
2024 Rhif 795 (Cy. 125)
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) (Diwygio) 2024
Gwnaed 15 Gorffennaf 2024
Yn dod i rym 1 Medi 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 1 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2024.
Diwygio Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006
2 
Mae Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4 o’r Rheoliadau hyn.
Diwygio rheoliad 7 (nodi mangreoedd dofednod)
3 
Yn lle rheoliad 7 (nodi mangreoedd dofednod) rhodder—“
Hysbysiad ynghylch mangreoedd y cedwir dofednod neu adar caeth eraill ynddynt
7. 

(1) Rhaid i berson sy’n cadw dofednod neu adar caeth eraill mewn unrhyw fangre hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen am yr wybodaeth a ganlyn mewn perthynas â’r fangre—
(a) cyfeiriad a rhif daliad y fangre (os oes rhif arni);
(b) enw a chyfeiriad y person hwnnw ac, os ydynt yn wahanol i rai y person hwnnw, enw a chyfeiriad—
(i) perchennog y dofednod neu’r adar caeth eraill; a
(ii) meddiannydd y fangre;
(c) pob rhywogaeth dofednod neu adar caeth eraill a gedwir yn y fangre;
(d) nifer yr adar o bob rhywogaeth dofednod neu adar caeth eraill a gedwir yn y fangre; ac
(e) at ba ddiben neu ddibenion y cedwir y dofednod neu’r adar caeth eraill.
(2) Rhaid i berson sy’n cadw 50 neu ragor o ddofednod neu adar caeth eraill mewn unrhyw fangre hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen am yr wybodaeth a ganlyn, yn ychwanegol at y gofynion a nodir ym mharagraff (1)—
(a) mewn perthynas â dofednod—
(i) y system neu’r systemau hwsmona a ddefnyddir yn y fangre; a
(ii) at ba ddiben neu ddibenion y cedwir dofednod, pa un ai i gynhyrchu cig, wyau deor, wyau i’w bwyta neu at unrhyw ddiben arall;
(b) manylion unrhyw amrywiadau stocio tymhorol sy’n debygol o arwain at amrywiad sylweddol yn nifer neu rywogaethau’r dofednod neu’r adar caeth eraill yn y fangre ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 12 mis yn dilyn hysbysiad neu ddiweddariad o dan baragraff (3); ac
(c) manylion nifer a rhywogaethau’r dofednod neu’r adar caeth eraill sydd â mynediad i awyr agored yn y fangre.
(3) Rhaid i hysbysiad a wneir o dan baragraff (1) neu (2)—
(a) cael ei wneud mewn ysgrifen ar 1 Hydref 2024 neu cyn hynny; a
(b) cael ei ddiweddaru ar-lein—
(i) cyn 1 Hydref 2025; a
(ii) ym mhob blwyddyn galendr ddilynol o fewn 12 mis i’r diweddariad a wnaed ddiwethaf o dan y paragraff hwn neu baragraff (5).
(4) Rhaid i berson sydd, ar ôl 1 Medi 2024, yn dod yn geidwad unrhyw ddofednod neu adar caeth eraill mewn unrhyw fangre—
(a) o fewn 30 o ddiwrnodau iddo ddod yn geidwad, hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen am yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1), a phan fo’n gymwys, yn ogystal, am yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2); a
(b) diweddaru’r hysbysiad hwnnw ar-lein ym mhob blwyddyn galendr ddilynol, o fewn 12 mis i’r diweddariad a wnaed ddiwethaf o dan y paragraff hwn neu baragraff (5).
(5) Rhaid i berson sydd wedi gwneud hysbysiad o dan y rheoliad hwn ddiweddaru’r hysbysiad o fewn 30 o ddiwrnodau i unrhyw newid o’r mathau a ganlyn—
(a) newid yn unrhyw un neu ragor o’r materion y mae hysbysiad yn eu cylch yn ofynnol o dan baragraff (1)(a), (b), (c), (e), neu (2); a
(b) mewn perthynas â mangre y cedwir 50 neu ragor o ddofednod neu adar caeth eraill ynddi, cynnydd neu leihad o 20% neu ragor yn nifer y dofednod neu’r adar caeth eraill a bennir o dan baragraff (2) oni bai bod y newid hwn o ganlyniad i—
(i) gwagio cytiau dofednod neu ddeorfeydd i’w hailstocio ar unwaith; neu
(ii) stocio tymhorol.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n hysbysu Gweinidogion Cymru o dan baragraff (1) neu (2) eu hysbysu am wybodaeth sy’n ychwanegol at yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan y paragraff o dan sylw.
(7) Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo hysbysu Gweinidogion Cymru am wybodaeth o dan baragraff (6) wneud hynny o fewn 30 o ddiwrnodau iddo gael hysbysiad gan Weinidogion Cymru.
(8) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 7A, ystyr “mynediad i awyr agored” yw—
(a) lletya dofednod neu adar caeth eraill yn barhaol neu dros dro mewn strwythur y tu allan sydd â rhwyll, rhwyd neu gawell drosto yn gyfan gwbl neu’n rhannol, pa un a yw’n sefydlog neu’n symudol, nad yw wedi ei amgáu’n gyfan gwbl o fewn adeilad; neu
(b) symud dofednod neu adar caeth eraill dros dro o’u lletyad er mwyn cael eu hedfan yn rhydd y tu allan.”
Rheoliad newydd 7A (hysbysiad ynghylch mangreoedd y cedwir dofednod neu adar caeth eraill ynddynt: eithriadau)
4 
Ar ôl rheoliad 7 (hysbysiad ynghylch mangreoedd y cedwir dofednod neu adar caeth eraill ynddynt) mewnosoder—“
Hysbysiad ynghylch mangreoedd y cedwir dofednod neu adar caeth eraill ynddynt: eithriadau
7A. 
Nid yw’r gofyniad i hysbysu Gweinidogion Cymru o dan reoliad 7 yn gymwys i geidwaid adar caeth eraill mewn unrhyw fangre y mae’r unig adar caeth eraill a gedwir ynddi—
(a) yn perthyn i’r urdd Psittaciformes neu Passeriformes; a
(b) yn cael eu lletya yn y fangre yn gyfan gwbl o fewn annedd neu o fewn tŷ adar heb fynediad uniongyrchol i awyr agored.”
Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
15 Gorffennaf 2024