2024 Rhif 791 (Cy. 124)
Treth Trafodiadau Tir, Cymru
Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024
Gwnaed 10 Gorffennaf 2024
Yn dod i rym 12 Gorffennaf 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 24(11) a 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

Yn unol ag adran 79(2)(c) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Gorffennaf 2024.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf TTT” (“the LTT Act”) yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
Diwygio Rhan 2 o Atodlen 5 (Prynwr sy’n unigolyn: trafodiadau annedd unigol) i’r Ddeddf TTT
3 

(1) Mae paragraff 8 o Atodlen 5 i’r Ddeddf TTT wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-baragraff (2)—
(a) ym mharagraff (b), yn lle “y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith” rhodder “y cyfnod a ganiateir”;
(b) ym mharagraff (d), yn lle “y cyfnod o 3 blynedd” rhodder “y cyfnod a ganiateir”.
(3) Ar ôl is-baragraff (2), mewnosoder—“
(2A) At ddibenion is-baragraffau (2)(b) a (d), ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—
(a) y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, neu
(b) unrhyw gyfnod sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith sy’n hwy na 3 blynedd os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2B).
(2B) Yr amodau yw—
(a) daeth cyfyngiad perthnasol i rym yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad yr oedd y trafodiad blaenorol yn cael effaith (“y cyfnod perthnasol”),
(b) cafodd y cyfyngiad perthnasol effaith andwyol sylweddol ar allu’r prynwr i gaffael annedd sy’n disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr cyn diwedd y cyfnod perthnasol, ac
(c) ymrwymir i’r trafodiad o dan sylw—
(i) ar neu ar ôl 12 Gorffennaf 2024, a
(ii) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(2C) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2B), rhaid i’r prynwr gynnwys datganiad yn y ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad o dan sylw sy’n esbonio sut y bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2B).”
(4) Yn is-baragraff (4)—
(a) ym mharagraff (b)—
(i) ar ôl “trafodiad tir arall” mewnosoder “(“y trafodiad gwaredu”)”;
(ii) yn lle “y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith” rhodder “y cyfnod a ganiateir”;
(b) ym mharagraff (c), yn lle “trafodiad tir arall hwnnw” rhodder “trafodiad gwaredu”.
(5) Ar ôl is-baragraff (4), mewnosoder—“
(4A) At ddibenion is-baragraff (4)(b), ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—
(a) y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, neu
(b) unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith sy’n hwy na 3 blynedd os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (4B) neu is-baragraff (4C).
(4B) Yr amodau yw—
(a) daeth cyfyngiad perthnasol i rym yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith (“y cyfnod perthnasol”),
(b) cafodd y cyfyngiad perthnasol effaith andwyol sylweddol ar allu’r prynwr neu briod, cyn-briod, partner sifil neu gyn-bartner sifil y prynwr i waredu’r prif fuddiant yn yr annedd a werthir cyn diwedd y cyfnod perthnasol, ac
(c) ymrwymir i’r trafodiad gwaredu—
(i) ar neu ar ôl 12 Gorffennaf 2024, a
(ii) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(4C) Yr amodau yw—
(a) ar ddyddiad cael effaith y caffaeliad o’r prif fuddiant gan y prynwr neu briod, cyn-briod, partner sifil neu gyn-bartner sifil y prynwr yn yr annedd a werthir, roedd gan yr annedd a werthir ddiffyg diogelwch tân na allai rhywun a oedd yn prynu’r buddiant fod wedi gwybod amdano yn rhesymol,
(b) roedd gan berson perthnasol ddyletswydd (i unrhyw raddau) i unioni’r diffyg diogelwch tân, ac
(c) naill ai—
(i) nad oedd y diffyg diogelwch tân wedi ei unioni ar y dyddiad y mae’r trafodiad gwaredu yn cael effaith, neu
(ii) pan oedd y diffyg diogelwch tân wedi ei unioni ar y dyddiad y mae’r trafodiad gwaredu yn cael effaith, ymrwymwyd i’r trafodiad gwaredu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r diffyg diogelwch tân gael ei unioni.
(4D) Yn is-baragraff (4C)—
 ystyr “diffyg diogelwch tân” (“fire safety defect”), mewn perthynas ag annedd a werthir, yw diffyg diogelwch tân sy’n debygol o—
(a) lleihau’n sylweddol nifer y personau sydd â diddordeb mewn prynu’r annedd a werthir na phe na bai ganddo’r diffyg, neu
(b) gostwng yn sylweddol werth marchnadol yr annedd a werthir na phe na bai ganddo’r diffyg;ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—
(a) pan fo’r prif fuddiant yn yr annedd a werthir yn fuddiant lesddaliad—
(i) landlord y person a oedd â’r prif fuddiant, neu
(ii) datblygwr yr annedd a werthir;
(b) pan fo’r prif fuddiant yn yr annedd a werthir yn fuddiant rhydd-ddaliad mewn tir cyfunddaliad—
(i) y gymdeithas cyfunddaliad ar gyfer yr annedd a werthir, neu
(ii) datblygwr yr annedd a werthir;
(c) pan fo’r prif fuddiant yn yr annedd a werthir yn fuddiant rhydd-ddaliad (ac eithrio buddiant mewn tir cyfunddaliad), ddatblygwr yr annedd a werthir.
(4E) Yn y diffiniad o “person perthnasol” yn is-baragraff (4D), nid yw “datblygwr” yn cynnwys datblygwr sydd hefyd y person a oedd â’r prif fuddiant.”
(6) Yn is-baragraff (5), yn lle “trafodiad tir arall hwnnw” rhodder “trafodiad gwaredu”.
Diwygio Rhan 3 o Atodlen 5 (Prynwr sy’n unigolyn: trafodiadau anheddau lluosog) i’r Ddeddf TTT
4 

(1) Mae paragraff 17 o Atodlen 5 i’r Ddeddf TTT wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

Diwygio paragraff 23 o Atodlen 5 (Darpariaeth bellach mewn cysylltiad â’r eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa) i’r Ddeddf TTT
5 

(1) Mae paragraff 23 o Atodlen 5 i’r Ddeddf TTT wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl is-baragraff (6), mewnosoder—“
(7) Os yw’r dyddiad y mae’r trafodiad gwaredu (o fewn ystyr paragraff 8(4)(b)) yn cael effaith o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 8(4A)(b) yn rhinwedd bodloni’r amodau ym mharagraff 8(4B)—
(a) mae adran 78 o DCRhT yn gymwys at ddibenion is-baragraff (6) fel pe bai “12 mis sy’n dechrau â dyddiad cael effaith y trafodiad gwaredu (o fewn ystyr paragraff 8(4)(b) o Atodlen 5 i DTTT) a thrwy gyfeirio ato y mae’r trafodiad o dan sylw (o fewn ystyr paragraff 23(1) o’r Atodlen honno) yn peidio â bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b) o DTTT.” wedi ei roi yn lle “4 blynedd” hyd at y diwedd;
(b) rhaid i’r hawliad esbonio sut y bodlonir yr amodau ym mharagraff 8(4B).
(8) Os yw’r dyddiad y mae’r trafodiad gwaredu (o fewn ystyr paragraff 8(4)(b)) yn cael effaith o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 8(4A)(b) yn rhinwedd bodloni’r amodau ym mharagraff 8(4C)—
(a) mae adran 78 o DCRhT yn gymwys at ddibenion is-baragraff (6) fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle “4 blynedd” hyd at y diwedd, sef “12 mis sy’n dechrau ag—
(i) dyddiad cael effaith y trafodiad gwaredu (o fewn ystyr paragraff 8(4)(b) o Atodlen 5 i DTTT) a thrwy gyfeirio ato y mae’r trafodiad o dan sylw (o fewn ystyr paragraff 23(1) o’r Atodlen honno) yn peidio â bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b) o DTTT os yw’r dyddiad y mae’r trafodiad gwaredu yn cael effaith ar neu ar ôl 12 Gorffennaf 2024, neu
(ii) 12 Gorffennaf 2024 os yw dyddiad cael effaith y trafodiad gwaredu (o fewn ystyr paragraff 8(4)(b) o Atodlen 5 i DTTT) a thrwy gyfeirio ato y mae’r trafodiad o dan sylw (o fewn ystyr paragraff 23(1) o’r Atodlen honno) yn peidio â bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b) o DTTT ar neu ar ôl 1 Ebrill 2021 ond cyn 12 Gorffennaf 2024.”;
(b) rhaid i’r hawliad esbonio sut y bodlonir yr amodau ym mharagraff 8(4C).
(9) Os yw’r dyddiad y mae’r trafodiad gwaredu (o fewn ystyr paragraff 17(4)(b)) yn cael effaith o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 17(4A)(b) yn rhinwedd bodloni’r amodau ym mharagraff 17(4B)—
(a) mae adran 78 o DCRhT yn gymwys at ddibenion is-baragraff (6) fel pe bai “12 mis sy’n dechrau â dyddiad cael effaith y trafodiad gwaredu (o fewn ystyr paragraff 17(4)(b) o Atodlen 5 i DTTT) a thrwy gyfeirio ato y mae’r trafodiad o dan sylw (o fewn ystyr paragraff 23(1) o’r Atodlen honno) yn peidio â bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b) o DTTT.” wedi ei roi yn lle “4 blynedd” hyd at y diwedd;
(b) rhaid i’r hawliad esbonio sut y bodlonir yr amodau ym mharagraff 17(4B).
(10) Os yw’r dyddiad y mae’r trafodiad gwaredu (o fewn ystyr paragraff 17(4)(b)) yn cael effaith o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 17(4A)(b) yn rhinwedd bodloni’r amodau ym mharagraff 17(4C)—
(a) mae adran 78 o DCRhT yn gymwys at ddibenion is-baragraff (6) fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle “4 blynedd” hyd at y diwedd, sef “12 mis sy’n dechrau ag—
(i) dyddiad cael effaith y trafodiad gwaredu (o fewn ystyr paragraff 17(4)(b) o Atodlen 5 i DTTT) a thrwy gyfeirio ato y mae’r trafodiad o dan sylw (o fewn ystyr paragraff 23(1) o’r Atodlen honno) yn peidio â bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b) o DTTT os yw’r dyddiad y mae’r trafodiad gwaredu yn cael effaith ar neu ar ôl 12 Gorffennaf 2024, neu
(ii) 12 Gorffennaf 2024 os yw dyddiad cael effaith y trafodiad gwaredu (o fewn ystyr paragraff 17(4)(b) o Atodlen 5 i DTTT) a thrwy gyfeirio ato y mae’r trafodiad o dan sylw (o fewn ystyr paragraff 23(1) o’r Atodlen honno) yn peidio â bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b) o DTTT ar neu ar ôl 1 Ebrill 2021 ond cyn 12 Gorffennaf 2024.”;
(b) rhaid i’r hawliad esbonio sut y bodlonir yr amodau ym mharagraff 17(4C).”
Diwygio paragraff 35 o Atodlen 5 (Anheddau y tu allan i Gymru) i’r Ddeddf TTT
6 

(1) Mae paragraff 35 o Atodlen 5 i’r Ddeddf TTT wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-baragraff (3)(d), hepgorer “ac”.
(3) Ar ôl is-baragraff (3)(e), mewnosoder—“
(f) mae cyfeiriadau at “cyfyngiadau perthnasol” yn gyfeiriadau at wahardd neu gyfyngu ar unrhyw weithgaredd drwy gyfraith y wlad neu’r diriogaeth honno neu gan awdurdod cyhoeddus y wlad neu’r diriogaeth honno yn rhinwedd cyfraith o’r fath at ddiben atal a rheoli neu liniaru effeithiau argyfwng, ac
(g) mae’r cyfeiriad at “argyfwng” ym mharagraff (f), os yw’r annedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, i’w ddehongli fel pe bai pob cyfeiriad at y Deyrnas Unedig yn adran 19(1) o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (p. 36) yn gyfeiriad at y wlad neu’r diriogaeth y mae’r annedd ynddi.”
(4) Yn is-baragraff (4)—
(a) yn lle paragraff (b), rhodder—“
(b) paragraff 8(2)(b), (c), (d) ac (e); paragraff 8(2A)(a) a (b); paragraff 8(2B)(a) ac (c); paragraff 8(4)(b), (c) a (d); paragraff 8(4A)(a) a (b); paragraff 8(4B)(a) ac (c) a pharagraff 8(4C)(a),”;
(b) yn lle paragraff (e), rhodder—“
(e) paragraff 17(2)(b), (c), (d) ac (e); paragraff 17(2A)(a) a (b); paragraff 17(2B)(a) ac (c); paragraff 17(4)(b), (c) a (d); paragraff 17(4A)(a) a (b); paragraff 17(4B)(a) ac (c) a pharagraff 17(4C)(a),”.
Diffinio “argyfwng”, “awdurdod cyhoeddus” a “cyfyngiad perthnasol” at ddibenion Atodlen 5 i’r Ddeddf TTT
7 
Ar ôl paragraff 37 o Atodlen 5 i’r Ddeddf TTT, mewnosoder—“
Ystyr argyfwng, awdurdod cyhoeddus a cyfyngiad perthnasol
38. 

(1) At ddibenion yr Atodlen hon—
 mae i “argyfwng” yr ystyr a roddir i “emergency” gan adran 19 o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (p. 36) ac nid yw wedi ei gyfyngu i ddigwyddiadau na sefyllfaoedd y mae pwerau’n cael eu harfer o dan y Ddeddf honno mewn perthynas â hwy;
 ystyr “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yw person sy’n cyflawni swyddogaeth o natur gyhoeddus;
 ystyr “cyfyngiad perthnasol” (“relevant restriction”) yw gwahardd neu gyfyngu ar unrhyw weithgaredd drwy ddeddfiad, neu gan awdurdod cyhoeddus yn rhinwedd deddfiad, at ddiben atal, rheoli neu liniaru effeithiau argyfwng.
(2) Yn is-baragraff (1) nid yw “cyfyngiad perthnasol” yn cynnwys gwaharddiad na chyfyngiad a beidiodd â chael effaith cyn 12 Gorffennaf 2024.”
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet, un o Weinidogion Cymru
10 Gorffennaf 2024