
2024 Rhif 738 (Cy. 100)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2024
Gwnaed 2 Mehefin 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 4 Mehefin 2024
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2024.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989.
Diwygio’r Prif Reoliadau
2 
Yn rheoliad 4 o’r Prif Reoliadau (ymwelwyr tramor sy’n esempt rhag ffioedd) hepgorer paragraff (1)(a)(iii).
Eluned Morgan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
2 Mehefin 2024