
2024 Rhif 238 (Cy. 48)
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024
Gwnaed 28 Chwefror 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 1 Mawrth 2024
Yn dod i rym 6 Ebrill 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 1(1), 46A(4) a 54B(5) o Ddeddf Adeiladu 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu ac unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
Enwi, cymhwyso a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2024.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “adeilad” yr ystyr a roddir i “building” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2010;
 ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984;
 mae i “gwaith adeiladu” yr ystyr a roddir i “building work” yn rheoliad 3 o Reoliadau 2010;
 ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 2010;
 ystyr “y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy” (“the Approved Inspectors Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (1), mae i eiriau ac ymadroddion Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i eiriau ac ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 1984 yr un ystyr â’r geiriau a’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno.
Awdurdodau rheolaeth adeiladu: gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig
3 

(1) At ddibenion adran 46A(1) o Ddeddf 1984, mae’r gweithgareddau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n weithgaredd cyfyngedig—
(a) pan gyflwynir cynlluniau sy’n ymwneud ag unrhyw waith adeiladu i awdurdod lleol o dan unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau 2010, gwirio bod y cynlluniau hynny yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu sy’n gymwys i’r gwaith adeiladu hwnnw;
(b) pan fo arolygiad o waith adeiladu i’w gynnal gan awdurdod lleol at ddiben gwirio y cydymffurfir ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu sy’n gymwys i’r gwaith, cynnal yr arolygiad hwnnw ac amserlennu’r camau neu’r pwyntiau ar gyfer arolygiadau.
(2) At ddibenion adran 46A(2) o Ddeddf 1984, mae’r swyddogaethau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n swyddogaeth gyfyngedig—
(a) penderfynu cais am gyfarwyddyd o dan adran 8 o Ddeddf 1984 (llacio rheoliadau adeiladu);
(b) pasio neu wrthod cynlluniau o dan adran 16 o Ddeddf 1984 (pasio neu wrthod cynlluniau) gan gynnwys arfer, mewn perthynas â’r cynlluniau hynny, bŵer yn—
(i) adran 19(1) o Ddeddf 1984 (defnyddio deunyddiau byrhoedlog),
(ii) adran 21(4) o Ddeddf 1984 (darparu draenio), neu
(iii) adran 25(1) o Ddeddf 1984 (darparu cyflenwad dŵr);
(c) pennu cyfnod y mae rhaid cael gwared ar adeilad neu waith adeiladu pan fo’r cyfnod hwnnw yn dod i ben, estyn y cyfnod hwnnw, gosod amodau mewn perthynas ag adeilad neu amrywio’r amodau hynny, o dan adran 19(2) neu (3) o Ddeddf 1984 (defnyddio deunyddiau byrhoedlog);
(d) ei gwneud yn ofynnol i adeilad gael ei ddraenio ar y cyd o dan adran 22 o Ddeddf 1984 (draenio adeiladau ar y cyd);
(e) rhoi cydsyniad o dan adran 23 o Ddeddf 1984 (darparu cyfleusterau ar gyfer sbwriel);
(f) rhoi hysbysiad neu roi tystysgrif o dan adran 25(3) o Ddeddf 1984 (darparu cyflenwad dŵr);
(g) arfer unrhyw bŵer o dan adran 33 o Ddeddf 1984 (profion i ganfod a gydymffurfir â rheoliadau adeiladu);
(h) penderfynu, at ddibenion adran 35 o Ddeddf 1984 (cosb am dorri rheoliadau adeiladu), a yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn rheoliadau adeiladu wedi ei thorri;
(i) rhoi hysbysiad adran 36 neu benderfynu tynnu i lawr neu gael gwared ar waith neu wneud addasiadau iddo fel y’i tybir yn angenrheidiol o dan adran 36(3) o Ddeddf 1984 (cael gwared ar waith tramgwyddus neu ei addasu);
(j) penderfynu a ddylid tynnu hysbysiad adran 36 yn ôl pan roddir adroddiad ysgrifenedig o dan adran 37(1)(a) o Ddeddf 1984 (cael adroddiad pan roddir hysbysiad adran 36);
(k) rhoi hysbysiad canslo o dan adran 52A(4) o Ddeddf 1984 (canslo hysbysiad cychwynnol pan fo gwaith yn dod yn waith adeilad risg uwch);
(l) rhoi tystysgrif gwblhau o dan reoliad 17 o Reoliadau 2010 (tystysgrifau cwblhau);
(m) rhoi tystysgrif gwblhau o dan reoliad 17A o Reoliadau 2010 (tystysgrif ar gyfer adeilad a feddiennir cyn cwblhau’r gwaith);
(n) penderfynu, pan fo rheoliad 18 o Reoliadau 2010 (gwaith adeiladu anawdurdodedig) yn gymwys—
(i) a ganiateir rhoi tystysgrif unioni o dan reoliad 18 o Reoliadau 2010;
(ii) a oes angen cymryd unrhyw gamau rhesymol o dan reoliad 18(3) o Reoliadau 2010;
(o) penderfynu, pan fo rheoliad 19(1) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy (gwaith sydd wedi ei gwblhau yn rhannol) yn gymwys—
(i) a yw cynlluniau a roddwyd o dan reoliad 19(2)(a) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn ddigonol i ddangos na fyddai’r gwaith a fwriedir yn torri unrhyw ofyniad yn Rheoliadau 2010;
(ii) a ddylai fod yn ofynnol i berchennog, mewn perthynas ag unrhyw ran o’r gwaith, dorri i mewn iddo, ei agor neu ei dynnu i lawr o dan reoliad 19(2)(b) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy.
Cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu: gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig
4 

(1) At ddibenion adran 54B(2) o Ddeddf 1984, mae’r gweithgareddau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n weithgaredd cyfyngedig—
(a) pan fo hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu dystysgrif cynlluniau i’w roi neu i’w rhoi mewn perthynas ag unrhyw waith adeiladu, gwirio bod cynlluniau y mae’r hysbysiad neu’r dystysgrif yn ymwneud â hwy yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu sy’n gymwys i’r gwaith;
(b) pan fo arolygiad o waith adeiladu i’w gynnal gan y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu at ddiben gwirio y cydymffurfir ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu sy’n gymwys i’r gwaith, cynnal yr arolygiad hwnnw (gan gynnwys amserlennu’r camau neu’r pwyntiau ar gyfer arolygiadau).
(2) At ddibenion adran 54B(3) o Ddeddf 1984, mae’r swyddogaethau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n swyddogaeth gyfyngedig—
(a) rhoi hysbysiad cychwynnol i awdurdod lleol o dan adran 47 o Ddeddf 1984 (hysbysiadau cychwynnol) gan gynnwys hysbysiad cychwynnol wedi ei gyfuno â thystysgrif cynlluniau neu hysbysiad cychwynnol newydd o dan adran 53(7) o Ddeddf 1984 (hysbysiadau cychwynnol newydd);
(b) rhoi tystysgrif cynlluniau i awdurdod lleol o dan adran 50 o Ddeddf 1984 (tystysgrifau cynlluniau);
(c) rhoi tystysgrif derfynol i awdurdod lleol o dan adran 51 o Ddeddf 1984 (tystysgrifau terfynol);
(d) rhoi hysbysiad diwygio i awdurdod lleol o dan adran 51A o Ddeddf 1984 (amrywio gwaith y mae hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef);
(e) rhoi hysbysiad i awdurdod lleol o dan adran 52(1)(c) neu 52A(1) o Ddeddf 1984 (canslo hysbysiad cychwynnol);
(f) rhoi tystysgrif drosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo i awdurdod lleol o dan adran 53B(3) o Ddeddf 1984 (hysbysiad cychwynnol newydd: newid cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu).
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
28 Chwefror 2024