Ddeddf 2015.
Cyfarwyddydau CCAUC nad ydynt mewn grym
32 

(1) Mae cyfarwyddyd o fewn paragraff (2) a roddir gan CCAUC cyn 1 Awst 2024 ac y mae paragraff (3) yn gymwys iddo—
(a) yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b) yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.
(2) Mae cyfarwyddyd o fewn y paragraff hwn yn gyfarwyddyd a roddir i gorff llywodraethu sefydliad o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015
(a) adran 11;
(b) adran 13;
(c) adran 19;
(d) adran 33.
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gyfarwyddyd a roddir i gorff llywodraethu sefydliad pan, yn union cyn 1 Awst 2024—
(a) na fo’r corff llywodraethu hwnnw wedi hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig ei fod yn derbyn y cyfarwyddyd ac na fo’r cyfnod amser ar gyfer gwneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 wedi dod i ben, neu
(b) bo’r corff llywodraethu hwnnw wedi gwneud cais i’r panel adolygu o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 ac—
(i) na fo’r adolygiad wedi gorffen, neu
(ii) bo’r adolygiad wedi gorffen ond na fo CCAUC wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig fod y cyfarwyddyd yn cael effaith.
(4) Ym mharagraff (3)(a), ystyr hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig yw hysbysu o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015.
(5) Nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar y modd y caiff cyfarwyddyd ei drin at ddibenion Rheoliadau 2015 fel y’i nodir yn rheoliad 4 o’r Rheoliadau hynny.
(6) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn cyfarwyddyd o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
Adolygiadau
33 

(1) Mae adolygiad sy’n cael ei gynnal o dan adran 44 o Ddeddf 2015 yn union cyn 1 Awst 2024 yn parhau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 fel pe bai’r cyfarwyddyd neu’r hysbysiad sy’n destun yr adolygiad yn gyfarwyddyd neu’n hysbysiad gan y Comisiwn.
(2) At ddibenion paragraff (1) nid yw adolygiad yn cael ei gynnal os yw’r panel adolygu, cyn 1 Awst 2024, wedi anfon copi o’i adroddiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 9(8)(g) o Reoliadau 2015.
Cyfarwyddydau CCAUC sydd mewn grym
34 

(1) Mae cyfarwyddyd a roddir gan CCAUC o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau o Ddeddf 2015 y cyfeirir atynt yn erthygl 32(2) ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a) yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b) yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae cyfarwyddyd mewn effaith—
(a) os yw corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo wedi hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015 ei fod yn derbyn y cyfarwyddyd,
(b) os na all corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo wneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 oherwydd bod y cyfnod amser ar gyfer gwneud cais i’r panel adolygu wedi dod i ben, neu
(c) os yw corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo wedi cael ei hysbysu yn ysgrifenedig gan CCAUC fod y cyfarwyddyd yn cael effaith ar ôl i adolygiad mewn cysylltiad â’r cyfarwyddyd hwnnw orffen.
(3) Mae cyfarwyddyd a roddir gan CCAUC i gorff llywodraethu o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau o Ddeddf 2015 y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a) yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b) yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.
(4) Yr adrannau o Ddeddf 2015 yw—
(a) adran 16;
(b) adran 21;
(c) adran 35.
(5) At ddibenion paragraffau (1) a (3), o ran cyfarwyddyd a roddir gan CCAUC—
(a) mae’n cynnwys cyfarwyddyd sydd wedi ei amrywio gan CCAUC cyn 1 Awst 2024 o dan adran 46(b) o Ddeddf 2015;
(b) mae mewn effaith i’r graddau nad yw CCAUC wedi rhoi hysbysiad, o dan adran 45(3) o Ddeddf 2015, i’r corff llywodraethu sy’n cael y cyfarwyddyd, sy’n datgan bod CCAUC wedi ei fodloni bod y corff—
(i) wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd, neu
(ii) wedi cydymffurfio â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd;
(c) nid yw mewn effaith os yw CCAUC wedi dirymu’r cyfarwyddyd o dan adran 46(b) o Ddeddf 2015.
(6) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn cyfarwyddyd o fewn paragraff (1) neu (3) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
Cyfarwyddydau gan Weinidogion Cymru o dan adran 28(4) o Ddeddf 2015
35 

(1) Mae cyfarwyddyd a roddir o dan adran 28(4) o Ddeddf 2015 gan Weinidogion Cymru i CCAUC ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a) yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b) yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan Weinidogion Cymru i’r Comisiwn.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae cyfarwyddyd mewn effaith—
(a) os yw’r cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd yn dechrau cyn 1 Awst 2024 ac yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, a
(b) os nad yw wedi cael ei ddirymu gan gyfarwyddyd dilynol a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 56(b) o Ddeddf 2015.
(3) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn cyfarwyddyd o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
Cod rheolaeth ariannol
36 

(1) Mae cod rheolaeth ariannol y mae paragraff (2) yn gymwys iddo ac sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a) yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b) yn cael effaith fel pe bai—
(i) wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru a Senedd Cymru o dan adran 30 o Ddeddf 2015, a
(ii) wedi ei gyhoeddi gan y Comisiwn o dan adran 30(7) o Ddeddf 2015.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i god rheolaeth ariannol sydd—
(a) wedi cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru a Senedd Cymru o dan adran 30 o Ddeddf 2015, a
(b) wedi cael ei gyhoeddi gan CCAUC o dan adran 30(7) o Ddeddf 2015.
(3) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn cod rheolaeth ariannol o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
Hysbysiadau CCAUC nad ydynt mewn grym
37 

(1) Mae hysbysiad o fewn paragraff (2) a roddir gan CCAUC cyn 1 Awst 2024 ac y mae paragraff (3) yn gymwys iddo—
(a) yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b) yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.
(2) Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn yn hysbysiad a roddir i gorff llywodraethu sefydliad o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015—
(a) adran 37;
(b) adran 38;
(c) adran 39.
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i hysbysiad a roddir i gorff llywodraethu sefydliad—
(a) pan na fo’r corff llywodraethu hwnnw wedi hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig, yn union cyn 1 Awst 2024, ei fod yn derbyn yr hysbysiad ac na fo’r cyfnod amser ar gyfer gwneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 wedi dod i ben, neu
(b) pan fo’r corff llywodraethu hwnnw, yn union cyn 1 Awst 2024, wedi gwneud cais i’r panel adolygu o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 ac—
(i) na fo’r adolygiad wedi gorffen, neu
(ii) bo’r adolygiad wedi gorffen ond na fo CCAUC wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig fod yr hysbysiad yn cael effaith.
(4) Ym mharagraff (3)(a), ystyr hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig yw hysbysu o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015.
(5) Nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar y modd y caiff hysbysiad ei drin at ddibenion Rheoliadau 2015 fel y’i nodir yn rheoliad 4 o’r Rheoliadau hynny.
(6) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn hysbysiad o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
Hysbysiadau CCAUC sydd mewn grym
38 

(1) Mae hysbysiad a roddir gan CCAUC o dan adran o Ddeddf 2015 y cyfeirir ati yn erthygl 37(2) ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a) yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b) yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae hysbysiad mewn effaith—
(a) os yw corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015 ei fod yn derbyn yr hysbysiad,
(b) os na all corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 oherwydd bod y cyfnod amser ar gyfer gwneud cais i’r panel adolygu wedi dod i ben, neu
(c) os yw corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi cael ei hysbysu yn ysgrifenedig gan CCAUC fod yr hysbysiad yn cael effaith ar ôl i adolygiad mewn cysylltiad â’r hysbysiad orffen.
(3) At ddibenion paragraff (1), nid yw hysbysiad a roddir gan CCAUC o dan adran 37 o Ddeddf 2015 mewn effaith—
(a) os yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad wedi dod i ben;
(b) os yw CCAUC wedi tynnu’r hysbysiad yn ôl o dan adran 37(6) o Ddeddf 2015.
(4) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn hysbysiad o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
Hysbysiadau CCAUC o dan adran 45(3) o Ddeddf 2015
39 
Mae hysbysiad a roddir o dan adran 45(3) o Ddeddf 2015 gan CCAUC, sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a) yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b) yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.
Canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru
40 
I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru”, mewn unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â Deddf 2015 sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024, yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024 fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
41 
Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru i CCAUC o dan adran 49 o Ddeddf 2015 ac sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024 yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024 fel pe bai wedi cael ei roi gan Weinidogion Cymru i’r Comisiwn o dan adran 20 o’r Ddeddf.
Datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd
42 

(1) Mae datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd, sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a) yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b) yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei lunio a’i gyhoeddi gan y Comisiwn o dan adran 52 o Ddeddf 2015.
(2) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd” yw datganiad a gyhoeddir o dan adran 52 o Ddeddf 2015.
Y darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
43 
O ran ei gymhwyso i’r Comisiwn, mae paragraff (a) o adran 9(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael effaith fel pe bai’r paragraff a ganlyn wedi ei roi yn lle’r paragraff hwnnw—“
(a) heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2025, a”.
Y darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â Rheoliadau 2015
44 

(1) Pan fo cyfarwyddyd o dan adran 11 o Ddeddf 2015 yn cael ei gyhoeddi ar wefan CCAUC, yn unol â rheoliad 11(1)(b) o Reoliadau 2015, yn union cyn 1 Awst 2024, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi copi o’r cyfarwyddyd hwnnw ar ei wefan.
(2) Mae cyhoeddi’r cyfarwyddyd gan y Comisiwn o dan baragraff (1) yn cael effaith fel cyhoeddi yn unol â rheoliad 11(1)(b) o Reoliadau 2015 at ddibenion rheoliad 11(2) o’r Rheoliadau hynny.
Y darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â Rheoliadau 2016
45 

(1) Pan fo hysbysiad a roddir o dan adran 37, 38 neu 39 o Ddeddf 2015 yn cael ei gyhoeddi ar wefan CCAUC, yn unol â rheoliad 7(b) o Reoliadau 2016, yn union cyn 1 Awst 2024, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi copi o’r hysbysiad hwnnw ar ei wefan.
(2) Mae cyhoeddi’r hysbysiad gan y Comisiwn o dan baragraff (1) yn cael effaith fel cyhoeddi yn unol â rheoliad 7(b) o Reoliadau 2016 at ddibenion rheoliadau 9 a 10 o’r Rheoliadau hynny.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
17 Gorffennaf 2024