
2024 Rhif 613 (Cy. 87)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024
Gwnaed 8 Mai 2024
Yn dod i rym 10 Mai 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 5(1), 12(1), 13(1), 15(1), 46 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi, ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(2)(a), (c) ac (e) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 10 Mai 2024.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “addysg bellach” (“further education”) yw addysg (heblaw addysg uwch) sy’n addas i ofynion personau sydd dros yr oedran ysgol gorfodol;
 ystyr “addysg uwch (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988;
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 ystyr “Comisiwn” (“Commission”) yw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022;
 ystyr “Cyngor” (“Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg, sef y corff corfforedig a ailenwyd gan adran 2 o Ddeddf 2014;
 ystyr “darparwr dysgu oedolion cymunedol” (“community-based adult learning provider”) yw darparwr (heblaw ysgol, sefydliad addysg bellach neu sefydliad addysg uwch) addysg bellach a hyfforddiant ar gyfer oedolion sy’n seiliedig yn y gymuned ac sydd wedi ei ariannu neu ei ddarparu fel arall gan awdurdod lleol, y Comisiwn neu Weinidogion Cymru;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
 ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sy’n 18 oed neu drosodd;
 ystyr “pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach” (“principal or senior leader in further education”) yw person sy’n ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru;
 ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015;
 ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017;
 ystyr “Rheoliadau 2023” (“the 2023 Regulations”) yw Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023;
 mae i “sefydliad addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education institution” yn adran 140 o Ddeddf Addysg 2002;
 ystyr “sefydliad addysg uwch” (“higher education institution”) yw sefydliad sy’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
 ystyr “ymarferydd dysgu oedolion” (“adult learning practitioner”) yw person sy’n darparu addysg bellach a hyfforddiant i oedolion ar gyfer neu ar ran darparwr dysgu oedolion cymunedol;
 ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru neu ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.
RHAN 2 Penaethiaid ac uwch-arweinwyr mewn addysg
Y gofyniad i fod yn gofrestredig: penaethiaid ac uwch-arweinwyr mewn addysg bellach
3 
Ni chaiff person ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu mewn nac ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru oni bai bod y person wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yng nghategori pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach.
RHAN 3 Ymarferwyr dysgu oedolion
Y gofynion er mwyn gweithio fel ymarferydd dysgu oedolion
4 

(1) Ni chaiff person weithio fel ymarferydd dysgu oedolion ar gyfer nac ar ran unrhyw ddarparwr dysgu oedolion cymunedol oni bai—
(a) bod yr amodau ym mharagraffau (2) a (3) wedi eu bodloni, neu
(b) bod paragraff (4) yn gymwys.
(2) Yr amod cyntaf yw bod rhaid i’r person fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori ymarferydd dysgu oedolion.
(3) Yr ail amod yw bod rhaid—
(a) bod gan y person o leiaf un o’r cymwysterau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen, neu
(b) i’r person ddiwallu’r gofyniad arall a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen.
(4) Caiff person sy’n cydymffurfio â’r amod cyntaf ond nad yw’n cydymffurfio â’r ail amod, os yw’n gweithio tuag at gymhwyster a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen, weithio fel ymarferydd dysgu oedolion am gyfnod nad yw’n hwy na—
(a) 3 blynedd o’r dyddiad y dechreuodd weithio tuag at y cymhwyster pan fo’r person wedi ei gyflogi’n llawnamser, neu
(b) 5 mlynedd o’r dyddiad y dechreuodd weithio tuag at y cymhwyster pan fo’r person wedi ei gyflogi’n rhan-amser.
(5) Wrth gyfrifo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff 4(a) a (b), mae unrhyw gyfnod o absenoldeb o’r gwaith i gael ei ddiystyru os yw’n codi—
(a) wrth i berson arfer—
(i) ei hawl i absenoldeb mamolaeth a roddir gan adran 71 neu 73 o Ddeddf 1996 neu gontract cyflogaeth a phan fydd gan y person hwnnw yr hawl i ddychwelyd i’r gwaith yn rhinwedd y naill neu’r llall o’r adrannau hyn neu gontract cyflogaeth;
(ii) ei hawl i absenoldeb rhiant a roddir gan adran 76 o Ddeddf 1996;
(iii) ei hawl i absenoldeb tadolaeth a roddir gan adran 80A neu 80B o Ddeddf 1996;
(iv) ei hawl i absenoldeb mabwysiadu a roddir gan adran 75A neu 75B o Ddeddf 1996;
(v) ei hawl i absenoldeb rhiant a rennir a roddir gan adran 75E neu 75G o Ddeddf 1996; neu
(vi) ei hawl i absenoldeb profedigaeth rhiant a roddir gan adran 80EA o Ddeddf 1996; neu
(b) oherwydd beichiogrwydd.
Y Cyngor i adolygu’r rhestr o gymwysterau ymarferwyr dysgu oedolion
5 
Rhaid i’r Cyngor adolygu’r rhestr o gymwysterau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen ac adrodd i Weinidogion Cymru yn flynyddol ar unrhyw ddiwygiadau y mae’n ystyried y gallant fod yn ofynnol.
RHAN 4 Diwygiadau i Ddeddf 2014
Diwygiadau i Atodlen 2 i Ddeddf 2014
6 

(1) Mae Atodlen 2 (categorïau cofrestru) i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Nhabl 1 ym mharagraff 1, ar ôl y cofnod ar gyfer “Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” mewnosoder—

Categori Disgrifiad
“Ymarferydd dysgu oedolion Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) addysg bellach a hyfforddiant i oedolion ar gyfer neu ar ran darparwr dysgu oedolion cymunedol.
Pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach Person sy’n ymgymryd (neu sy’n dymuno ymgymryd) â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru.”
(3) Ym mharagraff 3, yn y lleoedd priodol, mewnosoder—“
 ystyr “addysg bellach” (“further education”) yw addysg (heblaw addysg uwch) sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol;”;“
 ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988;”;“
 ystyr “darparwr dysgu oedolion cymunedol” (“community-based adult learning provider”) yw darparwr (heblaw ysgol, sefydliad addysg bellach neu sefydliad addysg uwch) addysg bellach a hyfforddiant ar gyfer oedolion sy’n seiliedig yn y gymuned ac sydd wedi ei ariannu neu ei ddarparu fel arall gan awdurdod lleol, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil neu Weinidogion Cymru;”;“
 ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sy’n 18 oed neu drosodd;”;“
 ystyr “sefydliad addysg uwch” (“higher education institution”) yw sefydliad sy’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;”.
Diwygiadau i Atodlen 4 i Ddeddf 2014
7 

(1) Mae Atodlen 4 (mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio) i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Nhabl 3, yn y lleoedd priodol, mewnosoder—

Gair neu ymadrodd Gair neu ymadrodd yn y Saesneg Darpariaeth berthnasol
“Addysg bellach Further education Atodlen 2”
“Addysg uwch Higher education Atodlen 2”
“Darparwr dysgu oedolion cymunedol Community-based adult learning provider Atodlen 2”
“Oedolyn Adult Atodlen 2”
“Pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach Principal or senior leader in further education Atodlen 2”
“Sefydliad addysg uwch Higher education institution Atodlen 2”
“Ymarferydd dysgu oedolion Adult learning practitioner Atodlen 2”
RHAN 5 Diwygiadau i Reoliadau 2015
Diwygiadau i Reoliadau 2015
8 
Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio yn unol ag erthyglau 9 i 12.
9 
Yn lle’r pennawd i Ran 4 (Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon addysg bellach), rhodder “Y gofynion sy’n ymwneud ag athrawon addysg bellach)”.
10 

(1) Mae rheoliad 19 o Reoliadau 2015 wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Yn lle’r pennawd, rhodder “Y gofynion sy’n ymwneud ag athrawon addysg bellach”.
(3) Yn lle paragraff (1), rhodder—“
(1A) Ni chaiff person ddarparu addysg mewn nac ar gyfer sefydliad addysg bellach oni bai—
(a) bod yr amodau ym mharagraffau (1B) ac (1C) wedi eu bodloni, neu
(b) bod paragraff (1D) yn gymwys.
(1B) Yr amod cyntaf yw bod rhaid i’r person fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes addysg bellach.
(1C) Yr ail amod yw bod rhaid—
(a) bod gan y person o leiaf un o’r cymwysterau penodedig, neu
(b) i’r person ddiwallu’r gofyniad arall a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 6.
(1D) Caiff person sy’n cydymffurfio â’r amod cyntaf ond nad yw’n cydymffurfio â’r ail amod, os yw’n gweithio tuag at gymhwyster penodedig, weithio fel athro neu athrawes addysg bellach am gyfnod nad yw’n hwy na—
(a) 3 blynedd o’r dyddiad y dechreuodd weithio tuag at y cymhwyster pan fo’r person wedi ei gyflogi’n llawnamser, neu
(b) 5 mlynedd o’r dyddiad y dechreuodd weithio tuag at y cymhwyster pan fo’r person wedi ei gyflogi’n rhan-amser.”
(1E) Wrth gyfrifo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff 1D(a) a (b), mae unrhyw gyfnod o absenoldeb o’r gwaith i gael ei ddiystyru os yw’n codi—
(a) wrth i berson arfer—
(i) ei hawl i absenoldeb mamolaeth a roddir gan adran 71 neu 73 o Ddeddf 1996 neu gontract cyflogaeth a phan fydd gan y person hwnnw yr hawl i ddychwelyd i’r gwaith yn rhinwedd y naill neu’r llall o’r adrannau hyn neu gontract cyflogaeth;
(ii) ei hawl i absenoldeb rhiant a roddir gan adran 76 o Ddeddf 1996;
(iii) ei hawl i absenoldeb tadolaeth a roddir gan adran 80A neu 80B o Ddeddf 1996;
(iv) ei hawl i absenoldeb mabwysiadu a roddir gan adran 75A neu 75B o Ddeddf 1996;
(v) ei hawl i absenoldeb rhiant a rennir a roddir gan adran 75E neu 75G o Ddeddf 1996; neu
(vi) ei hawl i absenoldeb profedigaeth rhiant a roddir gan adran 80EA o Ddeddf 1996; neu
(b) oherwydd beichiogrwydd.”
(4) Ym mharagraff (2)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (c) hepgorer “neu”;
(b) ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—“
(e) yn gweithredu fel gwirfoddolwr; neu
(f) yn darparu ar sail dros dro neu achlysurol hyfforddiant mewn perthynas â phroffesiwn a phan fo’r person yn dal y cymwysterau neu’r profiad sy’n angenrheidiol er mwyn ymarfer y proffesiwn hwnnw.”
(5) Ar ôl paragraff (2), mewnosoder yr hyn a ganlyn—“
(3) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 19ZA, ystyr cymhwyster penodedig yw cymhwyster a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 6.”
11 
Ar ôl rheoliad 19 o Reoliadau 2015, mewnosoder—“
Y Cyngor i adolygu rhestr o gymwysterau penodedig
19ZA. 
Rhaid i’r Cyngor adolygu’r rhestr o gymwysterau penodedig ac adrodd i Weinidogion Cymru yn flynyddol ar unrhyw ddiwygiadau y mae’n ystyried y gallant fod yn ofynnol.”
12 
Ar ôl Atodlen 5 i Reoliadau 2015 mewnosoder—“
ATODLEN 6
Athrawon addysg bellach
Rheoliad 19
RHAN 1 Cymwysterau
1. 
Tabl 1: Cymru

Cymwysterau o ran Cymru Corff dyfarnu
Addysg (Cymru) (MA) Coleg Prifysgol Dewi SantColeg Prifysgol y DrindodPrifysgol AbertawePrifysgol AberystwythPrifysgol Cymru, AbertawePrifysgol Cymru, AberystwythPrifysgol Cymru, CasnewyddPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont SteffanPrifysgol De CymruPrifysgol Fetropolitan AbertawePrifysgol Morgannwg
Addysg (Doethur mewn Addysg) Prifysgol BangorPrifysgol Cymru, Bangor
Addysg (MA) Coleg Prifysgol Dewi SantY Brifysgol AgoredPrifysgol AbertawePrifysgol BangorPrifysgol Cymru, AbertawePrifysgol Cymru, BangorPrifysgol Cymru, CasnewyddPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont SteffanPrifysgol Fetropolitan AbertawePrifysgol GlyndŵrPrifysgol Glyndŵr, WrecsamPrifysgol MorgannwgPrifysgol Wrecsam
Addysg (MPhil) Prifysgol AberystwythPrifysgol BangorPrifysgol Cymru, AberystwythPrifysgol Cymru, Bangor
Addysg (PhD) Prifysgol AbertawePrifysgol AberystwythPrifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg a Drama a Theatr (BA) Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg a Hanes (BA) Prifysgol AberystwythPrifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg a Llenyddiaeth Saesneg (BA) Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg a Mathemateg (BA) Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg gyda Mathemateg (BSc) Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg a Sbaeneg (BA) Prifysgol AberystwythPrifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg a Seicoleg (BSc) Prifysgol AbertawePrifysgol AberystwythPrifysgol Cymru, AbertawePrifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg a’r Gymraeg (BA) Prifysgol AbertawePrifysgol AberystwythPrifysgol CaerdyddPrifysgol Cymru, AberystwythPrifysgol Cymru, Caerdydd
Addysg gyda Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig (BSc) Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Addysg Cenedlaethol (Cymru) (MA) Prifysgol BangorPrifysgol Cymru, Bangor
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MA) Athrofa Prifysgol Cymru, CaerdyddColeg Prifysgol Dewi SantColeg Prifysgol y DrindodPrifysgol Abertawe Prifysgol Cymru, AbertawePrifysgol Cymru, CasnewyddPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont SteffanPrifysgol De CymruPrifysgol Fetropolitan AbertawePrifysgol Metropolitan CaerdyddPrifysgol Morgannwg
Astudiaethau Addysg (BA) Coleg Prifysgol Dewi SantColeg Prifysgol y DrindodPrifysgol AbertawePrifysgol AberystwythPrifysgol CaerdyddPrifysgol Cymru, AbertawePrifysgol Cymru, AberystwythPrifysgol Cymru, CaerdyddPrifysgol Cymru, CasnewyddPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont SteffanPrifysgol De CymruPrifysgol Fetropolitan AbertawePrifysgol GlyndŵrPrifysgol Glyndŵr, WrecsamPrifysgol MorgannwgPrifysgol Wrecsam
Astudiaethau Addysg (BSc) Prifysgol CaerdyddPrifysgol Cymru, Caerdydd
Astudiaethau Addysg (MSc) Prifysgol CaerdyddPrifysgol Cymru, Caerdydd
Astudiaethau Addysg (Diploma Ôl-raddedig – PGDip) Athrofa Prifysgol Cymru CaerdyddPrifysgol Metropolitan Caerdydd
Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (BA) Coleg Prifysgol Dewi SantColeg Prifysgol y DrindodPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Astudiaethau Proffesiynol mewn Addysg (PgDip) Y Brifysgol Agored
Cymdeithaseg ac Addysg (BSc) Prifysgol CaerdyddPrifysgol Cymru, Caerdydd
Daearyddiaeth Ffisegol ac Addysg (BA) Prifysgol AberystwythPrifysgol Cymru, Aberystwyth
Diploma mewn Addysg a Hyfforddiant AIM QualificationsAoFA QualificationsAscentisAQACity & Guilds of London InstituteGateway QualificationsiCan Qualifications LtdNCFENational Open College Network Pearson Education LtdQualsafe AwardsSkills and Education Group AwardsSFJ AwardsTrainingQualifications UKVocational Training Charitable Trust
Diploma mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes City & Guilds of London InstituteOxford, Cambridge and RSA Examinations
Dysgu ac Addysgu (Addysg Uwch) (PGCert) Prifysgol GlyndŵrPrifysgol Glyndŵr, WrecsamPrifysgol Wrecsam
Hanes ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) Prifysgol AberystwythPrifysgol Cymru, Aberystwyth
Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (BA) Prifysgol BangorPrifysgol Cymru, Bangor
Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) Prifysgol Abertawe Prifysgol Cymru, Abertawe
Ieithoedd Modern ac Addysg (BA) Prifysgol AbertawePrifysgol Cymru, Abertawe
Llenyddiaeth Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) Prifysgol Abertawe Prifysgol Cymru, Abertawe
Seicoleg ac Addysg (BSc) Prifysgol AberystwythPrifysgol Cymru, Aberystwyth
Mathemateg ac Addysg (BSc) Prifysgol AberystwythPrifysgol Cymru, Aberystwyth
Mathemateg gydag Addysg (BSc) Prifysgol AberystwythPrifysgol Cymru, Aberystwyth
Tystysgrif Addysg AQAY Brifysgol AgoredCity & Guilds of London InstitutePrifysgol BangorPrifysgol Cymru, Bangor TEC Partnership
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PGCE) Athrofa Prifysgol Cymru, CaerdyddColeg Prifysgol Dewi SantColeg Prifysgol y DrindodPrifysgol BangorPrifysgol CaerdyddPrifysgol Cymru, BangorPrifysgol Cymru, CaerdyddPrifysgol Cymru, CasnewyddPrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi SantPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont SteffanPrifysgol De CymruPrifysgol Fetropolitan AbertawePrifysgol Metropolitan CaerdyddPrifysgol Morgannwg
Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg, mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCE) Coleg GwentColeg Prifysgol Dewi SantColeg Prifysgol y DrindodPrifysgol Cymru, CasnewyddPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont SteffanPrifysgol De CymruPrifysgol Morgannwg
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg, mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PGCE) Athrofa Prifysgol Cymru, CaerdyddColeg Prifysgol Dewi SantColeg Prifysgol y DrindodPrifysgol CaerdyddPrifysgol Cymru, AberystwythPrifysgol Cymru, CaerdyddPrifysgol Cymru, CasnewyddPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont SteffanPrifysgol De CymruPrifysgol Fetropolitan AbertawePrifysgol Metropolitan CaerdyddPrifysgol MorgannwgPrifysgol Wrecsam
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg Uwch (PGCertHE) Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PGCE) gyda QTS Athrofa Prifysgol Cymru, CaerdyddY Brifysgol AgoredColeg Prifysgol Dewi SantColeg Prifysgol y DrindodPrifysgol AbertawePrifysgol AberystwythPrifysgol BangorPrifysgol CaerdyddPrifysgol Cymru, AbertawePrifysgol Cymru, AberystwythPrifysgol Cymru, BangorPrifysgol Cymru, CaerdyddPrifysgol Cymru, CasnewyddPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont SteffanPrifysgol De CymruPrifysgol Fetropolitan AbertawePrifysgol Metropolitan CaerdyddPrifysgol Morgannwg
2. 
Tabl 2: Lloegr

Cymwysterau o ran Lloegr Corff dyfarnu
Addysg – Arweinyddiaeth a Rheolaeth (MA) Bath Spa University
Addysg (EdD Doethur mewn Addysg) Birmingham City UniversityCanterbury Christ Church UniversityEdge Hill UniversityKingston UniversityLiverpool John Moores UniversityLondon South Bank UniversityOxford Brookes UniversitySheffield UniversityStaffordshire UniversityUniversity of BathUniversity of BrightonUniversity of BuckinghamUniversity of ChesterUniversity of DerbyUniversity of East LondonUniversity of GloucestershireUniversity of HertfordshireUniversity of HuddersfieldUniversity of NottinghamUniversity of Warwick
Addysg (MEd) Northumbria University, NewcastleUniversity of Leicester
Addysg (MPhil) UCL (University College London)University of CambridgeNewcastle UniversityUniversity of Worcester
Addysg (Persbectifau Cymharol a Rhyngwladol) (MA) University of Birmingham
Addysg (PhD) Birmingham City UniversityGoldsmiths, University of LondonKeele UniversityUniversity of BathUniversity of BirminghamUniversity of BristolUniversity of CambridgeUniversity of East LondonUniversity of ExeterUniversity of GloucestershireUniversity of HuddersfieldUniversity of LincolnUniversity of ManchesterUniversity of NottinghamUniversity of OxfordUniversity of SussexUniversity of WarwickUniversity of York
Addysg a Blynyddoedd Cynnar (BA) Sheffield Hallam University
Addysg a Choreeg (BA) University of Central Lancashire
Addysg a Chrefydd (BA) Edge Hill University
Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol (MA) University of BedfordshireLancaster University
Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol (MSc) Birkbeck University, LondonUniversity of York
Addysg a Chymdeithaseg (BA) Bishop Grosseteste UniversityEdge Hill UniversityGoldsmiths, University of LondonKeele UniversityOxford Brookes UniversityUniversity of BedfordshireUniversity of BirminghamUniversity of Central LancashireUniversity of GloucestershireUniversity of Worcester
Addysg a Datblygiad (BA) University of Worcester
Addysg a Datblygiad (MA) University of East Anglia
Addysg a Datblygu Cynaliadwy Byd-eang (BA) University of Warwick
Addysg a Datblygu Rhyngwladol (MA) UCL (University College London)
Addysg a Datblygu Rhyngwladol (PhD) 
Addysg a Diwinyddiaeth, Athroniaeth a Moeseg (BA) Bishop Grosseteste University
Addysg a Dysgu (BA) University of Bolton
Addysg a Dysgu Gydol Oes (BA) Oxford Brookes University
Addysg a Ffrangeg (BA) University of Central Lancashire
Addysg a Hanes (BA) Bishop Grosseteste UniversityKeele UniversityUniversity of Central Lancashire
Addysg a Japaneeg (BA) University of Central Lancashire
Addysg a Llenyddiaeth (BA) Liverpool Hope University
Addysg a Llenyddiaeth Saesneg (BA) Keele UniversityUniversity of WinchesterUniversity of Worcester
Addysg a Mandarin (BA) De Montfort University
Addysg a Mathemateg (BSc) Edge Hill University
Addysg a Phlentyndod Cynnar (BA) University of Winchester
Addysg a Rwsieg (BA) University of Central Lancashire
Addysg a Saesneg (BA) Bishop Grosseteste UniversityUniversity of BedfordshireUniversity of Central LancashireUniversity of Derby University of Worcester
Addysg ac Anghenion Addysgol Arbennig (BA) Liverpool Hope UniversityLiverpool John Moores UniversityUniversity of Winchester
Addysg ac Anghenion Addysgol Arbennig, Anabledd a Chynhwysiant (SENDI) (BA) Bishop Grosseteste University
Addysg ac Astudiaethau Crefyddol (BA) Liverpool Hope University
Addysg ac Astudiaethau Ieuenctid (BA) University of RoehamptonUniversity of Winchester
Addysg ac Athroniaeth (BA) Keele University
Addysg ac Ymarfer Proffesiynol (BA) Bath Spa UniversityBristol UniversityUniversity of the West of England
Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (MA) University of Manchester
Addysg ar gyfer Dinasyddiaeth Ddemocrataidd a Hawliau Dynol (MA) Leeds Beckett University
Addysg Barhaus (PhD) University of Oxford
Addysg Bellach a Sgiliau (PGDip) Edge Hill University
Addysg Ddigidol (MA) University of Leeds
Addysg Fyd-eang ac Arweinyddiaeth (MA) University of Bolton
Addysg gyda Seicoleg (BA) DE Montfort UniversityNottingham Trent UniversityUniversity of BathUniversity of BedfordshireUniversity of Central LancashireUniversity of DurhamUniversity of LincolnUniversity of SouthamptonUniversity of Worcester
Addysg gyda Seicoleg a Chwnsela (BA) Sheffield Hallam University
Addysg gyda TESOL neu SEND (BA) University of Derby
Addysg gyda TESOL (MA) Keele UniversityBishop Grosseteste University
Addysg Gymdeithasol a Chynhwysol (MA) University of Nottingham
Addysg Gynhwysol (MA) Bath Spa UniversityUniversity of BoltonUniversity of Gloucestershire
Addysg Oedolion a Dysgu Gydol Oes (PhD) University of Warwick
Addysg Ryngwladol (MA) Keele UniversityUniversity of BedfordshireUniversity of ExeterUniversity of Sunderland
Addysg Ryngwladol (MSc) University of LeicesterUniversity of Manchester
Addysg Ryngwladol a Datblygu (PhD) University of Sussex
Addysg STEM (MA) Kings College London, University of London
Addysg Uwch (PhD) University of KentLancaster University
Addysg Uwch a Phroffesiynol (PGCert) Staffordshire University
Addysg, Anghenion Arbennig, ac Anabledd (BA) University of Chichester
Addysg, Arweinyddiaeth a Diwylliant (BA) University of Manchester
Addysg, Athroniaeth a Chrefydd (BA) University of Central Lancashire
Addysg, Cymdeithas a Diwylliant (BA) University College London
Addysg, Cymdeithas a Phlentyndod (BA) Bath Spa University
Addysg, Cynhwysiant ac Anghenion Addysgol Arbennig (BA) University of Gloucestershire
Addysg, Diwylliant a Phlentyndod (BA) University of Sheffield
Addysg, Iechyd Meddwl a SEND (BA) Leeds Trinity UniversityYork St John University
Addysg, Plentyndod a Diwylliant (BA) University of East Anglia (UEA)
Addysg, Plentyndod ac Ieuenctid (BA) University of Wolverhampton
Addysg, Polisi a Chymdeithas Kings College London, University of London
Addysg, Ymarfer a Chymdeithas (EdD) UCL (University College London)
Addysg, Ymarfer a Chymdeithas (MPhil) UCL (University College London)
Addysgu Iaith Saesneg (ELT) (MA) De Montfort UniversityEdge Hill UniversityLondon Metropolitan UniversityQueen Mary University of LondonUniversity of Huddersfield
Addysgu Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol (PhD) University of Warwick
Addysgu Saesneg a TESOL (MSc) University of Southampton
Addysgu Saesneg fel Iaith Ychwanegol (EAL) (MA) Leeds Beckett University
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (PhD) University of York
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MA) Aston University, BirminghamBath Spa UniversityCanterbury Christchurch UniversityEdge Hill UniversityKing’s College LondonLancaster UniversityLeeds Beckett UniversityNottingham Trent UniversitySheffield Hallam UniversityTeesside UniversityUniversity College LondonUniversity of BirminghamUniversity of Central LancasterUniversity of ChesterUniversity of East AngliaUniversity of EssexUniversity of HertfordshireUniversity of HuddersfieldUniversity of HullUniversity of KentUniversity of LondonUniversity of LeedsUniversity of LeicesterUniversity of LiverpoolUniversity of NorthamptonUniversity of NottinghamUniversity of ReadingUniversity of SouthamptonUniversity of SunderlandUniversity of WestminsterUniversity of WarwickUniversity of York
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL)(MSc) University of BathUniversity of Bristol
Addysgwr Ymarfer (PGCert) University of Hull
Almaeneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) University of Central Lancashire
Astudiaethau Addysg (BA) Bath Spa UniversityBirmingham City UniversityBishop Grosseteste UniversityBrunel University LondonCanterbury Christ Church UniversityDe Montfort UniversityEdge Hill UniversityGoldsmiths University of LondonKeele UniversityLancaster UniversityLeeds Beckett UniversityLiverpool Hope UniversityLondon Metropolitan UniversityLondon South Bank UniversityManchester Metropolitan UniversityMiddlesex UniversityNewcastle UniversityNottingham Trent UniversityOxford Brookes UniversitySolent University (Southampton)University of BedfordshireUniversity of BirminghamUniversity of BrightonUniversity of CambridgeUniversity of Central LancashireUniversity of Chester University of ChichesterUniversity of CumbriaUniversity of DurhamUniversity of East AngliaUniversity of East LondonUniversity of GloucestershireUniversity of GreenwichUniversity of HertfordshireUniversity of HuddersfieldUniversity of HullUniversity of LeedsUniversity of LincolnUniversity of NottinghamUniversity of PlymouthUniversity of ReadingUniversity of West England, BristolUniversity of West LondonUniversity of WinchesterUniversity of WolverhamptonUniversity of WorcesterUniversity of York
Astudiaethau Addysg (BSc) University of BristolUniversity of Central Lancashire
Astudiaethau Addysg (MA) Anglia Ruskin UniversityBirmingham City UniversityBirmingham Newman UniversityBishop Grosseteste UniversityBrunel UniversityBurnley CollegeCanterbury Christ Church UniversityDe Montfort UniversityEdge Hill UniversityKeele UniversityKings College LondonLeeds Beckett UniversityLeeds Trinity UniversityLiverpool HopeUniversityLiverpool John Moores UniversityLondon Metropolitan UniversityMiddlesex UniversityNewcastle UniversityNorthumbria UniversityNottingham Trent UniversityUniversity of NottinghamOpen UniversityOxford Brookes UniversityPlymouth Margon UniversitySheffield Hallam UniversityStaffordshire UniversityTeesside UniversityUniversity Campus OldhamUCL (University College London)University of BathUniversity of BedfordshireUniversity of BirminghamUniversity of BoltonUniversity of BrightonUniversity of BuckinghamUniversity of ChesterUniversity of DerbyUniversity of DurhamUniversity of East AngliaUniversity of East LondonUniversity of ExeterUniversity of GloucestershireUniversity of GreenwichUniversity of HertfordshireUniversity of HuddersfieldUniversity of HullUniversity of LondonUniversity of LeedsUniversity of LincolnUniversity of Northampton University of PlymouthUniversity of PortsmouthUniversity of ReadingUniversity of RoehamptonUniversity of SheffieldUniversity of SunderlandUniversity of SussexUniversity of WarwickUniversity of WinchesterUniversity of WolverhamptonUniversity of WorcesterUniversity of York
Astudiaethau Addysg (MSc) University of BristolUniversity of OxfordUniversity of Southampton
Astudiaethau Addysg (PGDip) University of ChesterUniversity of Suffolk
Astudiaethau Addysg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) Bishop Grosseteste UniversityUniversity of Central LancashireUniversity of Wolverhampton
Astudiaethau Addysg gyda Daearyddiaeth (BA) University of Durham
Astudiaethau Addysg Uwch (MA) UCL (University College London)University of HuddersfieldUniversity of KentUniversity of Sunderland
Coreeg gydag Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) University of Central Lancashire
Cyfathrebu Rhyngddiwylliannol ac Addysg (MA) University of Exeter
Datblygu Byd-eang ac Addysg (MA) University of Leeds
Datblygu Rhyngwladol ac Addysg (MA) Newcastle University
Diploma Lefel 7 mewn Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill Cambridge English Trinity College London
Diploma mewn Addysg a Hyfforddiant AQACity & Guilds of London InstitutePearson Education LtdTraining Qualifications UK
Diploma mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes City & Guilds of London InstituteOxford,Cambridge andRSA Examinations
Diploma Ôl-raddedig (PgDip) mewn Addysg (PGCE Uwch mewn Dysgu Gydol Oes) University of Huddersfield
Dysgu ac Addysgu (Addysg Uwch) (PGCert) Anglia Ruskin University Kingston University
Ffrangeg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) Manchester Metropolitan UniversityUniversity of Central Lancashire
Ffrangeg gydag Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) Sheffield Hallam University
Hanes gydag Addysg Uwchradd (QTS) (BA) University of Wolverhampton
Iaith Saesneg ac Addysgu (BA) Bishop Grosseteste University
Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) De Montfort UniversityUniversity of Wolverhampton
Ieithoedd Modern ac Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (BA) University of Essex
Ieithyddiaeth Gymhwysol a TESOL (PGCert) Anglia Ruskin University
Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Addysgu Iaith Saesneg (MA) University of NottinghamUniversity of Southampton
Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Addysgu Iaith Saesneg (PhD) University of Nottingham
Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MA) Anglia RuskinUniversityNewcastle UniversityNorthumbria University, NewcastleUniversity of LeicesterUniversity of LiverpoolUniversity of Plymouth
Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer Addysgu Iaith (MA) University of York
Japaneeg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) University of Central Lancashire
Llenyddiaeth Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) Bishop Grosseteste UniversityUniversity of Central Lancashire
Mathemateg gydag Addysg Uwchradd (QTS) (BA) University of Wolverhampton
Saesneg – Addysgu Dysgwyr Amlieithog (PGCert) Oxford Brookes University
Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) Manchester Metropolitan University
Saesneg gydag Addysg Uwchradd (QTS) (BA) University of Wolverhampton
Seicoleg ac Addysg (MA) University of Sheffield
SEND ac Addysg Gynhwysol (MA) University of Roehampton
Tsieineeg gydag Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) University of Central Lancashire
Tystysgrif Addysg mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes University of Huddersfield
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Addysg Bellach (PGCE) Canterbury Christ Church University University of Brighton University of Exeter University of Greenwich University of Worcester
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Addysg Bellach a Hyfforddiant (PGCE) Canterbury Christ Church UniversityUniversity of Brighton University of Exeter University of GreenwichUniversity of Worcester
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Rhyngwladol (PGCE) University of NottinghamUniversity of Warwick
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PcET) (PGCE) Oxford BrookesUniversityStaffordshire UniversityUCL (University College London)
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PGCE) Birmingham CityUniversityBurnley CollegeCanterbury Christchurch UniversityEdge Hill UniversityUniversityKing’s College LondonKingston UniversityNewcastle UniversityUniversity of BrightonUniversity of BuckinghamUniversity of ChesterUniversity of GreenwichUniversity of HertfordshireUniversity of Huddersfield University of London University of Manchester University of Oxford University of Reading University of Warwick University of WinchesterUniversity of Worcester
Tystysgrif Ôl-raddedig PGCert mewn Addysg Uwch (PGHE) Falmouth University Middlesex UniversityUniversity of Nottingham
Tystysgrif Ôl-raddedig Ryngwladol mewn Addysg University of Sheffield
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol (PgCE, PrGCE, ProfGCE neu PGCE (Proffesiynol)) mewn Astudiaethau Addysg De Montfort UniversityEdge Hill UniversityUniversity of GreenwichUniversity of HuddersfieldUniversity of Suffolk TEC Partnership
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (Addysg Ôl-orfodol) Leeds Trinity University
Ymarfer Addysg Uwch (MA) University of Hull
Ymarfer Proffesiynol (Addysgu a Dysgu) (MSc) University of Kent
Ymarfer Proffesiynol mewn Addysg (MA) University of Hull
3. 
Tabl 3: Yr Alban

Cymwysterau o ran yr Alban Corff dyfarnu
Addysg Gynhwysol (MEd) University of Dundee University of Glasgow
Addysg Iaith (MSc) University of Edinburgh
Addysg ac Astudiaethau Cwricwlaidd gyda Chymhwyster Addysgu (BSc) University of Strathclyde
Addysg ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy yng Nghyd-destunau Oedolion, y Gymuned ac Ieuenctid (MSc) University of Glasgow
Addysg a TESOL (BA) University of Strathclyde
Addysg (BA) Queen Margaret University, EdinburghUniversity of the West of Scotland
Addysg (Doethur mewn Addysg EdD) University of Dundee
Addysg (MA) Queen Margaret University, EdinburghUniversity of Dundee
Addysg (Meistr mewn Addysg MEd) University of DundeeUniversity of Strathclyde
Addysg (MSc) University of EdinburghUniversity of GlasgowUniversity of StirlingUniversity of Strathclyde
Addysg (PhD/DPhil) University of DundeeUniversity of Edinburgh
Addysg (Uwchradd) (BA) University of Stirling
Addysg (Uwchradd) (BSc) University of Stirling
Addysg, Polisi Cyhoeddus a Thegwch (MSc) University of Glasgow
Addysg Broffesiynol (BA) University of Stirling
Addysg Broffesiynol (MEd PgCert PGDip) University of Aberdeen
Addysg Broffesiynol ac Arweinyddiaeth (MA) University of Stirling
Addysg Broffesiynol ac Uwch (PGCert) Queen Margaret University, Edinburgh
Addysg Drydyddol ac Uwch (MEd) University of the Highlands and Islands
Addysg Dylunio a Thechnoleg (MD Tech Ed) University of Glasgow
Addysg Gyfunol ac Ar-lein (MSc) Edinburgh Napier University
Addysg Gymunedol (BA) University of Dundee
Addysg Gymunedol (Phd) University of Dundee
Addysg Gynhwysol (PGCert) University of Edinburgh
Addysg Oedolion, Datblygu Cymunedol a Gwaith Ieuenctid (MEd/PgDip) University of Glasgow
Addysg Ryngwladol (MEd) University of Dundee
Addysg Ryngwladol (MSc) University of St Andrews
Addysgeg Ddigidol (MEd) University of the Highlands and Islands
Addysgu a Dysgu Trawsffurfiol (MSc) University of Edinburgh, Moray House School of Education and Sport
Addysgu Iaith Saesneg ac Arweinyddiaeth (MA) University of Stirling
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (MEd) University of Dundee University of Glasgow
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (MSc) University of AberdeenUniversity of GlasgowUniversity of St AndrewsUniversity of Stirling
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (MSc PgCert PgDip) University of AberdeenUniversity of EdinburghUniversity of St Andrews
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MEd) University of DundeeUniversity of Glasgow
Cemeg gydag Addysg (BA) University of the West of Scotland
Cymhwyster Addysgu ar gyfer Addysg Bellach (PgCert) University of the Highlands and Islands
Cymhwyster Addysgu ar gyfer Addysg Bellach (BA) University of DundeeUniversity of the Highlands and IslandsUniversity of Stirling
Cymhwyster Addysgu ar gyfer Addysg Bellach (PgCert) University of Aberdeen
Datblygu Cymunedol (BA) University of Glasgow
DCLD Dysgu a Datblygu Cymunedol (Doethuriaeth Broffesiynol) University of Dundee
Diploma Graddedig Proffesiynol mewn Addysg –- Uwchradd (PGDE) University of AberdeenUniversity of Edinburgh, Moray House School of Education and SportUniversity of GlasgowUniversity of the Highlands and IslandsUniversity of Strathclyde
Diploma Graddedig Proffesiynol mewn Addysg (Yr Alban) (PGDE) University of DundeeUniversity of Glasgow University of Edinburgh
Dysgu mewn Cymunedau (MA) University of Edinburgh, Moray House School of Education and Sport
Ffiseg gydag Addysg (BSc) University of the West of Scotland
Gwyddor ac Addysg Dawns (MSc/PgDip) University of Edinburgh
Mathemateg gydag Addysg (BSc) University of the West of Scotland
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Addysg Bellach (PGCE) University of the Highlands and Islands
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Addysg Bellach a Hyfforddiant (PGCE) University of the Highlands and Islands
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Rhyngwladol (PGCE) University of Strathclyde
Ymarfer Uwch mewn Addysg (MSc) University of Glasgow
4. 
Tabl 4: Gogledd Iwerddon

Cymwysterau o ran Gogledd Iwerddon Corff dyfarnu
Addysg (BA) University of Ulster
Addysg (Meistr mewn Addysg – MEd) St Mary’s University College BelfastStranmillis University College
Addysg gydag arbenigaethau (MEd) University of Ulster
Addysg – Ôl-gynradd – Astudiaethau Crefyddol (BEd) Stranmillis University College
Addysg – Ôl-gynradd (BEd) St Mary’s University College Belfast
Addysg – Ôl-gynradd – Busnes a menter (BEd) Stranmillis University College
Addysg – Ôl-gynradd – Mathemateg (BEd) Stranmillis University College
Addysg – Ôl-gynradd – Technoleg a Dylunio (BEd) Stranmillis University College
Addysg (PhD/DPhil) Queen’s University Belfast
Addysgu (MTeach) Stranmillis University College
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MA) University of Ulster
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill ac Ieithyddiaeth Gymhwysol (MSc) Queen’s University Belfast
Astudiaethau Addysg (MEd) Stranmillis University College
Astudiaethau Crefyddol gydag Addysg (BEd) Stranmillis University College
Busnes a Menter gydag Addysg (BEd) Stranmillis University College
Busnes gydag Addysg (BA) University of Ulster
Cerddoriaeth gydag Addysg (BA) University of Ulster
Cyfrifiadureg gydag Addysg (BA) University of Ulster
Daearyddiaeth gydag Addysg (BSc) University of Ulster
Diploma Ôl-raddedig mewn Addysg Bellach ac Uwch University of Ulster
Drama gydag Addysg (BA) University of Ulster
Gwyddeleg gydag Addysg (BA) University of Ulster
Gwyddor yr Amgylchedd gydag Addysg (BSc) University of Ulster
Hanes gydag Addysg (BA) University of Ulster
Newyddiaduraeth gydag Addysg (BA) University of Ulster
Opsiwn Arbenigwr Llythrennedd AAA (MEd) Stranmillis University College
Saesneg gydag Addysg (BA) University of Ulster
Technoleg a Dylunio gydag Addysg (BEd) Stranmillis University College
Tystysgrif Addysgu University of Ulster
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PGCE) Queen’s University BelfastUniversity of Ulster
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Addysg Bellach (PGCE) University of Ulster
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Astudiaethau Awtistiaeth (PGCE) Stranmillis University College
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Uwchradd (PGCE) University of Ulster
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu Cyfunol a Sgiliau Digidol Stranmillis University College
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg University of Ulster
RHAN 2 Gofyniad Arall
5. 
Mae person yn bodloni’r gofyniad arall os oes gan y person hwnnw, mewn cysylltiad â phroffesiwn athro neu athrawes addysg bellach, hawlogaeth i ymarfer yn unol â Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023.”
RHAN 6 Diwygiadau i Reoliadau 2017
Diwygiadau i Reoliadau 2017
13 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau 2017, ar ôl paragraff (1)(k) mewnosoder—“
(l) £46 y flwyddyn ar gyfer ymarferydd dysgu oedolion;
(m) £46 y flwyddyn ar gyfer pennaeth neu uwch-arweinydd addysg bellach.”
RHAN 7 Diwygiadau i Reoliadau 2023
Diwygiadau i Reoliadau 2023
14 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau 2023—
(a) ar ddechrau’r rhestr mewnosoder—“
A1. 
Ymarferydd dysgu oedolion”,
(b) ar ôl y cofnod ar gyfer “Archwilydd bwyd” mewnosoder—“
3A. 
Athro neu athrawes addysg bellach”.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
8 Mai 2024
YR ATODLEN
Ymarferwyr dysgu oedolion
erthygl 4(3)(a)
RHAN 1 Cymwysterau
1 
Cymhwyster a bennir fel cymwysterau athrawon addysg bellach yn Atodlen 6 i Reoliadau 2015.
2 
Cymhwyster yn y tabl a ganlyn.

Cymwysterau Corff dyfarnu
Diploma Arbenigol Uwch IVQ Lefel 3 mewn Addysgu, Hyfforddi ac Asesu Dysgu City & Guilds of London Institute
Diploma Lefel 5 mewn Addysg a Hyfforddiant Aim Qualifications and Assessment GroupAoFA QualificationsAscentisGateway QualificationsiCan Qualifications LtdNCFENational Open College NetworkPearson Education LtdQualsafe AwardsSkills and Education Group AwardsSFJ AwardsTraining Qualifications UK LtdVocational Training Charitable TrustUniversity of Huddersfield
Diploma Lefel 5 mewn Addysg a Hyfforddiant (gan gynnwys Addysgu Saesneg: Llythrennedd) (RQF) Training Qualifications UK
Diploma Lefel 5 mewn Addysg a Hyfforddiant (gan gynnwys gan gynnwys Mathemateg Athrawon: Rhifedd) Training Qualifications UK
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) (Premier TEFL) Highfield Qualifications
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) (The TEFL Institute) Highfield Qualifications
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg: Llythrennedd AscentisCity & Guilds of London InstitutePearson BTEC
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg: Llythrennedd a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill City & Guilds of London InstitutePearson BTECTraining Qualifications UK
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg: Llythrennedd a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn y Sector Dysgu Gydol Oes (QCF) City & Guilds of London Institute
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg: Llythrennedd yn y Sector Dysgu Gydol Oes (QCF) City & Guilds of London InstituteOxford, Cambridge and RSA Examinations
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg: Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill AscentisCity & Guilds of London InstitutePearson BTEC
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg: Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn y Sector Dysgu Gydol Oes (QCF) City & Guilds of London Institute
Diploma mewn Addysg a Hyfforddiant (DET) AQACity & Guilds of London InstitutePearson Education Ltd
Diploma Uwch IVQ Lefel 3 mewn Addysgu, Hyfforddi ac Asesu Dysgu City & Guilds of London Institute
Diploma Uwch Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) (Premier TEFL) Highfield Qualifications
Diploma Uwch Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) (The TEFL Institute) Highfield Qualifications
Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant (AET) 1st4SportActive IQAgored CymruAIM Qualifications and Assessment GroupAscentisAwards for Training and Higher EducationBIIAB QualificationsChartered Institute of Environmental HealthCity & Guilds of London InstituteFDQFocus Awards Gateway QualificationsHighfield QualificationsIndustry QualificationsiCan Qualifications LtdInnovate AwardingITC FirstNational Open College NetworkNCFEPearson Education LtdPrince’s TrustQualsafe AwardsSFJ AwardsSkills and Education Group AwardsSwim England QualificationsSafety Training AwardsTraining Qualifications UKVocational Training Charitable TrustYMCA Awards
Dyfarniad Lefel 3 mewn Mathemateg ar gyfer Addysgu Rhifedd AscentisCity & Guilds of London InstituteTraining Qualifications UK
Dyfarniad Lefel 3 mewn Saesneg ar gyfer Addysgu Llythrennedd ac Iaith AscentisCity & Guilds of London InstituteTraining Qualifications UK
Dyfarniad Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) Addysgu Pynciau Eraill yn y Saesneg (CLIL) Highfield Qualifications
Dyfarniad Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) Saesneg ar gyfer Arholiadau Highfield Qualifications
Dyfarniad Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) Saesneg Ar-lein ac Un-i-Un Highfield Qualifications
Dyfarniad Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) Saesneg Busnes Highfield Qualifications
Lefel 3 Paratoi i Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes (PTLLS) Active IQAIM Qualifications and Assessment GroupCity & Guilds of London InstituteHighfield QualificationsNational Open College NetworkNCFEOpen AwardsOxford, Cambridge and RSA ExaminationsPearson Education LtdProQual Awarding BodySkills and Education Group AwardsSFEDI AwardsSwim England QualificationsVocational Training Charitable TrustYMCA Awards
Lefel 4 Paratoi i Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes (PTLLS) Active IQCity & Guilds of London InstituteNational Open College NetworkNCFEOxford, Cambridge and RSA ExaminationsPearson Education LtdProQual Awarding BodyVocational Training Charitable Trust
Tystysgrif Addysg (CertEd) Prifysgol BangorPrifysgol Cymru, BangorTEC Partnership University of BoltonUniversity of GreenwichUniversity of Portsmouth
Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (PCE/ ProfCE) Athrofa Prifysgol Cymru, CaerdyddPrifysgol Cymru, CasnewyddPrifysgol De CymruPrifysgol Metropolitan CaerdyddPrifysgol MorgannwgUniversity of Greenwich
Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol City & Guilds of London Institute
Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Cyflogadwyedd) Agored Cymru
Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Llythrennedd) Agored Cymru
Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Llythrennedd Digidol) Agored CymruCity & Guilds of London Institute
Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Rhifedd) Agored Cymru
Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) Agored Cymru
Tystysgrif Lefel 3 mewn Addysgu a Hyfforddi ProQual Awarding Body
Tystysgrif Lefel 3 mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes (QCF) Active IQCity & Guilds of London InstituteNational Open College NetworkNCFEOxford, Cambridge and RSA ExaminationsPearson Education LtdSwim England QualificationsVocational Training Charitable Trust
Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol 1st4SportActive IQAgored CymruAIM Qualifications and Assessment GroupAscentisAssociation of First Aiders QualificationsBIIAB Qualifications LtdChartered Institution of Wastes ManagementChartered Management InstituteCity & Guilds of London InstituteExcellence, Achievement & Learning LtdFuture (Awards and Qualifications) LtdFocus AwardsGateway QualificationsGQA QualificationsHighfield Qualificationsi-Can Qualifications LtdInnovate Awarding The Institute of Motor IndustryITC FirstMineral Products Qualifications CouncilNational Open College NetworkNCFEOpen College Network West MidlandsOxford, Cambridge and RSA ExaminationsPearson EDIPrince’s TrustProcess Awards AuthorityQualsafe AwardsRoyal Society for Public HealthSafety Training AwardsSFJ AwardsScottish Qualifications AuthoritySkills and Education Group AwardsSkillsfirst Awards Ltd.Swim England QualificationsTraining Qualifications UKVocational Training Charitable TrustYMCA Awards
Tystysgrif Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu Agored CymruChartered Institute of Personnel and DevelopmentCity & Guilds of London InstituteFuture (Awards and Qualifications) LtdGQA Qualifications Ltdi-Can Qualifications LtdOxford, Cambridge and RSA ExaminationsPearson Education LtdProcess Awards AuthoritySFJ AwardsTraining Qualifications UK Vocational Training Charitable Trust
Tystysgrif Lefel 4 mewn Addysg a Hyfforddiant Active IQAgored CymruAIM Qualifications and Assessment GroupAscentisAssociation of First Aiders QualificationsBIIAB Qualifications LtdCity & Guilds of London InstituteFuture (Awards and Qualifications) LtdGateway QualificationsHighfields Qualificationsi-Can Qualifications LtdIndustry QualificationsInnovate Awarding OrganisationNational Open College NetworkNCFEPearson BTECQualsafe AwardsSFJ AwardsSkills and Education GroupSwim England QualificationsTraining Qualifications UKVocational Training Charitable TrustVocational Training Charitable Trust (ITEC)
Tystysgrif Lefel 4 mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes (CTLLS) Active IQAim Qualifications and Assessment GroupCity & Guilds of London InstituteNational Open College NetworkNCFEOxford, Cambridge and RSA ExaminationsPearson Education LtdVocational Training Charitable TrustYMCA Awards
Tystysgrif Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (QCF) Pearson LCCI
Tystysgrif Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (Cert TESOL) Cambridge English - Cambridge Assessment EnglishNational Open College NetworkTrinity College London
Tystysgrif Lefel 3 mewn Darparu Sgiliau Sylfaenol i Oedolion City & Guilds of London Institute
Tystysgrif mewn Addysg (Dysgu Gydol Oes) Cyn Gwasanaethu (CertEd) University of Huddersfield
Tystysgrif mewn Addysg mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes University of Huddersfield
Tystysgrif mewn Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (CELTA) Cambridge English
RHAN 2 Gofyniad Arall
3 
Mae person yn bodloni’r gofyniad arall os oes gan y person hwnnw, mewn cysylltiad â phroffesiwn ymarferydd dysgu oedolion, hawlogaeth i ymarfer yn unol â Rheoliadau 2023.