
2024 Rhif 607 (Cy. 86)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu Darllen a Rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru) 2024
Gwnaed 9 Mai 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 13 Mai 2024
Yn dod i rym 1 Medi 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 56(1), (3) a (6), 74(1)(a) a 75(1) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu Darllen a Rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2024.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “yr APC” (“the NPA”) yw’r Asesiadau Personol Cenedlaethol sy’n cynnwys yr APCRh, yr APCDCS a’r APCDCC;
 ystyr “yr APCDCC” (“the NRPAW”) yw’r Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen – Cyfrwng Cymraeg, sef asesiad ar-lein a roddir i ddisgyblion at ddiben asesu eu sgiliau darllen yn Gymraeg;
 ystyr “yr APCDCS” (“the NRPAE”) yw’r Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen – Cyfrwng Saesneg, sef asesiad ar-lein a roddir i ddisgyblion at ddiben asesu eu sgiliau darllen yn Saesneg;
 ystyr “yr APCRh” (“the NNPA”) yw’r Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Rhifedd, sef asesiad ar-lein a roddir i ddisgyblion at ddiben asesu eu sgiliau rhifedd;
 ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 7 oed;
 ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 8 oed;
 ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 9 oed;
 ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 10 oed;
 ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;
 ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 12 oed;
 ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 13 oed;
 ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 14 oed;
 ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl mis Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y mis Gorffennaf canlynol;
 ystyr “canllawiau datgymhwyso’r APC” (“the NPA disapplication guidance”) yw’r adran o lawlyfr gweinyddu’r APC sy’n dwyn y teitl “Datgymhwyso” ac sy’n nodi pa ddisgyblion nad oes angen rhoi’r APC iddynt;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;
 mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;
 ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, yn ystod blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
 ystyr “llawlyfr gweinyddu’r APC” (“the NPA administration handbook”) yw’r ddogfen sy’n dwyn y teitl “Asesiadau Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen a Rhifedd: llawlyfr gweinyddu” a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ac sy’n manylu ar drefniadau gweinyddol yr APC;
 ystyr “pennaeth” (“head teacher”) yw pennaeth, gan gynnwys pennaeth dros dro, ysgol a gynhelir;
 mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir yn adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021.
Yr Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen: Saesneg
3 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i—
(a) disgybl ym mlwyddyn 4 i flwyddyn 9, a
(b) disgybl ym mlwyddyn 2 a blwyddyn 3 pan fo’r mwyafrif o wersi’r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg.
(2) Rhaid i’r pennaeth wneud trefniadau i’r APCDCS gael ei roi i bob disgybl—
(a) o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ysgol, a
(b) yn unol â llawlyfr gweinyddu’r APC.
(3) Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddisgybl sydd, ym marn y pennaeth, yn dod o fewn un o’r categorïau a restrir yng nghanllawiau datgymhwyso’r APC.
Yr Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen: Cymraeg
4 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddisgybl ym mlwyddyn 2 i flwyddyn 9 pan fo’r mwyafrif o wersi’r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
(2) Rhaid i’r pennaeth wneud trefniadau i’r APCDCC gael ei roi i bob disgybl—
(a) o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ysgol, a
(b) yn unol â llawlyfr gweinyddu’r APC.
(3) Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddisgybl sydd, ym marn y pennaeth, yn dod o fewn un o’r categorïau a restrir yng nghanllawiau datgymhwyso’r APC.
Yr Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Rhifedd
5 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddisgybl ym mlwyddyn 2 i flwyddyn 9.
(2) Rhaid i’r pennaeth wneud trefniadau i’r APCRh gael ei roi i bob disgybl—
(a) o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ysgol, a
(b) yn unol â llawlyfr gweinyddu’r APC.
(3) Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddisgybl sydd, ym marn y pennaeth, yn dod o fewn un o’r categorïau a restrir yng nghanllawiau datgymhwyso’r APC.
Diwygio Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022
6 
Ym mharagraff 6 o Ran 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022, yn lle “Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013” rhodder “Reoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu Darllen a Rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru) 2024”.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
9 Mai 2024