
2024 Rhif 803 (Cy. 128)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024
Gwnaed 17 Gorffennaf 2024
Yn dod i rym 1 Awst 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 146 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.

Yn unol ag adran 143(3) a (4)(e)(ii) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2024.
Deddf Diwygio Addysg 1988
2 

(1) Mae Deddf Diwygio Addysg 1988 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 198 (trosglwyddiadau o dan Rannau 1 a 2), yn is-adran (6), yn lle “that Council” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”.
Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
3 

(1) Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 6 (ystyr “corff cyhoeddus”), yn is-adran (1), hepgorer paragraff (k).
Deddf Addysg 1994
4 

(1) Mae Deddf Addysg 1994 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 18C (arolygu hyfforddiant athrawon yng Nghymru), yn is-adran (8), yn lle “a funding agency” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”.
Deddf Llywodraeth Cymru 1998
5 

(1) Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 28 (diwygio cyrff cyhoeddus Cymreig eraill)—
(a) yn is-adran (1)(a), hepgorer “or III”;
(b) yn is-adran (5)(b), hepgorer “or III”.
Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
6 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniadau o “CCAUC”, “darparwr hyfforddiant” a “Deddf 2005”.
(3) Yn rheoliad 4 (codi ffioedd), hepgorer paragraff (3)(c).
(4) Hepgorer rheoliad 6 (taliadau gan CCAUC i ddarparwyr hyfforddiant).
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011
7 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli: cyffredinol), ym mharagraff (1), ym mharagraff (b) o’r diffiniad o “authority-funded”, ar ôl “Higher Education Funding Council for Wales” mewnosoder “before 1st August 2024 or the Commission for Tertiary Education and Research on or after 1st August 2024”.
Rheoliadau Diddymu Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Cynigion a Chyrff Rhagnodedig) (Cymru) 2014
8 

(1) Mae Rheoliadau Diddymu Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Cynigion a Chyrff Rhagnodedig) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4(1)(h), yn lle “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” rhodder “Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.
(3) Ym mharagraff 5 o Atodlen 2, yn lle “Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” rhodder “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.
Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
9 

(1) Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 6.
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Lloegr) 2015
10 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Lloegr) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1(5) o Atodlen 2, yn lle “the Higher Education Funding Council for Wales” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”.
Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) 2016
11 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), ym mharagraff (b) o’r diffiniad o “authority-funded”, ar ôl “Higher Education Funding Council for Wales” mewnosoder “before 1st August 2024 or the Commission for Tertiary Education and Research on or after 1st August 2024”.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
17 Gorffennaf 2024