
2024 Rhif 805 (Cy. 129)
Datgelu Gwybodaeth
Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) 2024
Gwnaed 17 Gorffennaf 2024
Yn dod i rym 1 Awst 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 56(6) o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (“y Ddeddf”).
Yn unol ag adran 56(11) o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i’r systemau a’r gweithdrefnau ar gyfer trin gwybodaeth yn ddiogel gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ac a yw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi rhoi sylw i’r cod ymarfer o dan adran 60 o’r Ddeddf.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiynydd Gwybodaeth, Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Gweinidogion yr Alban, Adran Gyllid Gogledd Iwerddon, y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet, ac unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol, fel sy’n ofynnol gan adran 56(12) o’r Ddeddf.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 62(6) o’r Ddeddf, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2024.
Diwygiad i Ran 2 (cyrff Cymreig) o Atodlen 8 i Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017
2 
Ym mharagraff 49 o Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017, yn lle “The Higher Education Funding Council for Wales”, rhodder “The Commission for Tertiary Education and Research”.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
17 Gorffennaf 2024