
2024 Rhif 502 (Cy. 80)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio) (Cymru) 2024
Gwnaed 11th April 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 12 Ebrill 2024
Yn dod i rym 28 Ebrill 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011.
Enwi, cymhwyso a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio) (Cymru) 2024.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 28 Ebrill 2024.
Diwygio Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC
2 
Ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC sy’n gosod amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystiad milfeddygol ar gyfer mewnforio briwgig a pharatoadau cig o drydydd gwledydd ac sy’n diddymu Penderfyniad 97/29/EC hepgorer Erthygl 3(3).
Dirymiadau canlyniadol
3 
Mae’r canlynol wedi eu dirymu—
(a) ‌rheoliad 3 o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021,
(b) Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2021,
(c) ‌Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) (Rhif 2) 2021,
(d) ‌rheoliad 3 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021,
(e) ‌Rheoliadau Paratoadau Cig (Cymru) (Diwygio) 2022,
(f) ‌rheoliad 3 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Cymru) 2022, ac
(g) Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Diwygio) 2024.
Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11 Ebrill 2024