
2024 Rhif 367 (Cy. 67)
Y Dreth Dirlenwi, Cymru
Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024
Gwnaed 13 Mawrth 2024
Yn dod i rym 1 Ebrill 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 122(5) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 ac adrannau 14(3) a (6), 46(4), 93 a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.

Yn unol ag adran 189(2) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2024.
Cymhwyso
2 
Mae rheoliad 3 yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2024 neu ar ôl hynny.
Cyfraddau’r dreth gwarediadau tirlenwi
3 
Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4), o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn y drefn honno—
(a) y gyfradd safonol yw £103.70 y dunnell,
(b) y gyfradd is yw £3.30 y dunnell, ac
(c) y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £155.55 y dunnell.
Diwygio Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022
4 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022, ar ôl “neu ar ôl hynny” mewnosoder “ond cyn 1 Ebrill 2024”.
Diwygio Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
5 
Yn adran 122(3) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, yn Nhabl A1, yn y golofn â’r pennawd “Swm y dreth” ar gyfer eitem 10, yn lle “48 neu 49” rhodder “49 neu 50”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
13 Mawrth 2024