
2024 Rhif 689 (Cy. 95) (C. 45)
Anifeiliaid, CymruLles Anifeiliaid
Rheoliadau Deddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024 (Cychwyn) (Cymru) 2024
Gwnaed 22 Mai 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 7(2)(c) o Ddeddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024.
Enwi
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024 (Cychwyn) (Cymru) 2024.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 22 Gorffennaf 2024
2 
Daw adrannau 1 a 5(a) ac (c) o Ddeddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024 i rym ar 22 Gorffennaf 2024.
Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Mai 2024