
2024 Rhif 217 (Cy. 44)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) (Diwygio) 2024
Gwnaed 26 Chwefror 2024
Yn dod i rym 15 March 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 148(2) a (3) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Mawrth 2024.
Diwygio Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) 2023
2 
Mae Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) 2023 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
3 
Yn erthygl 4, hepgorer paragraffau (d) ac (e).
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2024