
2024 Rhif 501 (Cy. 79)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2024
Gwnaed 11 Ebrill 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Ebrill 2024
Yn dod i rym 8 Mai 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(1)(a) a (2)(a), (b), (c) ac (i), a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy.
Enwi, dod i rym a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Mai 2024.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 13.
Diwygio rheoliad 10
3 
Yn rheoliad 10(1), yn eithriad 9A, hepgorer y geiriau o “ac eithrio” hyd at y diwedd.
Diwygio rheoliad 17
4 
Yn rheoliad 17(3), ar ôl “reoliad 36” mewnosoder “neu 36A”.
Diwygio rheoliad 18
5 
Yn rheoliad 18(2)(d), yn lle “datgan” rhodder “mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024, ddatgan”.
Diwygio rheoliad 19
6 
Yn rheoliad 19(1), ar ôl “reoliad 31(4)” mewnosoder “neu 31ZA(4)”.
Diwygio rheoliadau 24, 24A a 26
7 

(1) Yn rheoliad 24 (y grant sylfaenol a’r grant cyfrannu at gostau), ar ôl “dynodedig” mewnosoder “sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”.
(2) Yn rheoliad 24A (amodau cymhwyso i gael grant sylfaenol)—
(a) ar ôl “chwrs dynodedig” mewnosoder “sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”;
(b) hepgorer “oni bai bod y myfyriwr cymwys yn fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.
(3) Yn rheoliad 26 (amodau cymhwyso i gael grant cyfrannu at gostau)—
(a) ar ôl “chwrs dynodedig” mewnosoder “sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”;
(b) hepgorer “neu’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.
Diwygio rheoliad 31
8 
Yn rheoliad 31 (swm y benthyciad cyfrannu at gostau)—
(a) yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”;
(b) o flaen paragraff (1) mewnosoder—“
(A1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024.”;
(c) ym mharagraff (1) hepgorer “nad yw’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.
Mewnosod rheoliad newydd 31ZA
9 
Ar ôl rheoliad 31 (swm y benthyciad cyfrannu at gostau) mewnosoder—“
Swm y benthyciad cyfrannu at gostau — cyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024
31ZA. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yw £18,950.
(3) Pan fo carcharor cymwys yn gwneud cais am fenthyciad cyfrannu at gostau, ni chaiff swm y benthyciad fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a) y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig, a
(b) £18,950.
(4) Ac eithrio pan fo rheoliad 36A(6) a (7) yn gymwys, caiff myfyriwr cymwys wneud cais i Weinidogion Cymru i ddiwygio swm y benthyciad cyfrannu at gostau y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ar yr amod—
(a) nad yw cyfanred symiau’r benthyciad cyfrannu at gostau y gwneir cais amdanynt yn fwy na’r symiau cymwys a nodir ym mharagraffau (2) a (3);
(b) bod cais o’r fath yn cael ei wneud yn unol â rheoliad 18(2).”
Hepgor rheoliad 31A
10 
Hepgorer rheoliad 31A.
Diwygio rheoliad 36
11 
Yn rheoliad 36 (effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys)—
(a) yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”;
(b) o flaen paragraff (1) mewnosoder—“
(A1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024.”
Mewnosod rheoliad newydd 36A
12 
Ar ôl rheoliad 36 (effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys) mewnosoder—“
Effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys — cyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024
36A. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo myfyriwr cymwys sy’n cael benthyciad cyfrannu at gostau yn dod yn garcharor cymwys ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) addasu taliad o’r benthyciad cyfrannu at gostau yn y dyfodol neu daliadau yn y dyfodol o randaliadau’r benthyciad cyfrannu at gostau, fel nad yw cyfanswm y cymorth a geir gan y myfyriwr cymwys yn fwy na’r swm y mae hawlogaeth gan y myfyriwr, fel carcharor cymwys, i’w gael o dan reoliad 31ZA(3), a
(b) gwneud unrhyw daliadau yn y dyfodol o’r benthyciad cyfrannu at gostau yn unol â rheoliad 33(4).
(4) Mae paragraffau (5) i (7) yn gymwys pan fo carcharor cymwys sy’n cael benthyciad cyfrannu at gostau yn peidio â bod yn garcharor cymwys ac yn aros yn fyfyriwr cymwys, ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud unrhyw daliadau o’r benthyciad cyfrannu at gostau yn y dyfodol yn unol â rheoliad 33(2).
(6) Pan fo myfyriwr cymwys (“P”) yn peidio â bod yn garcharor cymwys caiff P, yn ddarostyngedig i baragraff (7), wneud cais i swm y benthyciad cyfrannu at gostau gael ei gynyddu.
(7) Cyfrifir yr uchafswm cynnydd ym menthyciad cyfrannu at gostau P y caiff P wneud cais amdano o dan baragraff (6) drwy gyfeirio at y fformiwla a ganlyn—Q-F×RTpan fo—
 Q yn gyfwerth â £18,950;
 F yn gyfwerth â swm y benthyciad cyfrannu at gostau y mae P yn cymhwyso i’w gael fel carcharor cymwys;
 T yn gyfwerth â chyfanswm nifer y diwrnodau y mae’r cwrs dynodedig yn para;
 R yn gyfwerth â nifer y diwrnodau o’r cwrs dynodedig sy’n weddill pan fydd P yn peidio â bod yn garcharor cymwys.”
Diwygio Atodlen 1
13 
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 3(1), hepgorer y diffiniad o “myfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
11 Ebrill 2024