
2024 Rhif 318 (Cy. 57)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2024
Gwnaed 6 Mawrth 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 8 Mawrth 2024
Yn dod i rym 1 Ebrill 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 125 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2024 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2024.
Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006
2 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (cyfrifo ffioedd)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “£14.70” rhodder “£20.00”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “£47.00” rhodder “£60.00”;
(c) ym mharagraff (3), yn lle “£203.00” rhodder “£260.00”;
(d) ym mharagraff (4), yn lle “£203.00” rhodder “£260.00”;
(e) ym mharagraff (5), yn lle “A Band 1 charge, that is to say a charge of £14.70” rhodder “A charge of £30.00”.
Dirymu
3 
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2020 wedi eu dirymu.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2024