
2024 Rhif 763 (Cy. 111)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2024
Gwnaed 24 Mehefin 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 26 Mehefin 2024
Yn dod i rym 1 Awst 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(1)(a), (2)(g) a (3)(d) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2024.
Cymhwyso
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2024/2025.
Dehongli
3 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “Atebolrwydd sydd heb ei Dalu” (“Outstanding Liability”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7;
 ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad a geir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2024/2025 o dan Ran 6 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 neu o dan Ran 8 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 mewn cysylltiad â chwrs llawnamser;
 ystyr “benthyciwr” (“borrower”) yw person sydd wedi cael benthyciad at gostau byw;
 ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Medi, 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr, ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf, neu ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst, yn y drefn honno;
 ystyr “Blwyddyn Academaidd 2024/2025” (“Academic Year 2024/2025”) yw blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2024 ond cyn 1 Medi 2025;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
 ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Gwerthu Benthyciadau Myfyrwyr 2008;
 ystyr “Dyddiad Ad-dalu” (“Repayment Date”) yw’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod ad-daliad cyntaf y benthyciwr ar ei fenthyciad wedi ei gael naill ai gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi neu gan Weinidogion Cymru, pa un bynnag yr ystyrir iddo ei gael gyntaf (yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998);
 mae i “Dyddiad Bodloni” (“Satisfaction Date”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 9;
 mae “Gweinidogion Cymru” (“Welsh Ministers”) yn cynnwys unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi dirprwyo eu swyddogaethau iddo o dan adran 23 o Ddeddf 1998 neu unrhyw berson y maent wedi trosglwyddo eu hawliau iddo o dan adran 9 o Ddeddf 2008;
 mae i “Swm Penodedig” (“Specified Amount”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6.
Y cymhwyster ar gyfer dileu
4 
Mae benthyciwr yn gymwys i gael y Swm Penodedig o’i Atebolrwydd sydd heb ei Dalu wedi ei ddileu yn yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 5 (“yr Amgylchiadau”).
Yr Amgylchiadau
5 
Yr Amgylchiadau at ddibenion rheoliad 4 yw bod Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar y Dyddiad Ad-dalu—
(a) nad yw’r benthyciwr wedi torri unrhyw rwymedigaeth a geir mewn unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr neu mewn unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998,
(b) nad oes gan y benthyciwr gosbau, costau, treuliau neu ffioedd sydd heb eu talu mewn perthynas ag unrhyw fenthyciad o’r fath yn unol ag unrhyw gytundeb neu unrhyw reoliadau o’r fath, ac
(c) na ddilëwyd (gan gynnwys dilead o £0.00) o dan un o’r Rheoliadau a restrir yn yr Atodlen unrhyw atebolrwydd sydd gan y benthyciwr i dalu mewn cysylltiad â benthyciad a gafwyd gan Weinidogion Cymru.
Y Swm Penodedig
6 
Y Swm Penodedig yw’r swm lleiaf o’r canlynol—
(a) £1,500, neu
(b) yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu.
Yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu
7 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm yr ystyrir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Ad-dalu mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm sy’n fwy na’r swm y mae gan y benthyciwr hawlogaeth iddo, unrhyw log sydd wedi cronni nac unrhyw gosbau, unrhyw gostau, unrhyw dreuliau neu unrhyw ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.
(2) At ddibenion rheoliad 9, yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm yr ystyrir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Bodloni mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm sy’n fwy na’r swm y mae gan y benthyciwr hawlogaeth iddo, unrhyw log sydd wedi cronni nac unrhyw gosbau, unrhyw gostau, unrhyw dreuliau neu unrhyw ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.
(3) At ddibenion cyfrifo’r Atebolrwydd sydd heb ei Dalu ym mharagraffau (1) a (2), cyfrifir y swm yr ystyrir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr yn unol â rheoliadau a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 1998.
Dileu
8 
O dan yr Amgylchiadau yn rheoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru ddileu’r Swm Penodedig gydag effaith o’r Dyddiad Ad-dalu.
9 
Os oes unrhyw un neu ragor o’r Amgylchiadau yn rheoliad 5 heb ei fodloni neu heb eu bodloni ar y Dyddiad Ad-dalu, ond ei fod yn cael ei fodloni neu eu bod yn cael eu bodloni ar ddyddiad diweddarach, caiff Gweinidogion Cymru ddileu’r Swm Penodedig gydag effaith o’r dyddiad y maent yn ystyried y cafodd yr Amgylchiadau eu bodloni (“y Dyddiad Bodloni”).
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2024
YR ATODLEN
Rheoliad 5
1 
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2010.
2 
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2011.
3 
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2012.
4 
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2013.
5 
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2014.
6 
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2015.
7 
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2016.
8 
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2017.
9 
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2018.
10 
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2019.
11 
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2020.
12 
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2021.
13 
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2022.
14 
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2023.