
2024 Rhif 1337 (Cy. 226) (C. 81)
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Cyrff Cyhoeddus, Cymru
Gorchymyn Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 1) 2024
Gwnaed 13 Rhagfyr  2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 72(4) a (6) o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 1) 2024.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2025
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2025—
(a) adran 1 (Bwrdd Rheoli Etholiadol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru);
(b) adran 2 a Rhan 1 o Atodlen 1 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);
(c) adran 26 (platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig);
(d) adran 28 (cynlluniau cymorth ariannol i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig);
(e) adran 29 (personau a eithrir);
(f) adran 31 (dehongli Pennod 4 o Ran 1);
(g) adran 32 (gwariant tybiannol: ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol);
(h) adran 33 (gwariant tybiannol a gwariant gan drydydd parti: etholiadau Senedd Cymru);
(i) adran 34 (codau ymarfer ar dreuliau);
(j) adran 35 (personau awdurdodedig nad yw’n ofynnol iddynt dalu drwy asiant etholiad);
(k) adran 36 (cyfyngu ar ba drydydd partïon a gaiff fynd i wariant a reolir);
(l) adran 37 (trydydd partïon sy’n gallu rhoi hysbysiad);
(m) adran 38 (cod ymarfer ar reolaethau sy’n ymwneud â thrydydd partïon);
(n) adran 39 a Rhan 3 o Atodlen 1 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);
(o) adran 67 (Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: pwyllgor llywodraethu ac archwilio);
(p) adran 68 (Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: pŵer i godi tâl).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2025
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2025—
(a) adran 27 (gwasanaethau i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig);
(b) adran 56 (diddymu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol);
(c) adran 57 (swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol);
(d) adran 58 (trosglwyddo eiddo, hawliau ac atebolrwyddau);
(e) adran 59 a Rhan 4 o Atodlen 1 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);
(f) adran 60 (arbedion).
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2024