
2024 Rhif 351 (Cy. 65)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
‌Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol) (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2024
Gwnaed 11 Mawrth 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru, fel sy’n ofynnol gan adran 146(1) o Ddeddf 2014, wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy ynghylch drafft o’r Cod Ymarfer diwygiedig ar Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol).
Yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, gosodwyd drafft o’r Cod Ymarfer diwygiedig ar Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol) gerbron Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2023.

Yn unol ag adran 146(3) o Ddeddf 2014, o fewn cyfnod o 40 niwrnod, ni phenderfynodd Senedd Cymru beidio â chymeradwyo’r Cod Ymarfer diwygiedig drafft ar Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol), a dyroddwyd y Cod diwygiedig ar ffurf y drafft.
Enwi a dehongli
1 

(1) ‌‌Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol) (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2024.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Diwygiedig” yw’r Cod Ymarfer ar Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol), y gosodwyd drafft ohono gerbron Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2023 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 7 Mawrth 2024.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i’r Cod Diwygiedig ddod i rym yw 1 Ebrill 2024.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2024