
2024 Rhif 343 (Cy. 64) (C. 16)
Partneriaeth Gymdeithasol, Cymru
Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024
Gwnaed 7 Mawrth 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 48(1) o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2024
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 i rym ar 1 Ebrill 2024—
(a) adran 17;
(b) adran 19.
Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2024