
2024 Rhif 144 (Cy. 31)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau Terfynau Ffioedd a Benthyciadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024
Gwnaed 13 Chwefror 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Chwefror 2024
Yn dod i rym 8 Mawrth 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arf\er y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(1)(a), 22(2)(a), (b) a (d) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(3) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau Terfynau Ffioedd a Benthyciadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Mawrth 2024.
Diwygio Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015
2 
Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 6.
3 
Yn lle rheoliad 3 (ond nid y pennawd o’i flaen) rhodder—“
3. 
Yn ddarostyngedig i reoliadau 4, 5 a 6, mae Colofn 2 o Dabl 1 yn pennu’r uchafswm rhagnodedig at ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 1
Colofn 1 Colofn 2
Y flwyddyn academaidd Yr uchafswm rhagnodedig
Sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024 £9,000
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 £9,250”
4 
Yn lle rheoliad 4 (ond nid y pennawd o’i flaen) rhodder—“
4. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a) blwyddyn academaidd derfynol cwrs pan fo’n ofynnol i’r flwyddyn academaidd honno fel rheol gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;
(b) cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs o’r fath sy’n arwain at radd gyntaf), y mae swm cyfanredol unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser mewn blwyddyn academaidd yn ystod y cwrs hwnnw yn llai na 10 wythnos.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae Colofn 2 o Dabl 2 yn pennu’r uchafswm rhagnodedig at ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 2
Colofn 1 Colofn 2
Y flwyddyn academaidd Yr uchafswm rhagnodedig
Sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024 £4,500
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 £4,625”
5 
Yn lle rheoliad 5 (ond nid y pennawd o’i flaen) rhodder—“
5. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod—
(a) pryd y mae swm cyfanredol unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos, neu
(b) os yw swm cyfanredol unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser), mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, yn fwy na 30 o wythnosau.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae Colofn 2 o Dabl 3 yn pennu’r uchafswm rhagnodedig at ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 3
Colofn 1 Colofn 2
Y flwyddyn academaidd Yr uchafswm rhagnodedig
Sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024 £1,800
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 £1,850”
6 
Yn lle rheoliad 6 (ond nid y pennawd o’i flaen) rhodder—“
6. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor—
(a) pryd y mae swm cyfanredol unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos, neu
(b) os yw swm cyfanredol unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser), mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, yn fwy na 30 o wythnosau.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae Colofn 2 o Dabl 4 yn pennu’r uchafswm rhagnodedig at ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 4
Colofn 1 Colofn 2
Y flwyddyn academaidd Yr uchafswm rhagnodedig
Sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024 £1,350
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 £1,385”
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
7 
Ym mhob un o reoliadau 16(1), 19(1) ac 20(1) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017, ar ôl “rheoliad 5(1)(e)” mewnosoder “neu (ea)”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
8 
Yn rheoliad 40 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018, yn Nhabl 2—
(a) yng Ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018” yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2024”;
(b) ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y Tabl—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2024 1 Darparwr arferol Cymru £9,250: cwrs llawnamser£2,625: cwrs rhan-amser
Mannau eraill yn y DU £9,250: cwrs llawnamser£6,935: cwrs rhan-amser
Sefydliad preifat Cymru £6,165: cwrs llawnamser£2,625: cwrs rhan-amser
Mannau eraill yn y DU £6,165: cwrs llawnamser£4,625: cwrs rhan-amser
2 Darparwr arferol Cymru £4,625
Mannau eraill yn y DU £4,625
Sefydliad preifat Cymru a mannau eraill yn y DU £3,080
3 Darparwr arferol Cymru £1,850
Lloegr £1,850
Yr Alban a Gogledd Iwerddon £4,625
Sefydliad preifat Cymru a Lloegr £1,230
Yr Alban a Gogledd Iwerddon £3,080
4 Darparwr arferol Cymru £1,385
Lloegr £1,385
Yr Alban a Gogledd Iwerddon £4,625
Sefydliad preifat Cymru a Lloegr £920
Yr Alban a Gogledd Iwerddon £3,080
5 Darparwr arferol Cymru a mannau eraill yn y DU £5,785
6 Darparwr arferol Cymru £1,385
Lloegr a’r Alban £1,385”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
13 Chwefror 2024