
2024 Rhif 185 (Cy. 37)
Ystadegau Swyddogol, Cymru
Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024
Gwnaed 21 Chwefror 2024
Yn dod i rym 1 Ebrill 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 6(1)(b)(iii) a (2) o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Yn unol ag adran 6(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Bwrdd Ystadegau.

Yn unol ag adran 65(7) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2024.
Diwygio Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017
2 
Yn yr Atodlen i Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017, yn y lle priodol mewnosoder “Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
21 Chwefror 2024