
2024 Rhif 28 (Cy. 11)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2024
Gwnaed 11 Ionawr 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Ionawr 2024
Yn dod i rym 14 Chwefror 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 167A, 167B(2) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac adrannau 171(1) a (2) a 181(2) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2024 a deuant i rym ar 14 Chwefror 2024.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cyfarwyddyd adran 167A” (“section 167A direction”) yw cyfarwyddyd a roddir o dan adran 167A o Ddeddf 2002;
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006;
 mae i “rhybuddiad” yr ystyr a roddir i “caution” gan adran 8A(2) o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974;
 mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” gan adran 463 o Ddeddf Addysg 1996.
Y seiliau rhagnodedig dros gyfarwyddyd adran 167A
2 

(1) Y seiliau rhagnodedig y caniateir i gyfarwyddyd adran 167A gael ei roi mewn cysylltiad â pherson arnynt yw—
(a) bod y person—
(i) wedi ei euogfarnu o drosedd berthnasol,
(ii) wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol,
(iii) yn ddarostyngedig i ganfyddiad perthnasol mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, neu
(iv) wedi ymgymryd ag ymddygiad perthnasol, a
(b) bod yr awdurdod priodol yn ystyried bod y person, oherwydd yr euogfarn honno, y rhybuddiad hwnnw, y canfyddiad hwnnw neu’r ymddygiad hwnnw, yn anaddas i gymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae trosedd yn berthnasol os yw’n berthnasol i addasrwydd person i gymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol.
(3) Mae cyfeiriadau ym mharagraff (1) at euogfarn yn cynnwys cyfeiriadau at y canlynol—
(a) euogfarn o drosedd sy’n dod o fewn adran 308(3)(a) o’r Cod Dedfrydu, a
(b) euogfarn o drosedd yn y lluoedd arfog o fewn yr ystyr a roddir i “service offence” yn Neddf y Lluoedd Arfog 2006 gan gynnwys unrhyw beth sydd o dan adran 376(1) a (2) o’r Ddeddf honno i’w drin fel euogfarn.
(4) At ddibenion paragraff (1), mae person yn ddarostyngedig i “ganfyddiad perthnasol” mewn cysylltiad â throsedd berthnasol—
(a) os yw’r person wedi ei gael yn ddieuog o’r drosedd oherwydd gorffwylledd,
(b) os cafwyd bod y person o dan anabledd a’i fod wedi cyflawni’r weithred y mae wedi ei gyhuddo ohoni mewn cysylltiad â’r drosedd, neu
(c) os yw llys, o dan y gyfraith sydd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, wedi gwneud canfyddiad sy’n cyfateb i’r hyn a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b).
(5) At ddibenion paragraff (1), bydd ymddygiad yn berthnasol os yw’n ymddygiad—
(a) sydd â’r nod o danseilio gwerthoedd sylfaenol democratiaeth a chymorth i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, rheolaeth y gyfraith, rhyddid yr unigolyn, a pharch a goddefgarwch y rhai sydd â ffydd a chredoau gwahanol at ei gilydd,
(b) y mae corff proffesiynol wedi dyfarnu ei fod yn groes i safonau proffesiynol, neu
(c) sydd mor amhriodol ei fod, ym marn yr awdurdod priodol, yn gwneud person yn anaddas i gymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol.
(6) Yn ddarostyngedig i adrannau 4 ac 8A o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac Atodlen 2 iddi ac i unrhyw orchmynion a wneir o dan y darpariaethau hynny, mae cyfeiriadau ym mharagraff (1) at euogfarn neu rybuddiad yn cynnwys cyfeiriadau at euogfarn neu rybuddiad sydd wedi ei disbyddu neu wedi ei ddisbyddu (o fewn yr ystyr a roddir i “spent conviction” neu “spent caution” yn Neddf Adsefydlu Troseddwyr 1974).
(7) At ddibenion paragraff (1), mae person (“P”) wedi ei euogfarnu o drosedd, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd, os yw P wedi ei euogfarnu neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd—
(a) mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, neu
(b) o dan y gyfraith sydd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
(8) At ddibenion paragraff (7) mae P yn cyflawni trosedd o dan y gyfraith sydd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig os yw P yn cyflawni gweithred y gellir ei chosbi o dan y gyfraith sydd mewn grym yn y wlad honno ni waeth sut y disgrifir y weithred honno yn y gyfraith honno.
Y weithdrefn ar gyfer rhoi cyfarwyddyd adran 167A
3 

(1) Cyn rhoi cyfarwyddyd adran 167A mewn cysylltiad â pherson rhaid i’r awdurdod priodol roi’r cyfle i’r person i gyflwyno sylwadau o ran pam na ddylai’r awdurdod priodol roi’r cyfarwyddyd.
(2) Rhaid i’r awdurdod priodol roi hysbysiad i’r person y caiff y person gyflwyno sylwadau o’r fath.
(3) Rhaid i’r awdurdod priodol roi’r hysbysiad o dan baragraff (2) drwy ei anfon at y person drwy’r post.
(4) Caiff person y rhoddir hysbysiad iddo o dan baragraff (2) gyflwyno sylwadau ar ffurf ysgrifenedig o fewn y cyfnod o 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod yr anfonwyd yr hysbysiad.
(5) Os—
(a) yw person y rhoddir hysbysiad iddo o dan baragraff (2) yn gofyn am gael cyflwyno sylwadau ar ôl i’r cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (4) ddod i ben, a
(b) yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni bod rhesymau da pam y methodd y person â chyflwyno sylwadau mewn pryd,
caiff yr awdurdod priodol ganiatáu cyfnod pellach y mae’r awdurdod priodol yn ystyried ei fod yn rhesymol i’r person i gyflwyno sylwadau.
(6) Nid yw paragraffau (1), (2) na (3) yn gymwys pan na fo’r awdurdod priodol yn gwybod a phan na fo modd iddo ganfod yn rhesymol ymhle y mae’r person o dan sylw.
(7) Os rhoddir cyfarwyddyd adran 167A mewn cysylltiad â pherson rhaid i’r awdurdod priodol gymryd pob cam rhesymol i hysbysu’r person am y ffaith honno.
Achosion pan gaiff yr awdurdod priodol amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd adran 167A
4 
Yr achosion rhagnodedig pan gaiff yr awdurdod priodol amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd adran 167A yw—
(a) pan fo’r person y rhoddwyd y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef wedi ceisio ei gael wedi ei amrywio neu wedi ei ddirymu ar un o’r seiliau a nodir yn rheoliad 5(1),
(b) pan fo’r awdurdod priodol yn meddu ar wybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad i roi’r cyfarwyddyd cynharach nad oedd gan yr awdurdod priodol ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad, neu
(c) pan fo’r awdurdod priodol yn meddu ar dystiolaeth o newid perthnasol yn amgylchiadau’r person y rhoddwyd y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef, sy’n digwydd ers i’r cyfarwyddyd gael ei roi,a phan fo’r awdurdod priodol yn ystyried ei bod yn briodol amrywio neu ddirymu’r cyfarwyddyd.
Y seiliau y caniateir ceisio amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd adran 167A arnynt
5 

(1) Y seiliau rhagnodedig y caiff person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd adran 167A geisio ei gael wedi ei amrywio neu wedi ei ddirymu arnynt yw—
(a) bod euogfarn, rhybuddiad neu ganfyddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd ar ei sail wedi ei diddymu neu wedi ei ddiddymu,
(b) bod euogfarn neu rybuddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd ar ei sail, ers i’r cyfarwyddyd gael ei roi, wedi ei disbyddu neu wedi ei ddisbyddu o fewn yr ystyr a roddir i “spent conviction” neu “spent caution” yn Neddf Adsefydlu Troseddwyr 1974,
(c) bod euogfarn neu rybuddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd ar ei sail, ers i’r cyfarwyddyd gael ei roi, wedi dod yn euogfarn warchodedig neu’n rhybuddiad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected conviction” neu “protected caution” yng Ngorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975,
(d) yn achos cyfarwyddyd a roddir ar sail canfyddiad perthnasol, fod o leiaf bum mlynedd wedi mynd heibio ers i’r canfyddiad gael ei wneud,
(e) bod y person y rhoddwyd y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef yn gallu darparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad i roi’r cyfarwyddyd cynharach nad oedd gan yr awdurdod priodol ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad, neu
(f) bod y person y rhoddwyd y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef yn gallu darparu tystiolaeth o newid perthnasol mewn amgylchiadau sy’n digwydd ers i’r cyfarwyddyd gael ei roi.
(2) At ddibenion paragraff (1)(e) ac (f), ni chaiff person geisio cael cyfarwyddyd adran 167A wedi ei amrywio na wedi ei ddirymu i’r graddau y mae achos y person yn anghyson â bod y person wedi ei euogfarnu o drosedd, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, rhoddir cyfarwyddyd adran 167A ar sail euogfarn, rhybuddiad, canfyddiad neu ymddygiad os bodlonir y sail yn rheoliad 2(1) yn rhinwedd yr euogfarn, y rhybuddiad, y canfyddiad neu’r ymddygiad (yn ôl y digwydd).
Apelau: cyfyngu ar bŵer y Tribiwnlys Haen Gyntaf i ystyried apêl
6 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chyfarwyddyd adran 167A a roddir ar sail euogfarn am drosedd.
(2) Ni chaiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf ystyried apêl o dan adran 167B(1) o Ddeddf 2002 yn erbyn y penderfyniad i roi’r cyfarwyddyd, neu i beidio ag amrywio neu ddirymu’r cyfarwyddyd, i’r graddau y mae achos yr apelydd yn anghyson â bod yr apelydd wedi ei euogfarnu o drosedd.
(3) At ddibenion paragraff (1) rhoddir cyfarwyddyd adran 167A ar sail euogfarn am drosedd os bodlonir y sail yn rheoliad 2(1) yn rhinwedd euogfarn am y drosedd.
Apelau: pwerau’r Tribiwnlys Haen Gyntaf
7 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) pan fo apêl wedi ei gwneud i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 167B(1) o Ddeddf 2002 mewn cysylltiad â phenderfyniad i roi cyfarwyddyd adran 167A, neu benderfyniad i beidio ag amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd adran 167A, a
(b) pan fo’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn ystyried nad yw’r penderfyniad yn briodol.
(2) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf orchymyn i’r awdurdod priodol amrywio neu ddirymu’r cyfarwyddyd.
(3) Oni bai bod y partïon i apêl yn cytuno fel arall, rhaid i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf, drwy arfer ei bwerau o dan y rheoliad hwn, beidio ag ystyried—
(a) unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad i roi cyfarwyddyd, neu i beidio ag amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd, nad oedd gan yr awdurdod priodol ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad;
(b) unrhyw dystiolaeth o newid perthnasol yn amgylchiadau’r person o dan sylw sy’n digwydd ers i’r penderfyniad i roi cyfarwyddyd neu i beidio ag amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd gael ei wneud.
Cyfarwyddydau a roddwyd o dan adran 142 o Ddeddf 2002
8 

(1) Mae’r seiliau rhagnodedig at ddibenion adran 171(1)(a) o Ddeddf 2006 y rhoddwyd cyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf 2002 (gwahardd rhag addysgu, etc.) mewn cysylltiad â’r person arnynt yn seiliau sy’n ymwneud â chamymddygiad y person.
(2) Yr amod rhagnodedig y mae rhaid ei fodloni mewn cysylltiad â’r person (at ddibenion adran 171(1)(b) o Ddeddf 2006) yw na chaiff y person, o ganlyniad i’r cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 142 o Ddeddf 2002, gymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol.
(3) Gan ddechrau â 14 Chwefror 2024, mae personau sy’n dod o fewn adran 171(1) o Ddeddf 2006 i’w trin fel pe bai’r cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 142 o Ddeddf 2002 yn gyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf 2002 at ddiben unrhyw ddeddfiad.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
11 Ionawr 2024