
2024 Rhif 742 (Cy. 103)
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2024
Gwnaed 7 Mehefin 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 11 Mehefin 2024
Yn dod i rym 17 Rhagfyr 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984, a pharagraffau 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy.

Wrth wneud y Rheoliadau hyn mae Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw i’r materion yn adran 1A o’r Ddeddf honno a chyn gwneud y Rheoliadau hyn gwnaethant ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r personau eraill hynny yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn briodol yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984.
Enwi, cymhwyso, a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2024.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Rhagfyr 2024.
Diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010
2 

(1) Mae Rheoliadau Adeiladu 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y diffiniad o “institution”, ym mharagraff (b), yn lle “under the age of five years” rhodder “under the age of 18”.
(3) Yn rheoliad 37A (darparu systemau llethu tân awtomatig)—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) care homes for children, which means places at which a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, is provided wholly or mainly to persons aged under 18, but not—
(i) an institution within the further education sector as defined by section 91(3) of the Further and Higher Education Act 1992;
(ii) a place at which accommodation is provided for the purposes of—(aa) a holiday;(bb) a leisure, recreational, sporting, cultural or educational activity;unless a person under 18 is accommodated there for more than 28 days in any 12 month period;”
(b) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) For the purposes of this regulation a material change of use comprises or includes—
(a) a change of use within regulation 5(a), (b), (c), (d), (g), (h) or (i);
(b) a change in the purposes for which or the circumstances in which a building is used, so that after that change the building is used—
(i) as a building described in paragraph (1)(a) where previously it was used as a building described in paragraph (1)(aa), or
(ii) as a building described in paragraph (1)(aa) where previously it was used as a building described in paragraph (1)(a).
(2A) Regulation 6 does not apply to the material change of use described in paragraph (2)(b).”
Julie James
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
7 Mehefin 2024