
2024 Rhif 775 (Cy. 116)
Llesiant, Cymru
Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024
Gwnaed 27 Mehefin 2024
Yn dod i rym 30 Mehefin 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 52(1)(a), 54(1)(b) a 54(3)(b) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r cyrff cyhoeddus a restrir o dan reoliad 2, fel sy’n ofynnol o dan adran 52(4) o’r Ddeddf.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 54(4)(a) o’r Ddeddf.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2024.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Diwygio adran 6 o’r Ddeddf
2 

(1) Mae adran 6(1) (ystyr “corff cyhoeddus”) o’r Ddeddf wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (d)(ii) mewnosoder—“
(iii) Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;”.
(3) Ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“
(da) yr awdurdodau iechyd arbennig a ganlyn a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006—
(i) Iechyd a Gofal Digidol Cymru;
(ii) Addysg a Gwella Iechyd Cymru;”.
(4) Ar ôl paragraff (l) mewnosoder—“
(m) Gofal Cymdeithasol Cymru;
(n) Awdurdod Cyllid Cymru;
(o) Trafnidiaeth Cymru (sef Transport for Wales (rhif y cwmni 09476013));
(p) Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (sef Centre for Digital Public Services Limited (rhif y cwmni 09341679));
(q) Cymwysterau Cymru.”
Gosod a chyhoeddi amcanion llesiant ar gyfer cyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf gan reoliad 2
3 
Wrth ei gymhwyso i’r cyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf gan reoliad 2, mae paragraff (a) o adran 9(2) (amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r paragraff hwnnw—“
(a) heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2025, a”.
Ymchwiliad ac adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn perthynas â chyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf gan reoliad 2
4 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys am y cyfnod—
(a) sy’n dechrau ar 30 Mehefin 2024, a
(b) sy’n dod i ben ar y dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
(2) Mae adran 15 o’r Ddeddf yn cael effaith mewn perthynas â’r cyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf gan reoliad 2 fel pe bai’r is-adran ganlynol wedi ei rhoi yn lle is-adran (6)—“
(6) Mae’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-adrannau (2) a (3)—
(a) yn dechrau ar 30 Mehefin 2024, a
(b) yn dod i ben ar y dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.”
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2024