
2024 Rhif 330 (Cy. 59)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024
Gwnaed 7 Mawrth 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 11 Mawrth 2024
Yn dod i rym 8 Ebrill 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 61 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2024.
Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015
2 
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£39.50” rhodder “£43.90”;
(b) yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£39.50” rhodder “£43.90”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2024