
2024 Rhif 1315 (Cy. 222)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) (Diwygio) 2024
Gwnaed am 12.59 p.m. ar 10 Rhagfyr 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.45 p.m. ar 10 Rhagfyr 2024
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 15, 80, 104 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) (Diwygio) 2024 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2024.
Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2024
2 
Yn Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2024, yn lle rheoliad 1(3) rhodder—“
(3) Daw’r rheoliad hwn a rheoliad 3(5) i rym ar 1 Ionawr 2025.”
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 12.59 p.m. ar 10 Rhagfyr 2024