
2024 Rhif 758 (Cy. 109)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2024
Gwnaed 19 Mehefin 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 21 Mehefin 2024
Yn dod i rym 1 Awst 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 253A(2)(c) ac adran 262(3)(c) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2024.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2017” yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) 2017.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
3 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau 2017, yn y diffiniad o “darparwr dysgu” ar ôl “Weinidogion Cymru” mewnosoder “neu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.
4 
Yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau 2017—
(a) yn lle “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” rhodder “Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”;
(b) yn lle “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr” rhodder “Y Swyddfa Fyfyrwyr”.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
19 Mehefin 2024