
2024 Rhif 789 (Cy. 123) (C. 50)
Amaethyddiaeth, Cymru
Gorchymyn Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024
Gwnaed 9 Gorffennaf 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 56(4) o Gorchymyn Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.
RHAN 1 Y darpariaethau sy’n dod i rym
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 15 Gorffennaf
2 
Daw adran 24 o’r Ddeddf i rym ar 15 Gorffennaf.
Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Gorffennaf 2024