
2024 Rhif 1324 (Cy. 223)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024
Gwnaed 11 Rhagfyr 2024
Yn dod i rym 1 Mehefin 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 140(1)(c) a (d), (3)(a), (c) a (d) a (9) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”) ac adran 62(2) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (“Deddf 2008”).
Mae Gweinidogion Cymru—
(a) yn ystyried ei bod yn briodol gwneud y Rheoliadau hyn at ddiben atal yr eitemau a bennir ynddynt rhag achosi llygredd amgylcheddol a niwed i iechyd anifeiliaid;
(b) wedi cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette a’r Western Mail yn unol ag adran 140(6)(b) o Ddeddf 1990, ac wedi ystyried y sylwadau a gyflwynwyd yn unol â’r hysbysiad hwnnw fel sy’n ofynnol gan adran 140(6)(c) o Ddeddf 1990;
(c) wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 59(3) o Ddeddf 2008;
(d) wedi ymgynghori ag awdurdodau lleol (sy’n rheoleiddwyr at ddibenion y Rheoliadau hyn), yn unol ag adran 60(1) o Ddeddf 2008;
(e) wedi ymgynghori ag unrhyw sefydliadau yr oedd Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn cynrychioli personau y mae’r cynigion yn debygol o gael effaith sylweddol arnynt, ac unrhyw bersonau eraill yr oedd Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol, yn unol ag adran 60(1) o Ddeddf 2008;
(f) wedi eu bodloni, yn unol ag adran 66 o Ddeddf 2008, y bydd awdurdodau lleol (sy’n rheoleiddwyr at ddibenion y Rheoliadau hyn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn.

Yn unol ag adran 62(3) o Ddeddf 2008, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
RHAN 1 Cyflwyniad
Enwi, dod i rym a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mehefin 2025.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae “anweddu” (“vaporise”) yn cynnwys erosoli;
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 mae i “cosb am beidio â chydymffurfio” (“non-compliance penalty”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 26(1) o’r Atodlen;
 mae i “cosb ariannol amrywiadwy” (“variable monetary penalty”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1(1)(b) yn yr Atodlen;
 mae i “cosb ariannol benodedig” (“fixed monetary penalty”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1(1)(a) o’r Atodlen;
 ystyr “cyflenwi” (“supply”) yw cyflenwi, pa un ai drwy werthu ai peidio, yng nghwrs busnes;
 ystyr “cynhwysydd” (“container”) yw cetrisen, pod, tanc, capsiwl, neu unrhyw ddaliedydd arall sydd wedi ei dylunio neu ei ddylunio i ddal sylwedd fepio ac i’w defnyddio neu ei ddefnyddio gyda fêp;
 ystyr “fêp” (“vape”) yw dyfais—
(a) sy’n anweddu sylweddau, ac eithrio tybaco, at ddibenion mewnanadlu drwy ddarn ceg (pa un a yw hefyd yn anweddu tybaco ai peidio); a
(b) nad yw’n ddyfais feddygol o fewn yr ystyr a roddir i “medical device” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002 nac yn gynnyrch meddyginiaethol o fewn yr ystyr a roddir i “medicinal product” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;
 mae i “fêp untro” (“single-use vape”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(1);
 mae i “hysbysiad cydymffurfio” (“compliance notice”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1(1)(c) o’r Atodlen;
 mae i “hysbysiad stop” (“stop notice”) yr ystyr a roddir gan baragraff 11(2) o’r Atodlen;
 mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, cerbyd, llestr neu offer symudol;
 ystyr “rheoleiddiwr” (“regulator”) yw awdurdod lleol;
 ystyr “sancsiwn sifil” (“civil sanction”) yw cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio, cosb am beidio â chydymffurfio, hysbysiad stop neu ymgymeriad gorfodi (ac mae cyfeiriadau at osod sancsiwn sifil yn cynnwys derbyn ymgymeriad gorfodi);
 ystyr “swyddog gorfodaeth” (“enforcement officer”) yw person a awdurdodir o dan reoliad 7(1);
 ystyr “sylwedd fepio” (“vaping substance”) yw sylwedd, ac eithrio tybaco, y bwriedir iddo gael ei anweddu â fêp;
 ystyr “ymgymeriad gorfodi” (“enforcement undertaking”) yw ymgymeriad ysgrifenedig i gymryd unrhyw gamau a bennir yn yr ymgymeriad, o fewn unrhyw gyfnod a bennir felly;
 mae i “ymgymeriad trydydd parti” (“third party undertaking”) yr ystyr a roddir gan baragraff 3(1) o’r Atodlen.
Ystyr fêp untro
3 

(1) Fêp untro yw fêp nad yw wedi ei ddylunio na’i fwriadu i gael ei ailddefnyddio.
(2) Ni fwriedir i fêp untro gael ei ailddefnyddio—
(a) os na ellir ei ail-lenwi,
(b) os na ellir ei ailwefru, neu
(c) os na ellir ei ail-lenwi ac na ellir ei ailwefru.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, ni ellir ail-lenwi fêp oni bai ei fod wedi ei ddylunio i gynnwys—
(a) cynhwysydd untro sydd ar gael ar wahân ac y gall defnyddiwr unigol ei amnewid yng nghwrs arferol ei ddefnyddio, neu
(b) cynhwysydd y gall defnyddiwr unigol ei ail-lenwi yng nghwrs arferol ei ddefnyddio.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, ni ellir ailwefru fêp os yw wedi ei ddylunio i gynnwys—
(a) batri na ellir ei ailwefru, neu
(b) coil nad yw ar gael ar wahân ac na all defnyddiwr unigol ei amnewid yng nghwrs arferol ei ddefnyddio, gan gynnwys unrhyw goil sydd wedi ei gynnwys mewn cetrisen neu bod untro nad yw ar gael ar wahân ac na all defnyddiwr unigol ei amnewid yng nghwrs arferol ei ddefnyddio.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “ar gael ar wahân” yw ar gael i’w brynu gan ddefnyddiwr unigol.
RHAN 2 Troseddau
Trosedd: cyflenwi fêps untro
4 

(1) Mae person yn cyflawni trosedd—
(a) os yw’n cyflenwi fêp untro,
(b) os yw’n cynnig cyflenwi fêp untro, neu
(c) os oes fêp untro yn ei feddiant ar gyfer ei gyflenwi.
(2) Mae person a euogfarnwyd o drosedd o dan baragraff (1) yn agored—
(a) ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cyffredinol mewn llys ynadon, neu’r ddau, neu
(b) ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu’r ddau.
Trosedd: rhwystro swyddogion gorfodaeth a methu â chydymffurfio â’u ceisiadau
5 

(1) Mae person yn cyflawni trosedd—
(a) os yw’n rhwystro yn fwriadol swyddog gorfodaeth sy’n arfer pwerau o dan reoliad 9 (pwerau mynediad) neu reoliad 10 (pŵer mynediad, ymchwilio ac archwilio etc.), neu
(b) os yw’n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â chais a wneir gan swyddog gorfodaeth wrth arfer ei bwerau o dan reoliad 10(1)(f), (g) neu (h).
(2) Mae person a euogfarnwyd o drosedd o dan baragraff (1)(a) neu (1)(b) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy
6 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), mewn achos am drosedd o dan y Rhan hon, mae’n amddiffyniad i berson (“P”) ddangos bod P wedi cymryd pob cam rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd.
(2) Ni chaniateir i P ddibynnu ar amddiffyniad o dan baragraff (1) sy’n cynnwys honiad trydydd parti oni bai bod P—
(a) wedi cyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (3), neu
(b) wedi cael caniatâd y llys.
(3) Rhaid i’r hysbysiad—
(a) rhoi unrhyw wybodaeth sydd ym meddiant P sy’n adnabod y person, neu sydd o gymorth o ran adnabod y person—
(i) a gyflawnodd y weithred neu’r diffyg, neu
(ii) a gyflenwodd yr wybodaeth yr oedd P yn dibynnu arni, a
(b) cael ei gyflwyno i’r person sy’n dwyn yr achos ddim llai na 7 diwrnod clir cyn gwrandawiad yr achos.
(4) Ni chaniateir i P ddibynnu ar amddiffyniad o dan baragraff (1) sy’n cynnwys honiad y cyflawnwyd y drosedd o ganlyniad i ddibynnu ar wybodaeth a gyflenwyd gan berson arall, oni bai ei bod yn rhesymol i P fod wedi dibynnu ar yr wybodaeth, gan roi sylw penodol i—
(a) y camau a gymerwyd gan P, a’r rheini y gellid yn rhesymol fod wedi eu cymryd, at ddiben gwirhau’r wybodaeth, a
(b) a oedd gan P unrhyw reswm i beidio â chredu’r wybodaeth.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “honiad trydydd parti” yw honiad y cyflawnwyd y drosedd o ganlyniad i—
(a) gweithred neu ddiffyg person arall, neu
(b) dibynnu ar wybodaeth a gyflenwyd gan berson arall.
RHAN 3 Gorfodi, pwerau ymchwilio a sancsiynau sifil
Gorfodi
7 

(1) Caiff rheoleiddiwr awdurdodi unrhyw berson yn swyddog gorfodaeth i arfer, at ddiben awdurdodedig ac yn unol â thelerau’r awdurdodiad, unrhyw un neu ragor o’r pwerau a bennir yn rheoliad 10 (pŵer mynediad, ymchwilio ac archwilio etc.) os ymddengys i’r rheoleiddiwr fod y person hwnnw yn addas i’w arfer neu i’w harfer.
(2) Rhaid i awdurdodiad o dan baragraff (1) fod yn ysgrifenedig.
(3) Yn y Rhan hon, ystyr “diben awdurdodedig” yw’r diben o benderfynu a yw trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni neu’n cael ei chyflawni, neu a yw unrhyw ofyniad cosb sifil a osodwyd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei dorri neu’n cael ei dorri.
Sancsiynau sifil
8 
Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi trosedd, drwy sancsiynau sifil, o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn.
Pwerau mynediad
9 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff swyddog gorfodaeth, ar unrhyw adeg resymol a heb rybudd ymlaen llaw, fynd i fangre y mae gan y swyddog gorfodaeth reswm dros amau ei bod yn angenrheidiol mynd iddi at ddiben awdurdodedig.
(2) Pan fo unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (3) yn gymwys, ni chaniateir mynd i’r fangre honno yn rhinwedd paragraff (1) ond o dan awdurdod gwarant a roddwyd gan ynad heddwch.
(3) Os yw ynad heddwch, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi ei fodloni—
(a) bod sail resymol dros fynd i unrhyw fangre wrth arfer y pŵer ym mharagraff (1), a
(b) bod unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (4) wedi ei fodloni neu wedi eu bodloni,
caiff yr ynad heddwch drwy warant awdurdodi swyddog gorfodaeth i fynd i’r fangre, drwy rym rhesymol, os oes angen.
(4) Yr amodau a grybwyllir ym mharagraff (3) yw—
(a) bod mynediad wedi ei wrthod,
(b) bod y swyddog gorfodaeth yn dirnad ar sail resymol bod mynediad yn debygol o gael ei wrthod,
(c) nad yw’r fangre wedi ei meddiannu,
(d) bod y meddiannydd yn absennol o’r fangre dros dro a bod yr achos yn achos brys, neu
(e) y byddai cais i fynd i’r fangre yn tanseilio diben y mynediad arfaethedig.
(5) Mae gwarant a roddir o dan baragraff (3) yn parhau i fod mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
(6) Rhaid i swyddog gorfodaeth, os yw’n ymadael â’r fangre ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y swyddog gorfodaeth iddi.
(7) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fangre breswyl.
(8) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “mangre breswyl” yw mangre, neu unrhyw ran o fangre, a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.
Pŵer mynediad, ymchwilio ac archwilio etc.
10 

(1) Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre o dan neu yn rhinwedd reoliad 9 (pwerau mynediad)—
(a) mynd yng nghwmni swyddog gorfodaeth arall, ac os oes gan y swyddog gorfodaeth achos rhesymol dros ddirnad unrhyw rwystr difrifol wrth arfer ei ddyletswydd, yng nghwmni cwnstabl;
(b) dod ag unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau at y diben awdurdodedig y mae’r pŵer mynediad yn cael ei arfer ar ei gyfer;
(c) cynnal yr archwiliadau a’r ymchwiliadau hynny sy’n angenrheidiol mewn unrhyw amgylchiadau;
(d) yn ddarostyngedig i baragraff (2), chwilio’r fangre honno ac ymafael mewn unrhyw ddogfennau a symud ymaith unrhyw ddogfennau (ac eithrio fêps untro, neu gydrannau fêps untro) sydd yn neu ar y fangre, at ddiben unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);
(e) cymryd unrhyw fesuriadau, tynnu unrhyw ffotograffau a gwneud unrhyw recordiadau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);
(f) ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfennau, neu pan fo’r wybodaeth wedi ei chofnodi ar ffurf gyfrifiadurol, gyflwyno detholiadau o unrhyw ddogfennau, y mae’n angenrheidiol i’r swyddog gorfodaeth eu gweld at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c) ac edrych ar y dogfennau a chymryd copïau ohonynt, neu o unrhyw gofnod ynddynt;
(g) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi i’r swyddog gorfodaeth y cyfleusterau hynny a’r cymorth hwnnw mewn cysylltiad ag unrhyw faterion neu bethau sydd o dan reolaeth y person, neu y mae gan y person hwnnw gyfrifoldebau mewn perthynas â hwy, ag sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi’r swyddog gorfodaeth i arfer unrhyw un neu ragor o’r pwerau a roddir iddo gan y rheoliad hwn;
(h) cyfarwyddo bod y fangre honno neu unrhyw ran ohoni, neu unrhyw beth sydd ynddi, yn cael ei gadael heb aflonyddu arni neu ei adael heb aflonyddu arno (pa un ai’n gyffredinol neu o ran agweddau penodol) am gyhyd ag y bo’n rhesymol angenrheidiol at ddibenion archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);
(i) cymryd unrhyw samplau, neu beri i samplau gael eu cymryd, o unrhyw fêps untro, neu unrhyw gydrannau o fêps untro, a geir yn neu ar y fangre honno, a pheri i’r fêps untro hynny neu’r cydrannau hynny gael eu dadansoddi neu eu profi;
(j) yn achos unrhyw fêp untro, neu unrhyw gydran o fêp untro, a geir yn neu ar y fangre honno, gymryd meddiant ohono neu ohoni, a’i gadw neu ei chadw am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol at y cyfan neu unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn—
(i) ei ddatgymalu neu ei datgymalu neu beri iddo gael ei ddatgymalu neu beri iddi gael ei datgymalu (ond nid er mwyn ei ddifrodi neu ei difrodi neu ei ddinistrio neu ei dinistrio, oni bai bod hynny’n angenrheidiol);
(ii) ei archwilio neu ei harchwilio, a chynnal unrhyw broses neu brofion arno neu arni, neu beri iddo gael ei archwilio neu beri iddi gael ei harchwilio;
(iii) sicrhau nad ymyrrir ag ef neu hi cyn i’r archwiliad gael ei gwblhau;
(iv) sicrhau ei fod ar gael i’w ddefnyddio neu ei bod ar gael i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn;
(k) unwaith y mae yn neu ar y fangre honno, brynu fêp untro, neu ymrwymo i gytundeb i sicrhau y darperir fêp untro, heb roi rhybudd yn gyntaf, neu gael gwarant i wneud hynny.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaiff swyddog gorfodaeth arfer y pŵer ym mharagraff (1)(d) heb—
(a) cydsyniad person sydd â hawlogaeth i roi mynediad i ddeunydd sydd yn y fangre neu’n hygyrch ohoni, neu
(b) awdurdod gwarant a roddir o dan baragraff (3).
(3) Caiff ynad heddwch drwy warrant awdurdodi swyddog gorfodaeth i arfer y pwerau ym mharagraff (1)(d) yn unol â’r warant ac, os oes angen, drwy rym, os yw’r ynad heddwch wedi ei fodloni bod sail resymol dros gredu—
(a) bod dogfennau yn y fangre o dan sylw neu sy’n hygyrch ohoni sy’n debygol o fod o werth sylweddol (ar eu pennau eu hunain neu ynghyd â deunydd arall) i archwiliad neu ymchwiliad o dan baragraff (1)(c), a
(b) ei bod yn anymarferol cyfathrebu â pherson sydd â hawlogaeth i roi mynediad i’r dogfennau, neu ei bod yn annhebygol y bydd mynediad iddynt yn cael ei roi oni bai bod gwarant yn cael ei dangos.
(4) Caiff swyddog gorfodaeth arfer y pŵer ym mharagraff (1)(d) heb gydsyniad neu awdurdod gwarant os oes gan y swyddog gorfodaeth sail resymol dros gredu bod arfer y pŵer yn angenrheidiol er mwyn atal y dogfennau rhag cael eu cuddio, eu colli, eu newid neu eu dinistrio.
(5) Pan fo swyddog gorfodaeth yn symud dogfen ymaith o dan y pŵer ym mharagraff (1)(d) sy’n “deunydd gwarchodedig”—
(a) ni chaniateir defnyddio’r deunydd at y diben awdurdodedig, a
(b) rhaid dychwelyd y deunydd i’r fangre y’i symudwyd ymaith ohoni, neu i’r person a oedd â meddiant ohono neu reolaeth drosto yn union cyn iddo gael ei symud ymaith, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol (ond caiff y swyddog gorfodaeth gadw unrhyw wybodaeth, neu gymryd copïau o unrhyw wybodaeth, sydd wedi ei chynnwys yn y ddogfen nad oes hawlogaeth o’r fath yn bodoli mewn perthynas â hi).
(6) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “deunydd gwarchodedig” yw—
(a) deunydd sy’n ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol,
(b) deunydd eithriedig o fewn ystyr a roddir i “excluded material” yn adran 11 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, neu
(c) deunydd newyddiadurol, o fewn yr ystyr a roddir i “journalistic material” yn adran 13 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, nad yw’n ddeunydd eithriedig.
(7) Nid oes dim ym mharagraff (1)(f) sy’n gorfodi person i ddangos unrhyw ddogfennau y byddai gan y person hwnnw hawlogaeth, ar sail braint broffesiynol gyfreithiol, i ymatal rhag eu dangos ar orchymyn datgelu mewn achos yn y Llys Sirol neu’r Uchel Lys.
(8) Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n ceisio arfer pŵer o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o bwy ydyw a thystiolaeth o’i awdurdod os gofynnir iddo gan berson sydd, neu yr ymddengys ei fod, yn—
(a) cyflenwr fêps untro;
(b) cyflogai i gyflenwr y cyfeirir ato yn is-baragraff (a);
(c) perchennog neu feddiannydd ar unrhyw fangre y mae’r swyddog gorfodaeth yn ceisio arfer y pŵer o dan sylw ynddi.
Digollediad am ddifrod a achosir drwy arfer pwerau mynediad, ymchwilio ac archwilio etc.
11 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw bŵer i gael mynediad o dan reoliad 9, neu i wneud unrhyw beth o dan reoliad 10.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r rheoleiddiwr y mae’r swyddog gorfodaeth yn gweithredu o dan ei awdurdodiad ddigolledu unrhyw berson sydd wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd—
(a) arfer y pŵer hwnnw gan y swyddog gorfodaeth, neu
(b) cyflawni, neu fethu â chyflawni, y ddyletswydd a osodir gan reoliad 9(6).
(3) Ni fydd digollediad yn daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw golled neu ddifrod—
(a) sydd i’w briodoli i ddiffyg y person a’i dioddefodd, neu
(b) sy’n golled neu’n ddifrod y mae digollediad yn daladwy mewn cysylltiad â hi neu ag ef yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth arall mewn deddfiad rheoli llygredd (fel y diffinnir “pollution control enactments” o dan adran 108(15) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995).
(4) Atgyfeirir unrhyw anghydfod o ran hawlogaeth person i ddigollediad o dan y rheoliad hwn, neu o ran swm unrhyw ddigollediad sy’n ddyledus, i’w gymrodeddu gan un cymrodeddwr.
(5) Ni fydd swyddog gorfodaeth yn atebol mewn unrhyw achos sifil na throseddol am unrhyw beth a wneir wrth honni arfer unrhyw bŵer perthnasol os yw’r llys wedi ei fodloni bod y weithred wedi ei gwneud yn ddidwyll a bod sail resymol dros ei gwneud.
Gwaredu fêps untro
12 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod fêps untro o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff (2) i’w trin fel gwastraff ac i’w gwaredu neu eu trin fel arall fel y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol.
(2) Y fêps untro y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn unrhyw fêps untro sydd wedi eu cyflenwi, eu cynnig ar gyfer eu cyflenwi, neu eu dal ym meddiant person i’w cyflenwi yn groes i Ran 2, ac maent yn cynnwys fêps untro y mae rheoleiddiwr wedi gosod sancsiynau sifil mewn cysylltiad â hwy o dan y Rheoliadau hyn.
(3) O ran cyfarwyddyd o dan baragraff (1)—
(a) caniateir ei roi i unrhyw un neu ragor o reoleiddwyr mewn cysylltiad ag unrhyw gamau gorfodi a gymerir gan reoleiddiwr o dan y Rheoliadau hyn;
(b) caiff fod yn gymwys mewn cysylltiad â fêps untro a gedwir gan unrhyw swyddog gorfodaeth sydd—
(i) wedi ei awdurdodi gan y rheoleiddiwr o dan sylw, a
(ii) yn gweithredu at ddiben awdurdodedig;
(c) ni chaniateir i’r rheoleiddiwr o dan sylw (neu i berson sy’n gweithredu ar ran y rheoleiddiwr) ei weithredu hyd nes y bydd unrhyw hawl i apelio mewn perthynas â’r drosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei disbyddu, neu hyd nes y bydd y cyfnod ar gyfer dwyn yr apêl honno wedi dod i ben heb i apêl gael ei dwyn.
Cyhoeddi gwybodaeth am gamau gorfodi
13 

(1) Pa fo rheoleiddiwr yn gosod sancsiynau sifil o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r rheoleiddiwr o bryd i’w gilydd gyhoeddi—
(a) yr achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt,
(b) pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol benodedig, yn gosb ariannol amrywiadwy neu’n hysbysiad cydymffurfio, yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti ynddynt, ac
(c) yr achosion yr ymrwymwyd i ymgymeriad gorfodi ynddynt.
(2) Ym mharagraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r sancsiwn wedi ei osod ond wedi ei wrthdroi ar apêl.
(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’r rheoleiddiwr yn ystyried y byddai cyhoeddi yn amhriodol.
Canllawiau
14 

(1) Rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ynghylch ei ddefnydd o sancsiynau sifil o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â throsedd o dan Ran 2.
(2) Mewn perthynas â chanllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio, cosb am beidio â chydymffurfio neu hysbysiad stop, rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol a nodir ym mharagraff (3).
(3) Yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw gwybodaeth ynghylch—
(a) ym mha amgylchiadau y mae’r gosb neu’r hysbysiad yn debygol o gael ei gosod neu ei osod,
(b) ym mha amgylchiadau na chaniateir gosod y gosb neu’r hysbysiad,
(c) yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, a hawliau i apelio,
(d) yn achos cosb ariannol benodedig, swm y gosb, sut y caniateir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb, ac effaith y rhyddhad, ac
(e) yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion y mae’r rheoleiddiwr yn debygol o’u hystyried wrth bennu swm y gosb (gan gynnwys unrhyw ddisgowntiau am adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio gan unrhyw berson amdano’i hun).
(4) Rhaid i’r rheoleiddiwr ddiwygio’r canllawiau pan fo hynny’n briodol.
(5) Rhaid i’r rheoleiddiwr ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig o dan y rheoliad hwn.
(6) Rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i’w ganllawiau neu ei ganllawiau diwygiedig a gyhoeddir o dan y rheoliad hwn wrth arfer ei swyddogaethau.
RHAN 4 Darpariaeth atodol
Adolygiad
15 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o dair blynedd o’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, gynnal adolygiad o weithrediad y darpariaethau yn Rhan 3 (gorfodi, pwerau ymchwilio a sancsiynau sifil) a’r Atodlen,
(b) o bryd i’w gilydd, gynnal adolygiad o’r ddarpariaeth reoleiddiol a geir yn y Rheoliadau hyn (gan gynnwys Rhan 3 a’r Atodlen), ac
(c) cyhoeddi adroddiad sy’n nodi casgliadau unrhyw adolygiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.
(2) Yn achos adolygiad o dan baragraff (1)(a), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) ystyried a yw’r ddarpariaeth wedi cyflawni ei hamcanion yn effeithlon ac yn effeithiol,
(b) ymgynghori â’r personau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol, ac
(c) gosod copi o’r adroddiad o dan baragraff (1)(c) gerbron Senedd Cymru.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “darpariaeth reoleiddiol” yr un ystyr ag a roddir i “regulatory provision” yn adran 32 o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11 Rhagfyr 2024
YR ATODLEN
Sancsiynau Sifil
Rheoliad 8
RHAN 1 Cosbau ariannol penodedig, cosbau ariannol amrywiadwy a hysbysiadau cydymffurfio
Gosod cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio
1 

(1) Mewn perthynas â throsedd o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn, caiff rheoleiddiwr, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), drwy hysbysiad osod gofyniad ar berson i—
(a) talu i’r rheoleiddiwr gosb o £200 (“cosb ariannol benodedig”),
(b) talu i’r rheoleiddiwr gosb ariannol o unrhyw swm y mae’r rheoleiddiwr yn ei bennu (“cosb ariannol amrywiadwy”), neu
(c) cymryd unrhyw gamau y mae’r rheoleiddiwr yn eu pennu, o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddo, er mwyn sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau neu nad yw’n digwydd eto, neu i sicrhau bod y sefyllfa, cyn belled ag y bo hynny’n bosibl, yn cael ei hadfer i’r hyn y byddai wedi bod pe na bai’r drosedd wedi ei chyflawni (“hysbysiad cydymffurfio”).
(2) Cyn gosod gofyniad o dan is-baragraff (1) yn y fath fodd, rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.
(3) Pan osodir cosb ariannol amrywiadwy mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 5 (rhwystro swyddogion gorfodaeth a methu â chydymffurfio â’u ceisiadau), ni chaiff swm y gosb fod yn fwy nag uchafswm y ddirwy y gellid ei gosod ar euogfarn am y drosedd honno.
(4) Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-baragraff (1)(a) pan fo cosb ariannol amrywiadwy wedi ei gosod ar berson, neu pan fo hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop wedi ei gyflwyno i berson, mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.
(5) Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-baragraff (1)(b) neu (1)(c) pan fo cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar berson mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred, neu pan fo’r person wedi ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.
Hysbysiad o fwriad
2 

(1) Cyn y caiff rheoleiddiwr osod cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio ar berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a) y sail dros y gosb ariannol benodedig arfaethedig, y gosb ariannol amrywiadwy arfaethedig, neu’r hysbysiad cydymffurfio arfaethedig (yn ôl y digwydd);
(b) yn achos hysbysiad cydymffurfio arfaethedig, ofynion yr hysbysiad;
(c) yn achos cosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy, y swm sydd i’w dalu;
(d) gwybodaeth ynghylch—
(i) yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y daeth yr hysbysiad o fwriad i law;
(ii) ym mha amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb ariannol benodedig arfaethedig, y gosb ariannol amrywiadwy arfaethedig neu’r hysbysiad cydymffurfio arfaethedig.
(3) Rhaid i hysbysiad o fwriad i osod cosb ariannol benodedig hefyd—
(a) cynnig y cyfle i’r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo i’w ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu swm o £100 i’r rheoleiddiwr o fewn 28 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y daw’r hysbysiad i law, a
(b) egluro effaith y rhyddhad hwnnw.
(4) Mae person yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig os yw’r person yn talu swm o £100 i’r rheoleiddiwr o fewn y cyfnod o amser a bennir yn is-baragraff (3)(a).
(5) Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r hysbysiad i law, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio.
(6) Nid yw is-baragraff (5) yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad o fwriad i gyflwyno cosb ariannol benodedig os yw’r person yn gwneud taliad yn unol ag is-baragraff (4).
Ymgymeriadau trydydd parti
3 

(1) Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymgymeriad o ran camau i’w cymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw drydydd parti yr effeithir arno gan y drosedd (“ymgymeriad trydydd parti”).
(2) Caiff y rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod unrhyw ymgymeriad trydydd parti o’r fath.
Hysbysiad terfynol
4 

(1) Ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ym mharagraff 2(5), rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i—
(a) gosod y gofynion yn yr hysbysiad o fwriad, gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(b) gosod unrhyw ofyniad arall y mae gan y rheoleiddiwr y pŵer i’w osod o dan y Rhan hon.
(2) Pan fo’r rheoleiddiwr yn penderfynu gosod gofyniad, rhaid i’r hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) gydymffurfio â pharagraff 5 yn achos cosb ariannol benodedig, â pharagraff 6 yn achos cosb ariannol amrywiadwy, neu â pharagraff 7 yn achos hysbysiad cydymffurfio.
(3) Ni chaiff y rheoleiddiwr osod hysbysiad terfynol ar berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
(4) Rhaid i’r rheoleiddiwr ystyried unrhyw ymgymeriad trydydd parti y mae wedi ei dderbyn, wrth benderfynu pa un ai i gyflwyno hysbysiad terfynol ai peidio.
Cynnwys hysbysiad terfynol: cosb ariannol benodedig
5 
Rhaid i hysbysiad terfynol ar gyfer cosb ariannol benodedig gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a) y sail dros osod y gosb,
(b) y swm sydd i’w dalu,
(c) sut y mae rhaid talu,
(d) unrhyw ddisgowntiau am daliadau cynnar,
(e) y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y daeth yr hysbysiad terfynol i law,
(f) hawliau apelio, ac
(g) canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad (gan gynnwys unrhyw gosbau am daliadau hwyr).
Cynnwys hysbysiad terfynol: cosb ariannol amrywiadwy
6 
Rhaid i hysbysiad terfynol ar gyfer cosb ariannol amrywiadwy gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a) y sail dros osod y gosb,
(b) y swm sydd i’w dalu,
(c) sut y mae rhaid talu,
(d) unrhyw ddisgowntiau am daliadau cynnar,
(e) y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y daeth yr hysbysiad terfynol i law,
(f) hawliau apelio, ac
(g) canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad (gan gynnwys unrhyw gosbau am daliadau hwyr).
Cynnwys hysbysiad terfynol: hysbysiad cydymffurfio
7 
Rhaid i hysbysiad terfynol ar gyfer hysbysiad cydymffurfio gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a) y sail dros osod yr hysbysiad,
(b) pa gamau cydymffurfio sy’n ofynnol a’r cyfnod y mae rhaid eu cwblhau o’i fewn,
(c) hawliau apelio, a
(d) canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
Apelau yn erbyn hysbysiad terfynol
8 

(1) Caiff y person sy’n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a) bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol,
(b) bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith,
(c) yn achos cosb ariannol amrywiadwy, fod swm y gosb yn afresymol,
(d) yn achos hysbysiad cydymffurfio, fod natur y gofyniad yn afresymol, neu
(e) bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall.
Achosion troseddol: cosbau ariannol penodedig
9 

(1) Os cyflwynir hysbysiad o fwriad i osod cosb ariannol benodedig i unrhyw berson—
(a) ni chaniateir cychwyn unrhyw achos troseddol yn erbyn y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn diwedd y cyfnod y caiff y person ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig o’i fewn o dan baragraff 2(3), a
(b) os yw’r person yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd yn y fath fodd yn unol â pharagraff 2(4), ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd berthnasol mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred honno.
(2) Os gosodir hysbysiad terfynol ar gyfer cosb ariannol benodedig ar berson, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd berthnasol mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.
Achosion troseddol: cosbau ariannol amrywiadwy a hysbysiadau cydymffurfio
10 

(1) Os yw—
(a) cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio yn cael ei gyflwyno i unrhyw berson, neu
(b) ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth unrhyw berson,ni chaniateir i’r person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei euogfarnu o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb ariannol amrywiadwy neu’r ymgymeriad trydydd parti ac eithrio mewn achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).
(2) Yr achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yw achos—
(a) pan fo hysbysiad cydymffurfio yn cael ei osod ar berson neu ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth berson,
(b) pan na fo cosb ariannol amrywiadwy yn cael ei gosod ar y person hwnnw, ac
(c) pan fo’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti.
RHAN 2 Hysbysiadau stop
Hysbysiadau stop
11 

(1) Caiff rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (3) neu (4).
(2) “Hysbysiad stop” yw hysbysiad sy’n gwahardd person rhag ymgymryd â gweithgaredd a bennir yn yr hysbysiad hyd nes bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Achos sy’n dod o fewn yr is-baragraff hwn yw achos pan fo—
(a) y person yn cynnal y gweithgaredd;
(b) y rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol fod y gweithgaredd fel yr ymgymerir ag ef gan y person hwnnw yn achosi, neu’n peri risg sylweddol o achosi, niwed sylweddol i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid); ac
(c) y rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol fod y gweithgaredd fel yr ymgymerir ag ef gan y person hwnnw yn cynnwys, neu’n debygol o gynnwys, gyflawni trosedd o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn.
(4) Achos sy’n dod o fewn yr is-baragraff hwn yw achos pan fo’r rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol—
(a) bod y person yn debygol o ymgymryd â’r gweithgaredd,
(b) y bydd y gweithgaredd fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd ag ef yn achosi, neu’n peri risg sylweddol o achosi, niwed sylweddol i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid); ac
(c) y bydd y gweithgaredd fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd ag ef yn cynnwys, neu y bydd yn debygol o gynnwys, gyflawni trosedd o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn.
(5) Rhaid i’r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) fod yn gamau i ddileu neu leihau’r niwed neu’r risg o niwed i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid).
(6) Ni chaniateir cyflwyno hysbysiad stop pan fo cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar berson mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred, neu pan fo’r person wedi ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.
Cynnwys hysbysiad stop
12 
Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a) y sail dros gyflwyno’r hysbysiad,
(b) y camau y mae rhaid i’r person eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad stop,
(c) hawliau apelio, a
(d) canlyniadau peidio â chydymffurfio.
Apelau yn erbyn hysbysiadau stop
13 

(1) Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a) bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b) bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c) bod y penderfyniad yn afresymol;
(d) bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;
(e) nad yw’r person wedi cyflawni’r drosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;
(f) na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, wedi bod yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno.
Tystysgrifau cwblhau
14 

(1) Pan fo’r rheoleiddiwr, ar ôl cyflwyno hysbysiad stop, wedi ei fodloni bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i’r rheoleiddiwr ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw (“tystysgrif gwblhau”).
(2) Mae’r hysbysiad stop yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.
(3) Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad stop iddo wneud cais i’r rheoleiddiwr am dystysgrif gwblhau ar unrhyw adeg.
(4) Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’i benderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau i gael y cais.
Apelau yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau
15 
Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau, yn dilyn cais a wneir o dan baragraff 14(3), ar y seiliau—
(a) bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b) bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c) bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol.
Digollediad
16 
Rhaid i’r rheoleiddiwr ddigolledu person am golled a ddioddefir o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad stop, neu wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau, os—
(a) caiff yr hysbysiad stop wedi hynny ei dynnu’n ôl neu ei ddiwygio gan y rheoleiddiwr am fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol, neu am fod unrhyw gam a bennwyd ynddo yn afresymol,
(b) yw’r person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod cyflwyno’r hysbysiad yn afresymol, neu
(c) yw’r person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod y gwrthodiad yn afresymol.
Apêl yn erbyn penderfyniad digollediad
17 
Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad, neu apelio yn erbyn swm y digollediad a ddyfarnwyd—
(a) ar y sail bod penderfyniad y rheoleiddiwr yn afresymol;
(b) ar y sail bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar ffeithiau anghywir.
Trosedd
18 
Pan na fo person y cyflwynir hysbysiad stop iddo yn cydymffurfio ag ef, mae’r person yn euog o drosedd ac yn agored—
(a) ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cyffredinol mewn llys ynadon, neu’r ddau, neu
(b) ar euogfarn ar dditiad, i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.
RHAN 3 Ymgymeriadau gorfodi
Ymgymeriadau gorfodi
19 
Caiff rheoleiddiwr dderbyn ymgymeriad gorfodi a roddir gan berson mewn achos pan fo gan y rheoleiddiwr sail resymol dros amau bod y person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn.
Cynnwys ymgymeriad gorfodi
20 

(1) Rhaid i ymgymeriad gorfodi bennu—
(a) camau i sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau neu’n digwydd eto,
(b) camau (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno,
(c) camau i sicrhau bod y sefyllfa, cyn belled ag y bo hynny’n bosibl, yn cael ei hadfer i’r hyn y byddai wedi bod pe na bai’r drosedd wedi ei chyflawni, neu
(d) camau o ddisgrifiad rhagnodedig.
(2) Rhaid i’r ymgymeriad gorfodi bennu’r cyfnod y mae rhaid cwblhau’r camau gweithredu o’i fewn.
(3) Rhaid i’r ymgymeriad gorfodi gynnwys—
(a) datganiad bod yr ymgymeriad gorfodi wedi ei wneud yn unol â’r Atodlen hon,
(b) telerau’r ymgymeriad gorfodi, ac
(c) ym mha amgylchiadau yr ystyrir bod person wedi cydymffurfio â’r ymgymeriad gorfodi.
(4) Caniateir amrywio’r ymgymeriad gorfodi, neu estyn y cyfnod y mae rhaid cwblhau’r camau gweithredu o’i fewn, os yw’r ddau barti yn cytuno i hynny yn ysgrifenedig.
Derbyn ymgymeriad gorfodi
21 
Os yw rheoleiddiwr wedi derbyn ymgymeriad gorfodi, yna, oni bai bod y person y derbynnir yr ymgymeriad gorfodi oddi wrtho wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad gorfodi, neu unrhyw ran ohono—
(a) ni chaniateir euogfarnu’r person hwnnw ar unrhyw adeg o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r ymgymeriad gorfodi yn ymwneud â hi, a
(b) ni chaiff y rheoleiddiwr osod cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio na hysbysiad stop ar y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred honno.
Cyflawni ymgymeriad gorfodi
22 

(1) Os yw rheoleiddiwr sydd wedi derbyn ymgymeriad gorfodi wedi ei fodloni y cydymffurfiwyd â’r ymgymeriad, rhaid iddo ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw (“tystysgrif gyflawni”).
(2) Caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd wedi rhoi’r ymgymeriad gorfodi ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cydymffurfiwyd â’r ymgymeriad gorfodi.
(3) Caiff y person sydd wedi rhoi’r ymgymeriad gorfodi wneud cais i’r rheoleiddiwr am dystysgrif gyflawni ar unrhyw adeg.
(4) Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gyflawni, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’i benderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau i gael y cais.
Apelau yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gyflawni
23 
Caiff y person y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig iddo na fydd tystysgrif gyflawni yn cael ei dyroddi, yn dilyn cais a wnaed o dan baragraff 22(3), apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw ar y seiliau—
(a) bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b) bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c) bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol.
Gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn
24 

(1) Mae person sydd wedi rhoi gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn mewn perthynas ag ymgymeriad gorfodi i’w ystyried fel pe na bai wedi cydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.
(2) Caiff rheoleiddiwr drwy hysbysiad ysgrifenedig ddirymu tystysgrif gyflawni a ddyroddwyd ganddo o dan baragraff 22, os y’i dyroddwyd ar sail gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn.
Peidio â chydymffurfio ag ymgymeriad gorfodi
25 

(1) Os na chydymffurfir ag ymgymeriad gorfodi, caiff y rheoleiddiwr a dderbyniodd yr ymgymeriad gorfodi naill ai—
(a) cyflwyno hysbysiad cosb benodedig, hysbysiad cosb amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop, neu
(b) dwyn achos troseddol.
(2) Os yw person wedi cydymffurfio yn rhannol ond nid yn llwyr ag ymgymeriad gorfodi, rhaid ystyried y cydymffurfio rhannol hwnnw wrth osod unrhyw sancsiwn troseddol neu unrhyw sancsiwn sifil arall ar y person.
(3) Caniateir cychwyn achos troseddol am drosedd y mae ymgymeriad gorfodi yn ymwneud â hi ar unrhyw adeg hyd at ddeuddeg mis o’r dyddiad y mae’r rheoleiddiwr yn hysbysu’r person y mae’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r ymgymeriad gorfodi hwnnw am fethiant y person hwnnw i wneud hynny.
RHAN 4 Cosbau am beidio â chydymffurfio
Cosbau am beidio â chydymffurfio
26 

(1) Os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio neu ymgymeriad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw sy’n gosod cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) mewn cysylltiad â’r un drosedd.
(2) Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu swm y gosb, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau bodloni gweddill gofynion yr hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti.
(3) Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno fod yn 100%, os yw’n briodol.
(4) Rhaid i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a) y sail dros osod y gosb am beidio â chydymffurfio,
(b) y swm sydd i’w dalu,
(c) sut y caniateir talu,
(d) y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y daw’r hysbysiad i law,
(e) hawliau apelio,
(f) canlyniadau methu â thalu o fewn y cyfnod penodedig, ac
(g) unrhyw amgylchiadau pan gaiff y rheoleiddiwr leihau swm y gosb.
(5) Nid yw’r gosb am beidio â chydymffurfio yn daladwy os cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad cydymffurfio, neu os bodlonir yr ymgymeriad trydydd parti, cyn y terfyn amser a osodir ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio.
Apelau yn erbyn cosbau am beidio â chydymffurfio
27 

(1) Caiff y person y cyflwynir iddo’r hysbysiad sy’n gosod y gosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a) bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b) bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn anghywir mewn cyfraith;
(c) bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol;
(d) bod swm y gosb yn afresymol.
RHAN 5 Gweinyddu ac apelau
Tynnu hysbysiad yn ôl neu ddiwygio hysbysiad
28 
Caiff rheoleiddiwr ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—
(a) tynnu yn ôl hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio,
(b) gostwng swm unrhyw gosb a bennir yn yr hysbysiad, neu
(c) tynnu yn ôl hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop, neu ddiwygio’r camau a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop.
Hysbysiadau adennill cost gorfodaeth
29 

(1) Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i berson y mae hysbysiad stop neu hysbysiad cydymffurfio wedi ei gyflwyno iddo, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu’r costau yr aed iddynt gan y rheoleiddiwr mewn perthynas â’r gofyniad a osodwyd gan yr hysbysiad stop neu’r hysbysiad cydymffurfio (“hysbysiad adennill cost gorfodaeth”), hyd at y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad stop neu’r hysbysiad cydymffurfio.
(2) Mae “costau” yn cynnwys, yn benodol—
(a) costau ymchwilio,
(b) costau gweinyddu, ac
(c) costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).
(3) Rhaid i’r hysbysiad adennill cost gorfodaeth bennu—
(a) sut y caniateir talu,
(b) y swm y mae’n ofynnol ei dalu,
(c) y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y daw’r hysbysiad i law,
(d) y sail dros osod yr hysbysiad,
(e) yr hawl i apelio, ac
(f) canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad o fewn y cyfnod penodedig.
(4) Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad adennill cost gorfodaeth iddo ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddiwr ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm.
(5) Nid yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau gan hysbysiad adennill cost gorfodaeth yn agored i dalu unrhyw gostau y mae’r person hwnnw’n dangos yr aeth y rheoleiddiwr iddynt yn ddiangen.
(6) Rhaid i bob rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ynghylch ei ddefnydd o hysbysiadau adennill cost gorfodaeth.
(7) Rhaid i’r rheoleiddiwr ddiwygio’r canllawiau pan fo hynny’n briodol.
(8) Rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i’w ganllawiau neu ei ganllawiau diwygiedig a gyhoeddir o dan y paragraff hwn wrth arfer ei swyddogaethau.
Apelau yn erbyn hysbysiadau adennill cost gorfodaeth
30 
Caiff y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau o dan hysbysiad adennill cost gorfodaeth apelio—
(a) yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr i osod y gofyniad i dalu costau;
(b) yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr o ran swm y costau.
Y pŵer i adennill taliadau
31 
Caiff rheoleiddiwr adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy, unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio neu unrhyw gostau a nodir mewn hysbysiad adennill cost gorfodaeth a osodir o dan yr Atodlen hon, ar orchymyn llys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.
Apelau: darpariaethau cyffredinol
32 

(1) Mae apêl o dan baragraff 8, 13, 15, 17, 23, 27 neu 30 o’r Atodlen hon yn apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
(2) Mae pob hysbysiad (ac eithrio hysbysiadau stop) wedi ei atal dros dro wrth aros i apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.
(3) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf, mewn perthynas â gofyniad sancsiwn sifil a osodir o dan yr Atodlen hon, neu gyflwyno hysbysiad o dan yr Atodlen hon—
(a) gosod y gofyniad neu’r hysbysiad o’r neilltu,
(b) cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad,
(c) amrywio’r gofyniad neu’r hysbysiad neu unrhyw ran ohono,
(d) cymryd y camau hynny y gallai’r rheoleiddiwr fod wedi eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gofyniad neu’r hysbysiad, neu
(e) anfon y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, at y rheoleiddiwr.