
2024 Rhif 788 (Cy. 122) (C. 49)
Landlord A Thenant, Cymru
Rheoliadau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2024
Gwnaed 9 Gorffennaf 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 57(3)(a) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2024.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2024
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (“Deddf 2020”) i rym ar 1 Medi 2024—
(a) paragraffau 10 i 16 o Atodlen 3 (olyniaeth ar farwolaeth neu ymddeoliad: amod sy’n ymwneud â meddiannu uned fasnachol),
(b) paragraff 18 o Atodlen 3 (olyniaeth ar farwolaeth neu ymddeoliad: amod sy’n ymwneud ag addasrwydd), ac
(c) adran 36, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b).
Darpariaeth Drosiannol
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys i unrhyw gais i’r Tribiwnlys a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf 1986 am gyfarwyddyd sy’n rhoi i’r ceisydd hawlogaeth i denantiaeth daliad amaethyddol ar farwolaeth neu ymddeoliad tenant pan fo dyddiad y farwolaeth neu’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad am yr ymddeoliad, fel y bo’n gymwys, cyn 1 Medi 2024.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw gais y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, mae Rhan 4 o Ddeddf 1986 yn parhau i fod yn gymwys ar ac ar ôl 1 Medi 2024 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y dyddiad hwnnw, fel pe bai’r diwygiadau a wnaed gan baragraffau 10 i 16 o Atodlen 3 i Ddeddf 2020 heb ddod i rym.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 mae “cais” (“application”) yn cynnwys unrhyw achos sy’n deillio o unrhyw gais o’r fath neu unrhyw gyfarwyddyd a roddir mewn unrhyw achos o’r fath;
 ystyr “Deddf 1986” (“the 1986 Act”) yw Deddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(4) Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y rheoliad hwn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Rhan 4 o Ddeddf 1986 yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn y Rhan honno.
Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Gorffennaf 2024