
2024 Rhif 17 (Cy. 6)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Diwygio) 2024
Gwnaed 8 Ionawr 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 9 Ionawr 2024
Yn dod i rym 30 Ionawr 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Ionawr 2024.
Diwygio Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
2 
Yn rheoliad 3(1) (addasiadau darfodol i Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC) o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021, yn lle “31 Ionawr” rhodder “29 Ebrill”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
8 Ionawr 2024