
2024 Rhif 339 (Cy. 63)
Arbed Ynni, Cymru
Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2024
Gwnaed 8 Mawrth 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 11 Mawrth 2024
Yn dod i rym 1 Ebrill 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990.

Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2024.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011.
Diwygio’r prif Reoliadau
3 
Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 4 i 6.
Diwygio rheoliad 2 (dehongli)
4 
Yn rheoliad 2—
(a) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 ystyr “adroddiad aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog” (“households below average income report”) yw’r data a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar incymau aelwydydd ac unigolion o dan adran 4 o Ddeddf Diwygio Lles a Gwaith 2016;
 ystyr “aelwyd incwm is” (“lower income household”) yw aelwyd sydd ag incwm net, ac eithrio unrhyw incwm o fudd-daliadau neu daliadau sy’n gysylltiedig ag anabledd, sy’n llai na 60% o incwm cyfwerthedig net canolrifol aelwydydd cyn costau tai yn seiliedig ar y data diweddaraf a gyhoeddwyd yn yr adroddiad aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog;
 ystyr “meini prawf cymhwystra iechyd” (“health eligibility criteria”) yw person sy’n byw â chyflwr anadlol cronig, cyflwr cylchrediad y gwaed cronig neu gyflwr iechyd meddwl cronig;;”;
(b) yn y diffiniad o “budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd”—
(i) ym mharagraff (e), ar y diwedd hepgorer “ac”;
(ii) ym mharagraff (f), ar y diwedd mewnosoder “ac”;
(iii) ar ôl paragraff (f), mewnosoder—“
(g) lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm (fel y diffinnir “income-based jobseeker’s allowance” yn adran 1(4) o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995);”.
Diwygio rheoliad 5 (meini prawf cymhwystra)
5 
Yn rheoliad 5—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) os yw’r ceisydd yn feddiannydd ar yr annedd ac—
(i) mae’n cael budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd, neu
(ii) mae o aelwyd incwm is; ac”;
(ii) yn lle is-baragraff (c) rhodder—“
(c) os yw’r asiantaeth ardal wedi ei bodloni bod dosbarthiad ased yr annedd—
(i) yn 54 neu lai, neu
(ii) yn 68 neu lai pan fo’r ceisydd neu feddiannydd ar yr annedd yn bodloni’r meini prawf cymhwystra iechyd.”;
(b) hepgorer paragraff (3A).
Diwygio rheoliad 9 (amodau grant)
6 
Yn rheoliad 9(1)(a)(ii), yn lle “baragraff (2)(a) o’r Rheoliad hwn” rhodder “is-baragraff (i)”.
Darpariaethau trosiannol
7 
Mae’r prif Reoliadau fel yr oeddent mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2024 yn parhau i fod yn gymwys ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw mewn cysylltiad â chais gweithfeydd a wnaed ond na phenderfynwyd arno eto cyn y dyddiad hwnnw ac mewn perthynas â chais gweithfeydd a wnaed ac a gymeradwywyd cyn y dyddiad hwnnw.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2024