
2024 Rhif 753 (Cy. 105)
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024
Gwnaed 11 Mehefin 2024
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(3) a (4)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1), 15(4), 25, 83(2) ac 88(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
RHAN 1 Rhagarweiniol
Enwi, cymhwyso a dod i rym
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r erthygl hon ac erthyglau 2 i 34 ac erthyglau 42 i 48 i rym ar 1 Gorffennaf 2024.
(4) Daw erthyglau 35 i 41 i rym ar 1 Gorffennaf 2025.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “anifail buchol” (“bovine animal”) yw anifail domestig o’r genws Bos neu’r rhywogaeth Bubalus bubalis neu Bison bison;
 mae i “arolygydd” yr un ystyr ag “inspector” yn adran 89 o’r Ddeddf;
 mae i “arolygydd milfeddygol” yr un ystyr â “veterinary inspector” yn adran 89 o’r Ddeddf;
 ystyr “buches” (“bovine herd”) yw grŵp o ddau anifail buchol neu ragor;
 ystyr “BVD” (“BVD”) yw dolur rhydd feirysol buchol;
 ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw’r person sydd â gofal o ddydd i ddydd am anifail buchol, ac mae’r person hwnnw’n parhau i fod y ceidwad pan roddir yr anifail o dan reolaeth person arall dros dro (gan gynnwys pan y’i rhoddir o dan reolaeth cludwr);
 ystyr “daliad” (“holding”) yw daliad neu ran o ddaliad y mae rhif CPH wedi ei roi iddo;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul nac yn ddiwrnod a bennir fel gŵyl banc ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981;
 ystyr “feirws BVD” (“BVDV”) yw feirws BVD;
 ystyr “labordy cymeradwy” (“approved laboratory”) yw labordy a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 8;
 ystyr “llo” (“calf”) yw anifail buchol 18 mis oed neu’n iau;
 ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw dir, unrhyw adeilad neu unrhyw gerbyd, o unrhyw ddisgrifiad;
 ystyr “milfeddyg cymeradwy” (“approved veterinary surgeon”) yw milfeddyg a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 7;
 ystyr “rhif CPH” (“CPH number”) yw rhif y daliad ym mhlwyf y sir, a roddir i ddaliad neu ran o ddaliad gan Weinidogion Cymru;
 ystyr “rhif tag clust swyddogol” (“official ear tag number”) yw’r rhif sydd wedi ei argraffu ar dag clust swyddogol;
 ystyr “statws BVD ar y cyd” (“collective BVD status”) yw statws BVD buches fel y’i penderfynir yn unol ag erthygl 20;
 ystyr “statws BVD unigol” (“individual BVD status”) yw statws BVD anifail buchol unigol fel y’i penderfynir yn unol ag erthygl 19;
 ystyr “tag clust swyddogol” (“official ear tag”) yw tag clust a osodir o dan Reoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007;
 ystyr “tag rheoli” (“management tag”) yw tag clust, ac eithrio tag clust swyddogol, sy’n addas i’w osod ar anifail buchol at ddiben cymryd sampl o feinwe.
Estyn y diffiniad o “disease”
3 
Mae’r diffiniad o “disease” yn adran 88(1) o’r Ddeddf wedi ei estyn i gynnwys BVD.
Hysbysiadau ac offerynnau eraill
4 

(1) O ran unrhyw hysbysiad, unrhyw drwydded neu unrhyw gymeradwyaeth a roddir gan Weinidogion Cymru neu arolygydd o dan y Gorchymyn hwn—
(a) rhaid ei roi neu ei rhoi mewn ysgrifen,
(b) caiff fod yn ddarostyngedig i amodau, ac
(c) oni phennir fel arall, caniateir ei ddiwygio neu ei diwygio, ei atal dros dro neu ei hatal dros dro neu ei ddirymu neu ei dirymu mewn ysgrifen ar unrhyw adeg.
(2) Pan fo unrhyw beth o dan y Gorchymyn hwn i’w wneud mewn ysgrifen, mae hynny’n cynnwys cyfathrebiad electronig fel y diffinnir “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000, sydd wedi ei recordio ac yn gallu cael ei atgynhyrchu o ganlyniad i hynny.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy’n symud anifail buchol o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan y Gorchymyn hwn—
(a) cadw’r drwydded neu gopi ohoni gydag ef bob amser yn ystod y symudiad,
(b) dangos y drwydded neu gopi ohoni pan fydd arolygydd milfeddygol, arolygydd neu un o swyddogion Llywodraeth Cymru yn gofyn amdani neu amdano, a chaniatáu cymryd copi ohoni neu ohono, ac
(c) cadw’r drwydded neu gopi ohoni am y cyfnod o 6 mis ar ôl i’r symudiad gael ei gwblhau.
Cydymffurfio â’r Gorchymyn hwn
5 

(1) Caiff y ceidwad presennol ddibynnu ar unrhyw waith samplu a wnaed gan geidwad blaenorol at ddibenion cydymffurfio â rhwymedigaethau ceidwad o dan y Gorchymyn hwn, os yw’r ceidwad presennol yn dewis gwneud hynny, at ddibenion penderfynu cydymffurfedd gan y ceidwad presennol â’r rhwymedigaethau yn y Gorchymyn hwn.
(2) Caiff y ceidwad, os yw’n dewis gwneud hynny, gyflawni unrhyw rwymedigaeth sydd ar geidwad o dan y Gorchymyn hwn i gymryd neu gyflwyno sampl drwy drefnu i berson arall gymryd neu gyflwyno’r sampl ar ei ran.
Costau cydymffurfio
6 
Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo fel arall mewn ysgrifen, rhaid i’r costau y mae unrhyw berson yn mynd iddynt wrth gymryd unrhyw gamau sy’n ofynnol, neu wrth ymatal rhag cymryd camau a waherddir, gan neu o dan y Gorchymyn hwn gael eu talu gan y person hwnnw.
RHAN 2 Cymeradwyo milfeddygon a labordai
Cymeradwyo milfeddygon
7 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo unrhyw filfeddyg y maent yn ystyried ei fod yn addas at ddibenion cyflawni’r swyddogaethau a roddir i filfeddyg cymeradwy gan y Gorchymyn hwn.
(2) At ddiben penderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth o dan yr erthygl hon, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i filfeddyg gwblhau’r cyfryw hyfforddiant y maent yn ystyried ei fod yn angenrheidiol.
(3) Rhaid i filfeddyg cymeradwy gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r gymeradwyaeth.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad a roddir i’r milfeddyg atal dros dro neu ddirymu cymeradwyaeth a roddir o dan yr erthygl hon.
(5) Mae atal dros dro gymeradwyaeth o dan yr erthygl hon yn para am y cyfnod hwnnw, neu hyd nes y cymerir y camau hynny, a bennir gan Weinidogion Cymru yn yr hysbysiad.
(6) Caiff milfeddyg cymeradwy drwy hysbysiad a roddir i Weinidogion Cymru nodi nad yw’r milfeddyg yn dymuno bod wedi ei gymeradwyo mwyach, ac os felly mae’r gymeradwyaeth yn peidio â chael effaith ar y dyddiad y daw’r hysbysiad hwnnw i law Gweinidogion Cymru.
Cymeradwyo labordai
8 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo unrhyw labordy y maent yn ystyried ei fod yn addas at ddiben profi samplau a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn.
(2) At ddiben penderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth o dan yr erthygl hon, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i weithredwr labordy drefnu neu ganiatáu’r arolygiadau hynny a’r profion sicrhau ansawdd hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(3) Rhaid i weithredwr labordy cymeradwy gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r gymeradwyaeth.
Cadw cofnodion a datgelu gan labordai cymeradwy
9 

(1) Rhaid i weithredwr labordy cymeradwy gadw cofnod o unrhyw brawf a gynhelir o dan y Gorchymyn hwn am 3 blynedd o ddyddiad pob prawf.
(2) Rhaid i weithredwr y labordy cymeradwy ddarparu copi o unrhyw gofnodion prawf i Weinidogion Cymru ar gais.
Atal dros dro a dirymu cymeradwyaeth labordai
10 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad a roddir i weithredwr labordy cymeradwy atal dros dro neu ddirymu cymeradwyaeth a roddir o dan erthygl 8—
(a) os ydynt yn ystyried nad yw’r labordy cymeradwy yn addas mwyach at ddiben profi samplau a gyflwynir iddo o dan y Gorchymyn hwn, neu
(b) os oes ganddynt reswm i gredu na chydymffurfiwyd, neu na chydymffurfir, ag unrhyw un neu ragor o amodau’r gymeradwyaeth.
(2) At ddiben penderfynu a ddylid atal dros dro neu ddirymu cymeradwyaeth, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y labordy drefnu neu ganiatáu’r arolygiadau hynny a’r profion sicrhau ansawdd hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(3) Mae atal dros dro gymeradwyaeth yn para am y cyfnod hwnnw a bennir gan Weinidogion Cymru wrth atal dros dro y gymeradwyaeth.
(4) Caiff gweithredwr labordy cymeradwy drwy hysbysiad a roddir i Weinidogion Cymru nodi nad yw’r gweithredwr yn dymuno i’r labordy fod wedi ei gymeradwyo mwyach, ac os felly mae’r gymeradwyaeth yn peidio â chael effaith ar y dyddiad daw’r hysbysiad hwnnw i law Gweinidogion Cymru.
RHAN 3 Gofynion samplu a hysbysu
Samplu wedi ei gyfyngu i filfeddygon cymeradwy
11 

(1) Ni chaiff ceidwad gymryd (na threfnu cymryd) sampl y cyfeirir ati ym mharagraff (2) oni chymerir y sampl gan filfeddyg cymeradwy, neu o dan oruchwyliaeth milfeddyg cymeradwy.
(2) Y samplau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn yw—
(a) sampl o waed o unrhyw anifail buchol, neu
(b) unrhyw sampl o anifail buchol pan fo gan yr anifail hwnnw statws BVD unigol positif.
Cyflwyno samplau i’w profi
12 
Rhaid i samplau a gymerir o anifail buchol i’w profi o dan y Gorchymyn hwn—
(a) cael eu cyflwyno i labordy cymeradwy,
(b) cael eu cyflwyno yn unol â’r gofynion hynny o ran storio, trin ac amseru y nodir eu bod yn angenrheidiol ar gyfer profi’r sampl yn effeithiol gan weithredwr y labordy y mae’r sampl i’w chyflwyno iddo neu, yn ôl y digwydd, y cyfarwyddiadau sy’n dod gyda’r cyfarpar a ddefnyddir i gymryd y sampl, a
(c) dod gyda hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(i) enw a chyfeiriad y ceidwad,
(ii) disgrifiad o’r sampl,
(iii) y dyddiad y cymerwyd y sampl,
(iv) y rhif CPH ar gyfer y daliad yr oedd y fuches yn cael ei chadw neu’r anifail yn cael ei gadw arno ar yr adeg y cymerwyd y sampl,
(v) manylion cyswllt y milfeddyg, a
(vi) unrhyw wybodaeth arall y gofynnir amdani’n rhesymol gan weithredwr y labordy.
Samplau tag clust o feinwe
13 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae sampl tag clust o feinwe wedi ei chymryd yn unol â’r erthygl hon os caiff ei thynnu o’r anifail buchol o dag clust swyddogol neu dag rheoli ac os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.
(2) Yr amodau yw—
(a) rhaid i’r llestr a ddefnyddir i gasglu’r sampl fod â rhif adnabod wedi ei argraffu arno ymlaen llaw sydd yn union yr un fath â’r rhif tag clust swyddogol neu’r rhif ar y tag rheoli (yn ôl y digwydd), a
(b) rhoddir hysbysiad o’r rhif adnabod ynghyd â rhif tag clust yr anifail pan gyflwynir y sampl.
(3) Ni chaiff y ceidwad gymryd, na threfnu cymryd, sampl tag clust o feinwe o unrhyw anifail buchol y casglwyd sampl ohono yn flaenorol o dag rheoli at ddiben ei chyflwyno ar gyfer samplu o dan y Gorchymyn hwn.
(4) Pan gymerir sampl o feinwe o lo, rhaid cymryd y sampl o dag clust swyddogol oni bai—
(a) bod sampl o feinwe wedi ei chymryd o’r llo yn flaenorol o dag clust swyddogol, ac os felly rhaid cymryd y sampl o dag rheoli, neu
(b) bod y llo wedi marw cyn cymryd y sampl, ac os felly caniateir cymryd y sampl o dag clust swyddogol neu dag rheoli.
(5) At ddibenion yr erthygl hon, mae “casglwyd” yn cynnwys unrhyw ymgais i gasglu sampl.
Tynnu ymaith dagiau rheoli
14 

(1) Rhaid i’r ceidwad dynnu ymaith dag rheoli sydd wedi ei osod ar anifail buchol pan fo’r wybodaeth ar y tag wedi mynd yn annarllenadwy.
(2) Ni chaiff y ceidwad dynnu ymaith dag rheoli at unrhyw ddiben arall ac eithrio—
(a) gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, neu
(b) pan fo angen ei dynnu ymaith er mwyn diogelu lles yr anifail.
Amnewid tagiau rheoli
15 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo tag rheoli—
(a) wedi ei dynnu ymaith yn unol ag erthygl 14, neu
(b) wedi datgysylltu fel arall oddi wrth yr anifail.
(2) Pan fo’r erthygl hon yn gymwys, rhaid i’r ceidwad osod tag amnewid ar yr anifail sy’n cydymffurfio â’r amodau ym mharagraff (3).
(3) Yr amodau yw—
(a) bod rhaid i’r tag amnewid ddwyn yr un rhif adnabod â’r tag rheoli, a
(b) ni chaiff y tag amnewid fod yn dag rheoli.
(4) Rhaid gosod y tag amnewid o fewn 28 o ddiwrnodau (neu unrhyw gyfnod hwy a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru yn yr amgylchiadau) i’r ceidwad ddod yn ymwybodol—
(a) ei bod yn ofynnol tynnu ymaith y tag o dan erthygl 14(1) neu 14(2)(b),
(b) bod Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo tynnu ymaith y tag yn unol ag erthygl 14(2)(a), neu
(c) bod y tag wedi datgysylltu fel arall oddi wrth yr anifail.
(5) Mae’r erthygl hon yn gymwys yn yr un modd i dynnu ymaith ac amnewid unrhyw dag amnewid a osodir yn unol â’r erthygl hon.
Gofynion hysbysu gan weithredwr labordy cymeradwy
16 
Rhaid i weithredwr labordy cymeradwy hysbysu’r ceidwad, Gweinidogion Cymru a’r milfeddyg am ganlyniad prawf o dan erthyglau 28, 31, 34, 37, 40 ac 41 o fewn 5 diwrnod gwaith i ddyddiad y prawf a rhaid cynnwys manylion am—
(a) enw a chyfeiriad y ceidwad,
(b) y disgrifiad o’r sampl,
(c) y dyddiad y cymerwyd y sampl,
(d) y dyddiad y profwyd y sampl,
(e) rhif CPH y daliad yr oedd y fuches yn cael ei chadw neu’r anifail yn cael ei gadw arno ar yr adeg y cymerwyd y sampl neu’r samplau, a
(f) pan fo tag clust wedi ei osod, y rhif tag clust swyddogol o’r tag clust swyddogol.
Hysbysu ceidwaid eraill am BVD ar ddaliad
17 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys—
(a) pan fo anifail buchol â statws BVD unigol positif yn bresennol ar ddaliad, a
(b) pan fo anifail buchol sy’n perthyn i geidwad arall (yn yr erthygl hon “y ceidwad arall”) yn cael ei gadw ar yr un daliad.
(2) Rhaid i’r ceidwad roi hysbysiad i’r ceidwad arall fod anifail buchol â statws BVD unigol positif ar y daliad.
(3) Rhaid rhoi hysbysiad o dan baragraff (2) o fewn 5 diwrnod i’r diweddaraf o’r canlynol—
(a) y dyddiad y mae’r ceidwad yn gwybod (neu y dylai’n rhesymol fod wedi gwybod) fod gan yr anifail statws BVD unigol positif, neu
(b) y dyddiad y mae’r ceidwad arall yn symud anifail buchol i’r daliad.
(4) Pan fo statws BVD unigol yr anifail yn cael ei newid, rhaid i’r ceidwad, o fewn 5 diwrnod i gael hysbysiad gan labordy cymeradwy o newid y statws unigol (neu i ddod yn ymwybodol fel arall o’r newid), roi hysbysiad i’r ceidwad arall o’r newid.
Adrodd ar brofion am bresenoldeb feirws BVD ac eithrio o dan y Gorchymyn hwn
18 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys, ac eithrio at ddibenion y Gorchymyn hwn, pan fo labordy (gan gynnwys labordy cymeradwy) yn profi am dystiolaeth o gysylltiad â feirws BVD, neu am bresenoldeb feirws BVD, mewn sampl (o unrhyw ddisgrifiad) a gymerwyd o anifail buchol.
(2) Rhaid i weithredwr y labordy drwy hysbysiad roi gwybod i Weinidogion Cymru a’r ceidwad, o fewn 5 diwrnod gwaith i brofi’r sampl, am—
(a) disgrifiad o’r sampl,
(b) y dyddiad y profwyd y sampl,
(c) canlyniad y prawf, gan nodi’n glir—
(i) pa un a yw’r sampl yn dangos tystiolaeth o gysylltiad â feirws BVD ai peidio, neu,
(ii) pa un a yw feirws BVD yn bresennol yn y sampl ai peidio, ac
(d) i’r graddau y mae’r gweithredwr yn gwybod—
(i) y rhif tag clust swyddogol,
(ii) enw a chyfeiriad y ceidwad,
(iii) y rhif CPH ar gyfer y daliad yr oedd yr anifail yn cael ei gadw arno ar yr adeg y cymerwyd y sampl, a
(iv) y dyddiad y cymerwyd y sampl.
RHAN 4 Statws BVD
Statws BVD unigol anifeiliaid
19 

(1) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan anifail buchol neu lo naill ai—
(a) statws BVD unigol positif,
(b) statws BVD unigol o haint parhaus,
(c) statws BVD unigol negatif, neu
(d) dim statws BVD unigol.
(2) Yn ddarostyngedig i erthygl 21, mae gan anifail buchol statws BVD unigol positif os yw gweithredwr labordy cymeradwy drwy hysbysiad wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru fod gan yr anifail statws BVD unigol positif o dan erthyglau 31(1)(b)(i), 40(5)(b), 41(4)(b) neu, yn achos llo, erthygl 37(b).
(3) Mae gan anifail buchol statws BVD unigol o haint parhaus os yw gweithredwr labordy cymeradwy drwy hysbysiad wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru fod gan yr anifail statws BVD unigol o haint parhaus o dan erthygl 34(b)(i).
(4) Mae gan anifail buchol statws BVD unigol negatif os yw gweithredwr labordy cymeradwy drwy hysbysiad wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru fod gan yr anifail statws BVD unigol negatif o dan erthyglau 31(1)(a)(i), 34(a)(i), 40(5)(a), 41(4)(a) neu, yn achos llo, erthygl 37(a).
(5) Nid oes gan anifail buchol statws BVD unigol ym mhob achos arall.
Statws BVD ar y cyd buchesi
20 

(1) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan fuches naill ai—
(a) statws BVD ar y cyd nad yw’n negatif,
(b) statws BVD ar y cyd negatif, neu
(c) dim statws BVD ar y cyd.
(2) Yn ddarostyngedig i erthygl 22, mae gan fuches statws BVD ar y cyd nad yw’n negatif—
(a) ar unrhyw adeg pan fo paragraff (4) yn gymwys i’r fuches, neu
(b) pan fo gweithredwr labordy cymeradwy drwy hysbysiad o dan erthyglau 28(b), 31(1)(b)(ii) neu 34(b)(ii) wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru fod gan y fuches statws BVD ar y cyd nad yw’n negatif.
(3) Mae gan fuches statws BVD ar y cyd negatif—
(a) ar unrhyw adeg pan na fo paragraff (4) yn gymwys i’r fuches, a
(b) pan fo gweithredwr labordy cymeradwy drwy hysbysiad o dan erthyglau 28(a), 31(1)(a)(ii) neu 34(a)(ii) wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru fod gan y fuches statws BVD ar y cyd negatif.
(4) Mae’r erthygl hon yn gymwys—
(a) pan fo’r fuches yn cynnwys anifail buchol sydd â statws BVD unigol positif,
(b) pan fo’r fuches yn cynnwys anifail buchol sydd â statws BVD unigol o haint parhaus, neu
(c) pan nad yw ceidwad y fuches wedi cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r rhwymedigaethau sy’n gymwys i’r fuches yn erthygl 25 (Samplu buchesi yn unol â therfynau amser cydymffurfio).
(5) Nid oes gan y fuches statws BVD ar y cyd ym mhob achos arall.
(6) Yn yr erthygl hon, ystyr unrhyw gyfeiriad at “hysbysiad” yw’r hysbysiad diweddaraf a gyflwynwyd gan weithredwr labordy cymeradwy i Weinidogion Cymru o dan erthyglau 28, 31 neu 34.
Newid statws BVD unigol gan filfeddyg cymeradwy
21 
Caiff milfeddyg cymeradwy newid statws BVD unigol anifail buchol o bositif i negatif pan fo’r milfeddyg hwnnw’n ystyried yn rhesymol fod camau pellach wedi eu cymryd neu ymchwiliad pellach wedi ei gynnal sy’n cadarnhau nad yw feirws BVD yn bresennol, neu nad yw’n bresennol mwyach, yn yr anifail hwnnw.
Newid statws BVD ar y cyd gan filfeddyg cymeradwy
22 
Caiff milfeddyg cymeradwy newid statws BVD ar y cyd buches o nad yw’n negatif i negatif pan fo’r milfeddyg hwnnw’n ystyried yn rhesymol—
(a) bod camau pellach wedi eu cymryd neu ymchwiliad pellach wedi ei gynnal i gadarnhau presenoldeb feirws BVD mewn unrhyw anifail sy’n ffurfio rhan o’r fuches, a
(b) o ganlyniad i’r camau hynny neu’r ymchwiliad hwnnw, naill ai nad yw presenoldeb feirws BVD wedi ei gadarnhau mewn unrhyw anifail o’r fath neu, mewn achos pan fo presenoldeb feirws BVD wedi ei gadarnhau mewn unrhyw anifail o’r fath, fod yr anifail hwnnw wedi ei dynnu ymaith o’r fuches a, cyn ei dynnu ymaith, y cafodd yr anifail ei ynysu neu y cymerwyd camau priodol eraill er mwyn lleihau’r risg o ledaenu feirws BVD i unrhyw anifail arall yn y fuches.
Hysbysu am newid statws gan filfeddyg cymeradwy
23 

(1) Rhaid i’r milfeddyg cymeradwy drwy hysbysiad roi gwybod i’r ceidwad a Gweinidogion Cymru am unrhyw newid i statws BVD o dan erthyglau 21 neu 22.
(2) Rhaid rhoi hysbysiad o dan baragraff (1) o fewn 5 diwrnod i benderfyniad y milfeddyg cymeradwy i newid statws BVD a rhaid iddo gynnwys rhif tag clust swyddogol yr anifail neu’r anifeiliaid y mae’r camau pellach wedi eu cymryd neu’r ymchwiliad pellach wedi ei gynnal neu, yn ôl y digwydd, y profion pellach wedi eu cynnal mewn cysylltiad ag ef neu â hwy.
Cyhoeddi statws
24 
Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw wybodaeth ynghylch statws, neu newid statws, fuches neu anifail buchol, ar unrhyw ffurf, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn addas at ddiben helpu personau eraill i ddiogelu rhag lledaeniad BVD.
RHAN 5
Samplu buchesi yn unol â therfynau amser cydymffurfio
25 

(1) Rhaid i geidwad buches, erbyn pob terfyn amser cydymffurfio, drefnu i filfeddyg cymeradwy, neu berson o dan oruchwyliaeth milfeddyg cymeradwy, gymryd samplau o waed i’w profi am gysylltiad â feirws BVD—
(a) o 5 llo unigol rhwng 9 a 18 mis oed yn y grŵp perthnasol, neu
(b) o 10 llo unigol rhwng 0 a 9 mis oed yn y grŵp perthnasol, neu
(c) os nad oes modd cyrraedd y maint sampl yn (a) neu (b), dylai’r milfeddyg gynghori ar faint samplu priodol o’r ystodau oedran sydd ar gael yn y fuches.
(2) At ddibenion yr erthygl hon, ystyr “grŵp perthnasol” yw grwpiau sy’n cael eu lleoli neu eu rheoli ar wahân o fewn buches ond y mae’r un rhif CPH wedi ei roi iddynt gan Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i’r milfeddyg gyflwyno unrhyw samplau a gymerwyd o dan baragraff (1) i labordy cymeradwy i’w profi.
Pennu terfynau amser cydymffurfio
26 

(1) Mae’r terfyn amser cydymffurfio cyntaf yn syrthio—
(a) ar 30 Mehefin 2025 ar gyfer buches a gedwir ar ddaliad yng Nghymru ar y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym, neu
(b) pan ddaw i ben y cyfnod o 30 o ddiwrnodau yn olynol y cedwir buches ar ddaliad yng Nghymru am y tro cyntaf.
(2) Mae pob terfyn amser cydymffurfio dilynol yn syrthio ar ddiwrnod olaf y cyfnod o 12 mis ar ôl hysbysu Gweinidogion Cymru am ganlyniadau’r profion o samplau a gymerwyd o dan erthygl 25.
Profi am gysylltiad â feirws BVD
27 
Pan ddaw sampl gwaed a gymerwyd o dan erthygl 25 i law, rhaid i weithredwr y labordy cymeradwy—
(a) profi pob un o’r samplau am dystiolaeth o gysylltiad â feirws BVD, a
(b) canfod pa un a yw unrhyw un neu ragor o’r samplau yn dangos tystiolaeth o gysylltiad â feirws BVD ai peidio.
Hysbysu am ganlyniadau profion
28 
Ar ôl cwblhau prawf o dan erthygl 27, rhaid i weithredwr y labordy cymeradwy drwy hysbysiad roi gwybod i’r ceidwad, Gweinidogion Cymru a’r milfeddyg am bob canlyniad prawf ac—
(a) pan nad yw’r un o’r samplau yn dangos tystiolaeth o gysylltiad â feirws BVD, fod gan y fuches statws BVD ar y cyd negatif, neu
(b) pan fo unrhyw un neu ragor o’r samplau yn dangos tystiolaeth o gysylltiad â feirws BVD, fod gan y fuches statws BVD ar y cyd nad yw’n negatif.
Samplu ychwanegol o anifeiliaid buchol unigol
29 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo gan fuches statws BVD ar y cyd nad yw’n negatif yn unol ag erthygl 28(b).
(2) Rhaid i’r ceidwad—
(a) cymryd sampl tag clust o feinwe yn unol ag erthygl 13, neu
(b) trefnu i filfeddyg cymeradwy, neu berson o dan oruchwyliaeth milfeddyg cymeradwy, gymryd sampl o waed,
o bob anifail yn y fuches i’w phrofi gan labordy cymeradwy.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i unrhyw anifail sydd â statws BVD unigol negatif.
Cyflwyno a phrofi samplau o anifeiliaid buchol unigol
30 
Pan ddaw sampl a gymerwyd o dan erthygl 29(2) i law gweithredwr y labordy cymeradwy, rhaid iddo—
(a) profi’r sampl am bresenoldeb feirws BVD, a
(b) canfod pa un a yw feirws BVD yn bresennol yn y sampl ai peidio.
Hysbysu am ganlyniadau profion
31 

(1) Ar ôl cwblhau prawf o dan erthygl 30, rhaid i weithredwr y labordy cymeradwy drwy hysbysiad roi gwybod i’r ceidwad, Gweinidogion Cymru a’r milfeddyg am bob canlyniad prawf ac—
(a) pan na fo feirws BVD yn bresennol yn y sampl,
(i) bod gan yr anifail statws BVD unigol negatif, a
(ii) os bydd pob anifail sy’n ffurfio rhan o’r fuches yn dwyn statws BVD unigol negatif, y bydd statws ar y cyd y fuches yn newid i negatif, neu
(b) pan fo feirws BVD yn bresennol yn y sampl—
(i) bod gan yr anifail statws BVD unigol positif, a
(ii) bod gan y fuches y mae’n perthyn iddi statws BVD ar y cyd nad yw’n negatif.
(2) Ym mhob achos arall, nid oes gan yr anifail buchol statws BVD unigol.
Samplu ychwanegol i ganfod haint parhaus â BVD
32 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i—
(a) anifail buchol â statws BVD unigol positif yn unol ag erthygl 31(1)(b)(i) neu erthygl 40(5)(b), a
(b) llo â statws BVD unigol positif yn unol ag erthygl 37(b).
(2) O leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl i sampl gael ei chymryd o dan erthyglau 29(2), 35(2) neu 40(2), rhaid i’r ceidwad drefnu i filfeddyg cymeradwy, neu berson o dan oruchwyliaeth milfeddyg cymeradwy, gymryd o’r anifail—
(a) sampl tag clust o feinwe, neu
(b) sampl o waed,
i’w phrofi gan labordy cymeradwy.
Cyflwyno a phrofi samplau i ganfod haint parhaus â BVD
33 
Pan ddaw sampl a gymerwyd o dan erthygl 32(2) i law gweithredwr y labordy cymeradwy, rhaid iddo—
(a) profi’r sampl am bresenoldeb feirws BVD, a
(b) canfod pa un a yw feirws BVD yn bresennol yn y sampl ai peidio.
Hysbysu am ganlyniadau profion
34 
Ar ôl cwblhau’r prawf o dan erthygl 33, rhaid i weithredwr y labordy cymeradwy drwy hysbysiad roi gwybod i’r ceidwad, Gweinidogion Cymru a’r milfeddyg am bob canlyniad prawf ac—
(a) pan na fo feirws BVD yn bresennol yn y sampl—
(i) bod gan yr anifail statws BVD unigol negatif, a
(ii) os bydd pob anifail sy’n ffurfio rhan o’r fuches yn dwyn statws BVD unigol negatif, y bydd statws ar y cyd y fuches yn newid i negatif, neu
(b) pan fo feirws BVD yn bresennol yn y sampl—
(i) bod gan yr anifail statws BVD unigol o haint parhaus, a
(ii) bod gan y fuches y mae’n perthyn iddi statws BVD nad yw’n negatif.
Samplu lloi a enir i fuchesi â statws BVD ar y cyd nad yw’n negatif
35 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i unrhyw lo, gan gynnwys lloi marwanedig a lloi sydd wedi eu herthylu, a enir i fuches sydd â statws ar y cyd nad yw’n negatif, neu sydd wedi bod â statws ar y cyd nad yw’n negatif yn y 12 mis diwethaf, yn unol ag erthygl 28(b).
(2) Cyn bod y llo yn 20 diwrnod oed, neu hyd y bo’n rhesymol ymarferol o fewn 7 diwrnod pan fo’r llo yn farwanedig neu wedi ei erthylu, rhaid i’r ceidwad gymryd sampl tag clust o feinwe yn unol ag erthygl 13 i’w phrofi gan labordy cymeradwy.
Cyflwyno a phrofi samplau o loi a enir i fuchesi â statws BVD ar y cyd nad yw’n negatif
36 
Pan ddaw sampl a gymerwyd o dan erthygl 35(2) i law gweithredwr y labordy cymeradwy, rhaid iddo—
(a) profi’r sampl am bresenoldeb feirws BVD, a
(b) canfod pa un a yw feirws BVD yn bresennol yn y sampl ai peidio.
Hysbysu am ganlyniadau profion
37 
Ar ôl cwblhau’r prawf o dan erthygl 36, rhaid i weithredwr y labordy cymeradwy drwy hysbysiad roi gwybod i’r ceidwad, Gweinidogion Cymru a’r milfeddyg (pan fo’n berthnasol) am bob canlyniad prawf ac—
(a) pan na fo feirws BVD yn bresennol yn y sampl, fod gan y llo statws BVD unigol negatif, neu
(b) pan fo feirws BVD yn bresennol yn y sampl, fod gan y llo statws BVD unigol positif.
RHAN 6 Cyfyngiadau ar symud ac ynysu anifeiliaid â haint parhaus
Cyfyngiadau ar symud pan fo gan fuches statws BVD ar y cyd nad yw’n negatif
38 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff ceidwad symud anifail buchol oddi ar ddaliad os yw’r anifail yn rhan o fuches sydd â statws BVD ar y cyd nad yw’n negatif.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
(a) os yw’r anifail yn cael ei symud i’w gigydda,
(b) os yw’r symudiad i le ar gyfer triniaeth filfeddygol, ar yr amod y dychwelir yr anifail yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol ar ôl y driniaeth, neu y’i lleddir neu y’i hanfonir yn uniongyrchol i’w gigydda, neu
(c) os yw’r symudiad o dan drwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu Weinidogion Cymru.
Cyfyngiadau ar symud pan fo gan anifail statws BVD unigol positif
39 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff ceidwad symud anifail buchol oddi ar ddaliad os oes gan yr anifail statws BVD unigol positif.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
(a) os yw’r anifail yn cael ei symud i’w gigydda,
(b) os yw’r symudiad i le ar gyfer triniaeth filfeddygol, ar yr amod y dychwelir yr anifail yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol ar ôl y driniaeth, neu y’i lleddir neu y’i hanfonir yn uniongyrchol i’w gigydda,
(c) os yw’r symudiad o dan drwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu Weinidogion Cymru, neu
(d) os oes gan yr anifail statws BVD unigol negatif yn dilyn prawf cyn symud o dan erthygl 40.
Profi cyn symud
40 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i bob anifail buchol mewn buches pan fo gan y fuches honno statws BVD ar y cyd nad yw’n negatif.
(2) Pan fo’r anifail i’w symud oddi ar y daliad, rhaid i’r ceidwad, dim mwy na 30 o ddiwrnodau cyn y symudiad—
(a) trefnu i filfeddyg cymeradwy, neu berson o dan oruchwyliaeth milfeddyg cymeradwy, gymryd sampl tag clust o feinwe yn unol ag erthygl 13, neu
(b) trefnu i filfeddyg cymeradwy, neu berson o dan oruchwyliaeth milfeddyg cymeradwy, gymryd sampl o waed,
o’r anifail i’w phrofi gan labordy cymeradwy.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys os caiff yr anifail ei symud i’w gigydda neu os yw’r symudiad o dan drwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu Weinidogion Cymru.
(4) Pan ddaw sampl a gymerwyd o dan baragraff (2) i law gweithredwr y labordy, rhaid iddo—
(a) profi’r sampl am bresenoldeb feirws BVD, a
(b) canfod pa un a yw feirws BVD yn bresennol yn y sampl ai peidio.
(5) Rhaid i weithredwr y labordy cymeradwy drwy hysbysiad roi gwybod i’r ceidwad, Gweinidogion Cymru a’r milfeddyg am ganlyniad y prawf ac—
(a) pan na fo feirws BVD yn bresennol yn y sampl, fod gan yr anifail statws BVD unigol negatif, neu
(b) pan fo feirws BVD yn bresennol yn y sampl, fod gan yr anifail statws BVD unigol positif.
(6) Ni chaniateir symud unrhyw anifail buchol sydd â statws BVD unigol positif o dan baragraff (5)(b) oddi ar y daliad ac mae’n ddarostyngedig i’r mesurau yn erthyglau 32 a 39 o’r Gorchymyn hwn.
(7) Caniateir symud unrhyw anifail buchol sydd â statws BVD unigol negatif o dan baragraff (5)(a) oddi ar y daliad.
(8) Pan fo anifail buchol i’w symud o’i ddaliad presennol i ddaliad arall, rhaid i geidwad yr anifail roi gwybod i’r ceidwad yn y daliad cyrchu am ganlyniad y prawf o dan baragraff (5) dim mwy na 3 diwrnod cyn symud yr anifail.
Profi ar ôl symud anifeiliaid heb statws BVD unigol hysbys o fuchesi y tu allan i Gymru
41 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i anifeiliaid buchol o’r tu allan i Gymru a symudir i ddaliad yng Nghymru ac nad oes ganddynt statws BVD unigol.
(2) Pan fo’r erthygl hon yn gymwys, rhaid i geidwad, dim mwy nag 20 o ddiwrnodau ar ôl y symudiad i’r daliad—
(a) trefnu i filfeddyg cymeradwy, neu berson o dan oruchwyliaeth milfeddyg cymeradwy, gymryd sampl tag clust o feinwe yn unol ag erthygl 13, neu
(b) trefnu i filfeddyg cymeradwy, neu berson o dan oruchwyliaeth milfeddyg cymeradwy, gymryd sampl o waed,
o’r anifail i’w phrofi gan labordy cymeradwy.
(3) Pan ddaw sampl a gymerwyd o dan baragraff (2) i law gweithredwr y labordy, rhaid iddo—
(a) profi’r sampl am bresenoldeb feirws BVD, a
(b) canfod pa un a yw feirws BVD yn bresennol yn y sampl ai peidio.
(4) Rhaid i weithredwr y labordy cymeradwy drwy hysbysiad roi gwybod i’r ceidwad, Gweinidogion Cymru a’r milfeddyg am ganlyniad y prawf ac—
(a) pan na fo feirws BVD yn bresennol yn y sampl, fod gan yr anifail statws BVD unigol negatif, neu
(b) pan fo feirws BVD yn bresennol yn y sampl, fod gan yr anifail statws BVD unigol positif.
(5) Ni chaniateir symud unrhyw anifail buchol sydd â statws BVD unigol positif oddi ar y daliad ac mae’n ddarostyngedig i’r mesurau yn erthyglau 32 a 39 o’r Gorchymyn hwn.
(6) Pan fo’r erthygl hon yn gymwys, rhaid cadw unrhyw anifail buchol beichiog a symudir i ddaliad wedi ei ynysu oddi wrth anifeiliaid buchol eraill hyd nes—
(a) ei fod wedi bwrw llo, neu
(b) bod ganddo statws BVD unigol negatif o dan baragraff (4)(a).
Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid pan na fo rhwymedigaethau samplu wedi eu cyflawni
42 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i geidwad buches neu anifail buchol os yw’r ceidwad, erbyn dyddiad y terfyn amser cydymffurfio diweddaraf (a osodir yn unol ag erthygl 26), wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’i rwymedigaethau yn erthyglau 25, 29 neu 32 (“rhwymedigaethau cymwys” yn yr erthygl hon).
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, mae gan y fuches statws BVD ar y cyd nad yw’n negatif.
(3) Ni chaiff y ceidwad, yn ystod y cyfnod perthnasol, symud (na threfnu i symud) unrhyw anifail buchol o’r daliad y’i cedwir arno oni bai—
(a) bod yr anifail yn cael ei symud i’w gigydda,
(b) bod y symudiad o dan drwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu Weinidogion Cymru, neu
(c) bod milfeddyg cymeradwy yn ystyried yn rhesymol fod camau pellach wedi eu cymryd neu ymchwiliad pellach wedi ei gynnal sy’n cadarnhau nad yw feirws BVD yn bresennol yn yr anifail, neu nad yw’n bresennol mwyach, a’i fod drwy hysbysiad wedi rhoi gwybod i’r ceidwad a Gweinidogion Cymru am y ffaith honno.
(4) Ym mharagraff (3), “y cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod—
(a) sy’n dechrau â dyddiad y terfyn amser cydymffurfio diweddaraf, a
(b) sy’n dod i ben ar y dyddiad y mae’r ceidwad—
(i) wedi cydymffurfio â phob un o’r rhwymedigaethau cymwys, a
(ii) wedi cael hysbysiad mewn cysylltiad â’r samplau a brofwyd yn unol â’r rhwymedigaethau hynny.
Ynysu anifeiliaid buchol sydd â haint parhaus
43 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i fuches sy’n cynnwys un neu ragor o anifeiliaid buchol â statws BVD unigol o haint parhaus yn unol ag erthygl 34(b).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r ceidwad wahanu’r holl anifeiliaid buchol â statws BVD unigol o haint parhaus oddi wrth weddill y fuches a’u lletya mewn un neu ragor o grwpiau (pob un yn “grŵp â haint parhaus BVD”) yn unol â’r amodau ym mharagraff (3).
(3) Amodau’r paragraff hwn yw—
(a) na chaiff y ceidwad symud yr anifeiliaid oddi ar y daliad, a
(b) bod yr anifeiliaid yn cael eu lletya o dan do ac mewn modd sy’n gyson ag arferion da—
(i) sy’n atal cyswllt corfforol ag, ac
(ii) nad yw’n arwain at unrhyw risg sylweddol o drosglwyddo feirws BVD i,
unrhyw anifail buchol nad yw’n rhan o grŵp haint parhaus BVD.
(4) Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r anifail yn cael ei—
(a) symud i’w gigydda,
(b) symud i le ar gyfer triniaeth filfeddygol, ar yr amod y dychwelir yr anifail yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol ar ôl y driniaeth, neu y’i lleddir neu y’i hanfonir yn uniongyrchol i’w gigydda, neu
(c) symud o dan drwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu Weinidogion Cymru.
(5) Nid yw anifail buchol yn peidio â bod yn rhan o fuches yn rhinwedd ei wahanu oddi wrth weddill y fuches o dan yr erthygl hon.
Ystyr “symud i’w gigydda”
44 

(1) Yn y Rhan hon, pan gaiff unrhyw anifail buchol ei “symud i’w gigydda” mae hyn yn golygu bod yr anifail yn cael ei symud o dan yr amodau a bennir ym mharagraff (2).
(2) Yr amodau yw bod yr anifail yn cael ei symud—
(a) yn uniongyrchol i’w gigydda, a
(b) o dan drefniadau nad ydynt yn arwain at unrhyw risg sylweddol o haint â feirws BVD i unrhyw anifail buchol arall (ac eithrio anifail buchol sydd hefyd yn cael ei symud i’w gigydda).
RHAN 7 Gorfodi
Gorfodi
45 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), gorfodir y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag unrhyw achos penodol neu unrhyw ddosbarth o achos, mai hwy fydd yn gorfodi’r Gorchymyn hwn yn hytrach na’r awdurdod lleol.
Pwerau mynediad
46 

(1) Caiff arolygydd, drwy ddangos awdurdodiad sydd wedi ei ddilysu’n briodol os gofynnir amdano, fynd i unrhyw fangre (ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl fel annedd breifat) ar unrhyw awr resymol at ddiben gorfodi’r Gorchymyn hwn.
(2) Caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant i ganiatáu i arolygydd fynd i unrhyw fangre, gan gynnwys annedd breifat, drwy rym rhesymol os bydd angen hynny, os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—
(a) bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno at ddiben gorfodi’r Gorchymyn hwn, a
(b) bod unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (3) wedi ei fodloni neu eu bodloni.
(3) Yr amodau yw—
(a) bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd,
(b) y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i fwriad mynd i’r fangre,
(c) bod angen mynd i’r fangre ar fyrder, neu
(d) nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.
(4) Caniateir rhoi gwarant am gyfnod o hyd at 3 mis.
(5) Rhaid i arolygydd sy’n mynd i fangre nad yw wedi ei meddiannu, neu y mae ei meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr ydoedd cyn iddo fynd iddi.
Pwerau arolygwyr
47 

(1) Caiff arolygydd sy’n mynd i fangre at ddibenion gorfodi’r Gorchymyn hwn—
(a) arolygu unrhyw anifail neu unrhyw eitem yno;
(b) cymryd samplau;
(c) cynnal unrhyw ymholiadau, unrhyw archwiliadau neu unrhyw brofion;
(d) cael mynediad at unrhyw ddogfennau neu gofnodion perthnasol (ar ba ffurf bynnag y’u cedwir), eu harolygu a’u copïo, a mynd â hwy oddi yno i’w gwneud yn bosibl eu copïo;
(e) arolygu a gwirio gweithrediad, a data ar, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu sydd wedi ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion.
(2) Pan fo arolygydd wedi mynd i fangre ac nad yw’n rhesymol ymarferol penderfynu a yw dogfennau neu gofnodion yn y fangre honno yn berthnasol, caiff yr arolygydd ymafael ynddynt i ganfod pa un a ydynt yn berthnasol ai peidio.
(3) Caiff yr arolygydd—
(a) mynd ag unrhyw gyfarpar neu gerbyd angenrheidiol i’r fangre;
(b) mynd gydag unrhyw bersonau eraill y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
Troseddau gan gyrff corfforedig
48 

(1) Os bydd corff corfforedig yn cyflawni trosedd yn erbyn y Ddeddf ac os dangosir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu ei bod i’w phriodoli i esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw, mae’r swyddog hwnnw yn ogystal â’r corff corfforedig yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2) Os yw materion busnes corff corfforedig yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â’i swyddogaethau rheoli, fel pe bai’r person hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.
(3) Ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff, neu berson sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath.
Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2024